Pennod arall o gyfres reolaidd Steffan ab Owain, y tro hwn yn parhau â'i drafodaeth am glychau.
*Mae dolen isod i ran gyntaf y stori.
Dyma dipyn mwy o hanes y gwahanol fathau o glychau a ddefnyddid gynt gan y gwŷr eglwysig. Yn ôl Bob Owen (Croesor) ‘roedd tri math o glychau yn perthyn i eglwysi yr hen oes. Dwy yn glychau dwylo a’r trydydd yn gloch hongian yn nhŵr yr eglwys, neu rywle cymwys arall.’
Yn gyntaf, ceid ‘cloch y cymun’, sef cloch fechan a genid adeg yr Offeren a phan y gweinyddid y Sacrament i’r bobl a oedd yn wael yn eu cartrefi. Byddid yn ei thincian wrth i’r bobl orymdeithio i gartrefle y person gwael er mwyn gweinyddu’r swper olaf. Tybed a oes rhai o’r clychau hyn wedi eu cadw yn ddiogel gan ein heglwysi?
Cloch y Meirw. Cloch fechan oedd hon hefyd a gwelais yn cael ei galw yn ‘gloch y corff’ gan un neu ddau. Ar un adeg o’n hanes roedd hi’n arferiad i glerc y plwyf flaenori gorymdaith angladdol neu gynhebrwng a chanu’r gloch fel yr elai ymlaen. Yr oedd hwn yn hen, hen arferiad a dyddia’n ôl ganrifoedd lawer yn ôl pob son. Deallaf ei fod wedi bod mewn arfer o gylch Aberystwyth a Chaernarfon hyd at ddechrau’r ganrif hon, os nad ychydig yn ddiweddarach. Mewn ambell le gelwir y gloch hon yn ‘Elor-gloch’ am fod y corff yn cael eu gludo ar elor – fel yr un sydd ar y wal yn Eglwys Llanfrothen hyd heddiw.
Un o’r rhesymau dros ganu hon ar y ffordd i’r fynwent oedd bod yr hen ffyrdd gynt mor gul, a phrin y pasiai dau gar llusg ei gilydd arnynt. Felly, byddai’n rhaid wrth y gloch i rybuddio rhai a ddeuai ar hyd y ffordd i wneud lle i’r angladd.
Cloch y terfynau. Yn y dyddiau gynt byddid yn cerdded terfynau yn rheolaidd ym mhob plwyf, ac yn union fel yn y gorymdeithau eraill, cenid cloch gan glerc y plwyf, yr hwn a fyddai ar y blaen, wrth gwrs.
Clychau eraill. I’n cyndeidiau roedd rhinweddau a galluoedd rhyfedd yn perthyn i’r clychau ac ar stormydd o fellt a tharanau cenid hwy hyd ddiwedd y drycin fel y gellid ymlid y cythreuliaid a’r ysbrydion drwg ymaith. Credid gynt fod y diafoliaid yn ofni clychau yn fawr iawn a rhedent i ffwrdd nerth eu carnau pan glywent eu swn. Diflanai ysbrydion a thylwyth teg o leoeodd neilltuol pan cenid clychau. Ystyrid clychau fel pethau sanctaidd wedi eu gwneud i addoli Duw ac oherwydd y gred hon datblygodd pob math o ofergoelion yn eu cylch. Byddai son gynt am ysbrydion drwg a chythreuliaid yn cael eu bwrw i byllau neu lynnoedd gan yr offeiriaid drwy gyfrwng clychau a genid ganddynt.
O.N. Diolch i Mrs Sally Williams, Llan Ffestiniog, y cyfaill Emrys Evans, un o golofnyddion ein papur, a’m mam (Mrs Morfudd Owen) am rychwanu eu cof yn ôl i’r adeg pan fyddai’n dynion llefrith ni yn y Blaenau a’r Llan yn canu cloch i dynnu sylw eu cwsmeriaid. Diolch i chi o’ch tri – Mwy y tro nesaf, efo lwc a bwyd llwy!
------------------------------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 1999.
Gallwch ddilyn erthyglau Stolpia i gyd efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
*Clychau- rhan 1
Llun gan Paul W (Eglwys Capel Isaf, ar odrau deheuol Mynydd Epynt; Ebrill 2016)
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon