2.1.23

Stolpia- Pytiau am ardal Glan-y-pwll

Y mae’n rhaid imi ddweud mai ychydig iawn o hanes ardal Glan-y-pwll sydd wedi ei gofnodi yn ein llyfrau hanes. Ceir ychydig am hen fferm Glanypwll a’r chwarel yn y ddwy gyfrol Hanes Plwyf Ffestiniog: y gyntaf gan William Jones, Ffestinfab a gyhoeddwyd yn y flwyddyn 1879; a’r llall gan Gruffydd John Williams yn 1882. Ceir tipyn o hanes yr ysgol gynradd yn yr ail gyfrol, a chawn dipyn am y rheilffordd fach mewn cysylltiad â’r ardal mewn cyfrolau fel Festiniog Railway gan J.I.C. Boyd. 

Pa fodd bynnag, y mae llawer mwy o hanesion am y rhan hon o’n plwyf, yn enwedig os ewch i chwilota amdanynt.

Bu Glan-y-pwll yn lle hynod o brysur ar un adeg gyda dwy orsaf reilffordd, sef Stesion London yr LMS ar gyfer y trên mawr, a Stesion Fain, fel y’i gelwid ar gyfer trên bach Rheilffordd Ffestiniog. Ceid tair siop, tŷ tafarn, ysgol gynradd, ysgoldy Glandŵr (PC) a chae pêl-droed Parc Haygarth yma, a hynny nid ymhell yn ôl. 


Credaf mai yn 1931 y symudwyd o gae Parc Newborough (lle mae siop Londis heddiw) gan ei fod wedi mynd braidd yn ddyfrllyd a dewis chwarae pêl-droed ar Gae Haygarth yn ei le. Wrth gwrs, agorwyd ffatri Metcalfe ar y fan a’r lle yn 1954, ac y mae hi’n dal i weithio heddiw.

Nid gemau peldroed oedd yr unig bethau a ddarperid ar gyfer adlonni pobl Stiniog yn y cae hwn. 

 

Cynhelid ambell syrcas yno hefyd a bu un yno ym mis Awst 1934 lle ceid pob math o anifeiliaid, megis eliffantod, llewod, teigrod, eirth gwyn ac eirth duon, a ‘Boomerang’ y cangarŵ ar gyfer paffio, yn ogystal â cheffylau a merlod o bob math. 

 

Neb yn meddwl fawr am driniaeth yr anifeiliaid gwylltion bryd hynny!

 

 

Y mae gennyf gof bach o fynd i weld un gêm bêl-droed yng Nghae Haygarth gyda rhai o’m cyfeillion yn yr 1950au cynnar. Os cofiaf yn iawn, cerdded i lawr y lein fach heibio’r Felin Goed a wnaethom ac ymwthio i mewn o dan y sitiau sinc neu’r ffens gan nad oedd arian gennym i dalu’r pris mynediad. Dim cof pwy oedd yn chwarae'r diwrnod hwnnw ond bod degau o gefnogwyr yn gwylio’r gêm fel y gwelwn yn y llun hwn a dderbyniais oddi wrth Mel ap Ior. Diolch iddo am ein hatgoffa o’r dyddiau pleserus hynny. 

Yn y llun gyntaf uchod gwelwn gae pêl-droed Parc Haygarth rhywdro yn 1950au gyda channoedd o bobl yn gwylio’r gêm. Tybed pwy all roi mwy o hanes yr hen gae pêl-droed inni? Efallai y caf innau sôn am rai pethau eraill o’r ardal y tro nesaf.

Steffan ab Owain
- - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 2022

[Hanes y Bêl-droed yn y Blaenau- cyfres o 2006-2007]

Daeth yr ymateb yma i mewn ar gyfer rhifyn Rhagfyr:

Cae Pêldroed Parc Heygarth
Cyn yr ail ryfel byd roedd fy nhaid a nain, sef John a Nell Griffiths, yn cadw Siop Meffcin, dros y ffordd i gae Haygarth. Ar bob gêm gartref byddai’r ddau dȋm yn newid  yn y parlwr yng nghefn y siop cyn rhedeg dros y ffordd i’r cae.
Y gêm fawr a oedd yn tynnu tyrfa fawr oedd y gêm ar ddiwrnod Gŵyl San Steffan yn erbyn Porthmadog.
Gwyndaf Owen, Wrecsam




No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon