Parhau'r gyfres yng ngofal Vivian Parry Williams.(Allan o gofnodion y diweddar Ernest Jones)
1966-67
Roedd Prestatyn yn ôl yn y gynghrair ym 1966-67, a dyma'r flwyddyn y dechreuwyd dod a chwaraewyr wrth gefn i mewn yn lle rhywun oedd wedi'i anafu. Penderfynodd y Blaenau ail-ddechrau cael chwaraewyr o gylch Lerpwl a chafwyd Keith Godby fel cysylltydd yno.
John Crowe oedd blaenwr Stiniog ac fe sgoriodd 29 o weithiau. Yr oedd y clwb yn dal i fethu'n lân a chael llwyddiant yng Nghwpan Cymru. Daethant yn gyfartal efo Bae Colwyn, ond yn yr ail chwarae colli wnaeth y Blaenau er iddynt sgorio tair gôl, a hynny ym Mae Colwyn.
Porthmadog, Dyffryn Nantlle a Chaergybi oedd eu concwerwyr yn y prif gwpannau eraill. Yng ngemau'r cynghrair chwaraeai Stiniog yn dda iawn yn eu gemau cartref ac yn gwbwl groes i hynny oddi cartref. Peter Salt a Gerry Pierce fu'r prif chwaraewyr yn y gôl.
Unwaith eto, roedd gan y Blaenau ddeugain o chwaraewyr ar eu llyfrau.
Yr oedd y gemau tua'r Nadolig yn erbyn Porthmadog yn dal i fynd yn anffafriol i Stiniog. Y ddau chwaraewr wrth gefn a ddefnyddid gan y Blaenau oedd Billy Williams (bachgen lleol yn cychwyn o ddifrif) a Ronnie Jones.
Pwyllgor tîm peldroed y Blaenau yn y 1960au. Llun o wefan Stiniog[dot]com |
1967-68
Yn 1967-68, eto, galwyd ar ddeugain o chwaraewyr i ryw raddau neu gilydd. Tommy Lane oedd y rheolwr yn Nhachwedd 1967. Mae'r rhestr chwaraewyr yn cynnwys nifer fawr o enwau hollol ddieithr megis Dillon, Briars, Henney, Bond, McQuire, Brocklehurst, Dumbill, Lunt, Kelly, Barraclough, Paton.
Roedd hefyd enwau oedd yn dod yn adnabyddus i'r cefnogwyr a oedd yn siwr o fod yn gweld rhywun neu rywrai dieithr bob Sadwrn; er enghraifft Terry Burgin, Joe Clarke, John Clarke, Chris Gallagher, Bobby Clarke, Barry Williams, D.J.Williams, Ellis Humphreys.
Gerry Pierce ac Alec Porter oedd y golgeidwaid. Gallagher oedd y prif sgoriwr.
Cyrhaeddwyd ffeinal yr Her Gwpan. Hwn oedd tymor cyntaf Coleg y Brifysgol, Bangor yn y gynghrair, ond collwyd Boro Utd o'r cwmni.
----------------------------------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2006.
Gallwch ddilyn y gyfres i gyd trwy glicio ar ddolen 'Hanes y bêldroed yn y Blaenau', isod neu yn y Cwmwl geiriau ar y dde.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon