Hysbysebu

Glyn Daniels yw swyddog hysbysebion Llafar Bro. Cysylltwch â fo i drafod hysbysebu yn y papur. 
glyndanz@hotmail.co.uk
07731605557

Ar ôl trafod, gallwch yrru eich hysbyseb trwy ebost (fel ffeil .doc neu .jpeg neu .pdf) at olygydd y mis, neu ar bapur i gael ei deipio. Cyhoeddir LLafar Bro mewn lliw llawn. Gadewch i ni wybod os ydi'n well gennych hysbyseb mewn du a gwyn. Peidiwch a gyrru hysbysebion yn uniongyrchol at y wasg os gwelwch yn dda!

Mae dyddiad cau y rhifyn nesaf yn cael ei argraffu ar glawr pob rhifyn, ac ar dudalen 'Dyddiadau ac ati' ar y wefan yma.


Polisi Llafar Bro yw cynnwys hysbysebion Cymraeg yn unig.
Ni fyddwn yn cynnwys hysbysebion Saesneg na dwyieithog.

HYSBYSEBION
-prisiau ar gyfer 2024: 

A       lled colofn* x 4cm            £8 y mis
B       lled colofn   x 6cm            £10 y mis
C       lled colofn   x 9cm            £11 y mis
CH    lled dwy golofn  x 6cm    £16 y mis

CHWARTER TUDALEN- £25 y mis. Dim ond 6 gofod ar gael.

* mae tair colofn ar y dudalen, tua 65mm yr un.

#        cynnwys taflen efo'r papur   £40 
Cysylltwch efo'r ysgrifennydd yn yr achos yma. 
CHI sydd yn gyfrifol am argraffu a danfon y daflen atom (800 copi).

 

NODDI RHIFYN

Mae cyfle arall gwych i hyrwyddo'ch cwmni, a hynny trwy noddi rhifyn -gweler enghraifft Elusen Freeman Evans, yn rhifyn Ebrill 2020.

Am £300 mi gewch chi roi enw a manylion cyswllt eich cwmni/cymdeithas ar waelod y dudalen flaen, a gallwn weithio efo chi os hoffech, i gynnwys erthygl a llun (dim mwy na hanner tudalen) am eich gweithgareddau yn lleol oddi mewn. Rhaid iddi fod yn erthygl berthnasol i ddarllenwyr Bro Ffestiniog ac nid yn ddatganiad generig i'r wasg. 

Er ein bod yn ffafrio erthygl, gallwch ddewis -os hoffech- roi hysbyseb yn hytrach nag ysgrif. Dyma'r unig ffordd o gael gofod hysbysebu mwy na'r arfer yn Llafar Bro.

 ----

Mae Llafar Bro yn falch o gefnogi busnesau lleol trwy gynnig cyfraddau rhesymol iawn am hysbysebu o fewn ein cloriau. Rydym hefyd yn ddiolchgar am bob cefnogaeth gan ein hysbysebwyr.

Ar yr un pryd rydym yn ymwybodol bod cyfyngiad ar faint o dudalennau y gallwn eu hargraffu bob mis (costau argraffu, a chostau postio, ac ati), ac felly mae'n rhaid i ni daro cydbwysedd rhag llenwi pob tudalen efo hysbysebion a gorfod hepgor newyddion ac erthyglau.


Cofiwch nad oes rhifyn ym mis Awst, felly os ydych am hysbysebu rhywbeth sy'n digwydd yn Awst neu hanner cyntaf Medi, rhaid gyrru'r manylion erbyn dyddiad cau rhifyn Gorffennaf, sef Dydd Gwener olaf Mehefin (fel rheol).

Diolch am eich cefnogaeth.