Parhau â chyfres Vivian Parry Williams, yn nodi canrif ers y rhyfel byd cyntaf.
Ym mis Chwefror 1916, galwyd cyfarfod arbennig o'r Cyngor Dinesig yn y Blaenau i ddewis aelodau o'r Tribiwnlys newydd oedd i'w sefydlu, yn dilyn y Ddeddf Orfodaeth Filwrol a ddaeth i rym ychydig cynt. Roedd clerc y cyngor wedi derbyn cyfarwyddiadau gan y Bwrdd Llywodraeth Leol yn ymwneud â phenodi aelodau i'r Tribiwnlys hwnnw.
Yr aelodau a ddewiswyd oedd y Mri R.Walker Davies; J.Vaughan Williams; H.Jones; T.R.Jones; E.T.Pritchard; Robert Jones: David Jones; Robert J.Jones; John Cadwaladr; T.J.Williams a D.J.Roberts.
Mewn cyfarfod o'r Cyngor ychydig ddyddiau wedyn, trafodwyd y posibilrwydd o ethol aelodau o blith amaethwyr y cylch i'r Tribiwnlys. Mewn trafodaeth digon tanllyd, roedd rhai cynghorwyr yn teimlo nad oedd pob carfan o'r gymdeithas yn cael cynrychiolaeth ar banel y Tribiwnlys lleol.
Adroddwyd yn Y Rhedegydd ar 4 Mawrth 1916, am gyfarfod cyntaf o'r Tribiwnlys newydd, ychydig ddyddiau wedi ei ffurfio, dan gadeiryddiaeth y fferyllydd lleol, Hugh Jones. Roedd 54 o achosion i'w trafod, a gorfu i aelodau'r panel wasanaethu am dros saith awr y diwrnod tyngedfennol hwnnw.
Roedd nifer o fasnachwyr ymysg y 54 oedd yn apelio i'r Tribiwnlys am ryddhad rhag ymrestru.
Caniatawyd rhyddhad hollol mewn dau neu dri achos, ac fe ganiatawyd rhyddhad am ddau a thri mis i ychydig eraill, a gwrthodwyd y gweddill yn llwyr.
Ymysg y rhai oedd yn apelio oedd un Mr Barnett, ar ran Pwyllgor Addysg Sir Feirionnydd, yn gofyn am ryddhad i un o athrawon Ysgol y Sir, Blaenau Ffestiniog, oherwydd prinder athrawon yn yr ysgol. Caniatawyd rhyddhad dros dro iddo, tan fis Mehefin. Cafodd dau o weithwyr cwmni trydan Yale ryddhad am dri mis ar yr un diwrnod hefyd.
Yn yr un rhifyn o'r Rhedegydd cyhoeddwyd eitem dan bennawd 'Deddf Gorfodaeth Mewn Grym', oedd yn rhoddi manylion am y Ddeddf, a ddaeth i rym ar yr ail o Fawrth. Roedd pob dyn sengl, rhwng 17 a 41 oed yn filwr drwy orfod, os nad oeddynt am gael esgusodiad dan yr amodau canlynol:
1: Os nad oedd wedi cael ei neilltuo gan y Llywodraeth oherwydd ei waith neu ei alwedigaeth; neu
2: Os nad oedd wedi apelio at Tribiwnal am gael ei esgusodi; neu
3: Os nad oedd wedi cael ei wrthod gan y Meddyg Milwrol ar ôl Awst 1af 1915.
Cynhwyswyd llawer o fanylion parthed apelio i Dribiwnlys am ryddhad rhag ymrestru ar waelod yr erthygl.
Mawrth 18, 1916, cyhoeddwyd llythyr gan Is-gorporal Evan Jones, un o griw'r 'meinars' o 'Stiniog a oedd yn brysur yn twnelu odditan ffosydd yr Almaenwyr yn Ffrainc. Roedd y criw wedi bod gartref yn 'Stiniog am egwyl o wythnos o'r ffrynt. Llythyr llawn hiraeth ac emosiwn oedd hwn, a'r ysgrifennwr yn dyheu, fel gweddill ei gatrawd, o gael gweld diwedd ar y brwydro:
"...ond gobeithiwn yn fawr y cawn ddod i aros y tro nesaf….Chwith mawr oedd gweled yr ardd mor dawel a difywyd. Ond o'r ochr arall, llawenydd o'r mwyaf oedd gweld yr hen ardal wedi rhoddi ymaith gymaint o'i phlant i ymladd dros gyfiawnder...Daeth i'm meddwl yn sydyn gyfrif faint o fechgyn Ffestiniog sydd wedi cwympo dros eu gwlad yn Ffrainc a mannau eraill. Mi aeth y teimlad yn angerddol ynof, nid i ddod yn ôl a llai o ynni, ond yn fwy o lawer...Gobeithiwn y cawn oll ddod yn ôl atoch, pan na fydd son am ryfel mwyach...Mae pawb o'r meinars yn cofio atoch i gyd."
Ategodd colofnydd y papur ddyheadau’r darllenwyr i gyd, gan ddatgan: "Yn naturiol, fe bair bryder i Mrs Williams a'i gyfeillion, ond gobeithiwn y daw goleuni gwell yn ei gylch yn fuan." Ond er mawr ofid i'w fam, ei gyfeillion a holl ddarllenwyr Y Rhedegydd, daeth newyddion drwg i law ymhen rhai wythnosau am dynged Preifat T.Williams 2612, pan gofnodwyd ei farwolaeth yn Gallipoli ar 10 Awst 1916.
Cynhaliwyd ail Dribiwnlys Blaenau Ffestiniog ar 11 Mawrth 1916, ychydig ddyddiau wedi'r cyntaf i'w gynnal yn y dref. Roedd 25 o achosion i'w trafod y tro hwn, a chafwyd adroddiad manwl ar ambell gais. Yn adroddiadau gohebydd Y Rhedegydd o'r Tribiwnlysoedd hynny, cafwyd erchyll enghreifftiau o drosi ymadroddion Saesneg i'r Gymraeg. Tra bo on the grounds of yn ymadrodd cyffredin yn Saesneg, roedd ei drosi i 'ar y tir' yn rhoddi ystyr hollol wahanol yn y Gymraeg! Roedd enghreifftiau o'r cam-drosi hynny i'w weld megis : 'Apeliai un arall am esgusodiad ar y tir fod ei fam yn weddw...'
Yn yr achos hwnnw, yr oedd llanc ifanc yn apelio am esgusodiad rhag ymrestru oherwydd i'w fam fod yn weddw, a thair chwaer ieuengach ganddo, yn ddibynnol arno ef am gynhaliaeth. Yr oedd brawd iddo yn gwasanaethu ar y ffrynt yn Ffrainc eisoes, meddai. Wedi trafod ei achos, caniatawyd mis o ryddhad i'r llanc. Gwrthodwyd nifer o geisiadau gan eraill am ryddhad ar sail eu hiechyd.
Daeth apêl gan chwarelwr am ryddhad rhag ymrestru ar sail ei fod yn wrthwynebydd cydwybodol, y cyntaf o'i fath i ymddangos o flaen Tribiwnlys Blaenau Ffestiniog, mewn ffaith. Roedd yn gwrthod mynd i ymladd, gan ddadlau ei bod yn bechod lladd cyd-ddyn. Serch hynny, cytunai ei fod yn barod i wasanaethu mewn modd nad oedd yn ymladdol. Yr oedd wedi paratoi unwaith i wasanaethu gyda'r gatrawd feddygol yr R.A.M.C., ond iddo fethu prawf iechyd ar y pryd, meddai. Caniatawyd iddo gael peidio mynd i wneud gwasanaeth ymladdol.
---------------------------------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2016.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon