Ychydig yn ôl wrth drafeilio o’r Manod i Llan, fe sylwais fod arwyddion wedi eu gosod ar y ffordd yn dangos cyflymdra i fod yn 40 mya, syniad da.
Ond y cwestiwn sydd gennyf yw pam nad oes arwyddion yr un fath ar y ffordd o’r Blaenau i Danygrisiau ac i lawr i Dolwen? Er bod arwyddion ar bolyn yn dweud 40, does fawr o yrrwyr yn cymryd sylw!
Fel un sydd yn teithio i’r Blaenau ar y ffordd yma yn aml, dwi wedi cael fy siomi faint o yrrwyr sydd ddim yn cadw i’r 40.
Ychydig yn ôl mi ddigwyddodd damwain ddifrifol ddrwg ar y ffordd ychydig oddiwrth Tŷ’n Cefn. Y rheswm am y ddamwain oedd fod y gyrrwr wedi colli rheolaeth ar ei gerbyd wrth ddod at y tro, ac wedi gwrthdaro â char arall.
Felly rwyf yn gofyn cwestiwn i gynghorwyr yr ardal: Pam o pam na wnewch chi drefnu i gael arwyddion tebyg i’r rhai sydd ar y ffordd ym Manod, i atgoffa gyrrwyr fod 40mya yn bodoli ar y ffordd?
Mae angen gwneud rhywbeth yn fuan! Hefyd does dim arwydd o gwbwl i atgoffa gyrrwyr fod cyflymdra o 30 i fod rhwng Manod a’r Blaenau, ychydig iawn o yrrwyr sydd yn cadw i’r rheolau.
Hefyd mae angen arwyddion ARAF, SLOW ar lefydd peryglus ar y ffordd. Ac mae angen arwydd ar y ffordd rhwng Yr Wynnes a’r Eglwys i ddangos fod lle i geir basio ei gilydd yn saff. Weithiau mae’r sefyllfa ger y safle hwn yn beryglus. Mae’r Cyngor Sir wedi llwyddo i gael gosod llinellau dwbwl ar y safle er mwyn cael lle i basio’n saff. Rwyf yn gofyn yn garedig i’n cynghorwyr i weithio gyda’i gilydd i gael rhyw symudiad i wneud ein ffyrdd yn saff.
[Mae'r golygydd yn gwybod pwy yw'r awdur ond gofynodd i gael aros yn ddi-enw]
- - - - - - -
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 2022
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon