9.4.19

'Ym Maen Tyfiawg uwch Melenryd'

Mae Coed Cadw (Woodland Trust) yn ailagor cwestiwn sillafiad un o’i choedlannau mwyaf eiconig yn Eryri. Yn 2015 fe lwyddodd Coed Cadw i brynu safle Llennyrch ar ôl ymgyrch godi arian lwyddiannus. Mae’r tir yn ffinio gyda Choed Felinrhyd, sydd wedi bod yng ngofal y mudiad ers yr 1980au. Mae’r safle yn cynnwys hen ffermdy sydd o ddiddordeb hanesyddol mawr, a allai berthyn i’r unfed ganrif ar bymtheg, ac mae’r mudiad yn awyddus i ymchwilio a dehongli hanes y ffermdy a’r tir.

Oherwydd hyn, mae Coed Cadw’n awyddus i recriwtio Ymchwilydd Treftadaeth gwirfoddol i wneud ymchwil a darganfod mwy am hanes y safle hudol hwn. A chan y bydd cryn dipyn o’r dogfennau yn y Gymraeg, mae’r mudiad yn awyddus i gael hyd i rywun sy’n siarad Cymraeg i wneud hyn.

Dywed Kylie Jones Mattock, Rheolwraig Ystâd Coed Cadw ar gyfer Cymru:
“Mae gan Goed Felinrhyd hanes anhygoel. Hi yw'r unig goedwig o eiddo Coed Cadw sy’n cael ei henwi yn y Mabinogi! Yn y bedwaredd gainc mae Pryderi, Arglwydd y Deheubarth yn cael ei ladd gan y dewin Gwydion, ar ôl brwydr fawr sy’n digwydd yn y ‘Felen Rhyd ger Maen Twrog’. Mae’n amlwg fod hwn yn gyfeiriad at y goedwig hon. Rydan ni’n credu fod y gair ‘felen’ ‘yn cyfeirio at y mwsogl sy’n dal i dyfu ar y cerrig lle mae’r hen ffordd yn croesi Afon Prysor.”
Pan brynodd Coed Cadw'r goedwig hon, Coed Felinrhyd, gydag “i”, oedd yr enw ar y gweithredoedd, er nad oes cofnod fod yna felin wedi bod ar safle erioed. Yn 2001 fe wnaeth y mudiad ystyried newid y sillafiad i “Felenrhyd”, fel sydd yn y Mabinogi. Ond ar y pryd yr oedd Cyngor Cymuned Talsarnau, yn erbyn gwneud hyn. Heddiw, fodd bynnag, mae’r elusen yn barod i ailystyried.

Fe fydden ni wrth ein bodd i fynd yn ôl i’r sillafiad sydd yn y Mabinogi”, meddai Kylie, “ond dim ond os ydan ni’n hyderus fod pobl leol o blaid gwneud hyn.

Llun- Paul W

Felly, mae Coed Cadw yn awyddus i ddarganfod beth yw barn bobl leol am hyn, ac mae’r mudiad wedi gwahodd pobl leol sydd â barn ar y pwnc, y naill ffordd neu’r llall, i gysylltu â kyliejonesmattock@woodlandtrust.org.uk neu i ffonio 0343 770 5785.

Fe fyddai Kylie yn awyddus hefyd i glywed oddi wrth bobl leol sydd â straeon doniol neu ddiddorol am y ddwy goedlan. Fe fyddai hynny’n cynnig cyfle i’r gwirfoddolwr wneud rhagor o waith ymchwil am y straeon fyddai’n dod i law. Mae manylion am y cyfle gwirfoddoli fel Ymchwilydd Treftadaeth yn y ddwy goedlan yn woodlandtrust.org.uk/volunteering
-----------------------------------------

Ymddangosodd yr uchod yn rhifyn Chwefror 2019 (heb y llun). Isod, mae ymateb gan Geraint V. Jones, o rifyn Mawrth:

Y Felen Ryd

Mae’r Felen Ryd yn cael ei henwi ddwywaith ym mhedwaredd cainc y Mabinogi ac ni ddylai fod unrhyw amheuaeth ynglŷn â’r sillafiad na’r lleoliad.

Mae’r stori am Gwydion a byddin Gwynedd yn erlid Pryderi a’i wŷr yn ôl tua’r de yn gyfarwydd i amryw, siŵr o fod, ac mae rhai o’r lleoedd sy’n cael eu henwi yn y chwedl yn bodoli hyd heddiw, megis Coed Alun (ardal Caernarfon), Nant Call (Nantcyll ger Pant Glas), Dôl Penmaen, y Traeth Mawr (sef aber yr Afon Glaslyn), Y Felen Ryd (lle lladdwyd Pryderi gan Gwydion) a Maen Tyfiawg (lle y cafodd Pryderi ei gladdu).

Er bod yr enw gwreiddiol Maen Tyfiawg (Maentwrog, bellach) yn awgrymu lle coediog, rhaid pwysleisio nad oes unrhyw gyfeiriad o gwbl yn y chwedl at ‘Goed Felinrhyd’. Na ‘Choed y Felen Ryd’ chwaith, o ran hynny!

Yn ôl y stori, ar ôl gadael Dôl Benmaen fu dim ymladd rhwng y ddwy fyddin wedyn nes cyrraedd Y Felen Ryd. Yn fan’no, fe ddechreuodd y milwyr saethu at ei gilydd unwaith eto. Felly, er mwyn arbed mwy o dywallt gwaed, cytunodd Pryderi i wynebu Gwydion mewn brwydr bersonol. A Gwydion -y ‘dewin’- a orfu wrth gwrs!

Sut bynnag, yn ei herthygl roedd Kylie Jones Mattock yn awgrymu bod Y Felen Ryd wedi ei lleoli ar yr Afon Prysor. Sail ei dadl oedd bod yno ‘hen ffermdy ... a allai berthyn i’r unfed ganrif ar bymtheg’. Er nad oedd yn ei enwi, Y Felen Ryd Fach oedd ganddi dan sylw, mae’n siŵr. Roedd hi hefyd yn awgrymu mai’r mwsog ar y cerrig yn fan’no oedd yn egluro lliw y rhyd. Ond dydi lleoli brwydr Gwydion a Phryderi yng ngheunant cul a choediog yr Afon Prysor ddim yn gwneud llawer o synnwyr, mae gen i ofn. Ac onid pont yn hytrach na rhyd sydd yn fan’no beth bynnag?

Does fawr o amheuaeth nad ar y rhyd ar yr Afon Ddwyryd y cafodd Pryderi ei ladd, a hynny rywle gyferbyn â thŷ o’r enw Felenryd Fawr, ar fin y ffordd rhwng Maentwrog a Chilfor. Yno, ar y Traeth Bach, roedd digon o dir gwastad i’r ddwy fyddin fod wedi ymgynnull i wylio Gwydion a Phryderi yn ymladd.

Does dim angen llawer o ddychymyg chwaith i egluro’r enw, o gofio mor dywodlyd hyd heddiw ydi’r Traeth Bach yn fan’no. Y tywod ar wely’r Ddwyryd, yn hytrach na’r mwsogl ar gerrig yr Afon Prysor, sy’n egluro enw’r Felen Ryd.



No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon