28.4.16

Llyfr Taith Nem -gwybod popeth am eliffantod!

Pennod arall o atgofion dechrau’r ganrif ddwytha' gan Nem Roberts, Rhydysarn.



Heb waith, heb fwyd
Profiad digalon iawn i unrhyw ddyn ydyw bod ymysg y diwaith.  Mae yn brofiad blin i ddyn pan y digwydd hyn yn ei wlad ei hun, ond fil gwaeth ydyw bod yn ddiwaith mewn gwlad estron.  Hwyrach nad ydyw’r peth cyn waethed heddiw ag yr oedd flynyddoedd yn ôl, gan fod cynorthwyo sylweddol i’w gael, ond nid fel yna oedd pethau yn nechrau’r ganrif.  Gwir oedd y gair ‘Heb waith, heb fwyd’ yr adeg honno.  Y syndod ydyw fod cyn lleied o ladrata wedi cymeryd lle oherwydd rhaid i ddyn wrth fwyd ac ymborth, a phan aiff pethau yn eithafol, os na chaiff dyn y pethau hynny drwy deg, fe’i caiff drwy dwyll.

Cofiaf yn eitha da y flwyddyn 1908, pan oeddwn yn ddiwaith yn Utica, ac yn teimlo’n bur ddigalon, ac yn fodlon cymeryd unrhyw waith am unrhyw gyflog.  Yr oeddwn wedi ceisio gwneud popeth i gael bachiad, ond nid oedd hyd yn oed fy ‘bluff’ yn ddigon.

Safai tri ohonom ar gornel y stryd, a daeth gŵr atom a gofynodd oedd un ohonom yn gwybod rhywbeth am geffylau.  Atebais ar amrantiad fy mod wedi fy ngeni a’m magu ar fferm: celwydd golau, ond yr oeddwn am fentro rhywbeth.  Os eliffant fuasai gan y brawd dan sylw, buaswn wedi ateb fy mod yn gwybod pob peth am hwnnw hefyd!  Cerddais gydag ef, a dywedodd mai’r gwaith oedd cymeryd gofal o ddau geffyl a cherbyd mewn angladd.  Byddai pedwar o alarwyr yn y cerbyd, a dywedodd fy mod i ddilyn yr hers, ond nid oedd angen pryderu o gwbl gan fod y ceffylau yn gwybod yn iawn beth a sut i wneud.  Gwisgais mewn het ddu uchel, a chôt ddu a botymau melyn.  Yn wir meddyliais fy mod yn debycach i yrrwr mewn syrcas na mewn cynhebrwng.

Wrth ddilyn yr hers, gwelais fod yr orymdaith yn nesau at yr heol yr oeddwn yn byw ynddi, a theimlwn yn bur anifyr yn y wisg ryfedd oedd amdanaf.  Wedi myned ychydig ymhellach, gwelais gyfaill i mi yn sefyll ar ochor yr heol, a gwaeddais ei enw – George.  Edrychodd i bob man gan fethu deall o ble daeth y llais, ac o’r diwedd gwelodd fi yn eistedd yn urddasol yn y wisg bondigrybwyll, mor ddifrifol ac un o'r seintiau cyntaf, fel pe buaswn heb wenu erioed.  Yr oedd yn ei ddyblau yn chwerthin.

Wedi’r angladd gorchymynwyd fi i ddanfon y galarwyr gartref.  Nid oedd gennyf syniad sut i ddod o hyd i’w cartref, ond dywedodd y gŵr fod y ceffylau yn gwybod y ffordd eu hunain, nad oedd ddim ond gafael yn y tresi.  Cymerais ef ar ei air a mwynheais fy hunan yn edrych o gwmpas y dre, a’r hen geffylau yn trotio ymlaen.  Dal i fynd oedd y ceffylau, ac yr oeddwn wedi clywed rhyw fath o gynwrf y tu fewn i’r cerbyd unwaith neu ddwy, ond ni chymerais fawr o sylw.  Er fy syndod cyrhaeddasom yn ôl at stablau yr hen geffylau a neidiodd y pedwar allan mewn tymer ofnadwy.  Ymddengys eu bod wedi ceisio cael fy sylw filldiroedd yn ôl pan oeddwn ychydig o lathenni oddi wrth eu cartref, ond yr oedd eu cartref eu hunain yn bwysicach i’r ceffylau.  Pe tae’r ymadawedig wedi clywed yr iaith, buasai wedi troi yn ei fedd newydd.  Fodd bynnag, rhoddais y ceffylau yn y stabal, a chefais 50 cent am fy ymdrech.

Y dydd canlynol, bum ddigon ffodus i gael gwaith arall gyda gŵr oedd yn gwerthu glo. 

Gorchymynwyd fi i rawio dwy dunell o lo i gerbyd, ond yn gyntaf yr oedd yn rhaid ei rawio trwy’r gogr, er mwyn i’r glo mân syrthio allan.  Rhoddwyd y rhaw arswydus o fawr i mi – yr oedd yn fwy na thair rhaw gyffredin a pherodd gryn boen cefn imi.  Wedi cyrraedd y tŷ lle’r oedd y glo i fyned, ceisiais gael y ceffylau i ‘bacio’ yn ôl trwy’r llidiart.  Llidiart cul oedd hwn, a fu erioed y fath helynt.  Ni allwn ddylanwadu y ceffylau o gwbl, ac fel yr ai un i un cyfeiriad, ai’r llall i gyfeiriad arall.  Ceisiais eu hargyhoeddi mewn Cymraeg a Saesneg, ond nid oeddynt yn deall yr un o’r ddwy iaith, a’r canlyniad oedd malu y llidiart a’r pyst o’r naill du yn ufflon.  Dadlwythais y glo gynted gallwn a neidiais i’r cerbyd i ddychwelyd yn ddioed i’r iard lo.

Yr oedd llwyth arall yn barod i’w ddanfon, a’r tro hwn daeth perchennog yr iard gyda mi.  Gwelodd ar ei union mai tra anobeithiol oedd fy ymdrechion fel cariwr glo, a rhoddodd ddau swllt i mi i fynd oddi yno gynted a gallwn.

Bum i yn ddigon ffodus i gael gwaith yn ystod y dirwasgiad yr amser honno, ond fy nghyngor i unrhyw un ydyw dychwelyd gartref pan wel ddirwasgiad ar y gorwel.  Lle brwnt ydyw gwlad estron mewn cyfnod o ddirwasgiad.

Cofier hefyd nad newn amlen cyflog mae dod o hyd i gyfrinach hapusrwydd, ond mewn calon.
----------------------------------



Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 1999. Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
 

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon