Mae’n rhyfeddol ‘tydi sut mae swn coedwig yn medru newid o fewn ychydig wythnosau. Heb imi fynd yn rhy ddiflas a chanu tiwn gron bob blwyddyn tua’r adeg yma, mi ddywedai o ar ddechrau’r tipyn colofn ‘ma: ydi, mae’r gwanwyn ar gyrraedd ac mae’r ddaear yn brysur ddeffro. Dyna fo, mi ‘dwi’n ddyn hapusach rwan i mi gael dweud fy nweud!
Tua diwedd Ionawr mi oeddwn i yn rhyfeddu pa mor ddistaw oedd coedwig Rallt Glan Wiliam ym Maentwrog ‘ma. Am yn hir iawn doedd dim smic i’w glywed o’r canghennau, na robin na dryw yn trydar ar lawr.
Ymhellach draw yn y tyfiant, cyffro o’r diwedd; cyffylog yn neidio i’r awyr mewn braw ac ar yr un pryd yn rhoi braw i mi wrth iddo hedfan i’r pellter yn igam-ogamu rhwng y bonion. Mae ei liw yn golygu mai golygfeydd byr a chyflym fel hyn a geir gan amla’, gan ei fod yn anodd ei weld ymysg y dail crîn, ac mae’n aros yn llonydd hollol nes yr eiliad olaf, (yn arbennig mewn cyfnod oer fel a gafwyd eleni, er mwyn arbed egni).
Bum munud wedyn, wrth eistedd am eiliad ddiog, daeth swn o’r tu ôl i mi, tu hwnt i wal gerrig bylchog. Swniai yn debyg i fyddin fechan yn gorymdeithio trwy’r dail sych, ond doedd dim golwg o enaid byw na dafad yn unman, felly dyma fentro taro ‘mhen dros y wal am fysnês. Haid o adar oedd yno, yn synhwyro am bryfetach dan y dail â’u pigau, ac yn eu troi fesul un gan wneud cryn dwrw ar y cyd. Coch dan adain oedd y rhain -tua deugain ohonynt gydag ambell geiliog mwyalchen yn gwledda ochr yn ochr â nhw.
Llun coch dan adain, gan Andreas Trepte CC BY-SA 2.5. Defnyddir dan drwydded Comin Wicimedia. |
Tua’r un maint a’r fronfraith yw’r coch dan adain, gyda cheseiliau coch yn rhoi iddynt eu henw, ag aeliau gwyn yn eu gwahaniaethu; ymwelwyr ydynt i Gymru dros y gaeaf, ac mae nhw eisioes yn llai niferus wrth iddynt ddychwelyd i’r cyfandir i fagu.
Erbyn Dydd Gwyl Dewi, ‘roedd coedwigoedd y fro fel byd gwahanol. Mae ceiliogod sawl rhywogaeth bellach yn hawlio eu clwt o dir yn swnllyd, er byddai yn decach disgrifio rhai fel peraidd, yn arbennig y fronfraith gyda’i amrywiaeth wych o nodau.
Mae’r titw mawr yn hawdd i’w adnabod pan yn ailadrodd ei enw: ‘ti-tw ti-tw ti-tw’ ond gall hefyd ddrysu gyda sawl cân a galwad gwahanol. Ni fydd yn hir nes fydd mwy o gantorion yn cyrraedd o’r Affrig i hawlio eu lle yn ein milltir sgwar ni, ac mae’r cyfnod yma yn un cyffrous ym myd natur, felly allan a ni i’w fwynhau!
cyffylog - woodcock-------------------------------------------------------
coch dan adain - redwing
bronfraith - song thrush
titw mawr - great tit
Addaswyd o erthygl gan Paul Williams, a ymddangosodd yn rhifyn Mawrth 1997.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon