Pont y Pant –y Cae Cyntaf
Ail bennod cyfres Gwynne Williams
Ar ôl chwarae y gemau i gyd oddi cartref cafwyd cae - ym MHONT Y PANT, 6 milltir o'r Blaenau. Roedd Clwb Rygbi Blaenau Dolwyddelan yn glwb ‘Ardal’ – yn ymestyn o Drawsfynydd hyd at Ddolwyddelan i’r gogledd, a daeth hyn yn fendithiol iawn wrth gael hyd i gae CYNTAF y Clwb.
Ychydig tu allan i Ddolwyddelan roedd hen gae chwarae dan ofalaeth Ymddiriedolaeth John Chorley, gyda lle i chwarae tenis, bowlio a phêl droed ond doedd fawr o ddefnydd wedi bod ar y lle ers yr Ail Ryfel Byd. Daeth y lle i sylw dau frawd a selogion a chwaraewyr Bro o ardal Dolwyddelan, Ieuan a Victor Evans, yn dweud bod cae ym Mhont y Pant ar gael – cae cartref cyntaf ! Cafwyd caniatad Ysgrifennydd yr Ymddiriedolwyr, Lewis Roberts i ddefnyddio'r cae a’r Pafiliwn (ystafell newid ).
Dim peth hawdd oedd symud ymlaen, cafwyd pyst rygbi o ardal Traws, ac fe'i cludwyd i’r cae gan gwmni John Roberts Ffestiniog, lle cafwyd sawl problem am eu bod mor hir -tua 30 i 40 troedfedd yn enwedig ar y troad i Blaenau o’r A487 i’r A496 wrth dŷ GlynMor Maentwrog. Tynnodd pawb at ei gilydd i rhoi trefn er bod neb wedi defnyddio'r cae ers blynyddoedd. Codwyd y pyst ar ôl tyllu pedwar twll o dan orychwyliad Dr Boyns gyda rhawiau mewn pridd meddal –ond roedd rhaid eu hail osod – mewn llai na pythefnos gwelwyd eu bod yn gwyro ac felly roedd rhaid eu hail osod mewn concrit gan aelodau oedd gyda fwy o brofiad o wneud y gwaith yma.
Bob dydd Sadwrn, gêm ym Mhont y Pant – ‘roeddwn yn gadael y tŷ yn y Blaenau cyn cinio ac anelu am y cae i fflatio neu chwalu tomenni tyrchod daear oedd bron mor uchel a Chastell Dolwyddelan ac wedyn trio marcio’r cae i’r gêm cyn gwirfoddoli i redeg y lein fel llumanwr!
Nôl ym mis Ebrill 1974 fel y gwelwch "Blaenavon Festiniog" oedd Undeb Rygbi Cymru wedi ei roi fel enw ar y clwb Rygbi!
Cafwyd caniatad i gynnal ymarferion ar gaeau chwaraeon Ysgol y Moelwyn -sef Caeau Dolawel.
23 Tachwedd 1974 Noson Caws a Gwin. Adloniant “ Y Mellt”;
24 Tachwedd 1974 Ffair Nadolig Aelwyd yr Urdd.
Chwraewyd y gêm GYNTAF ar gae Pont y Pant yn erbyn Llangefni ar Ragfyr 28 1974, ond er colli 6 – 20 dyma agor pennod gyffrous yn hanes y clwb wrth i bawb dynnu at ei gilydd i roi y lle ar ei draed. Roedd gwell cyflwr ar y Pafiliwn, adeilad tair ystafell, gyda’r tȋm cartref yn un ystafell, ymwelwyr yn y llall ac yn y canol, yr olchfa sef bath tŷ cyffredin, llenwi’r bath gyda dŵr poeth o churns o Hostel Ieuenctid Pont y Pant dros ffordd, a dŵr o Afon Lledr a dyna ni ac ar ôl y gêm 30 o ddynion cyhyrog, nobl yn ymladd am ddiferyn o ddŵr ! – Ond penderfyniad rhai oedd neidio i Afon Lledr!
Penderfyniad y pwyllgor oedd cysylltu’r Pafiliwn gyda’r prif gyflenwad dŵr yn mis Tachwedd 1975. Daeth pethau yn well erbyn Ionawr 1976 - roedd Huw Williams Dolwyddelan a Glyn Knight Griffiths wedi gosod system soffisdigedig mewn lle gyda chawodydd yn pistillio'n hamddenol dros yr hogiau i bwll nofio plastig oedd yn draenio drwy dwll yn y llawr - moethusrwydd llygredig!! – ond anelu i ymolchi yn Afon Lledr roedd hanes rhai o hyd!
Mynd wedyn ar ôl y gêm i’r Gwydr i dorri syched – nid oedd trwydded gan y dafarn i agor o 3 tan 6 –felly shandi oedd gofynion y prynhawn ½ cwrw a ½ lemonêd -ond fel roedd y tymorau yn mynd yn ei blaen aeth y peint yn beint gyda lemonêd 'tops'. Roedd rhaid cael bwyd – roedd hogia Bro yn talu “Match fee" fel gallai’r hogiau o dȋm yr ymwelwyr cael bwyd cyn iddynt droi am adref.
Canlyniadau ar ôl gorffen y tymor CYNTAF 1974 - 1975
Chwarae- 22 Ennill- 8 Colli- 14 Pwyntiau o blaid- 206 / yn erbyn- 307
7 Fai 1975 Cyfarfod Blynyddol
Gwneud Cerdyn Aelodaeth yn cynnwys rhestr o gemau’r tymor / enwau Is-Lywyddion.
Aelodaeth £ 0.50 Chwaraewr/ Cymdeithasol £ 0.25
Trysorydd - Elw £ 126.99
Ethol 1975 /1976 Llywydd RH Roberts / Cadeirydd Alan Gwynant Jones / Ysgrifennydd Trefor Wood / Trysorydd Glyn E Jones / Ysgrifennydd Gemau Gwynne Williams / Aelodau Eraill Nigel Bloor/ Bryn Calvin Roberts / Ieuan Evans / Michael Jones
Chwaraewr Mwyaf Addawol Ken Jones
Ail-enwi'r clwb -CLWB RYGBI BRO FFESTINIOG
Bathodyn y clwb -PEN MAHARAN. Cynllunwyd gan frawd Bryn Calvin - Robert Roberts.
Mai 24 1975 Noson Cymdeithasol, Gloddfa Ganol
23 Awst 1975 Taith Gerdded Noddedig (£112.64 ) Cario pyst rygbi Pont y Pant i Flaenau Ffestiniog; Y weithred symbolaidd o gario postyn dros y mynydd.
Cael Cyfarfodydd Pwyllgor y Clwb yn y gwahanol dai Tafarnau lleol - Cwm, North Western, Lyndale, Cross Keys, Manod a Meirion.
23 Rhagfyr 1975 Cyfarfod Blynyddol Arbennig (Cross Keys)
Etholwyd Cadeirydd Dr Arthur R Boyns / Is Gad Glyn E Jones / Ysg Elfed Jones Trysorydd Glyn E Jones / Ysg. Gemau Gwynne Williams
Hyfforddwr ac Is Gapten Huw Joshua /Capten Nigel Bloor. Pwyllgor Eraill Merfyn C Willams / Bryn C Roberts / Ieuan Evans / Michael Jones
Ffurfio Pwyllgor Merched
Chwaraewr Mwyaf Addawol -Graham Thomas
UFA: CYMRAEG fydd iaith gyntaf y Clwb!
27 Rhagfyr 1975 Bro 18 Alltudion 17
- - - - - -
Ymddangosodd yr uchod yn rhifyn Rhagfyr 2022. Bydd mwy yn dilyn.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon