Showing posts with label swyddi. Show all posts
Showing posts with label swyddi. Show all posts

23.12.25

Newid y Tirlun yn Nhrawsfynydd

Ers canol y 1960au mae’r ddau adeilad mawr sy’n perthyn i Atomfa Trawsfynydd wedi dod yn rhan o’n tirwedd ond bellach mae sôn am ostwng uchder y ddau adeilad yma fel rhan o ail lunio tirwedd yr ardal. 

Cynlluniwyd yr adeiladau gan y pensaer o’r Alban; Syr Basil Urwin Spence (1907 – 1976), a oedd yn fwy enwog am ei waith yn ail-lunio safle Eglwys Gadeiriol Coventry a chodi eglwys newydd sbon yno yn dilyn difrodi yr eglwys wreiddiol adeg y Rhyfel. Mae hefyd yn gyfrifol am nifer o adeiladau eraill yn yr arddull Modernaidd/Brutalist. 

Gwnaed gwaith tirlunio ar safle yn ogystal â bu cryn ystyriaeth cyn codi'r adeiladau anferth. Maent yn esiampl o bensaernïaeth Brutalist oedd yn gyffredin yn y 1960au. Mae nifer ohonom yn cofio gweld y craen anferth a elwid yn Goliath oedd dros y safle am sawl blwyddyn wrth i’r adeiladau gael eu codi ac roedd golygfa wych o hwn o ben Cwm Bowydd. Yn sydyn yn 1967, diflannodd, a mynd i godi adeiladau ar safleoedd eraill! Roedd yr adeiladau yn ddatganiad beiddgar o ddylunio diwydiannol canol yr 20fed ganrif. Dechreuodd y gwaith o godi’r adeiladau ym mis Gorffennaf 1959, ac roedd y ddau adweithydd ar waith erbyn Mawrth 1965, gyda'r orsaf yn agor yn llawn ym mis Hydref 1968, ar gost o £103 miliwn. 

Bellach mi fydd y gwaith o ostwng uchder adweithyddion niwclear Trawsfynydd yn dechrau yn 2026 fel rhan o gynllun gwerth £70m. Mi fydd y tyrrau concrit adnabyddus yn cael eu haneru o ran uchder fel rhan o gynllun dadgomisynu’r safle. Dyma oedd yr unig safle niwclear mewndirol ar y pryd gan ddefnyddio dŵr o Lyn Trawsfynydd er mwyn oeri’r adweithyddion. Ond wedi 25 mlynedd o gynhyrchu ynni dechreuodd y gwaith o ddadgomisynu y safle yn 1991 gyda disgwyl i hynny gymryd degawdau. 

Nod pennaf gostwng yr uchder yw gwella’r olygfa ac effaith yr adweithyddion ar y tirlun.

Mi fydd y to, wal a’r paneli concrit yn dod lawr oddeutu 25m”, meddai Nigel Wright, Uwch Reolwr Prosiect NRS (Nuclear Restoration Services). “Da ni’n gobeithio fydd na o gwmpas cant o weithwyr ychwanegol ar y safle dros y bedair blynedd nesa fydd yn cymryd y nifer i 350 fydd yn gweithio yma," meddai Tom Williams, Cyfarwyddwr Safle Trawsfynydd. 

Er i’r safle gael ei grybwyll fel man posib i gartrefu adweithyddion niwclear bychain (SMRs) ar ddechrau’r degawd does dim disgwyl i hynny ddigwydd bellach gyda Llywodraeth Prydain yn canolbwyntio ymdrechion ar safleoedd Wylfa ar Ynys Môn ac Oldbury yn Lloegr. Mae awgrym hefyd y gallai’r safle gael ei ddefnyddio i greu isotopau ond does dim cadarnhad o’r cynlluniau hynny. 

Yn ôl y Cynghorydd lleol, Elfed Roberts mi fydd y gwaith newydd yn newid mawr i’r ardal: “Mae 'na rai -ac wrach bod nhw’n iawn- yn dweud dyle nhw gadw nhw. Ond yn gyffredinol y teimlad yn lleol ydi bod angen dod â nhw lawr ac altro’r tirlun. Mae nhw am gael dros gant o weithwyr lleol, defnyddio cyflenwyr lleol... felly mae o am fod yn hwb fach i’r ardal yn sicr," meddai. 

Mae disgwyl i’r gwaith ddechrau yn haf 2026 gan barhau am gyfnod o bedair blynedd.

Yn y lluniau ceir yr adeiladau presennol ac argraff o’r adeiladau fydd yno yn y dyfodol a’r uchder wedi ei ostwng hyd at lefel y drysau melyn. Lluniau gan yr NRS

- - - - - - 

Addasiad o erthygl a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 2025

 


10.10.25

Iaith a Gwaith

Roedd sylw yn rhifyn Gorffennaf/Awst (Ydi'r ZIP yn Agored i Syniadau'r Gymuned?) i’r galwadau am greu Cronfa Gymunedol, yn sgil cais cwmni Zip World am dros £6miliwn o bres cyhoeddus. 

Y ddadl ydi fod y cwmni hwn yn ddigon cyfoethog i beidio gofyn am grantiau gan y llywodraeth -sydd yn y pen draw yn bres yr ydych chi a fi wedi talu mewn trethi! Ac y dylian nhw rannu rhan o’u elw efo’r cymunedau lle maen nhw’n gweithredu. 

 

Ers hynny mae’r cwmni wedi bod yn y newyddion eto, y tro hwn yn dilyn adroddiad ymchwil a gyhoeddwyd ym mis Awst ('Five indicators and two questions about wages and conditions at Zip World' gan Foundational Economy Research 

-ar gael i’w lawrlwtho o wefan FERL). 

 

Prif neges yr adroddiad ydi fod rhwng 85% a 93% o weithwyr Zip World yn Llechwedd a Chwarel y Penrhyn, yn 2024, wedi bod ar gontract ‘zero hours’; hynny ydi, does gan y staff ddim sicrwydd o wythnos i wythnos faint o oriau fydden nhw’n weithio. 

Mi edrychodd yr ymchwilwyr ar hysbysebion y cwmni am swyddi newydd dros gyfnod o bythefnos o’r 27ain Mai at 10fed Mehefin 2025, a’u cymharu efo cyflogwyr eraill sy’n gweithredu yn y maes ymwelwyr. Yn y cyfnod hwnnw roedd 80% o’r swyddi a hysbysebwyd gan Portmeirion yn rai llawn amser, a dim un yn ‘zero hours’, tra oedd Zip World yn hysbysebu dros 60% o’r swyddi yn rhai ‘zero hours’, a dim ond un swydd lawn amser.

Mae cyflogau isel ac ansicr yn ei gwneud yn anodd i weithwyr gynllunio eu gwario, ac hefyd yn medru tanseilio economi cymunedau Cymraeg eu hiaith.

Heb os, mae swyddi llawn amser a chyflogau da yn hanfodol i gadw pobl ifanc yn ein cymunedau!
Os nad ydych wedi cyfrannu sylwadau i’r ymgynghoriad am gronfa gymunedol, holwch cynghorydd.elfedwynapelwyn@gwynedd.llyw.cymru   am becyn gwybodaeth.

- - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2025
 

27.4.23

Llwyddiant Llio

Llongyfarchiadau mawr i Llio Maddocks ar dderbyn swydd Cyfarwyddwr Celfyddydau Urdd Gobaith Cymru!

Mae Llio yn enw cyfarwydd iawn i’r rhan fwyaf o’r bobl yn yr ardal hon bellach. Yn enedigol o’r Llan ac yn ferch i Rhian a’r diweddar Peter, Pantllwyd. Mae’n adnabyddus yn y Gymru gyfoes fel awdures lawrydd, gyda dwy nofel wedi cyhoeddi hyd yma, Un Noson (fel rhan o gyfres Stori Sydyn) a Twll Bach Yn Y Niwl, nofel wnaeth gyrraedd rhestr fer Gwobr Ffuglen Llyfr y Flwyddyn yn 2021. Mae hi hefyd yn adnabyddus fel bardd, gyda dros 2,700 o bobl yn mwynhau ei InstaGerddi hi ar y platfform cymdeithasol poblogaidd.

Fe’i haddysgwyd yn Ysgol Bro Cynfal, Ysgol y Moelwyn ac Ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst. Aeth i Brifysgol Leeds yn 2009, gan raddio mewn Saesneg a Ffrangeg yn 2013. Yn ystod ei chyfnod yno, cafodd gyfle i gael blas ar amrywiol leoedd yn y byd gan weithio fel cymhorthydd iaith ac athrawes Saesneg. Daeth yn ôl i Brydain, gan symud i Lundain am flwyddyn i weithio fel cynorthwyydd gwerthiant i DK, y cyhoeddwr llyfrau enfawr sy’n cynhyrchu mewn dros 100 o wledydd ac mewn dros 60 o ieithoedd. Tua diwedd 2014, daeth hi adref i ddechrau gweithio fel Golygydd Cylchgronau o Wersyll yr Urdd Glan Llyn, Llanuwchllyn, cyn symud i fod yn drefnydd cynorthwyol ac yna’n drefnydd celfyddydol Prifwyl ein hieuenctid. Bydd yn olynu Siân Eirian.

Cofiwn i Llio ddod i’r brig fel awdures ifanc yn Eisteddfod yr Urdd pan ymwelodd â Meirionnydd yn 2014 pryd y cipiodd y Goron. Mae ei gyrfa ym myd llenyddiaeth wedi mynd o nerth i nerth ers hynny.

Yn mis Mehefin, fe fydd hi’n dechrau ar swydd newydd gyda’r Urdd, wedi iddi gael ei phenodi yn Gyfarwyddwr Celfyddydau yr Urdd. Bydd ei rôl newydd yn golygu ei bod hi’n goruchwylio holl wasanaethau celfyddydol yr Urdd, gan gynnwys Eisteddfod yr Urdd, Theatr Ieuenctid, Gŵyl Triban, Ysgoloriaeth Bryn Terfel a phrosiectau rhyngwladol yr Urdd, megis eu partneriaeth gyda’r mudiad ieuenctid o Iwerddon, TG Lurgan.

Llongyfarchiadau mawr i ti Llio ar dy swydd newydd, mae’r ardal yn falch iawn o dy lwyddiant di ac yn edrych ymlaen i weld ffyniant pellach i brif Ŵyl Ieuenctid Cymru a’r holl gelfyddyd sy’n dod o dan faner yr Urdd.
- - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol ar dudalen flaen rhifyn Mawrth 2023

Cwrdd. Cerdd ac ysgrif o rifyn Ebrill 2020 gan Llio

5.10.21

Blas o Waith Cwmni Bro

Mae ‘na lwyth o newyddion da wedi dod o waith a phrosiectau y rhwydwaith cymunedol! Dyma flas o be' sydd ar y gweill.

Ymchwil Cymunedol

Ers rhai wythnosau, mae Cwmni Bro wedi bod yn cynnal ymchwil i ddarganfod barn pobl leol am y gymuned. Bydd yr atebion yn helpu i’r mentrau cymunedol ddeall beth sydd wir o bwys i’r gymuned, ac yn helpu i siapio datblygiadau cymunedol y dyfodol.

Sganiwch y côd ‘QR’ ar ein hysbyseb i lenwi’r holiadur ar y wê, neu cysylltwch â Chwmni Bro i gael copi papur!


Y camau nesaf fydd cynnal grwpiau ffocws i drafod y cwestiynau a rhannu syniadau – plîs cysylltwch os ydych chi’n aelod o gymdeithas neu grŵp sydd â diddordeb.

Hen Eglwys Llan

Ar ôl misoedd o waith adnewyddu ahnygoel, mae hen Eglwys Sant Mihangel Llan Ffestiniog bron yn barod i agor ei drysau unwaith eto fel gofod i’r gymuned.
Yn yr haf, cynhaliwyd weithdai adeiladwaith traddodiadol i ddatblygu sgiliau’r mynychwyr tra’n parhau efo’r adfer allanol. 

Mae’r perchnogion newydd yn awyddus i glywed syniadau trigolion yr ardal am sut gall yr adeilad gael ei ddefnyddio er budd y gymuned, a felly cafwyd sesiwn drafod yn y Llan. Os nad oedd modd i chi ymuno, cysylltwch â ni ar 831 111, neu drwy ebostio cwmnibro@cwmnibro.cymru i ychwanegu eich syniadau!

Blaentroed 

Mae’r cynllun Blaentroed yn rhedeg gyda mwy o stêm na thrên bach Ffestiniog. Hyd yma, mae ambell i berson ifanc wedi cychwyn eu gwaith, a llwyth o swyddi amrywiol eraill –o weithio yn y Siop Werdd i fod yn dafluniwr yn Sinema CellB- yn cael eu hysbysebu. 

Mae’r swyddi’n agored i bobl ifanc rhwng 16 a 25 mlwydd oed sydd ar gredyd cymhwysol, ac yn cael eu hysbysebu drwy’r ganolfan waith ym Mhorthmadog.



24.10.19

Sut mae arbed ein cymunedau gwledig?

Myfyrwraig ym Mhrifysgol Sciences Po yn Poitiers, Ffrainc ydi Elin Roberts. Fel rhan o’i chwrs Gradd Gwyddorau Gwleidyddol, mae’n astudio gwleidyddiaeth, economeg, y gyfraith, hanes, ac athroniaeth, yn ogystal â Ffrangeg a Sbaeneg. Mae’n bryderus am sefyllfa waith y Fro Gymraeg.

Mae Cymru yn heneiddio ac wrth i hynny ddigwydd, rydym yn colli ein pobl ifanc. Yn y degawd diwethaf mae dros 117,000 o bobl ifanc rhwng 15 a 29 mlwydd oed wedi gadael Gwynedd, Ynys Môn, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin, tra bod 2,750 o bobl rhwng 45-64 mlwydd oed yn symud i mewn i Gymru bob blwyddyn. Mae’n bryd i ni ddechrau edrych yn ofalus iawn ar yr ystadegau hyn a gofyn paham bod hyn yn digwydd? Pam bod ein pobl ifanc ni yn gadael ein cymunedau?

Oes raid gadael y Fro Gymraeg i gael gwaith? Llun- Paul W

Tra bod mwy o bobl hŷn yn symud i mewn i’r ardaloedd hyn, gwelwn bod llawer iawn o heriau yn wynebu ein pobl ifanc. Rhaid dechrau trwy edrych ar ba fath o gyfleoedd sydd ar gael i’n pobl ifanc ni. Heddiw, ychydig iawn yw’r cyfleoedd sydd ar gael. Eglurwn hyn drwy’r toriadau ariannol y gwelwyd yn y blynyddoedd diwethaf. Nid yn unig y gwelwn doriadau i wasanaethau’r ifanc, gwelwn doriadau i wasanaethau addysg.

Mae’r diffyg cyfleoedd yn arwain at ddiffyg swyddi, sy’n gadael llawer o’n pobl ifanc ni mewn swyddi o sgiliau isel gyda chyflogau isel. O ganlyniad, ni allent wireddu’r freuddwyd o brynu tŷ.

Mae bod yn berchen tŷ yn ffantasi llwyr i lawer, a’r tai yn anfforddiadwy.
Yr unig obaith o ddyfodol gwell i nifer yw gadael yr ardal. Ond, wrth i hyn ddigwydd bydd yn cael effaith eithriadol o negyddol ar ein cymunedau a’n hiaith, yn peri i ni ofyn a oes dyfodol i’n cymunedau gwledig?

Mae’n amser i ni ddechrau meddwl am y math o ddyfodol yr hoffem ei weld. Yn amser i ddechrau buddsoddi yn ôl yn ein pobl ifanc. Ein pobl ifanc ni yw’r dyfodol. Maent angen buddsoddiad er mwyn tyfu i gyrraedd eu llawn cyrhaeddiad, fel y mae hadyn angen digon o ddŵr a goleuni i dyfu.

Mae angen i ni ddechrau meddwl sut y gallwn gynorthwyo ein pobl ifanc. Beth y gallwn ei gynnig iddynt er mwyn lleddfu effaith y toriadau ariannol? Mae’n bryd i ni ddechrau meddwl sut y gallwn fuddsoddi yn ein hifanc. Rhaid gofyn beth mae ein pobl ifanc eisiau ar gyfer y dyfodol. Sut fath o gymuned hoffwn ei weld yma yn y Blaenau mewn 10 mlynedd neu hyd yn oed mewn 20 mlynedd? 

Wrth ystyried yr uchod, mae gennym ni lawer iawn o gyfrifoldebau: i ddechrau mae gennym ddyletswydd i sicrhau bod pob person ifanc yn cael mynediad cyfartal i wybodaeth. Gorau po fwya’r wybodaeth sydd gan yr unigolyn. Teimlaf ein bod fel cymdeithas yn categoreiddio ein pobl ifanc yn llawer rhy fuan ac felly y dylem drin pob unigolyn yn yr un modd drwy sicrhau bod pawb yn cael mynediad teg i’r un wybodaeth.  O ganlyniad, rhaid sicrhau bod yr ifanc yn cael y cyfle i brofi cymaint o sectorau ag sy’n bosib boed hynny o fewn amaeth, y cyfryngau, gwleidyddiaeth neu hyd yn oed yn y byd chwaraeon.

Fel dyletswydd arall, dylem annog ein pobl ifanc i fagu rhagor o sgiliau a fyddai’n eu galluogi i ddod yn weithwyr medrus. Byddai hyn yn y pendraw yn cynyddu eu siawns o gael cyflog uchel a fyddai yn eu caniatau i brynu tŷ. Law yn llaw ag annog datblygiad o sgiliau dylem edrych ar y sgiliau mwyaf defnyddiol o fewn y byd gwaith heddiw megis yn y maes technoleg a chyfrifiadureg. Mae swyddi o fewn y meysydd hyn yn cynnig cyflogau uchel iawn ond hefyd yn cynnig y posibilrwydd o allu gweithio o adref. Felly’n uno’r freuddwyd o brynu tŷ tra’n aros yn ein cymunedau Cymreig.

Wrth edrych ar sut i arbed cymunedau heddiw, mae’n rhaid i ni fod yn arloesol a sicrhau bod ein pobl ifanc ni y cael y mynediad gorau i wybodaeth ac wrth gwrs, i gyfleoedd. O edrych ar fod yn arloesol, mae’n raid i ni ystyried y sectorau mwyaf cynyddol o fewn y byd gwaith a sicrhau bod gan ein pobl ifanc ni fynediad i’r fath sector. Ond yn fwy na dim, amser a buddsoddiad sydd ei angen ar ein pobl ifanc. Er mwyn iddynt gyraedd eu llawn cyrhaeddiad, maent angen arweiniad. Felly, meddyliwch sut fath o gymuned yr hoffech ei weld yn y dyfodol oherwydd pobl ifanc heddiw fydd yn adeiladu cymuned y dyfodol. Yr ifanc yw’r dyfodol ac os na fyddwn ni yn buddsoddi ynddynt, sut olwg y bydd ar gymunedau yfory a beth ddaw o’r Gymraeg?
------------------------------

Un o gyfres o erthyglau gwadd ar thema 'GWAITH', a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2019.

9.2.15

Swyddi newydd efo'r Dref Werdd

Ydych chi eisiau cyfrannu at wneud amgylchedd Blaenau Ffestiniog a bywyd ei thrigolion yn well?

Mae Cwmni Y Dref Werdd wedi llwyddo i sicrhau cyllid oddiwrth Cronfa'r Loteri Fawr i weithredu rhaglen  o weithgareddau amrywiol fydd yn helpu i wella amgylchedd yr ardal,  datblygu sgiliau rhai o’i thrigolion a chynnig cymorth ymarferol i nifer sylweddol o’i phobl i leihau eu costau ynni a gwastraffu llai o fwyd.

‘Rydym yn chwilio am unigolion fyddai a diddordeb yn y swyddi iso:

Rheolydd Prosiect, cyflog £26,000 + cyfraniad pensiwn cyflogwr. Wythnos waith 37 awr. Y person hwn fydd yn gyfrifol am redeg y cynllun o ddydd i ddydd ac yn atebol i fwrdd y cwmni. Cynigir cytundeb  3 blynedd.

2 x Swyddog Prosiect, cyflog £20,000 y flwyddyn +cyfraniad pensiwn cyflogwr. Wythnos waith 37 awr. Bydd y ddau berson yma yn gyfrifol am brosiectau penodol o fewn y cynllun ac yn atebol i’r Rheolydd Prosiect. Cynigir cytundeb  3 blynedd.

Swyddog Cyswllt a Gweinyddol (rhan amser) cyflog £8,900 +cyfraniad pensiwn am wythnos waith 23 awr. Bydd y person hwn yn gyfrifol am y gweinyddiaeth a chadw cyswllt gyda’r gymuned trwy ddulliau y cyfryngau newydd a rhai mwy traddodiadol.

Lleolir y swyddi ym Mlaenau Ffestiniog. Disgwylir derbyn copi o CV yr ymgeisydd ynghŷd â llythyr yn esbonio pam mae diddordeb yn y swydd.

Am fwy o fanylion a swydd ddisgrifiad llawn cysylltwch â – Dafydd Wyn Jones,
dafyddwynjones [at] hotmail.co.uk

Dyddiad Cau ar gyfer ymgeisio Gwener 27 o Chwefror 5pm Cyfweliadau i’w cynnal Gwener 6 o Fawrth.
Plannu yn y parc, Mehefin 2010. Llun Gwydion ap Wynn
Fe fu prosiect y Dref Werdd yn rhedeg yn llwyddiannus yn y Blaenau rhwng 2007 a 2013.

Yn ystod y cyfnod hwn, rhoddwyd cymorth i lawer o deuluoedd i leihau eu biliau tanwydd trwy ddefnyddio ynni’n fwy effeithlon. Bu'n gweithio gyda'r clwb rygbi hefyd i sicrhau arbedion sylweddol ar ei ddefnydd o ynni. Hefyd, fe wnaeth y prosiect  helpu i ddarparu 22 o randiroedd i bobl leol gael tyfu eu llysiau eu hunain, yn ogystal â chydlynu ymdrechion i wella ansawdd afonydd lleol, ac i reoli lledaeniad y llwyn ymledol Rhododendron ponticum. A llawer mwy, fel gwella'r parc lleol, rhedeg clwb natur, a gofalu am golofn fisol ar faterion amgylcheddol yn LLAFAR BRO.

Rhandiroedd Bro Ffestiniog. Llun PW
Mae cynlluniau i ddatblygu'r prosiect ymhellach yn canolbwyntio ar helpu pobl leol i ddefnyddio ynni yn fwy effeithlon yn eu tai, a lleihau gwastraff bwyd hefyd, gan dorri biliau. Yn ei gyfnod blaenorol fe helpodd prosiect y Dref Werdd helpu nifer o bobl yn gwneud hyn trwy ddarparu cyngor a chefnogaeth ar sut i ddefnyddio eu system wresogi bresennol yn fwy effeithlon, a lle bo'n bosibl, i gynorthwyo gyda pobl i hawlio grantiau i osod technoleg fwy modern.

Mae llawer o bobl yn Ffestiniog yn wynebu ergyd ddwbl o ran biliau gwresogi, gan fod llawer o'r tai wedi'u hadeiladu o gerrig ac felly nid oes cavity yn y waliau y gellir ei inswleiddio. Mewn rhai ardaloedd, fel Tanygrisiau, nid oes modd cyflenwad nwy trwy bibelli, felly rhaid dibynnu ar ddulliau gwresogi drutach.

Cadeirydd y prosiect yw Rory Francis. Mae’n dweud: "Rydym yn ddiolchgar iawn i'r Gronfa Loteri Fawr am eu cefnogaeth. Mi hoffwn i hefyd ddiolch i holl aelodau ein bwrdd prosiect a chyn-staff y prosiect, sydd wedi gweithio'n galed iawn i lunio cais mor gryf, ac yn enwedig i’n hysgrifennydd cwmni Dafydd Wyn Jones. Rydym wedi siarad â gwahanol grwpiau o fewn y dref a’r tu hwnt ac wedi casglu ugeiniau o enwau pobl sy'n awyddus i gael cymorth i leihau eu biliau ynni er mwyn dangos yr angen ar gyfer y prosiect.

"Erbyn hyn mae gennym dair blynedd prysur o'n blaenau a fe fydd yna gyfle mawr i wirfoddolwyr gymryd rhan yn ogystal â staff cyflogedig. Os hoffech chi gymryd rhan y prosiect, rhowch ganiad i fi ar 01766 830328."