Showing posts with label allfudo. Show all posts
Showing posts with label allfudo. Show all posts

10.11.19

Gadael Bro

Testun gofid –ers degawdau- ydi tuedd pobol ifanc disglair, i adael eu cymunedau i chwilio am waith a bywyd cyffrous yn y dinasoedd. Yn ddiweddar, mae Lowri Cunnington Wynn -darlithydd yn adran Cyfraith a Throseddeg Prifysgol Aberystwyth- wedi ennill gwobr am yr erthygl academaidd orau yng nghyfnodolyn Gwerddon. Mae ei hymchwil ar gael ar y we*, ond yma mae’n rhoi crynodeb o’i chanfyddiadau.

Nid datganiad newydd yw’r ffaith fod ardal Bro Ffestiniog wedi denu ambell i gymeriad diddorol dros y degawdau diwethaf. Yn wir, teg digon yw dadlau fod hanes lliwgar, diwydiannol yr ardal wedi tynnu sylw haneswyr, artistiaid ac academyddion fel ei gilydd. Un o'r rhain oedd Isabel Emmett (1978) oedd yn darogan am y ‘Blaenau Boys in the Mid Sixties’ a’i chanfyddiad hi o ‘Gymreictod.’

Bu cyfraniad Emmett i’r cysyniad hwn yn un pell gyrrhaeddol a bu’n ganolog i’r rhan fwyaf o’i gwaith hi ar Gymru. Ni ellir diystyru ei sylw proffwydol wrth iddi ddadlau fod dyfodol ansicr yr iaith Gymraeg a hunaniaeth Gymreig unigryw, yn amlwg iawn i bobl gyffredin Cymru.


Nid oes llawer wedi newid yn y cyd-destun hwn, heblaw bod y sefyllfa llawer mwy dwys nac oeddwn i wedi dychmygu, gyda Chymru a’r Bröydd Cymraeg yn gyffredinol yn colli eu pobl ifanc, addysgedig ar raddfa frawychus.  Mae canlyniadau’r cyfrifiad yn 2011 yn ategu hyn a’r pwnc o allfudo yn un amserol wrth ystyried targed Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Ceir gwaith ymchwil diweddar sy’n trafod allfudo pobl ifanc o Flaenau Ffestiniog a Thregaron yn ôl eu dyheadau a’u gobeithion ar gyfer y dyfodol.  Bu’n canolbwyntio ar bobl ifanc nad oedd wedi eu geni yn y Fro, ac ymddengys fod y bobl ifanc hyn yn gadael Cymru ar raddfa bedair gwaith yn fwy na’r rhai a anwyd yma (Jones 2010).  Darganfu’r ymchwil fod allfudo ymysg pobl ifanc yn ddibynnol ar nifer o ffactorau cymhleth ond ymddengys fod cysylltiad amlwg rhwng y cysyniad o Gymreictod a’r ymdeimlad o berthyn i gymuned.

Bu cryn drafodaeth ymysg pobl ifanc y Fro ar yr hyn a olygir wrth fod yn ‘Gymro/Cymraes’, yr ymdeimlad hwnnw o berthyn a graddfeydd integreiddio i’r gymuned. Roedd y term ‘cenedligrwydd’   yn gysylltiedig â’r bröydd yr oeddynt yn perthyn iddynt.  Yn ogystal, roedd ‘cenedligrwydd’ yn aml yn adlewyrchu’r hyn yr oeddent yn teimlo am eu statws o fewn y gymuned honno.

Darganfuwyd, yn anochel efallai, fod agweddau rhieni yn treiddio i’w hagweddau hwy yn ddibynnol ar eu profiadau positif neu negyddol o Gymreictod. Er hynny, gellir dadlau bod cymhlethdod yn perthyn i’r sampl yn gysylltiedig â’u cefndir teuluol ac felly eu cenedligrwydd a’u statws hwythau o fewn y gymuned. Er enghraifft, ymddengys nad oedd nifer o’r pobl ifanc yn Ffestiniog wedi dewis mabwysiadu cenedligrwydd eu rhieni, ond yn hytrach wedi mabwysiadu cenedligrwydd a Chymreictod ardaloedd eu bro, gyda rhai yn ymfalchïo yn yr hyn sy’n eu gwahaniaethu oddi wrth eraill yn yr ardal.

Roedd nifer y bobl ifanc a oedd yn nodi eu bod o genedligrwydd Cymreig ym Mlaenau Ffestiniog gymaint yn uwch na Thregaron er bod eu cefndir teuluol yn ymddangos yn debyg.  Rhywbeth i ymfalchïo ynddo efallai o ystyried fod graddau allfudo’r bobl ifanc yn cael ei effeithio gan eu hymdeimlad o berthyn i gymuned?

Mae’r ymchwil yn ein hatgoffa mai sgil yn unig yw’r Gymraeg ac nid yw dysgu iaith o reidrwydd yn golygu bod mewnfudwyr yn mabwysiadu hunaniaeth eu cymunedau.  Teg digon yw dadlau bod angen polisïau lleol a chenedlaethol sy’n ymateb i’r tensiwn sy’n bodoli rhwng aros yng Nghymru neu fudo o’r wlad a cholli iaith.  Oes le yma i ddadlau fod Bro Ffestiniog yn llwyddo i feithrin math unigryw o Gymreictod, gyda’i hanes diwydiannol a lliwgar yn fantais yn hyn?
Rhywbeth i’w ystyried yn wir.
---------------------------------------


Un o gyfres o erthyglau gwadd ar
thema 'GWAITH', a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2019.


*Papur Lowri


24.10.19

Sut mae arbed ein cymunedau gwledig?

Myfyrwraig ym Mhrifysgol Sciences Po yn Poitiers, Ffrainc ydi Elin Roberts. Fel rhan o’i chwrs Gradd Gwyddorau Gwleidyddol, mae’n astudio gwleidyddiaeth, economeg, y gyfraith, hanes, ac athroniaeth, yn ogystal â Ffrangeg a Sbaeneg. Mae’n bryderus am sefyllfa waith y Fro Gymraeg.

Mae Cymru yn heneiddio ac wrth i hynny ddigwydd, rydym yn colli ein pobl ifanc. Yn y degawd diwethaf mae dros 117,000 o bobl ifanc rhwng 15 a 29 mlwydd oed wedi gadael Gwynedd, Ynys Môn, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin, tra bod 2,750 o bobl rhwng 45-64 mlwydd oed yn symud i mewn i Gymru bob blwyddyn. Mae’n bryd i ni ddechrau edrych yn ofalus iawn ar yr ystadegau hyn a gofyn paham bod hyn yn digwydd? Pam bod ein pobl ifanc ni yn gadael ein cymunedau?

Oes raid gadael y Fro Gymraeg i gael gwaith? Llun- Paul W

Tra bod mwy o bobl hŷn yn symud i mewn i’r ardaloedd hyn, gwelwn bod llawer iawn o heriau yn wynebu ein pobl ifanc. Rhaid dechrau trwy edrych ar ba fath o gyfleoedd sydd ar gael i’n pobl ifanc ni. Heddiw, ychydig iawn yw’r cyfleoedd sydd ar gael. Eglurwn hyn drwy’r toriadau ariannol y gwelwyd yn y blynyddoedd diwethaf. Nid yn unig y gwelwn doriadau i wasanaethau’r ifanc, gwelwn doriadau i wasanaethau addysg.

Mae’r diffyg cyfleoedd yn arwain at ddiffyg swyddi, sy’n gadael llawer o’n pobl ifanc ni mewn swyddi o sgiliau isel gyda chyflogau isel. O ganlyniad, ni allent wireddu’r freuddwyd o brynu tŷ.

Mae bod yn berchen tŷ yn ffantasi llwyr i lawer, a’r tai yn anfforddiadwy.
Yr unig obaith o ddyfodol gwell i nifer yw gadael yr ardal. Ond, wrth i hyn ddigwydd bydd yn cael effaith eithriadol o negyddol ar ein cymunedau a’n hiaith, yn peri i ni ofyn a oes dyfodol i’n cymunedau gwledig?

Mae’n amser i ni ddechrau meddwl am y math o ddyfodol yr hoffem ei weld. Yn amser i ddechrau buddsoddi yn ôl yn ein pobl ifanc. Ein pobl ifanc ni yw’r dyfodol. Maent angen buddsoddiad er mwyn tyfu i gyrraedd eu llawn cyrhaeddiad, fel y mae hadyn angen digon o ddŵr a goleuni i dyfu.

Mae angen i ni ddechrau meddwl sut y gallwn gynorthwyo ein pobl ifanc. Beth y gallwn ei gynnig iddynt er mwyn lleddfu effaith y toriadau ariannol? Mae’n bryd i ni ddechrau meddwl sut y gallwn fuddsoddi yn ein hifanc. Rhaid gofyn beth mae ein pobl ifanc eisiau ar gyfer y dyfodol. Sut fath o gymuned hoffwn ei weld yma yn y Blaenau mewn 10 mlynedd neu hyd yn oed mewn 20 mlynedd? 

Wrth ystyried yr uchod, mae gennym ni lawer iawn o gyfrifoldebau: i ddechrau mae gennym ddyletswydd i sicrhau bod pob person ifanc yn cael mynediad cyfartal i wybodaeth. Gorau po fwya’r wybodaeth sydd gan yr unigolyn. Teimlaf ein bod fel cymdeithas yn categoreiddio ein pobl ifanc yn llawer rhy fuan ac felly y dylem drin pob unigolyn yn yr un modd drwy sicrhau bod pawb yn cael mynediad teg i’r un wybodaeth.  O ganlyniad, rhaid sicrhau bod yr ifanc yn cael y cyfle i brofi cymaint o sectorau ag sy’n bosib boed hynny o fewn amaeth, y cyfryngau, gwleidyddiaeth neu hyd yn oed yn y byd chwaraeon.

Fel dyletswydd arall, dylem annog ein pobl ifanc i fagu rhagor o sgiliau a fyddai’n eu galluogi i ddod yn weithwyr medrus. Byddai hyn yn y pendraw yn cynyddu eu siawns o gael cyflog uchel a fyddai yn eu caniatau i brynu tŷ. Law yn llaw ag annog datblygiad o sgiliau dylem edrych ar y sgiliau mwyaf defnyddiol o fewn y byd gwaith heddiw megis yn y maes technoleg a chyfrifiadureg. Mae swyddi o fewn y meysydd hyn yn cynnig cyflogau uchel iawn ond hefyd yn cynnig y posibilrwydd o allu gweithio o adref. Felly’n uno’r freuddwyd o brynu tŷ tra’n aros yn ein cymunedau Cymreig.

Wrth edrych ar sut i arbed cymunedau heddiw, mae’n rhaid i ni fod yn arloesol a sicrhau bod ein pobl ifanc ni y cael y mynediad gorau i wybodaeth ac wrth gwrs, i gyfleoedd. O edrych ar fod yn arloesol, mae’n raid i ni ystyried y sectorau mwyaf cynyddol o fewn y byd gwaith a sicrhau bod gan ein pobl ifanc ni fynediad i’r fath sector. Ond yn fwy na dim, amser a buddsoddiad sydd ei angen ar ein pobl ifanc. Er mwyn iddynt gyraedd eu llawn cyrhaeddiad, maent angen arweiniad. Felly, meddyliwch sut fath o gymuned yr hoffech ei weld yn y dyfodol oherwydd pobl ifanc heddiw fydd yn adeiladu cymuned y dyfodol. Yr ifanc yw’r dyfodol ac os na fyddwn ni yn buddsoddi ynddynt, sut olwg y bydd ar gymunedau yfory a beth ddaw o’r Gymraeg?
------------------------------

Un o gyfres o erthyglau gwadd ar thema 'GWAITH', a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2019.

22.9.19

Cyfres 'Gwaith' 2019

Dechrau da yw hanner y gwaith
Cyfnod o ddod yn ôl at waith ydi mis Medi i nifer:  rhifyn newydd o Llafar Bro ar ôl yr hoe arferol ym mis Awst; yr ysgolion yn agor am dymor newydd; y gwleidyddion yn ôl yn y Senedd ac yn San Steffan (ddweda’i ddim mwy am hynny!); a llawer yn dychwelyd i’w swyddi ar ôl ychydig o wyliau.

Y wawr o inclên y Greigddu, gan Helen McAteer, un o ffotograffwyr nodwedd rhifyn Medi 2019
Wnes i ddim mwynhau dychwelyd i ‘ngwaith 9 tan 5 fel gwas cyflog, ond dwi wedi cael modd i fyw ar y llaw arall, wrth olygu rhifyn Medi. Os ydi rhywun angen cymwynas, y peth callaf i’w wneud yn aml iawn ydi gofyn i berson prysur! Unwaith eto eleni, dwi’n falch o gyflwyno rhifyn Medi sy’n llawn dop o erthyglau difyr, gan gynnwys saith gan awduron gwadd -caredigion prysur i gyd, o feysydd gwahanol iawn -o fyd y celfyddydau i fentrau cymunedol, a’r byd academaidd- sydd wedi cytuno i gyfansoddi ysgrif i’w papur bro.

Fel bob mis Medi, mae thema arbennig yn rhedeg trwy llawer o’r erthyglau yn y rhifyn hwn; thema sy’n adlewyrchu rhyw elfen sy’n ddylanwadol ar fywyd yng nghylch Llafar Bro. Cafwyd DŴR fel thema y llynedd, a MYNYDD cyn hynny.

GWAITH sydd dan sylw y tro hwn.

Mae gwaith a mentergarwch yn holl bwysig i gynnal cymuned fyw, lle gall bobl ifanc aros yn eu milltir sgwâr os ydynt yn dymuno gwneud hynny; lle gall gyplau ifanc fforddio i brynu tŷ; a lle medr pobl gyfrannu rhywbeth yn ôl i’r gymuned sydd wedi eu ffurfio nhw, boed hynny trwy waith gwirfoddol, gweithredu ar bwyllgor, neu gynrychioli’r ardal mewn chwaraeon, celf, neu lenyddiaeth.
Mae gwaith a chyflogaeth yn allweddol at les unrhyw gymuned ac at gynnal balchder bro.

Yn rhifyn Medi, mae Dewi Lake yn ystyried y sgiliau mae pobl ifanc eu hangen wrth baratoi at fyd gwaith, a Llio Davies yn edrych ymlaen at yrfa yn y byd celf. Allfudo –pobl ifanc yn gadael eu milltir sgwâr- ydi pwnc Lowri Cunnington Wynne ac Elin Roberts. Mae Elin Hywel a’r Dref Werdd yn adrodd ar waith gwerthfawr y mentrau cymdeithasol a’r hyn y gall gymunedau wneud drostyn nhw eu hunain, ac mae dau a fagwyd yn Stiniog, sydd bellach yn gwneud eu marc yn y byd actio a dylunio cartŵns, sef Gwyn Vaughan Jones a Mal Humphreys, yn ystyried dylanwad eu magwraeth yma ar eu gwaith.
------------------------------

Addasiad o golofn olygyddol rhifyn Medi 2019.
Brysiwch allan i 'nôl eich copi!