Showing posts with label coed. Show all posts
Showing posts with label coed. Show all posts

10.4.26

Aethnen Goll Bro Ffestiniog?

Ydych chi erioed wedi gweld coeden sy’n troi’n felyn aur llachar yn yr hydref, ei dail yn crynu’n ysgafn yn y gwynt? Efallai eich bod wedi pasio aethnen – un o goed brodorol prinnaf Cymru – heb sylwi.

Aethnen ar lan Afon Bowydd ger Ysgol Maenofferen. Llun- Paul W

Credir bod yr aethnen wedi bod yn rhan o dirwedd Bro Ffestiniog ers miloedd o flynyddoedd. Heddiw, fodd bynnag, mae’n brin iawn. Mae’r goeden hynafol hon nid yn unig yn brydferth, ond hefyd yn hynod bwysig i fioamrywiaeth: mae’n cynnal pryfed, adar a chreaduriaid bach sy’n dibynnu arni am fwyd a lloches. Pan fyddwn yn colli aethnen, rydym yn colli darn o’n hetifeddiaeth naturiol – a’r bywyd gwyllt sy’n dod gyda hi.

Mae ambell aethnen yn tyfu ar dir Ysgol Maenofferen, ac o leiaf bedair arall wedi’u darganfod yn yr ardal. Nawr, mae prosiect cymunedol ar droed i’w hadfer. Bydd y coed yn cael eu clônio gan Dr Jenny Wong, yna eu eu magu ym Meithrinfa Goed Tanygrisiau, ac yna – os aiff popeth yn ôl y cynllun – byddant yn barod i’w plannu ar ein llethrau lleol erbyn Tachwedd eleni. Gan eu bod yn tyfu’n gyflym, gallent drawsnewid rhannau o’r dirwedd mewn ychydig flynyddoedd yn unig.

Ond mae angen eich help chi arnom.

Ydych chi’n gwybod am aethnen arall yn y fro? Edrychwch am ei dail crwn sy’n crynu yn y gwynt (gweler y llun o’r ddeilen). Cysylltwch â ni a helpwch i sicrhau bod yr “aethnen goll” yn dod o hyd i’w lle unwaith eto ym Mro Ffestiniog.  

Gyda’n gilydd, gallwn adfer coeden frodorol, cefnogi bioamrywiaeth, a gadael etifeddiaeth werdd i’r genhedlaeth nesaf.

Meg Thorman, Y Dref Werdd
- - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2026 

> Darn blog am aethnen Stiniog o 2012


 

12.8.25

Tyfu Gyda’n Gilydd

Lle i Goed, Natur a Chymuned 

Darn a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2025 

Ar safle tawel ym Mro Ffestiniog mae rhywbeth arbennig yn tyfu - ac nid coed yn unig. Mae meithrinfa goed gymunedol, perllan aml-gnwd, a gardd fywyd gwyllt bach yn helpu’r gymuned i fynd i’r afael â heriau natur a hinsawdd mewn ffordd leol a chadarnhaol.

Cafodd y feithrinfa ei sefydlu’r gaeaf diwethaf ac erbyn hyn gallwn dyfu 1,500 o goed brodorol – llawer ohonynt o hadau a gasglwyd yn lleol gydag ysgolion a gwirfoddolwyr. Mae’r coed hyn wedi’u haddasu’n well i hinsawdd ac amodau'r ardal, ac maen nhw’n cefnogi’r amgylchedd lleol yn fwy effeithiol na choed a fewn-forwyd.  Bydd y coed yn cael eu plannu'n lleol, neu'n cael eu rhoi i unrhyw un sydd eisiau plannu coeden eu hunain.

Diolch i grant gan Bartneriaeth Natur Eryri, mae cynhwysydd cludo wedi’i drawsnewid yn ddiweddar yn sied botio ac yn lloches i staff a gwirfoddolwyr — gan ein galluogi i fod yn bresennol ar y safle drwy’r flwyddyn ac i gynnal gweithgareddau beth bynnag y tywydd.

Gerllaw mae perllan sy’n wahanol iawn i randir traddodiadol - dim rhesi taclus na lleiniau unigol yma. Yn hytrach, mae’r lle’n tyfu mewn ffordd anffurfiol ac adfywiol, gan gyfuno coed ffrwythau, perlysiau, ffrwythau meddal, llysiau lluosflwydd a phlanhigion a pherlysiau meddygol, mewn patrwm naturiol sy’n efelychu natur. Mae’n brosiect tymor hir, ond dros amser bydd y berllan yn dod yn fwy hunangynhaliol, gan gefnogi bioamrywiaeth a darparu bwyd, cysgod a harddwch i’r gymuned.

Mae’r ardal fywyd gwyllt sy’n cysylltu’r lleoedd hyn eisoes yn llawn adar, gwenyn, gloÿnnod byw, gweision neidr a llyffantod - yn fan lloches i natur ac yn le heddychlon i bobl ddod i fwynhau.   Mae’r ddôl flodau gwyllt ar ei gorau ym misoedd Mehefin a Gorffennaf, yn llawn blodau brodorol fel carpiog y gors, llygad llo mawr, crib y pannwr, milddail, cribell felen a llawer mwy.

Mae’r prosiect yn dangos sut gall cymunedau gymryd camau syml a chynaliadwy i adfer natur, diogelu rhywogaethau brodorol a byw mewn modd mwy ysgafn ar y tir.

Mae’r ardd wedi’i lleoli tu ôl i res Cambrian, Tanygrisiau, LL41 3RT, gyda ddigon o le i barcio os ydych chi'n teithio mewn car.  Mae ar agor trwy’r flwyddyn ac mae croeso i bawb — naill ai i gymryd rhan neu i fwynhau tawelwch.

Hoffech chi weld y feithrinfa? Byddem wrth ein bodd dangos y lle i chi– cysylltwch â ni!  meg@drefwerdd.cymru  01766 830 082


13.3.25

Manion o'r Manod

Faint ohonoch chi sydd wedi mynd o’r Blaenau i gyfeiriad Manod yn ddiweddar, ac wedi sylwi ar y tyfiant coed pinwydd ar y Manod Bach? Roedden nhw’n amlwg iawn pan oedd ychydig o eira wedi disgyn ar y mynydd.

Mae yna ddwsinau ohonynt, a’r cwestiwn sydd gen i ydi beth neu pwy sydd yn gyfrifol amdanynt? Dwi wedi cael fy synnu’n fawr beth sy’n digwydd ar y mynydd, ac yn edrych ymlaen at glywed eich barn neu atebion gan rywun.

Ychydig wythnosau’n ôl, mi es am dro ar ddiwrnod braf i fyny i gyfeiriad Hafod Ruffydd. Y bwriad oedd mynd i ben tomen Diffwys, ond oherwydd bod rhew ar y llwybr roedd yn rhy beryg i fwrw ymlaen, felly mi benderfynais droi am y llwybr heibio Fuches Wen.

 

Yno ‘roedd cerflun pren, anhygoel o dylluan, ac mi wirionais yn lân efo’r gwaith naddu manwl, yn creu rhywbeth gwych o fonyn coeden oedd wedi ei thorri. Llongyfarchiadau mawr i’r artist sy’n gyfrifol am y gwaith trawiadol yma!

Da Gweld cymaint o ddefnydd ar gae pêl-droed Cae Clyd yn ddiweddar. Nid yn unig gan Glwb Pêl-droed Amaturiaid y Blaenau, ond hefyd blant ifanc yn ymarfer ar benwythnosau; y genod a’r hogia yn cael hwyl fawr arni. Mae’n edrych yn dda ar ddyfodol y clwb.    

DR

- - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2025



 

1.2.23

Fy nghoeden, ein coedwig

Mae’r Dref Werdd yn cymryd rhan ym menter ‘Fy Nghoeden, Ein Coedwig’, sef prosiect uchelgeisiol Llywodraeth Cymru a Coed Cadw fydd yn cynnig coeden i bob aelwyd yng Nghymru, a hynny am ddim.

Rydym yn un o 50 o hybiau sydd wedi'u lleoli ledled Cymru lle gall pobl gasglu eu coeden; yn y cam hwn mae 295,000 o goed ar gael.

Mae deg rhywogaeth wahanol ar gael i ddewis ohonynt, sef: 

Collen; criafolen; draenen wen; bedwen arian; afalau surion; derwen; cwyrosyn; masarnen fach; rhosyn gwyllt, ac ysgawen.

Mae'r holl goed yn rhywogaethau brodorol, llydanddail a bydd cyfarwyddiadau plannu gyda nhw. Wrth iddyn nhw aeddfedu fe fyddan nhw'n cloi carbon, yn ymladd yn erbyn effeithiau newid hinsawdd ac yn cefnogi bywyd gwyllt.

Bydd gwirfoddolwyr a staff yn rhoi cyngor i'r cyhoedd pa un o'r rhywogaethau ar gael drwy'r cynllun sydd fwyaf addas ar gyfer eu llecyn, a sut i ofalu am eu coeden.
Bydd yr hwb ar agor i'r cyhoedd ar: Dydd Llun, Dydd Mercher a Dydd Gwener, 10-4, tan fis Mawrth.

Rhai o bobl yr ardal yn nôl eu coed o swyddfa'r Dref Werdd

 Meddai’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters: 

"Lle fyddai ein hadar, ein pryfed a’n hanifeiliaid heb goed..? Lle fydden ni hebddyn nhw? Trwy dyfu coeden brydferth yn eich gardd gefn eich hun, gallwch gychwyn eich cyfraniad a helpu i greu Cymru iach a hapus i ni a chenedlaethau'r dyfodol."

Er mwyn dod yn Gymru Sero Net erbyn 2050, yn ôl arbenigwyr, mae'n rhaid i Gymru blannu 86 miliwn o goed dros y degawd nesaf. 


Bydd coed yn cael eu rhannu ar sail y cyntaf i'r felin a dylai pobl wirio bod coed ar gael cyn teithio i’w nôl. Cysylltwch â'r Dref Werdd am fwy o wybodaeth.

 

 

- - - - - - - -

Addaswyd o erthygl a ymddangosodd yn rhifyn Rhagfyr 2022


27.4.20

GWARCHOD CYNEFIN TRWY GYNNAL CYMUNED

Addasiad o erthygl a ymddangosodd yn rhifyn Mawrth 2020, cyn cyfyngiadau’r Gofid.

Mae ein gwaith i amddiffyn cynefinoedd rhag rhywogaethau ymledol yn parhau: hyd yn hyn, rydym wedi trin llysiau’r dial ar afonydd Barlwyd, Bowydd a Dubach, yn ogystal â thrin a gwaredu sawl acer o rododendron. 

Fodd bynnag, dim ond un agwedd ar ein hymdrechion i amddiffyn ac adfer cynefinoedd yw hyn. 

Cawsom ddiwrnodau o blannu coed gyda gwirfoddolwyr a grŵp o blant ysgol leol; sbardunodd hyn drafodaeth ddiddorol ynghylch pam mae coed mor bwysig i ni, gydag un person ifanc yn mynegi diddordeb mewn sut y gallai fynd ati i gyfrifo ei ôl troed carbon, a faint o goed y byddai ‘n gorfod plannu i'w wrthbwyso! 
 
Meddai Meg Thorman, Gweithiwr Prosiect Amgylcheddol Y Dref Werdd
 “Gobeithiwn, trwy blannu mwy o goed, y gallwn wella bioamrywiaeth a brwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd, ond hefyd datblygu coedlannau a pherllannau sydd er budd a lles y gymuned.   Mae addysg a phrofiadau awyr agored yn hynod o bwysig i ni gyd - mae sawl un sydd wedi ymuno â ni ar ein diwrnodau plannu coed, garddio, gwaith Rhododendron ayyb, wedi mynegi eu bod yn teimlo cymaint yn well ar ôl gwneud, yn feddyliol ac yn gorfforol.  Os oes yna rhywle y credwch y gellid ei wella trwy blannu coed, neu greu gardd bywyd gwyllt, neu rywbeth i wella’r amgylchedd, yna rydym yn awyddus i gydweithio!” 


Mae ymwybyddiaeth o amddiffyn ein hamgylchedd yn amlwg yn cynyddu; un peth sy'n amlwg iawn yw'r ymateb i broblem sbwriel yn ein cymuned. Ers Gorffennaf 2019, mae dros 130 o wirfoddolwyr wedi cymryd rhan mewn dyddiau casglu sbwriel, o blant ysgol i unigolion ymroddedig yn clirio milltiroedd o strydoedd, ochrau ffyrdd a pharciau ar eu pennau eu hunain neu fel rhan o sesiynau cymunedol.

Mae grŵp o wirfoddolwyr wedi sefydlu 'Balchder Bro' - i rannu a hyrwyddo'r gwaith cynyddol a wneir gan wirfoddolwyr i waredu ein Bro o sbwriel.

Mae’r Dref Werdd bellach yn ganolfan ‘Cadwch Gymru’n Daclus’, a gall unrhyw un alw heibio i fenthyg teclyn codi sbwriel a bagiau ar unrhyw adeg.   Byddwn hefyd yn trefnu digwyddiadau cymunedol fel rhan o ddigwyddiad cenedlaethol gan Cadw Cymru’n Daclus –chwiliwch  am fanylion, ar ôl i’r cyfyngiadau gael eu codi, ac ymunwch â ni i gyfleu'r neges nad yw sbwriel yn dderbyniol.  

MENTER NEWYDD I STRYD FAWR Y BLAENAU!

Gyda prosiectau Y Dref Werdd yn byrlymu yn ei blaen drwy gefnogaeth Cronfa Cymunedol Y Loteri Fawr - prosiectau sydd yn cefnogi pobl o fewn ein cymuned a gwella a goruchwylio ein hamgylchfyd leol - mae’r Dref Werdd ar fin cychwyn menter gwbl newydd yn yr wythnosau nesaf, sef agor siop ar stryd fawr Blaenau!

Gyda chefnogaeth gan Arloesi Gwynedd Wledig, Tesco, y Co-op a chronfa Arian i Bawb Y Loteri Fawr, byddwn yn agor drysau ein siop ddiwastraff ar stryd fawr y dref. Siop fydd hon fydd nid yn unig yn defnyddio cyn lleied o blastigion a phosib, ond siop fydd yn gwerthu cynnyrch a nwyddau gallwch eu prynu yn ôl y pwysau, neu yn y cyfanswm sydd angen. Bydd hyn yn ei dro yn debyg o chwarae ei ran yn lleihau gwastraff sydd yn cael ei daflu allan gan deuluoedd ac unigolion.

Meddai Gwydion ap Wynn, Rheolwr Prosiect Y Dref Werdd,
“Mae’n debyg fod llawer iawn yn cofio'r Siop Werdd oedd ar y stryd fawr rai blynyddoedd yn ôl,  bydd ein siop ni yn debyg iawn i honno. Er enghraifft, os ydych yn byw ar ben eich hun a ddim angen cymaint â hynny o neges, gallwch brynu faint bynnag yr hoffech: digon o basta i un pryd o fwyd; digon o fagiau te am yr wythnos yn unig; neu hyd yn oed hanner torth o fara!”
Mae’r fenter yn un gwbl newydd i'r Dref Werdd a bydd sefydlu’r siop ar stryd fawr y Blaenau yn chwarae ei ran yn ein nod i sefydlu mentrau i sicrhau cynaladwyedd y gwaith at y dyfodol drwy gynhyrchu incwm i’r prosiect, ond hefyd drwy greu swyddi lleol a chwarae ei ran gyda’r economi leol ac adfywiad y stryd fawr.

Mwy o newyddion i ddilyn -eto, wrth i’r cyfyngiadau lacio...

Os hoffech wybod mwy am unrhyw un o’r uchod, mae croeso i chi gysylltu gyda’r Dref Werdd unrhyw dro drwy ffonio 01766 830 082, gyrru e-bost at ymholiadau@drefwerdd.cymru 

17.6.18

Y Dref Werdd yn Hau Hadau'r Dyfodol

Mae’r Dref Werdd wedi bod yn chwysu chwartia dros y dair blynedd diwethaf yn datblygu mannau gwyrdd ar draws Bro Ffestiniog ac yn ddiweddar maent wedi ymestyn eu gwreiddiau i Ysgol Manod.

Llun- Y Dref Werdd

Gyda chymorth Cyngor Tref Ffestiniog a Pharc Cenedlaethol Eryri, aethwyd ymlaen i blannu coed ffrwythau brodorol ar gae chwarae’r ysgol gyda phlant blwyddyn 3 a 4 ar fore gwlyb yn mis Mawrth.
Fe ddefnyddiwyd ffrwythau Cymreig ar y diwrnod i godi ymwybyddiaeth am y diffyg coed brodorol sydd o’n cwmpas ym Mlaenau Ffestiniog.

A wyddoch chi fod Blaenau Ffestiniog yn un o drefi Cymru sydd a’r dwysedd lleiaf o goed yn ôl Coed Cadw?

Llun -Paul W
I adfer hyn mae’r Dref Werdd am ddechrau ymgyrch i blannu gymaint o goed brodorol ac sydd bosib o fewn ein hardal. Mae ystadegau’n dangos fod niferoedd uwch o goed yn gwella’r amgylchedd leol yn ecolegol gan gynnwys iechyd meddwl a llesiant cymunedol.

A fuasech yn gefnogol o brosiect fel hyn? Oes gennych awgrymiadau am lefydd yn ein hardal gallwn wella gyda choed?

Mae’r Dref Werdd yn gwahodd syniadau newydd i helpu ddylunio cynllun allwn ni weithredu yn effeithiol. Gallwch gysylltu â’r Dref Werdd drwy ffonio 01766 830 082 neu e-bostio ymholiadau@drefwerdd.cymru
---------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill 2018.
Dilynwch hynt a helynt Y Dref Werdd efo'r ddolen isod.
 

11.5.17

Yr Ysgwrn -Paratoi i ail agor

Newyddion o gartref Hedd Wyn

Gyda blwyddyn y canmlwyddiant wedi cyrraedd, rydym yn edrych ymlaen i groesawu ffrindiau hen a newydd i’r Ysgwrn unwaith eto.

Wedi misoedd o chwysu, crafu pen a bwrw iddi mae’r gwaith mwyaf wedi ei gwblhau a’r hen dŷ bron yn barod i dderbyn y dodrefn teuluol a’r Gadair Ddu yn ôl i’w gôl. Bu’r adeiladwyr wrthi’n ddiwyd dros y misoedd diwethaf yn gwarchod gwead y tŷ, gwella’r adeiladau a chodi waliau cerrig traddodiadol.

Mae’r maes parcio newydd bellach wedi ei orffen, a phlant Ysgol Bro Hedd Wyn wedi bod wrthi’n brysur yn plannu coed i’w harddu. Cafodd yr hen ffordd i fyny at y tŷ dipyn o ofal hefyd, ac mae bellach yn addas ar gyfer pob math o gerbydau a bysiau – a fydd dim rhaid agor yr un giat hyd yn oed!

Rhai o blant Ysgol Bro Hedd Wyn yn plannu coed yn y maes parcio newydd

Ond y Beudy Llwyd sydd wedi gweld y newid mwyaf. Tra bo’r hen adeilad yn edrych fel beudy o’r tu allan o hyd, yma bellach y byddwch yn medru prynu eich tocyn i’r tŷ, treulio orig yn yr arddangosfa neu flasu paned a chacen leol tra’n edmygu’r olygfa. 

Wedi tipyn o waith twtio a chymoni, byddwn yn ail agor y drysau yn fuan iawn, gyda mawr ddiolch am yr holl gefnogaeth a chymorth rydym ni wedi ei dderbyn ar hyd y daith.

Bydd Yr Ysgwrn ar agor i ymwelwyr o ddydd Mawrth i ddydd Sul fel arfer, ond am ragor o wybodaeth, neu i archebu ymweliad grŵp ffoniwch Sian neu Jess ar 01766 770 274.

Apêl planhigion

Mi fu'r Ysgwrn yn apelio yn ddiweddar am blanhigion sbar o erddi ein cefnogwyr. Roeddem am blannu pethau fel coed cyrins duon a chochion, riwbob, gwsberis a'r wermod lwyd, ffiwsia, llygad llo mawr, ac ati.

Bu criw Y Dref Werdd acw i blannu gerddi’r Ysgwrn dros y Pasg, ac mae'r hanes yn rhifyn Mai Llafar Bro.
---------------------------------------

Addaswyd o erthygl a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill.
Dilynwch hanesion Yr Ysgwrn efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

20.7.16

Ein Hamgylchedd

Erthygl o rifyn Mehefin 2016, gan Mari Williams, blwyddyn 5, Ysgol Maenofferen.

Yr amgylchedd ym Mlaenau Ffestiniog
Ein thema eleni oedd ‘Pa mor wyrdd yw Blaenau?’.  Buom  am dro rownd y stryd i ofyn wrth bobl am eu barn nhw am Flaenau Ffestiniog wrth lenwi holiadur gyda Miss Trappe.  Roedd yn amlwg fod llawer iawn yn ailgylchu yn ddyddiol.

Cawsom bleser o gael ymweliad i'r ysgol gan y Dref Werdd i helpu ni i ateb ychydig o gwestiynau oedd gennym wedi eu paratoi. Fe atebodd Gwydion lawer o gwestiynau am pa mor wyrdd yw Blaenau Ffestiniog.
_____________________________________________________________________________
Y Blaenau yw un o’r trefi hefo lleiaf o goed yng Nghymru - allan o 220 o drefi! 
_____________________________________________________________________________

Mae yna broblem hefo’r  Rhododendron a’r clymlys Siapan (Japanese knotweed) gan eu bod yn tyfu ym mhob man.

Mae rhai pobl yn y gawod am tua 10-30 munud, ond nododd Gwydion y gall teulu o bedwar arbed £400 y flwyddyn, a’r unig beth fyddai raid ei wneud ydi treulio dim ond 4 munud i mewn ynddi.

Mae pobl leol yn garedig ac yn gwella iechyd yn yr afonydd drwy gasglu sbwriel.  Dywedodd Gwydion fod y Dref Werdd wedi caslgu 5 sgip yn llawn o sbwriel mewn dau ddiwrnod o lanhau afonydd. Mae hynny tua 30 tunnell! Mae angen cadw’r afonydd lleol yn lân e.e Afon Bowydd, neu bydd y llygredd yn mynd i’r môr ac yn achosi mwy o broblemau i’n natur.

Llanast yn Afon Bowydd. Llun Paul W
Mae 2,600 o dai yn y fro, felly mae’n anodd  iawn cael pawb i fod yn wyrdd! Ond mae llawer o bethau yn helpu e.e. mynd â phethau i’r Ganolfan Ailgylchu a cherdded yn lle mynd mewn car o hyd. 

Yn y parc, sylwais fod sbwriel plant a phobl ar y llawr ac yn y gwrychoedd. Nid yw hyn yn deg i rai sydd eisiau chwarae yn ddiogel. Hefyd roedd yna ganiau cwrw ar hyd y gwrychoedd tu allan i Westy Tŷ Gorsaf. Mae llawer o finiau yno, ond ddim yn cael eu defnyddio! 

Yn fy marn i, dylai pawb ailgylchu a pheidio taflu sbwriel ar y llawr. Credaf y dylai pobl edrych ar ôl ein hamgylchedd drwy ailgylchu dillad yn y banc priodol neu roi hen ddodrefn yn y Ganolfan Ailgylchu yn lle eu taflu nhw wrth y rheilffyrdd neu yn ein gerddi. Dydy hyn ddim yn neis i ni na’r bobl sy’n dod i'r Blaenau ar wyliau.

Yn fy marn i, mae Blaenau Ffestiniog yn dref ‘werdd’, ydy, ond mae lle i wella – yn arbennig yn y parc ac wrth ymyl Siopau fel Eurospar a’r Co-op - lle mae pobl yn prynu bwyd ac yn taflu llawer o’u sbwriel ar y llawr.
-------------------------------------

Braf ydy cael croesawu erthygl gan un mor ifanc – diolch o galon i Mari am fynegi ei barn mor loyw. Dal ati Mari!

4.4.16

Gwynfyd -y goedwig yn deffro

Erthygl arall o'r gyfres am fywyd gwyllt a chrwydro'r fro.

Mae’n rhyfeddol ‘tydi sut mae swn coedwig yn medru newid o fewn ychydig wythnosau. Heb imi fynd yn rhy ddiflas a chanu tiwn gron bob blwyddyn tua’r adeg yma, mi ddywedai o ar ddechrau’r tipyn colofn ‘ma: ydi, mae’r gwanwyn ar gyrraedd ac mae’r ddaear yn brysur ddeffro. Dyna fo, mi ‘dwi’n ddyn hapusach rwan i mi gael dweud fy nweud!

Tua diwedd Ionawr mi oeddwn i yn rhyfeddu pa mor ddistaw oedd coedwig Rallt Glan Wiliam ym Maentwrog ‘ma. Am yn hir iawn doedd dim smic i’w glywed o’r canghennau, na robin na dryw yn trydar ar lawr.

Ymhellach draw yn y tyfiant, cyffro o’r diwedd; cyffylog yn neidio i’r awyr mewn braw ac ar yr un pryd yn rhoi braw i mi wrth iddo hedfan i’r pellter yn igam-ogamu rhwng y bonion. Mae ei liw yn golygu mai golygfeydd byr a chyflym fel hyn a geir gan amla’, gan ei fod yn anodd ei weld ymysg y dail crîn, ac mae’n aros yn llonydd hollol nes yr eiliad olaf, (yn arbennig mewn cyfnod oer fel a gafwyd eleni, er mwyn arbed egni).

Bum munud wedyn, wrth eistedd am eiliad ddiog, daeth swn o’r tu ôl i mi, tu hwnt i wal gerrig bylchog. Swniai yn debyg i fyddin fechan yn gorymdeithio trwy’r dail sych, ond doedd dim golwg o enaid byw na dafad yn unman, felly dyma fentro taro ‘mhen dros y wal am fysnês. Haid o adar oedd yno, yn synhwyro am bryfetach dan y dail â’u pigau, ac yn eu troi fesul un gan wneud cryn dwrw ar y cyd. Coch dan adain oedd y rhain -tua deugain ohonynt gydag ambell geiliog mwyalchen yn gwledda ochr yn ochr â nhw.

Llun coch dan adain, gan Andreas Trepte CC BY-SA 2.5. Defnyddir dan drwydded Comin Wicimedia.

Tua’r un maint a’r fronfraith yw’r coch dan adain, gyda cheseiliau coch yn rhoi iddynt eu henw, ag aeliau gwyn yn eu gwahaniaethu; ymwelwyr ydynt i Gymru dros y gaeaf, ac mae nhw eisioes yn llai niferus wrth iddynt ddychwelyd i’r cyfandir i fagu.

Erbyn Dydd Gwyl Dewi, ‘roedd coedwigoedd y fro fel byd gwahanol. Mae ceiliogod sawl rhywogaeth bellach yn hawlio eu clwt o dir yn swnllyd, er byddai yn decach disgrifio rhai fel peraidd, yn arbennig y fronfraith gyda’i amrywiaeth wych o nodau.

Mae’r titw mawr yn hawdd i’w adnabod pan yn ailadrodd ei enw: ‘ti-tw ti-tw ti-tw’ ond gall hefyd ddrysu gyda sawl cân a galwad gwahanol. Ni fydd yn hir nes fydd mwy o gantorion yn cyrraedd o’r Affrig i hawlio eu lle yn ein milltir sgwar ni, ac mae’r cyfnod yma yn un cyffrous ym myd natur, felly allan a ni i’w fwynhau!

cyffylog - woodcock
coch dan adain - redwing
bronfraith - song thrush
titw mawr - great tit
 -------------------------------------------------------


Addaswyd o erthygl gan Paul Williams, a ymddangosodd yn rhifyn Mawrth 1997.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.




29.10.15

Gwynfyd -natur yr hydref

Erthygl arall o'r gyfres am fywyd gwyllt a chrwydro'r fro.
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 1997, yr olaf yn y gyfres.

Fel fi dwi'n siwr fod llawer wedi mwynhau cacen blât fwyar duon bellach, a dwi wedi bod yn ddigon lwcus i dderbyn pot o jam eirin duon bach blasus iawn eto eleni, yn ogystal â madarch gwyllt o Gwm Prysor.

Gall hyn ond golygu un peth wrth gwrs, - ydi, mae'r haf drosodd!

Mae'r dail eisioes wedi dechrau cochi ar goed castanwydd y meirch Bronturnor (Maentwrog) a chyn hir mi fydd y coed i gyd yn crino hefyd. Siomedig y bu hi am löynod byw acw yr haf yma, ac oni bai am yr ychydig ddyddiau cynnes a gafwyd ym mis Medi, mi fyddai wedi bod yn ddigalon iawn.

Ar ddydd Sul, y 7fed o Fedi cododd yr haul i ddenu ieir bach yr haf allan o'r diwedd ac 'roedd degau yn torheulo ar gerrig wal y tŷ ac yn bwydo ar flodau piws y buddleia. Roedd dau was neidr gwahanol, y picellwr cyffredin a'r gwesyn glas hefyd yn hedfan yn ôl-a-'mlaen yn awdurdodol a gorffwys o bryd i'w gilydd ar y twmpath coed tân.

Ar dalcen y stryd mae pwt o ardd ac ar bob pen iddo y p'nawn bwnnw oedd robin goch, y ddau am y gorau yn canu i'r byd a'r betws. Waeth be ddywedith neb am rinweddau adar yr haf, mae'r hen robin efo ni drwy'r gaeaf, yn aml yn canu yn yr hwyr a ben bore. Hefyd yn yr ardd, yn ddyddiol mae'r fwyalchen, sy’n manteisio ar ffrwythau'r perthi. Yma mae'r ddraenen wen, ysgawen a cotoneaster yn drwm o aeron yn ogystal â'r eirin duon a'r mwyar, i gyd o fewn llatheni i'w gilydd.

Ac mae'r titws bellach wedi dechrau dod yn rheolaidd i weld os oes cnau neu friwsion wedi eu rhoi a11an iddyn nhw. Mae'r eiddew yn blodeuo ar byn o bryd hefyd ac yn ffynhonnell bwysig o fwyd i gannoedd o wenyn, cacwn a phryfetach eraill. Yn eu tro, mi fydd y blodau rhyfedd yma yn troi yn aeron du a fydd yn fwyd nes ymlaen i sawl aderyn.

Rhywbeth arall dynnodd fy sylw oedd y lindys a welir yn y llun.

Lindys gwalchwyfyn yr helyglys ydyw, creadur digon dychrynllyd, tua 3 modfedd o hyd ac arno 2 bar o lygaid ffug sy' n chwyddo pan mae dan fygythiad er mwyn dychryn darpar fwytwyr!

Mae ar y lindys hefyd bigyn miniog ar ei ben ôl sydd yn nodweddiadol o'r teulu yma.

Croesi llwybr oedd y lindys oddi wrth yr helyglys y bu’n fwyta, mwy na thebyg er mwyn paratoi am ei drawsnewidiad i chwiler. Mae'r gwyfyn hyfryd pinc a gwyrdd yma i'w weld yn yr haf yn bwydo ar flodau gwyddfid tra ar yr adain. [Llun mewn erthygl o fis Awst]

---------------------------------------------
 Lluniau PW.
Awdur cyfres Gwynfyd oedd Paul Williams. Dilynwch y gyfres gyda'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.