17.1.23

 O Ffestiniog i'r Wladfa

Diolch i Gyngor Tref Ffestiniog am brofiad bythgofiadwy ym Mhatagonia! Rydym newydd ddychwelyd yn ôl adra yn dilyn bron i dair wythnos yn cyflawni ein prosiectau yn y Wladfa, ar ôl ennill yr ysgoloriaeth yn 2020 a 2021.

Gyda'r ddau ohonom wedi gweithio mewn addysg, buom yn ymweld ag ysgolion a cholegau yn Rawson a threfi cyfagos. Buom yn ymweld â phedair Ysgol Gymraeg ym Mhatagonia - yn ogystal â thair Ysgol Sbaeneg, yn Rawson. 


Nid oes Ysgol Gymraeg yn Rawson ar hyn o bryd, ond mae bwriad gan eu Cyngor Tref i sefydlu Ysgol Gynradd Gymraeg yno, ac rydym wir yn gobeithio fod ein gwaith yn yr ysgolion a'n cyflwyniad i'r cyngor wedi annog hyn ymhellach a phwysleisio gwerth y Gymraeg mewn ysgolion.

Ein bwriad oedd rhannu cyflwyniadau a gwybodaeth am Fro Ffestiniog; ysgolion, iaith yn yr ardal, golygfeydd, enwogion a'r hyn sydd gan yr ardal i'w gynnig yn sgîl twristiaeth, gan ganolbwyntio ar y testun 'Heddiw ym Mlaenau Ffestiniog'. 

Roedd hi'n braf derbyn adborth cadarnhaol iawn gan staff a disgyblion yr ysgolion, a'u brwdfrydedd i ddysgu mwy am ein hardal drwy sesiwn cwestiwn ac ateb. Rydym wedi derbyn cwestiynau diddorol iawn ar gyfer plant Bro Ffestiniog, a gobeithio y bydd y cysylltiadau hyn yn cryfhau'r berthynas rhwng y ddwy Fro, ac yn parhau. Hoffwn ddiolch o galon i Ysgol y Moelwyn, ac ysgolion Tanygrisiau, Manod, Bro Cynfal a Bro Hedd Wyn am eu cyfraniadau drwy fideos, cyflwyniadau diddorol, a chwestiynau i'w gofyn i ddisgyblion ym Mhatagonia. 

Cawsom groeso bendigedig gan bawb yn Rawson, a phrofiadau gwerthfawr o ymweld ag amgueddfeydd, capeli, byd natur a dysgu mwy am hanes y Cymry cyntaf aeth i’r Wladfa, gyda llawer ohonynt o Fro Ffestiniog. 

Buom hefyd yn sêr teledu ar raglen newyddion lleol yn Rawson. Cawsom dipyn o sioc yn gweld y camerâu yn aros amdanom y tu allan i swyddfa'r Maer! 

 

Rydym yn dychwelyd o Batagonia gyda balchder mawr o'r Gymraeg, ac mae wedi bod yn agoriad llygad gweld pa mor awyddus a chefnogol yw brodorion Patagonia i'r iaith, diwylliant a thraddodiadau megis eisteddfod, dawnsio gwerin ac yfed te! 

Mae wedi bod yn anrhydedd profi Cymreictod ar ei orau, a chyfarfod oedolion sydd yn parhau i siarad Cymraeg gan ddilyn eu gwreiddiau teuluol - a rhai sydd wedi dangos diddordeb a dewis dysgu'r Gymraeg yn eu hamser hamdden. Bydd geiriau Esther, 93 o Drevelin, yn aros yn ein cof:

"Mae rhywbeth da i edrych ymlaen ato pob dydd". 

Yn ystod y daith, gwnaethom gyfarfod llawer o Gymry, gan gynnwys Bethan Gwanas yr awdures o Feirionnydd! Roedd hi'n bleser bod yn ei chwmni, a dysgu am ei thaith gyntaf i'r Wladfa yn 1991.

Rydym yn edrych ymlaen at rannu ein profiadau drwy fideos a chyflwyniadau i ysgolion lleol, a chyfuno rhinweddau pwysig ac unigryw Ffestiniog a Phatagonia mewn cân i'w rhannu gyda'r cyhoedd yn y flwyddyn newydd. 

Diolch eto i Gyngor Tref Ffestiniog am y cyfle arbennig yn sgîl yr ysgoloriaeth, a dymunwn y gorau i'r enillydd nesaf. Rydym yn annog yr ifanc yn y fro i ymgeisio am y cyfle gwych hwn i fod yn rhan o ddatblygu'r berthynas rhwng y ddwy ardal. Tan y tro nesaf.

Yn y lluniau fe’n gwelir yn cyfarfod gyda maer Rawson; ymweld â Choleg Camwy yn y Gaiman; yn dilyn cyflwyniad i blant Ysgol Gynradd yn Rawson; yn dilyn ymweliad i Gapel Berwyn yn Rawson. Hefyd ceir llun ohonom gyda (o’r chwith i’r dde) Abril (disgybl ysgol sy’n dysgu
Saesneg ac yn manteisio ar y cyfle i gyfieithu ar ein cyfer), Hanna, Gari, Maria Soledad o Lyfrgell Rawson a Patricia Lorenzo (o Gyngor Tref Rawson)

Hanna Gwyn Williams (Enillydd Ysgoloriaeth Cyngor Tref Ffestiniog 2020)
Gari Wyn Jones (Enillydd Ysgoloriaeth Cyngor Tref Ffestiniog 2021)
- - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 2022

Ym mis Mawrth 2023 cyhoeddodd Hanna ffilm a chân ar YouTube i hyrwyddo'r berthynas rhwng dwy Fro, o Ffestiniog i'r Wladfa!


Cyfansoddwyd y gân gan Hanna Gwyn Williams. 

Llais - Mared Jeffery
Piano - Tom Jeffery
Gitâr - Jiw Jeffery
Golygfeydd Drôn - Cai Jeffery
Fideo - Mirain Glyn
Clawr - Creu Co

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon