23.12.25

Newid y Tirlun yn Nhrawsfynydd

Ers canol y 1960au mae’r ddau adeilad mawr sy’n perthyn i Atomfa Trawsfynydd wedi dod yn rhan o’n tirwedd ond bellach mae sôn am ostwng uchder y ddau adeilad yma fel rhan o ail lunio tirwedd yr ardal. 

Cynlluniwyd yr adeiladau gan y pensaer o’r Alban; Syr Basil Urwin Spence (1907 – 1976), a oedd yn fwy enwog am ei waith yn ail-lunio safle Eglwys Gadeiriol Coventry a chodi eglwys newydd sbon yno yn dilyn difrodi yr eglwys wreiddiol adeg y Rhyfel. Mae hefyd yn gyfrifol am nifer o adeiladau eraill yn yr arddull Modernaidd/Brutalist. 

Gwnaed gwaith tirlunio ar safle yn ogystal â bu cryn ystyriaeth cyn codi'r adeiladau anferth. Maent yn esiampl o bensaernïaeth Brutalist oedd yn gyffredin yn y 1960au. Mae nifer ohonom yn cofio gweld y craen anferth a elwid yn Goliath oedd dros y safle am sawl blwyddyn wrth i’r adeiladau gael eu codi ac roedd golygfa wych o hwn o ben Cwm Bowydd. Yn sydyn yn 1967, diflannodd, a mynd i godi adeiladau ar safleoedd eraill! Roedd yr adeiladau yn ddatganiad beiddgar o ddylunio diwydiannol canol yr 20fed ganrif. Dechreuodd y gwaith o godi’r adeiladau ym mis Gorffennaf 1959, ac roedd y ddau adweithydd ar waith erbyn Mawrth 1965, gyda'r orsaf yn agor yn llawn ym mis Hydref 1968, ar gost o £103 miliwn. 

Bellach mi fydd y gwaith o ostwng uchder adweithyddion niwclear Trawsfynydd yn dechrau yn 2026 fel rhan o gynllun gwerth £70m. Mi fydd y tyrrau concrit adnabyddus yn cael eu haneru o ran uchder fel rhan o gynllun dadgomisynu’r safle. Dyma oedd yr unig safle niwclear mewndirol ar y pryd gan ddefnyddio dŵr o Lyn Trawsfynydd er mwyn oeri’r adweithyddion. Ond wedi 25 mlynedd o gynhyrchu ynni dechreuodd y gwaith o ddadgomisynu y safle yn 1991 gyda disgwyl i hynny gymryd degawdau. 

Nod pennaf gostwng yr uchder yw gwella’r olygfa ac effaith yr adweithyddion ar y tirlun.

Mi fydd y to, wal a’r paneli concrit yn dod lawr oddeutu 25m”, meddai Nigel Wright, Uwch Reolwr Prosiect NRS (Nuclear Restoration Services). “Da ni’n gobeithio fydd na o gwmpas cant o weithwyr ychwanegol ar y safle dros y bedair blynedd nesa fydd yn cymryd y nifer i 350 fydd yn gweithio yma," meddai Tom Williams, Cyfarwyddwr Safle Trawsfynydd. 

Er i’r safle gael ei grybwyll fel man posib i gartrefu adweithyddion niwclear bychain (SMRs) ar ddechrau’r degawd does dim disgwyl i hynny ddigwydd bellach gyda Llywodraeth Prydain yn canolbwyntio ymdrechion ar safleoedd Wylfa ar Ynys Môn ac Oldbury yn Lloegr. Mae awgrym hefyd y gallai’r safle gael ei ddefnyddio i greu isotopau ond does dim cadarnhad o’r cynlluniau hynny. 

Yn ôl y Cynghorydd lleol, Elfed Roberts mi fydd y gwaith newydd yn newid mawr i’r ardal: “Mae 'na rai -ac wrach bod nhw’n iawn- yn dweud dyle nhw gadw nhw. Ond yn gyffredinol y teimlad yn lleol ydi bod angen dod â nhw lawr ac altro’r tirlun. Mae nhw am gael dros gant o weithwyr lleol, defnyddio cyflenwyr lleol... felly mae o am fod yn hwb fach i’r ardal yn sicr," meddai. 

Mae disgwyl i’r gwaith ddechrau yn haf 2026 gan barhau am gyfnod o bedair blynedd.

Yn y lluniau ceir yr adeiladau presennol ac argraff o’r adeiladau fydd yno yn y dyfodol a’r uchder wedi ei ostwng hyd at lefel y drysau melyn. Lluniau gan yr NRS

- - - - - - 

Addasiad o erthygl a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 2025

 


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon