30.4.16

Pobl y Cwm -gweithgaredd y capel

Dyddiau fu yng Nghwm Cynfal.  
Pennod arall o gyfres atgofion y diweddar Ellen Williams.


Yn nechrau y ganrif hon, byddai y Gymanfa yn cael ei chynnal yn Moriah Trawsfynydd ac yn Peniel Ffestiniog bob yn ail flwyddyn. Byddai plant y Babell wrth eu bodd pan fyddai'r Gymanfa yn cael ei chynnal yn y Traws, disgwyl mawr am y diwrnod i gael mynd am dro oddicartre.

Cerdded i stesion Maentwrog at y trên un o'r gloch, cael te parti ar ôl y cyfarfod y pnawn, a dyna treat i ni'r plant yr adeg hono. Te a bara brith a cacenau crîm, brechdanau tenau a menyn tew arnynt, jam a chaws, pethau na fyddent i'w cael yn aml cartre y pryd hyny.

Canu a gwobrwyo oedd prif nod y Gymanfa hon. Byddai gwobrwyo am yr arholiadau ysgrifenedig, yr arholiad cudd, a'r arholiad sirol. Byddai cael gwobr am arholiad y sir yn anrhydedd mawr iawn, ac yn glod i'r Ysgol Sul y byddai yr enillwyr yn aelodau ohoni. Gworwyo hefyd y plant lleiaf am ddysgu y llyfr Rhodd Mam drwyddo, 'Cam cynta plentyn', a dau lyfr arall, sef yr Holwyddoreg a'r Hyfforddwr.

Roedd y Babell yn enwog am ei phlant y pryd hynny. Byddai ryw bymtheg i ugain yn ymgeisio ar wahanol wersi, ac yn ennill llu o wobrau, a rhai o honynt gyda anrhydedd, er clod a diolch i athrawon y Babell. Wedi treulio diwrnod o adloniad da yn y Gymanfa, a'r plant wedi mwynhau eu hunain yn hapus ac yn llawen, ac wedi cael cyfle i wario ychydig o'u ceiniogau, pawb yn troi am adre wedi cael eu bodloni a mwynhau eu hunain.

Byddai cyfarfod darllen gennym yn y gauaf, ar nos Fawrth bob wythnos yn y Festri. Rhyw ddeuddeg i ugain o oedolion fyddai yn ei fynychu yn ffyddlon a selog. Byddem yn cael nosweithiau difyr ac adeiladol yn trafod y Maes Llafur, a phawb ar ei orau yn dweyd eu barn ac yn gofyn cwestiynau, a byddai dadl brwd ar ambell gwestiwn. Byddai awr yn pasio wrth dân bach siriol y Festri.

Engedi, Llan
I ddiweddu y tymor, roedd rhaid cael swper, a thê parti i'r plant prydnawn dranoeth. Y chwiorydd yn gofalu am y trefniadau. Byddai pob un yn dod a'i baich yn wên i gyd. Roedd gwledd o bob danteithion wedi eu paratoi ganddynt at y noson hon. Roeddynt yn gofalu fod pob peth angenrheidiol mewn llestri a bwyd wrth law yn hwylus, bob un o honynt wrth eu bodd heb gyfri'r gost na'r drafferth, llafur cariad yn unig oedd yn bwysig ganddynt. Gwaith y brodyr oedd gofalu gosod y byrddau noson gynt yn barod. Roedd ganddynt blanciau pwrpasol iw gosod ar draws y seti yn y capel i'w gwneyd yn fyrddau taclus a hwylus i fwyta arnynt.  Gweinidog Engedi fel rheol oedd y gŵr gwadd. Byddai pawb yn mwynhau y wledd, a buan iawn y byddai pobpeth wedi mynd o'r golwg, wedi darfod y gwledda, a chael yr anerchiadau a'r diolch, clirio a rhoi bobpeth yn ôl yn ei le, ar ôl hynny i ddarfod y noson cael dipyn bach o hwyl a miri cyn troi am adre wedi noson lawen a difyr.

Byddai Cyfarfod Ysgol Sul y Cylch yn dod i'r Babell unwaith yn y flwyddyn, a byddai paratoi a llafurio gwych at hwnnw, gan fod cyfeillion o eglwysi eraill yn dod yno, rhai o Engedi, Peniel, Gellilydan a Maentwrog Isa i gydgyfarfod i drafod pynciau yr Ysgolion Sul, ac i holi cwestiynau ar y Maes Llafur. Holi plant yn y bore, ar bobl ifanc a'r oedolion yn y pnawn. Byddai gan y plant ac hefyd rhai hŷn atebion ffraeth a gwreiddiol, ôl llafur, chwilio, a chofio ganddynt. Byddai paratoi helaeth yn y cartrefi ar gyfer y Sul hwnw, gofalu am ginio a the i'r dieithriaid, a mawr fyddai cynhesrwydd a chroeso bobl Cwm Cynfal iddynt, a digon o le i fynd am bryd o fwyd da.

Mae un amgylchiad arall wedi dod i'm cof, a rhaid ei nodi yn y fan hyn. Cymerodd aelod selog o'r Babell yn ei ben i roi c'lennig i blant y Babell, a mawr fyddai y disgwyl gan y plant am y noson honno. Rwyf yn gweld yn fy meddwl ddarlun byw o'r peth. Pawb a'i lygad ar ddrws y Festri, y plant yn disgwyl yn ddyfal am i'r drws agor, gweld dyn heb fod ryw dal iawn, gwyneb gwridgoch a'i wallt yn gwynu yn dod trwy y drws a basgeidiad fawr o afalau cochion ac orenau melyn. Wel dyna Hwre, Hwre, nes oedd y lle yn adseinio, a doedd dim o'i le yn hynny, ffordd y plant o ddangos eu diolch a'u gwrerthfawrogiad o'r anrhegion. Y gŵr caredig hwn oedd Evan Roberts, Cae Iago. Bu fo a'i briod Gwen yn hynod o deyrngar i'r Babell trwy y blynyddoedd mewn gwahanol ffyrdd, yn hael eu croeso a'u caredigrwydd.

Tua 1913, prynodd Robert Jones, Bronerw yr hen Babell pan oedd yn ymddeol o'r ffarm. Gwnawd y lle yn dŷ buddiol a chysurus iddynt i dreulio eu ymddeoiliad. Daeth par ifanc newydd briod i ffarmio i Bronerw, mab Cochgwan, Robert John, wedi ei ddwyn i fyny fel un o blant y Babell. Ond Anibynwyr selog oedd o ai briod, er hyn roedd Robert John yn dal yn ffyddlon yn y Babell, ac yn barod bob amser i wneyd unrhyw wasanaeth gyda'r canu, dyna oedd ei bleser fwya. Roedd o wrth ei fodd yn paratoi plant y Gobeithlu at y Cyfarfod Llenyddol. Byddai aelwyd Bronerw yn rhydd i'r plant fynd yno bob amser i gael eu gwersi gan Robert John. Byddai y tŷ yn llawn bob nos am amser cyn y cyfarfod, a hynny am rai bynyddoedd cyn iddo ddod yn arweinydd y Gân yn swyddogol yn y Babell.  Byddai bob pnawn Diolchgarwch yn canu Emyn ir gynulledfa, a byddai pawb yn edrych yn mlaen at hynny.

Yn y flwyddyn 1928 y dewiswyd R.J.Jones yn arweinydd y canu yn swyddogol. Derbyniodd yntau y swydd gydag anrhydedd, a bu yn ffyddlon a diwyd gyda bob achos i roi cymorth, ac i addysgu to ar ôl to o blant Cwm Cynfal i ganu. Tua'r un flwyddyn roedd Llyfr Emynau newydd yn dod allan or wasg gan y Methodistaid. Rhoddodd rhai o Gyfeillion y Babell dri llyfr Emynau yn rhodd at yr achos: un ar y Pulpud, un ar fwrdd y Sêt Fawr a'r llall ir Codwr Canu. Cyn bo hir iawn dewiswyd Gruffydd Davies yn is-Godwr Canu. Bu hynny yn help mawr i Caniadaeth y Cysegr.

Yn 1930 daeth adroddiad cynta cyfrifon yr eglwys yn Llyfr, i'r aelodau i gyd gael cyfle i weld drosynt eu hunain pa fodd oedd y gwaith yn cael ei wneyd, a pha fodd yr oedd yr arian yn mynd at wahanol bethau. Y dull cyn hynny fyddai rhoi adroddiad ar goedd i'r aelodau ar nos Seiat. Cofiaf y fynud yma am y llyfr mawr du trwm yn cael ei agor gan y pen blaenor ac yn rhoi hanes cyfrifon yr eglwys am y flwyddyn ar goedd mewn ryw awr o amser i hanner yr aelodau neu lai yn aml a fyddai yn bresenol y noson hono, i'w cadw mewn cof am flwyddyn arall.

T.R.Jones, yr ysgolfeistr fyddai'n dod i'r Babell i roi hanes y cyfrifon. Bydda fo bob amser yn chwilio yn yr ysgol am y ddau hogyn mwya cryf yn y Cwm i roi y llyfr mawr du iddynt ei gario o'r Llan i'r Babell at y noson honno yn ei le fo. Byddai y bechgyn yn cael eu rhybuddio a'u bwgwth ganddo os na fyddant ofalus hefo'r llyfr du!

----------------------------------
Ysgrifenwyd yr atgofion yn wreiddiol ym 1978; a bu'r gyfres yn rhedeg yn llafar Bro yn ystod 1999 a 2000. 
Gallwch ddilyn y gyfres gyfa' trwy glicio ar y ddolen 'Pobl y Cwm' isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon