Cynhaliwyd y cyfarfod yn neuadd y W.I. gydag wyth ar hugain o’r aelodau yn bresennol. Rhoddodd yr Ysgrifennydd amlinelliad o benderfyniadau’r Pwyllgor Gwaith am y flwyddyn a aeth heibio, gan nodi’r ffaith bod tiroedd y Gymdeithas o gwmpas llynnoedd Cwmorthin a’r Gamallt wedi cael eu cofrestru efo’r Gofrestrfa Dir erbyn hyn.
Caed clywed hefyd bod Cyfansoddiad y Gymdeithas wedi cael ei ddiweddaru a’i fod ar gael yn ddwyieithog. Talodd deyrnged arbennig i ymroddiad y Cadeirydd a’i barodrwydd ef ac eraill o aelodau’r Pwyllgor i weithio’n ddiflino ar ran y Gymdeithas.
Llyn Cwmorthin. Llun-Paul W |
Cyflwynodd y Trysorydd ei fantolen am y flwyddyn a chaed gweld bod y sefyllfa ariannol yn parhau yn eithaf iach a bod yr aelodaeth ac elw’r flwyddyn yn dangos cynnydd, a hynny er gwaethaf tymor eithaf diflas o ran y tywydd.
Yn unol ag argymhellion y Pwyllgor Gwaith, ail-etholwyd y swyddogion fel a ganlyn –
Cadeirydd- David Williams
Is-gadeirydd-Bleddyn Williams
Trysorydd-Cecil Daniels
Ysgrifennydd-Geraint V. Jones
Is-ysgrifennydd- Geraint W Williams
Swyddog Marchnata-Mark Evans
Swyddog y Wasg-Meirion Ellis.
Pleidleisiwyd yn unfrydol hefyd dros gadw’r ffioedd aelodaeth yn ddigyfnewid am flwyddyn arall, sef
Aelodaeth leol: Oedolion £35: Consesiwn £25: Ieuenctid £13
Ymwelwyr (oedolion): Tymor £60: Wythnos £34: Dydd £12
Ymwelwyr (ieuenctid): Tymor £30: Wythnos £18: Dydd £7
Yna, yn dilyn pleidlais gudd, etholwyd y canlynol yn aelodau o’r Pwyllgor Gwaith am y flwyddyn i ddod - Mel Goch ap Meirion; Glyn Daniels, Wyn Davies; J. Elwyn Ellis; William Ellis; Aldrin Evans; Meical Evans; Alwyn Ll. Hughes; Steven Hughes; Adrian Jones; Alfyn Jones; Alwyn Jones; Elgan Jones; Meurig Roberts; Eurwel Thomas; Darren Williams; Edgar Williams; Vincent Williams.
Diolchodd y Cadeirydd i Enid Edwards a James Friedhof o Gymdeithas Glaslyn am arolygu’r bleidlais a chyhoeddi’r canlyniad.
“Chwefror, Mawrth ac Ebrill
I ddal y brithyll brych.”
O gyfres reolaidd y diweddar Emrys Evans.
Tarewais ar yr hen ymadrodd yma wrth chwilio am rywbeth arall. Fe fu tymor y brithyll yn dechrau ar un adeg ym mis Chwefror, ond newidiwyd i fis Mawrth ers llawer blwyddyn bellach.
Yn ôl y cof sydd gin i, beth fyddai’n digwydd yn nechrau un y tymor, ym mis Mawrth, yn hytrach na mynd i fyny i’r llynnoedd, oedd mynd i lawr i’r afonydd, fel, er enghraifft, y Goedol, rhan isa’r Teigl, a’r Cynfal, i chwilio am sgodyn, gan bysgota’r gwahanol byllau ynddynt hefo pryf genwair.
Mewn casgliad o farddoniaeth, ‘Cerddi Edern’, mae J. Glyn Davies yn darlunio ac yn disgrifio ei hun gyda chyfaill yn pysgota afon, a’r wefr pan mae pysgodyn yn cymryd yr abwyd:
‘Lliw’r lli’n awgrymu pnawn o hwyl,
A’r dŵr mewn cynwair,
Yn gyfiawnhad am gael gŵyl,
A nôl yr enwair.
Ac ar ddŵr crych yn troi i’r llyn,
Rhoi’r pry wrth amcan,
A gweld y lein yn sythu’n dyn
O dan y dorlan.
A blaen yr enwair gyda hyn
Yn gwingo’n sydyn
Un wib, a brithyll brych a gwyn
Ar welltglas wedyn.
****
Wrth lunio ysgrif fach ar bysgota ychydig yn ôl, ac angen rhoi patrwm pluen yn rhan ohoni, cododd cwestiwn i fy meddwl.
Heislen yw’r enw ar y bluen oddi ar war ceiliog neu iar (beth bynnag fo’i lliw) a ddefnyddir i roi traed i bluen bysgota. Ond beth yw’r enw ar y rhan o’r heislen sydd yn gwneud traed y bluen, ac a ddefnyddir i wneud cynffon i bluen ar dro?
Yn Saesneg defnyddir y gair ‘flue’ amdanynt. Ond, beth tybed, yw’r gair Cymraeg amdanynt? Does gin i ddim cof o gwbl imi glywed yr hen sgotwrs oedd yn cawio, ac y cefais i’r fraint o’u hadnabod, yn rhoi enw ar y rhan yma o heislen. Tybed a oes rhywun sy’n digwydd darllen y golofn yma yn gwybod a oes yna air amdanynt, a beth ydyw? Buaswn yn falch iawn o’i gael.
Holwyd fi yn ddiweddar pryd y gwnaed Llyn Newydd Dubach?
Mae Hen Lyn Dubach yn llyn naturiol, ond iddo gael ei ehangu rywfaint yn yr 1860-1870au pan waned Ponc Dŵr Oer, cododd Chwarel y Graig Ddu. Mae yr argae a godwyd yr adeg hynny i’w gweld rhwng y ddau lyn.
Yna, er mwyn ceisio sicrhau mwy o ddŵr i weithio Ponc Dŵr Oer, cododd Chwarel y Graig Ddu argae arall yn is i lawr na’r hen argae, a ffurfio Llyn Newydd Dubach. Yn 1915 y bu hyn, yn ôl y lechen a roddwyd ar wyneb yr argae.
Rhai o’r pryfaid a ddaw i’r golwg gynharaf ar ein llynnoedd ni yw rhai duon bychain, ac mae eu hadain yn amrywio o fod bron yn ddu, a thrwy raddau o lwyd hyd fod yn olau iawn eu lliw. O’r dŵr y mae rhan fwyaf o’r rhain yn deor, ac yn ddiweddar gwelais mewn cylchgrawn ar blu pysgota, batrwm pluen i geisio eu dynwared pan maent yng nghroen y dŵr yn troi yn bryf adeiniog.
Mae’r patrwm yma wedi apelio ataf, ac rwyf am roi cynnig arno pan af at ryw lyn neu’i gilydd yn y dyfodol agos, a hynny’n fuan, gobeithio. Dyma’r patrwm, rhag ofn y bydd rhywun arall awydd a rhoi cynnig ar ei gawio a’i roi ar ei flaen-llinyn:
Bach Maint 14
Corff Blewyn du – gwlan neu flewyn morlo. Rhoi cylchau amdano hefo ‘Lureflash’ glas. Wrth wneud y corff bod yn gynnil hefo’r blewyn du fel nad yw’r corff yn dew. Hefyd, mynd a’r corff yn ôl am ran dda o dro y bach. Yna, ym mhen y corff, fel ei fod ym môn y traed, rhoi twns bychan o flewyn lliw oren.
Traed Iar ddu, a rhoi ond dau neu dri thro ohonynt. Yna, wrth lygad y bach, yn gorwedd ar ran ucha’r traed, rhoi dwy bluen wen fechan oddi ar war ceiliog y gwyllt.
Awgrymir ei physgota yn agosaf-at-law neu yn bluen ganol. Os bydd i rywun roi cynnig arni mi fyddai hi’n ddiddorol iawn cael gwybod y canlyniad. Anfonwch air.
Hwyl ar y pysgota fel y bydd y tymor yn mynd rhagddo.
--------------------------------------------------
Ymddangosodd adroddiad y Cyfarfod Blynyddol yn rhifyn Chwefror 2016, ac erthygl Sgotwrs Stiniog yn rhifyn Ebrill 2000.
Gallwch ddilyn y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y cwmwl geiriau ar y dde.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon