Showing posts with label Maentwrog. Show all posts
Showing posts with label Maentwrog. Show all posts

9.4.19

'Ym Maen Tyfiawg uwch Melenryd'

Mae Coed Cadw (Woodland Trust) yn ailagor cwestiwn sillafiad un o’i choedlannau mwyaf eiconig yn Eryri. Yn 2015 fe lwyddodd Coed Cadw i brynu safle Llennyrch ar ôl ymgyrch godi arian lwyddiannus. Mae’r tir yn ffinio gyda Choed Felinrhyd, sydd wedi bod yng ngofal y mudiad ers yr 1980au. Mae’r safle yn cynnwys hen ffermdy sydd o ddiddordeb hanesyddol mawr, a allai berthyn i’r unfed ganrif ar bymtheg, ac mae’r mudiad yn awyddus i ymchwilio a dehongli hanes y ffermdy a’r tir.

Oherwydd hyn, mae Coed Cadw’n awyddus i recriwtio Ymchwilydd Treftadaeth gwirfoddol i wneud ymchwil a darganfod mwy am hanes y safle hudol hwn. A chan y bydd cryn dipyn o’r dogfennau yn y Gymraeg, mae’r mudiad yn awyddus i gael hyd i rywun sy’n siarad Cymraeg i wneud hyn.

Dywed Kylie Jones Mattock, Rheolwraig Ystâd Coed Cadw ar gyfer Cymru:
“Mae gan Goed Felinrhyd hanes anhygoel. Hi yw'r unig goedwig o eiddo Coed Cadw sy’n cael ei henwi yn y Mabinogi! Yn y bedwaredd gainc mae Pryderi, Arglwydd y Deheubarth yn cael ei ladd gan y dewin Gwydion, ar ôl brwydr fawr sy’n digwydd yn y ‘Felen Rhyd ger Maen Twrog’. Mae’n amlwg fod hwn yn gyfeiriad at y goedwig hon. Rydan ni’n credu fod y gair ‘felen’ ‘yn cyfeirio at y mwsogl sy’n dal i dyfu ar y cerrig lle mae’r hen ffordd yn croesi Afon Prysor.”
Pan brynodd Coed Cadw'r goedwig hon, Coed Felinrhyd, gydag “i”, oedd yr enw ar y gweithredoedd, er nad oes cofnod fod yna felin wedi bod ar safle erioed. Yn 2001 fe wnaeth y mudiad ystyried newid y sillafiad i “Felenrhyd”, fel sydd yn y Mabinogi. Ond ar y pryd yr oedd Cyngor Cymuned Talsarnau, yn erbyn gwneud hyn. Heddiw, fodd bynnag, mae’r elusen yn barod i ailystyried.

Fe fydden ni wrth ein bodd i fynd yn ôl i’r sillafiad sydd yn y Mabinogi”, meddai Kylie, “ond dim ond os ydan ni’n hyderus fod pobl leol o blaid gwneud hyn.

Llun- Paul W

Felly, mae Coed Cadw yn awyddus i ddarganfod beth yw barn bobl leol am hyn, ac mae’r mudiad wedi gwahodd pobl leol sydd â barn ar y pwnc, y naill ffordd neu’r llall, i gysylltu â kyliejonesmattock@woodlandtrust.org.uk neu i ffonio 0343 770 5785.

Fe fyddai Kylie yn awyddus hefyd i glywed oddi wrth bobl leol sydd â straeon doniol neu ddiddorol am y ddwy goedlan. Fe fyddai hynny’n cynnig cyfle i’r gwirfoddolwr wneud rhagor o waith ymchwil am y straeon fyddai’n dod i law. Mae manylion am y cyfle gwirfoddoli fel Ymchwilydd Treftadaeth yn y ddwy goedlan yn woodlandtrust.org.uk/volunteering
-----------------------------------------

Ymddangosodd yr uchod yn rhifyn Chwefror 2019 (heb y llun). Isod, mae ymateb gan Geraint V. Jones, o rifyn Mawrth:

Y Felen Ryd

Mae’r Felen Ryd yn cael ei henwi ddwywaith ym mhedwaredd cainc y Mabinogi ac ni ddylai fod unrhyw amheuaeth ynglŷn â’r sillafiad na’r lleoliad.

Mae’r stori am Gwydion a byddin Gwynedd yn erlid Pryderi a’i wŷr yn ôl tua’r de yn gyfarwydd i amryw, siŵr o fod, ac mae rhai o’r lleoedd sy’n cael eu henwi yn y chwedl yn bodoli hyd heddiw, megis Coed Alun (ardal Caernarfon), Nant Call (Nantcyll ger Pant Glas), Dôl Penmaen, y Traeth Mawr (sef aber yr Afon Glaslyn), Y Felen Ryd (lle lladdwyd Pryderi gan Gwydion) a Maen Tyfiawg (lle y cafodd Pryderi ei gladdu).

Er bod yr enw gwreiddiol Maen Tyfiawg (Maentwrog, bellach) yn awgrymu lle coediog, rhaid pwysleisio nad oes unrhyw gyfeiriad o gwbl yn y chwedl at ‘Goed Felinrhyd’. Na ‘Choed y Felen Ryd’ chwaith, o ran hynny!

Yn ôl y stori, ar ôl gadael Dôl Benmaen fu dim ymladd rhwng y ddwy fyddin wedyn nes cyrraedd Y Felen Ryd. Yn fan’no, fe ddechreuodd y milwyr saethu at ei gilydd unwaith eto. Felly, er mwyn arbed mwy o dywallt gwaed, cytunodd Pryderi i wynebu Gwydion mewn brwydr bersonol. A Gwydion -y ‘dewin’- a orfu wrth gwrs!

Sut bynnag, yn ei herthygl roedd Kylie Jones Mattock yn awgrymu bod Y Felen Ryd wedi ei lleoli ar yr Afon Prysor. Sail ei dadl oedd bod yno ‘hen ffermdy ... a allai berthyn i’r unfed ganrif ar bymtheg’. Er nad oedd yn ei enwi, Y Felen Ryd Fach oedd ganddi dan sylw, mae’n siŵr. Roedd hi hefyd yn awgrymu mai’r mwsog ar y cerrig yn fan’no oedd yn egluro lliw y rhyd. Ond dydi lleoli brwydr Gwydion a Phryderi yng ngheunant cul a choediog yr Afon Prysor ddim yn gwneud llawer o synnwyr, mae gen i ofn. Ac onid pont yn hytrach na rhyd sydd yn fan’no beth bynnag?

Does fawr o amheuaeth nad ar y rhyd ar yr Afon Ddwyryd y cafodd Pryderi ei ladd, a hynny rywle gyferbyn â thŷ o’r enw Felenryd Fawr, ar fin y ffordd rhwng Maentwrog a Chilfor. Yno, ar y Traeth Bach, roedd digon o dir gwastad i’r ddwy fyddin fod wedi ymgynnull i wylio Gwydion a Phryderi yn ymladd.

Does dim angen llawer o ddychymyg chwaith i egluro’r enw, o gofio mor dywodlyd hyd heddiw ydi’r Traeth Bach yn fan’no. Y tywod ar wely’r Ddwyryd, yn hytrach na’r mwsogl ar gerrig yr Afon Prysor, sy’n egluro enw’r Felen Ryd.



4.9.18

Straeon Hanner Nos -Ysbryd yr Ysgubor

Un arall o straeon codi gwallt eich pen gan Dr Bruce Griffiths


Yn 1965 darlithydd oeddwn yn adran Ffrangeg Prifysgol y Frenhines, Belffast.  Y flwyddyn honno penodwyd pennaeth newydd i’r adran, sef yr Athro Harry Barnwell, a ddaeth o adran Ffrangeg Glasgow.  (Flynyddoedd yn ddiweddarach, pan ddaeth yn arholwr allanol i Fangor, y deallais mai o Langernyw yr hanai, a’i fod yn deall Cymraeg yn ddigon da i arholi sgriptiau Cymraeg).

Un diwrnod cyflwynwyd fi i Mrs Barnwell fel llanc o ‘Stiniog.  Fe wyddai hi am yr ardal: ni fuasai yno erioed ond buasai ffrindiau iddi yno ar wyliau.  “Gawson nhw fwynhad yno?” holais innau.  “Wel naddo”, atebodd hithau.  “Gormod o law Stiniog?”  “Nace ddim – y llety ei hun oedd yn annifyr.

Aeth ymlaen i ddweud sut y buasai pethau.  Mam a merch oeddynt, a fuasai’n aros yn yr un llety ond nid ar yr un pryd a’i gilydd.  Gartref yng Nglasgow holodd y naill y llall.  “Sut aeth y gwyliau?”  "Ddim yn rhy dda, a dweud y gwir, fyddwn i byth yn mynd yna eto!”  Aethpwyd ati i gymharu profiadau.  Aros y buaset mewn hen ysgubor a gawsai ei throi’n fflatiau i ymwelwyr, ac a oedd mor llawn fel y buasai’n rhaid i’r naill a’r llall gysgu mewn rhan o’r ysgubor nas defnyddid fel llofft fel arfer.  Cawsai’r ddwy yr un profiadau annifyr:  gweld ysbrydion gefn nos.  Ysbryd gŵr, neu ysbrydion gwyr, yn gwisgo cwcwll neu gwfl am y pen (fel y byddai mynachod erstalwm). Ond gwaeth na hynny: gweld gŵr ynghrog wrth un o’r distiau.  Wrth reswm, nid oeddynt wedi son wrth neb yn y llety ei hun am yr hyn a welasent.

Yn naturiol, ‘roeddwn i’n glustiau i gyd.  Ni chlywswn erioed hanes o’r fath am unman yn yr ardal.  Ni chofiai Mrs Barnwell enw’r llety, ond ‘roedd yn rhywle heb fod ymhell o’r lein bach.  Awgrymais nifer o enwau ac fe adnabu hi enw Maentwrog – wrth ymyl Maentwrog yr oedd y lle.

Gartref yn y Blaenau dros wyliau’r Nadolig, mi euthum ati i holi ymhellach ynghylch yr hanesyn rhyfedd hwn, ond heb gael unrhyw oleuni nes holi Trefor Davies, un o Faentwrog.  Ar y cychwyn ni soniais wrtho am yr hyn a glywswn, rhag plannu unrhyw syniad yn ei feddwl, ond o’r disgrifiad gallodd enwi’r llety ar unwaith:  ysgubor Ffarm y Plas (‘Home Farm’) wrth ochr y ffordd fawr ger yr Oakley Arms.

Ni soniais am ysbrydion, ond holais a ddigwyddasai unrhyw drychineb neu rywbeth nodedig yno erioed.  Meddyliodd: yna dywedodd sut y buasai i’r hen _ _ _ –(bellach ni chofiaf yr enw) ei grogi ei hun yn yr ysgubor.  A dyna chi: nid stori ffug (ar fy rhan i, o leiaf) yw hon, ac nid oes gennyf unrhyw le i amau geirwiredd gwraig barchus a oedd yn hollol ddieithr i mi ac i ardal ‘Stiniog.

Tybed, ymhlith darllenwyr Llafar Bro, a oes rhywun a allai daflu rhagor o oleuni ar y mater?
----------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 2002
[Llun- Paul W]

4.4.16

Gwynfyd -y goedwig yn deffro

Erthygl arall o'r gyfres am fywyd gwyllt a chrwydro'r fro.

Mae’n rhyfeddol ‘tydi sut mae swn coedwig yn medru newid o fewn ychydig wythnosau. Heb imi fynd yn rhy ddiflas a chanu tiwn gron bob blwyddyn tua’r adeg yma, mi ddywedai o ar ddechrau’r tipyn colofn ‘ma: ydi, mae’r gwanwyn ar gyrraedd ac mae’r ddaear yn brysur ddeffro. Dyna fo, mi ‘dwi’n ddyn hapusach rwan i mi gael dweud fy nweud!

Tua diwedd Ionawr mi oeddwn i yn rhyfeddu pa mor ddistaw oedd coedwig Rallt Glan Wiliam ym Maentwrog ‘ma. Am yn hir iawn doedd dim smic i’w glywed o’r canghennau, na robin na dryw yn trydar ar lawr.

Ymhellach draw yn y tyfiant, cyffro o’r diwedd; cyffylog yn neidio i’r awyr mewn braw ac ar yr un pryd yn rhoi braw i mi wrth iddo hedfan i’r pellter yn igam-ogamu rhwng y bonion. Mae ei liw yn golygu mai golygfeydd byr a chyflym fel hyn a geir gan amla’, gan ei fod yn anodd ei weld ymysg y dail crîn, ac mae’n aros yn llonydd hollol nes yr eiliad olaf, (yn arbennig mewn cyfnod oer fel a gafwyd eleni, er mwyn arbed egni).

Bum munud wedyn, wrth eistedd am eiliad ddiog, daeth swn o’r tu ôl i mi, tu hwnt i wal gerrig bylchog. Swniai yn debyg i fyddin fechan yn gorymdeithio trwy’r dail sych, ond doedd dim golwg o enaid byw na dafad yn unman, felly dyma fentro taro ‘mhen dros y wal am fysnês. Haid o adar oedd yno, yn synhwyro am bryfetach dan y dail â’u pigau, ac yn eu troi fesul un gan wneud cryn dwrw ar y cyd. Coch dan adain oedd y rhain -tua deugain ohonynt gydag ambell geiliog mwyalchen yn gwledda ochr yn ochr â nhw.

Llun coch dan adain, gan Andreas Trepte CC BY-SA 2.5. Defnyddir dan drwydded Comin Wicimedia.

Tua’r un maint a’r fronfraith yw’r coch dan adain, gyda cheseiliau coch yn rhoi iddynt eu henw, ag aeliau gwyn yn eu gwahaniaethu; ymwelwyr ydynt i Gymru dros y gaeaf, ac mae nhw eisioes yn llai niferus wrth iddynt ddychwelyd i’r cyfandir i fagu.

Erbyn Dydd Gwyl Dewi, ‘roedd coedwigoedd y fro fel byd gwahanol. Mae ceiliogod sawl rhywogaeth bellach yn hawlio eu clwt o dir yn swnllyd, er byddai yn decach disgrifio rhai fel peraidd, yn arbennig y fronfraith gyda’i amrywiaeth wych o nodau.

Mae’r titw mawr yn hawdd i’w adnabod pan yn ailadrodd ei enw: ‘ti-tw ti-tw ti-tw’ ond gall hefyd ddrysu gyda sawl cân a galwad gwahanol. Ni fydd yn hir nes fydd mwy o gantorion yn cyrraedd o’r Affrig i hawlio eu lle yn ein milltir sgwar ni, ac mae’r cyfnod yma yn un cyffrous ym myd natur, felly allan a ni i’w fwynhau!

cyffylog - woodcock
coch dan adain - redwing
bronfraith - song thrush
titw mawr - great tit
 -------------------------------------------------------


Addaswyd o erthygl gan Paul Williams, a ymddangosodd yn rhifyn Mawrth 1997.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.




8.1.16

Gwynfyd- crwydro

Erthygl arall o'r gyfres am fywyd gwyllt a chrwydro'r fro.
 
Pur anaml y bydd neb yn cadw at eu haddewidion calennig, ond ar ôl Nadolig diog yn y tŷ 'cw, dwi am geisio crwydro rhywfaint o Wynedd, ac efallai ymhellach, yn ystod Ionawr a'r mis bach.

Dyma ychydig o syniadau am weithgareddau a dyddiau allan:
Cysylltir y goeden ywen â mynwentydd yn aml a chredir i bobl gynnar Ewrop, fel y Celtiaid, blannu'r coed bytholwyrdd yma ar eu safleoedd cysegredig, cyn i'r cristnogion godi eu haddoldai ar yr un safleoedd. Mae enghreifftiau gwych yn yr ardal hon, yn arbennig ym mynwent Maentwrog, ond gellir gweld coeden hynaf Cymru ger eglwys Llangernyw. Credir iddi fod dros 4000 o flynyddoedd oed.

Bydd nifer ohonom wedi tynnu’r addurniadau 'Dolig i lawr erbyn y 6ed -Gwyl Ystwyll- gan gynnwys yr uchelwydd (mistletoe). Dyma blanhigyn arall a ystyriwyd yn sanctaidd gan yr hen Gymry, ac mae'n ymddangos ei fod yn prinhau trwy Brydain. Tyfu ar goed derw a choed afalau y mae yn bennaf, ac mae’r Gymdeithas Fotanegol wrthi yn cynnal arolwg o'i ddosbarthiad, felly chwiliwch rwan tra bo'r coed heb eu dail.

Ym Mhen Llŷn ceir hen goel bod y brain yn priodi ar y 18fed o Ionawr, ac mae Porth Ceiriad yn un lle da i wylio aelod o'r teulu hwn, y frân goesgoch. Enw arall ar yr adar yma yw brân Arthur, ar ôl chwedl fod ysbryd y brenin yn byw ynddynt. Mae'r frân bellach wedi ei gyfyngu i'r gwledydd Celtaidd a De Ewrop, ond er nad yw wedi magu yng Nghernyw ers 1947*, mae'n cael ei ystyried yn aderyn 'cenedlaethol' yno o hyd.

Dafydd yn edmygu Pendraw'r Byd ac Ynys Enlli. Llun Paul W.
Mae'r olygfa tuag Ynys Enlli o'r Mynydd Mawr ym mhen pellaf Llŷn yn un cofiadwy iawn, ond gorau oll os byddech ddigon ffodus i fedru gwylio hebog tramor yn hela dros y creigiau yno.

Ar y 24ain o Ionawr, 1283 ildiodd y Cymry gastell Dolwyddelan i fyddin Edward y 1af; beth am daith yno eleni?

Ar y 25ain mae Gŵyl Santes Dwynwen, nawdd sant y cariadon. Mae Ynys Llanddwyn ym Môn, lle ceir weddillion eglwys Dwynwen yn safle arbennig hefyd, lle mae'n bosib gweld y fulfran werdd yn ogystal â’i gefnder, y bilidowcar.

Eglwys Santes Dwynwen, Ynys Llanddwyn. Llun Paul W.
Gwelir rhai planhigion prin yno yn y gwanwyn, ond mae'r cyfnod cyn hynny yn gyfle i ymweld ag ardaloedd prydferth Gwynedd heb ddod ar draws y pla deugoes hwnnw, -twristiaid!!

Mae'r 25ain hefyd yn Ddydd Sant Paul pryd rhagwelir y tywydd am weddill y flwyddyn...

Fel arfer, mae gan Gymdeithas Edward Llwyd raglen lawn o deithiau bob bore Sadwrn: manylion ar eu GWEFAN. Felly hefyd Glwb Mynydda Cymru: GWEFAN.
----------------------------

* Mae'r brain coesgoch wedi bod yn magu eto yng Nghernyw ers 2002. 

Ymddangosodd yr erthygl uchod yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 1996.

Awdur cyfres Gwynfyd ydi Paul Williams. Dilynwch y gyfres gyda'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

11.10.15

Sgotwrs Stiniog -ymladdfa ffyrnig

Erthygl arall o gyfres reolaidd Emrys Evans.


Gwaith difyr yn aml yw pori mewn hen bapurau newyddion, ac wrth wneud hynny gall rhywun daro ar ambell i hanesyn neu ddigwyddiad diddorol iawn.

Pan fu gy nghyfaill Vivian P. Williams, y Blaenau, wrthi beth amser yn ôl, tarodd ar hanesyn am rai wedi mynd i lawr i Faentwrog i botsio samons, a’r ciperiaid yn dod ar eu gwarthaf.  Dyma’r hanes fel y’i ceir ym Maner ac Amserau Cymru, y 5ed o Fawrth, 1879.  Ar wahan i’r digwyddiad ei hun, mae y dull o gyflwyno yr hanes yn ddiddorol, ac yn ddigrif mewn mannau.
Ymladdfa Ffyrnig ar Lannau’r Ddwyryd
Nos Wener, neu yn gynnar fore Sadwrn cyn y diweddaf, bu ymladdfa dost rhwng rhyw bump ar hugain o herwhelwyr pysgodawl, a thua phymtheg o geidwaid helwriaeth ac eraill o’u cynnorthwywyr o dŷ Mr Oakeley, Tan y Bwlch, ger llaw i ddolydd y Llechrwd, a Glan yr Afon, yn nyffryn tlws Ffestiniog.  Saethwyd ergydion meddid o’r ddeutu, i geisio dychrynu y naill y llall.  Ond â ffyn y bu’r ymladdfa fawr, nes y bu agos i benglogau un neu ddau o’r ceidwaid gael eu malu yn dost.  Pur ddrwg y daliai archollion un ceidwad o Sais i fyny i ddiwedd yr wythnos, a deallai oddi wrth ei feddyg, G.J. Roberts, Ysw., nad oedd allan o berygl am ei fywyd.  Gresyn ofnadwy fod y fath gyflafan a hyn yn digwydd yng “
ngwlad yr Efengyl”.  Fawr gwell na’r Indiaid Cochion tu draw i’r môr.
Y mae yn debyg i nifer o’r poachers gael eu hanafu, ond ni ddyweid iddynt hwy orfod galw am feddygon, trwyddedig felly, rhag y byddai eu hwynebau yn haws i’w hadnabod na’r hetiau a gollasant yn y ffrwgwd.”
Yr adeg hynny roedd stâd Tan-y-bwlch yn dal yr afon Ddwyryd, ac am ei chadw iddynt eu hunain.  Yr adeg hynny, hefyd, roedd digonedd o eogiaid a sewin yn yr afon, fel mewn afonydd eraill.  O sylwi ar ddyddiad yr hanesyn yma, sef mis Mawrth, mae hi’n amlwg fod yna bysgod yn dod i’r afon yn gynnar iawn yn y tymor, a’i bod hi felly’n werth i’r ‘herwhelwyr pysgodawl’ yma fynd ar gyrch i’r afon.  Credai llawer yr adeg hynny, efallai fod llawer yn dal i gredu hynny hyd heddiw! – fod pysgod yn eiddo cyffredin i’r werin.  Fel y dywedodd un o hen drigolion ardal, “Cwpwrdd y dyn tlawd yw’r afon.”

Diolch i Vivian am godi’r hen hanes diddorol yma ar gyfer y golofn.  Melys moes mwy.

Rhai blynyddoedd yn ôl bellach cefais nifer o blu sewin wedi eu cawio gan Illtyd Griffiths o Aberystwyth.  Mae yna un-ar-ddeg yn y casgliad.  Plu ydynt sy’n cael eu defnyddio yn afonydd canolbarth Cymru, yr afonydd Rheidol, Teifi, Tywi ac eraill.  Maent yn gasgliad diddorol, ac yn amrywio yn eu maint ac yn eu patrymau.  Du ac arian yw’r ddau liw mwyaf amlwg ynddynt.  Yn naw o’r un-ar-ddeg pluen mae arian yn eu cyrff, y corff i gyd yn arian neu yn rhannol.  Mae du yn amlwg iawn, yn y corff, y traed a’r adain.  Nodwedd arall yn y plu yma ydi rhoi bach trebl bychan yn sownd yng nghwt y bluen hefo gyt cryf.  Dywedir fod hyn yn help i gael bachiad pan mae’r sewin yn pinsio, fel y dywedir.  O’r un-ar-ddeg pluen yma y mae chwech ohonynt â’r bach trebl bychan wrth eu cwt.  Oes yna rywun yn defnyddio plu hefo bachyn trebl wrth sgota am sewin yn Afonydd Dwyryd a Glaslyn, tybed?

Ymhlith y plu yma y mae yna un sy’n cael ei galw’n ‘Allrounder’.  Creadigaeth Illtyd Griffiths yw hon, ac mae yna ganmol mawr arni yn llyfr Moc Morgan ar batrymau plu ar gyfer afonydd a llynnoedd Cymru.

Dyma’r patrwm.  Efallai fod yna rywun o’r ardal yma awydd rhoi cynnig ar y bluen yma yn ein hafonydd ni.

Bach:    Maint 6 ac 8
Cynffon: Pluen felen oddi ar war ffesant euraidd
Corff:    Blewyn morlo wedi’i lifo yn ddu.  Rhoi cylchau o eda arian amlwg amdano.
Traed:    Ceiliod du
Adain:    Blewyn wiwer wedi’i lifo yn ddu, a blewyn wiwer wedi’i lifo’n goch drosto.  Yna, dros y cwbl, rhoi cynffon paun gwyrdd (y rhan a elwir yn ‘sword’)  Gorffen y bluen drwy roi pluen ddu a gwyn ceiliog y gwyllt bob ochr i lygad y bach fel dwy lygaid.

Yn ôl fel yr ydw i’n deall does dim caniatad yn afonydd canolbarth Cymru i ddefnyddio cynrhon ar blu pan yn pysgota am sewin, felly plu yw y rhain ar gyfer eu pysgota yn ddi-gynrhon.

---------------------------------------------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 1998. Gallwch ddarllen erthyglau eraill Sgotwrs Stiniog gyda'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.