9.4.24

Senedd Stiniog- Detholiad Dechrau'r Flwyddyn

Pytiau o'r Cyngor Tref

Derbyniodd y Cyngor gais cynllunio i godi naw o dai ger Y Wenllys, Llan Ffestiniog, a bu dipyn o drafodaeth am y cynllun.  Dywedwyd fod tai eisoes yn cael eu codi yn y pentref ac y byddai’r rhain yn mynd i asiantaeth dai o Glwyd!  Amhosib fyddai cefnogi’r cais ar hyn o bryd gan nad oes sicrwydd mai i bobl leol oedd y tai am fod.  Dywedodd y ddau Gynghorydd o’r Llan, sef Marc Lloyd Griffiths a Linda Ann Jones, eu bod ill dau wedi derbyn nifer o gwynion gan drigolion y pentref ac nad oedd digon o wybodaeth am y prosiect ar gael.  Gwrthodwyd y cais, ond fe benderfynwyd ar ofyn wrth y Parc Cenedlaethol am fwy o gyngor a gwybodaeth.

‘Rhybydd o Gynnig’ – Cytunwyd yn unfrydol i gefnogi cynnig y Cyng. Mark Thomas i chwifio baner Llywelyn ap Gruffudd yng nghanol y dref pob mis Rhagfyr.  Disgyn Dydd Llewelyn yr 2il, ein Llyw Olaf, ar Ragfyr yr 11fed pob blwyddyn, dyddiad ei lofruddiaeth.

Codwyd wrychyn sawl cynghorydd gyda gwaith blêr, diog ac esgeulus Cyfoeth Naturiol Cymru, o ddeall fod Ceunentydd Cynfal a Llennyrch wedi cael eu disgrifio ganddynt o fod, “ger Porthmadog”.  Penderfynwyd e-bostio i fynegi siom y Cyngor Tref am hyn ac i’w hannog i gywiro’r disgrifiad a rhoi “ger Ffestiniog” yn ei le.  Daethom i ddeall fod y Dref Werdd, Cwmni Bro a Llafar Bro am wneud hyn hefyd

Cafwyd cais am gymorth ariannol gan Fudiad yr Urdd. Toedd dim gwrthwynebiad o ran egwyddor ond fe siomwyd rhai cynghorwyr gan y cais.  Dywedwyd fod y mudiad newydd gael pres da o werthiant eu hadeilad yn y dref i Antur Stiniog.  Adeilad yw hwn a godwyd, amser maith yn ôl, o bres prin chwarelwyr ‘Stiniog.  Dywedodd yr Urdd eu bod angen y pres i helpu cynnal yr Eisteddfodau a ballu yn y cylch.  Penderfynwyd cyfrannu at y rheini drwy roi pres yn uniongyrchol i’r ysgolion ar eu cyfer.

Rhai o’r prif faterion a godwyd yn y Pwyllgor Mwynderau oedd gyrru llythyr i Network Rail i ofyn sut oedd eu trefniadau’n siapio ynglŷn â chlirio’r lein.  Cadarnhawyd fod cytundeb bellach yn bodoli ar waith arfaethedig yn y Parc i dorri gwrychoedd a phlannu planhigion a ballu; a bod mwy o holi angen ei wneud cyn parhau ar y gwaith i greu maes parcio ym Mhant yr Ynn.

Gan fod y Cyngor wedi cysylltu’n mynegi siom fod staff Plas Weunydd yn colli eu gwaith oherwydd bod y Gwesty wedi derbyn trefniant bloc; daeth Michael Bewick, un o gyfarwyddwyr y cwmni i egluro’r sefyllfa. Esboniodd nad oedd neb am, nac wedi colli eu swyddi. Roedd un aelod o’r staff
wedi gadael ei swydd ar liwt ei hun, meddai. Derbyniodd y busnes y trefniant bloc am fod yr incwm amdano yn dda, a byddai’r elw’n mynd tuag at Gynllun Ynni Gwyrdd y cwmni. Diolchodd y Cyngor iddo am fynychu’r cyfarfod ac am ateb cwestiynau’r Cynghorwyr.
Diolchwyd hefyd i Andrew Williams a ddaeth i annerch y cyfarfod ar ran Hen Eglwys Llan Ffestiniog.
Eglurodd fod y cynlluniau darpariedig i ddatblygu’r adeilad bellach wedi cael eu pasio, sef codi wal ddringo ac agor caffi, ac y disgwylir ddechrau ar y gwaith yn fuan.

Ffair Llan. Ystyriwyd gohebiaeth a dderbyniwyd gan Gyngor Gwynedd ynglŷn â phroblemau iechyd a diogelwch yn sgil lleoliad y Ffair y llynedd. Cynigodd Y Cyng. Mark Thomas ac eiliodd Y Cyng. Dafydd Dafis y dylem lythyru’n ôl i’r Cyngor Sir yn diolch am yr wybodaeth, ac yn dweud nad yw’r Cyngor Tref eisiau cymeryd y cyfrifoldeb am drefnu’r Ffair na’r costau sy’n gysylltiedig â hi. Cytunodd pawb eu bod yn awyddus i weld y Ffair yn parhau.

Soniwyd mis neu ddau’n ôl fod y Cyngor wedi cytuno i gyfrannu at gais am arian gan Theatr Bara Caws. Trafodwyd hyn eto a chytunwyd y dylid cefnogi ceisiadau sy’n hybu’r celfyddydau os yn bosib, yn enwedig rhai drwy gyfrwng y Gymraeg yn yr ardal. Cynigodd Y Cyng. Dafydd Dafis ac eiliodd Y Cyng. Gareth Davies bod y Cyngor yn rhoi £100 at yr achos, a chytunodd pawb ar hyn.
David Jones a Sioned Graham-Cameron
- - - - - - - - -

Detholiad o newyddion y Cyngor Tref, o rifynnau Chwefror a Mawrth 2024




No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon