Showing posts with label eirin. Show all posts
Showing posts with label eirin. Show all posts

27.12.17

Stolpia -crwydro

Pennod o gyfres 'Hynt a Helynt Hogiau’r Rhiw yn y 50au' gan Steffan ab Owain.

Y tro hwn rwyf am ddweud gair neu ddau am ein crwydradau draw tros yr hen Dwnnel Bach i lawr i Gelli Wiog, Rhoslyn a Stesion y Dduallt. Credaf mai’r tro cyntaf imi anturio mor bell gyda’r hogiau oedd dan arweiniad Raymond Cooke Thomas, brawd  Brenda, Donald ac Arthur (Nash), wrth gwrs.

Ar wahân i Rem a Nash, a finnau, ni fedraf gofio pwy oedd gweddill y criw, efallai bod Io-Io, Ken Robs a Dei Clack efo ni. Beth bynnag, cofiaf i ni fynd cyn belled â Rhoslyn a hel eirin oddi ar y coed, bwyta rhai ohonynt, ac yna llenwi ein pocedi yn dynn efo nhw nes yr oedd y rheini yn diferu o sudd ac yn rhedeg i lawr ein coesau o’r trowsusau bach. 

Rhoslyn ar ddiwrnod cyntaf Rhagfyr 2017. Llun -Paul W
Cofier, nid oedd neb yn byw yn Rhoslyn y pryd hynny, er bod rhai o bobl yn lein fach yn galw yno weithiau. Cofiaf rhai yn dweud bod y llyn yn y corstir gerllaw yn ddiwaelod a bod nadroedd hwnt ac yma yn y tyfiant o’i amgylch. Yn ddiau, roedd yn un ffordd i gadw’r hogiau rhag nofio ynddo, neu suddo yn y gors.

Ar ein ffordd adre’ roedd  yn rhaid  galw heibio tŷ Gelli Wiog a helpu ein hunain i’r gellyg (pears) oddi ar y goeden a fyddai yn y pwt  o ardd a oedd yno. Ond, o beth gofiaf roeddynt yn rhy galed i’w bwyta, ac felly, eu taflu at ein gilydd a wnaesom wrth ymlwybro i fyny hen wely’r lein.

Gelli Wiog, 1af Rhagfyr 2017. Llun Paul W
Nid oedd neb yn byw yn y tŷ hwn erbyn canol yr 1950au, chwaith. Gyda llaw, clywais y ddiweddar Mrs Nancy Burrows yn dweud blynyddoedd yn ddiweddarach, bod George Blake, yr ysbïwr, wedi bod yn aros yno am sbelau rhywdro yn ystod y pumdegau cynnar.

A dod yn ôl rŵan at yr anturiaeth gyntaf  honno, cyrhaeddais adref yn hwyr oddeutu 9 o’r gloch neu ychydig hwyrach, a finnau i fod adref yn y tŷ erbyn  tua 7.30, ac felly, cefais gerydd iawn gan mam a oedd wedi bod yn poeni yn fy nghylch, ac yn meddwl, lle ar y ddaear yr oeddwn, wrth gwrs. O ganlyniad cefais fy hel i’r gwely heb swper. Ond, fel y roedd hi’n digwydd bod, roedd fy modryb Sally o Lundain wedi dod i aros efo ni ar wyliau, a darbwyllodd fy mam nad oeddwn ond hogyn bach heb glem faint o’r gloch oedd hi ar noson  mor braf, ac mi ges bardwn o fath, a rhywbeth bach i fwyta  wedi’r cwbl - ar wahân i’r eirin! 

Peth amser yn ddiweddarach, cofiaf fynd am sgowt efo rhai o’r hogiau un prynhawn braf ac anelu ein llwybr am Gelli Wiog a Rhoslyn ond y tro hwnnw penderfynasom alw heibio Llwyn Ithel, y byngalo a godwyd gan Cadwaladr Roberts, Buarth Melyn gerllaw yr hen waith mein a Glanrafonddu, er mwyn chwilio am nythod neu rywbeth.

Llwyn Ithel. Llun o gasgliad Steffan.
Beth bynnag, pan gyrhaeddsom y Llwyn Ithel, clywyd lleisiau, a dyma ni ar ein boliau fel yr Indiaid Cochion yn y ffilmiau cowboys i sbïo pwy oedd yno, ac yn wir ichi, pwy bynnag oedd y bobl hyn, nid oedd gan yr un ohonynt gerpyn amdano. Roeddynt yn rhedeg o gylch y lle yn hollol noeth, ac wrth gwrs, i ni’r hogiau roedd y sefyllfa yn un hynod ddigri a chwerthin am eu pennau a wnaesom. Beth bynnag, y mae’n rhaid eu bod wedi ein clywed a bloeddiwyd arnom i oleuo oddi yno, neu o leiaf, dyna  a gredasom a ddywedwyd yn yr iaith fain.

Deuthum i wybod rhai blynyddoedd yn ddiweddarach bod yr arlunydd Augustus John wedi bod  yn aros yn Llwyn Ithel yn nechrau’r ugeinfed ganrif ac y mae’n debyg iawn bod y lle yn atyniad i griwiau Bohemaidd eu natur.
----------------------------------------

Ymddangosodd yn rhifyn Tachwedd 2017. 
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde. (Rhaid dewis 'web view' os yn darllen ar y ffôn.)


24.9.16

Gwynfyd -O na fyddai’n haf o gwbl

Ymddangosodd cyfres 'Gwynfyd' am dair, bedair blynedd yn y nawdegau, yn trafod bywyd gwyllt a llwybrau troed ein bro. Dyma ddarn a ymddangosodd yn rhifyn Medi 1998, yn cwyno am haf sâl arall!

O’r diwedd daeth ychydig o welliant yn y tywydd yn ystod Awst, er i’r mis hafaidd hwnnw hefyd gyflwyno ambell ddiwrnod i’n synnu.  Mi fu’n haf difrifol i wylio gloynod byw er enghraifft.  Felly hefyd pryfetach ar y cyfan.  Mae tri chwarter y coed eirin damson ger dalcen y tŷ ‘cw wedi methu dod a ffrwyth eleni, a hynny mae’n debyg oherwydd cyfnod gwlyb yn y gwanwyn pan oedd yn blodeuo, a’r pryfed a gwenyn sy’n arfer peillio wedi methu hedfan dros rhai o fisoedd gwlypaf yr ardal ers dechrau cofnodi’r tywydd.

Llun Paul W
Bu’n haf difrifol am ladd gwair hefyd, ac er mai silwair ydi rhan fwyaf y cnwd bellach, mantais y toriad hwyr ar ffermydd lle maent yn dal i gynaeafu gwair oedd rhoi cyfle i’r blodau ymysg y glaswellt i flodeuo’n llawn a rhoi sioe liwgar hen ffasiwn.  Ers 1945 collwyd 95% o weirgloddiau a dolydd blodeuog Prydain gan eu troi yn gaeau unffurf-unlliw gwyrdd, wedi eu haredig a’u hadu efo gweiriau amaethyddol a meillion gwyn, a’u gwrteithio yn ddwys nes colli’r amrywiaeth liwgar oedd wedi bodoli ers canrifoedd.  Collwyd eraill trwy adeiladu arnynt ond mae ambell lecyn a thalar sy’n werth eu gweld o hyd.

Ar un o’r ychydig ddyddiau braf aethom fel teulu bach am dro o Dyddyn Gwyn i lawr y llwybr rhwng terfyn y Neuadd Ddu a’r lein.  Roedd ymylon y llwybr yn gyfoeth o liw gyda blodau gwyllt diwedd Gorffennaf, gan gynnwys blodau sy’n tyfu dim ond ar hen groen, lle na fu gwrteithio nag aredig ers degawdau, fel pys y ceirw a’r pengaled, ac roedd ceiliog tingoch yn hedfan igam ogam o’n blaenau o gangen i gangen gan chwibanu.

Llun Paul W
Cyn cyrraedd gwaelod y llwybr troesom i fyny ac o dan y lein tuag at Benygwndwn.  Rhwng y lein a’r stâd tai yma mae safle y byddai rhai yn ei ddisgrifio fel tir diffaith, ond mewn gwirionedd roedd yn le bendigedig gyda gloynod byw fel y gwibiwr bach, gwrmyn y ddôl a iâr fach y glaw yn hedfan ymysg y grug.

Wrth gerdded ar hyd lwybr trol yr hen waith sets roedd yn bosib gweld blodau gwyllt amrywiol a chlywed grwndi parhaus ceiliog y rhedyn a chân cynhyrfus y dryw bach, sydd bob tro yn synnu gyda’r fath swn yn dod o aderyn mor eiddil.

Cerdded wedyn ar draws y cae y buom ni hogia Heol Jones, Dorfil a Fron Fawr, yn cerdded iddo ar hyd y lein i chwarae peldroed yn erbyn hogia’r Manod ‘stalwm, - ac oddi yno heibio clawdd isa’ mynwent Bethesda ac yn ôl i fyny’r Ffordd Goed wedi mwynhau ychydig o haul a gyda boddhad mawr o ail-ddarganfod safle natur hyfryd, reit ar gyrion y dre.

Darn o wynfyd mewn ffaith.
---------------------------------------------


Awdur cyfres Gwynfyd oedd Paul Williams. Dilynwch y gyfres gyda'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

29.10.15

Gwynfyd -natur yr hydref

Erthygl arall o'r gyfres am fywyd gwyllt a chrwydro'r fro.
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 1997, yr olaf yn y gyfres.

Fel fi dwi'n siwr fod llawer wedi mwynhau cacen blât fwyar duon bellach, a dwi wedi bod yn ddigon lwcus i dderbyn pot o jam eirin duon bach blasus iawn eto eleni, yn ogystal â madarch gwyllt o Gwm Prysor.

Gall hyn ond golygu un peth wrth gwrs, - ydi, mae'r haf drosodd!

Mae'r dail eisioes wedi dechrau cochi ar goed castanwydd y meirch Bronturnor (Maentwrog) a chyn hir mi fydd y coed i gyd yn crino hefyd. Siomedig y bu hi am löynod byw acw yr haf yma, ac oni bai am yr ychydig ddyddiau cynnes a gafwyd ym mis Medi, mi fyddai wedi bod yn ddigalon iawn.

Ar ddydd Sul, y 7fed o Fedi cododd yr haul i ddenu ieir bach yr haf allan o'r diwedd ac 'roedd degau yn torheulo ar gerrig wal y tŷ ac yn bwydo ar flodau piws y buddleia. Roedd dau was neidr gwahanol, y picellwr cyffredin a'r gwesyn glas hefyd yn hedfan yn ôl-a-'mlaen yn awdurdodol a gorffwys o bryd i'w gilydd ar y twmpath coed tân.

Ar dalcen y stryd mae pwt o ardd ac ar bob pen iddo y p'nawn bwnnw oedd robin goch, y ddau am y gorau yn canu i'r byd a'r betws. Waeth be ddywedith neb am rinweddau adar yr haf, mae'r hen robin efo ni drwy'r gaeaf, yn aml yn canu yn yr hwyr a ben bore. Hefyd yn yr ardd, yn ddyddiol mae'r fwyalchen, sy’n manteisio ar ffrwythau'r perthi. Yma mae'r ddraenen wen, ysgawen a cotoneaster yn drwm o aeron yn ogystal â'r eirin duon a'r mwyar, i gyd o fewn llatheni i'w gilydd.

Ac mae'r titws bellach wedi dechrau dod yn rheolaidd i weld os oes cnau neu friwsion wedi eu rhoi a11an iddyn nhw. Mae'r eiddew yn blodeuo ar byn o bryd hefyd ac yn ffynhonnell bwysig o fwyd i gannoedd o wenyn, cacwn a phryfetach eraill. Yn eu tro, mi fydd y blodau rhyfedd yma yn troi yn aeron du a fydd yn fwyd nes ymlaen i sawl aderyn.

Rhywbeth arall dynnodd fy sylw oedd y lindys a welir yn y llun.

Lindys gwalchwyfyn yr helyglys ydyw, creadur digon dychrynllyd, tua 3 modfedd o hyd ac arno 2 bar o lygaid ffug sy' n chwyddo pan mae dan fygythiad er mwyn dychryn darpar fwytwyr!

Mae ar y lindys hefyd bigyn miniog ar ei ben ôl sydd yn nodweddiadol o'r teulu yma.

Croesi llwybr oedd y lindys oddi wrth yr helyglys y bu’n fwyta, mwy na thebyg er mwyn paratoi am ei drawsnewidiad i chwiler. Mae'r gwyfyn hyfryd pinc a gwyrdd yma i'w weld yn yr haf yn bwydo ar flodau gwyddfid tra ar yr adain. [Llun mewn erthygl o fis Awst]

---------------------------------------------
 Lluniau PW.
Awdur cyfres Gwynfyd oedd Paul Williams. Dilynwch y gyfres gyda'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.