2.4.16

Pobl 'Stiniog ym Mhatagonia

Pennod 5 yng nghyfres Steffan ab Owain.
Ymddangosodd yn wreiddiol yng ngholofn Stolpia, yn rhifyn Ebrill 1995


O’r cyfnod cynharaf yn hanes y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia, cymerodd nifer dda o’r ymsefydlwyr a hanai o’r ardal hon a’r rhai cyfagos ran amlwg ym myd addysg y wladfa. Dyna chi John Carrog Jones, er enghraifft, a hanai o Ddolgarrog. Bu ef yn athro diwyd iawn yn ysgol Drofa Dulog. Gwnaeth John Evan Jones, brodor o Ddolwyddelan yn wreiddiol, ei farc fel athro yn ysgolion y Frondeg a Threorci yn Nyffryn y Camwy.


Dau arall oedd y brodyr John ac Owen Williams o Gapel Garmon. Bu’r cyntaf yn athro yn ysgol Bryn Gwyn ac Owen ei frawd yn Ysgol y Gaiman. Dywedid am Owen ei fod yn un o ddisgyblion yr athro Griffiths o Glan y Pwll, Ffestiniog. Rwan, pwy all ddweud wrthym pwy oedd y ‘Griffiths’ yma? A fu’n athro yn y Blaenau o gwbl?

Un o’r athrawon amlycaf i adael ‘Stiniog am y Wladfa oedd E.T. Edwards. Bu yntau hefyd yn fawr ei ddylanwad yno ac yn un o’r arweinwyr ym myd addysg y Wladfa. Bu R. Bryn Williams yn ddisgybl yn ei ysgol am ysbaid, ac er mai tymor byr oedd hynny, dywed ei bod wedi ‘deffro ei feddwl a gwneuthur dysgu yn bleser’.

Dywed hefyd pan agorwyd coleg cenedlaethol yn Nhrelew yn ddiweddarach, lleihaodd nifer y plant a fynychai Ysgol E.T. Edwards .... ac aeth casglu arian yn wirfoddol yn ormod o dreth ar y Cymry. A serch nad oedd modd iddi barhau yn yr hen ddull pwysleisiodd Edmunds mewn cyfarfod ym mis Chwefror 1947 ‘mai gwell oedd ganddo ei gweld yn ymdoddi a pharhau i wasanaethu y cylch cenedlaethol nac yn trengi a marw’.

Awgrymai ennyn diddordeb y wladwriaeth ac efallai ei throi yn Ysgol Amaethyddol ac ar yr un pryd. gofyn i’r llywodaeth fel parch i arloeswyr y Wladfa, ac i wasanaeth a delfryd yr ysgol yn y gorffennol, ganiatau cwrs o addysg Gymraeg i unrhyw un a ddymunai ei gymryd. Pasiwyd i anfon deiseb i’r rhaglaw ond ni ddaeth dim o’r cynllun a bu’n rhaid cau yr ysgol maes o law .... Credaf o ddarllen hyn ei fod yn un enghraifft o sut yr aeth sefydliadau hollol Gymreig o ddwylo Cymry’r Wladfa ac i grafangau’r Sbaenwyr Archentaidd!

*****

Ymhlith y rhai eraill a ymfudodd o ‘Stiniog i’r Wladfa cawn deulu Macdonald a breswyliai gynt yn ‘Tunnel Cottage’, gerllaw Twnnel Bach Tanygrisiau. Dywedir mai efo mintai 1875 yr unfudodd y teulu hwn drosodd yno .... ac os nad wyf yn cyfeiliorni .... disgynnydd iddynt yw Mr Elvie Macdonald sy’n amlwg gyda Mudiad yr Urdd yng Nghymru.

Credaf mai oddeutu 1901 yr ymfudodd Evan Pugh i’r Wladfa. Gweithiai ef i’r Rhedegydd, a bu’n rhedeg ei swyddfa yn Llanrwst am gyfnod. Beth a ddaeth ohono ar ôl iddo ymsefydlu ym Mhatagonia, ni allaf ddweud. Tybed a fedrwch chi? A fu ganddo unrhyw beth i’w wneud a’r Drafod, sef newyddiadur Cymraeg y Wladfa?

Mae son fod un Evan Jenkins wedi mudo yno yn yr 1870’au, ar ôl i’w chwarel ym Moel Llechwedd Gwyn ar y Migneint fynd yn ffliwt. Ni wyddwn beth a ddaeth ohono yntau chwaith ar ôl iddo gyrraedd y wlad bellennig honno yn yr Ariannin.

-----------------------------------------

Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon