Showing posts with label Colofn Bywyd Gwyllt. Show all posts
Showing posts with label Colofn Bywyd Gwyllt. Show all posts

22.11.16

Gwynfyd -ffordd Gellidywyll

Erthygl arall o'r gyfres am fywyd gwyllt a chrwydro'r fro.

Gwelais y wennol olaf ar y pumed o Hydref ar ffordd Gellidywyll. Yr oedd tua dwsin dal o gwmpas y diwrnod hwnnw ac ychydig ddyddiau ynghynt, ac mae'n debyg eu bod wedi cychwyn ar eu taith hir yn fuan wedyn.

Ar y daith fer rhwng y Bont Newydd a phont Tal y Bont 'roedd ambell i flodyn gwyllt yn amlwg o hyd, yn eu plith clust y llygoden, milddail, briwlys y gwrych, a'r tlysaf ohonynt, cloch yr eos, sydd yn blodeuo yn hwyr rhwng Gorffennaf a Hydref. Mae hwn yn blanhigyn eiddil efo dail ar ffurf calon wrth ei fôn, a nifer o flodau glas golau ar un goes.

Cloch y bugail yw'r enw safonol a geir yn llyfr newydd* yr Amgueddfa Genedlaethol: 'Enwau Cymraeg ar blanhigion' (1995), ond mae hefyd yn cydnabod y cyfoeth o enwau lleol ar flodau. Mae'r llyfr yn rhestru 11 enw am y blodyn arbennig yma -harebell yn Saesneg- gan gynnwys rhai hyfryd fel clychau tylwyth teg, clychlys crwnddail a croeso haf.

Afalau surion bach.
 Hefyd ar hyd y ffordd 'roedd y gwrychoedd yn doreth o ffrwythau'r hydref; drain duon yn drwm o eirin tagu, hefyd afalau surion ac aeron coch y ddraenen wen a'r criafol yn lliwio'r tirlun. 'Roedd y cnau cyll eisioes wedi diflanu, ond ar ran isa'r ffordd 'roedd carped o gnau castan a mes ar lawr. Mae eleni yn flwyddyn aruthrol i ffrwyth y dderwen, a dylai fod bwyd digonol i'r wiwer lwyd a sgrech y coed dros y gaeaf. Maent yn cuddio mes trwy eu claddu, ac mae rhai yn blaguro ac yn datblygu yn goed ifanc os cant lonydd rhag pori.

Criafol
Cynefin y goedwig dderw yw un o'r pwysicaf  yng Nghymru i fywyd gwyllt gan eu bod yn gartref i gannoedd o fathau o bryfed, adar ac anifeiliaid, ac mae nifer o ardaloedd dan warchodaeth yn y fro, fel Ceunant Llennyrch, Coed Camlyn a Choed y Rhygen, fel Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol.

Ystyrir ceunentydd cul a serth yr ardal hefyd yn bwysig drwy Ewrop gyfan am eu mwsoglau, cennau a rhedynnau, gyda nifer o rai prin i'w gweld.
-------------------------------------------------

* 1995 Dafydd Davies, Arthur Jones. Disodlwyd gan gyfrol 2 Cyfres Enwau
Creaduriaid a Phlanhigion, Cymdeithas Edward Llwyd: Planhigion
Blodeuol, Conwydd a Rhedyn (2003)

Erthygl gan Paul Williams, a ymddangosodd yn rhifyn Tachwedd 1995. Lluniau PW.

Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

24.9.16

Gwynfyd -O na fyddai’n haf o gwbl

Ymddangosodd cyfres 'Gwynfyd' am dair, bedair blynedd yn y nawdegau, yn trafod bywyd gwyllt a llwybrau troed ein bro. Dyma ddarn a ymddangosodd yn rhifyn Medi 1998, yn cwyno am haf sâl arall!

O’r diwedd daeth ychydig o welliant yn y tywydd yn ystod Awst, er i’r mis hafaidd hwnnw hefyd gyflwyno ambell ddiwrnod i’n synnu.  Mi fu’n haf difrifol i wylio gloynod byw er enghraifft.  Felly hefyd pryfetach ar y cyfan.  Mae tri chwarter y coed eirin damson ger dalcen y tŷ ‘cw wedi methu dod a ffrwyth eleni, a hynny mae’n debyg oherwydd cyfnod gwlyb yn y gwanwyn pan oedd yn blodeuo, a’r pryfed a gwenyn sy’n arfer peillio wedi methu hedfan dros rhai o fisoedd gwlypaf yr ardal ers dechrau cofnodi’r tywydd.

Llun Paul W
Bu’n haf difrifol am ladd gwair hefyd, ac er mai silwair ydi rhan fwyaf y cnwd bellach, mantais y toriad hwyr ar ffermydd lle maent yn dal i gynaeafu gwair oedd rhoi cyfle i’r blodau ymysg y glaswellt i flodeuo’n llawn a rhoi sioe liwgar hen ffasiwn.  Ers 1945 collwyd 95% o weirgloddiau a dolydd blodeuog Prydain gan eu troi yn gaeau unffurf-unlliw gwyrdd, wedi eu haredig a’u hadu efo gweiriau amaethyddol a meillion gwyn, a’u gwrteithio yn ddwys nes colli’r amrywiaeth liwgar oedd wedi bodoli ers canrifoedd.  Collwyd eraill trwy adeiladu arnynt ond mae ambell lecyn a thalar sy’n werth eu gweld o hyd.

Ar un o’r ychydig ddyddiau braf aethom fel teulu bach am dro o Dyddyn Gwyn i lawr y llwybr rhwng terfyn y Neuadd Ddu a’r lein.  Roedd ymylon y llwybr yn gyfoeth o liw gyda blodau gwyllt diwedd Gorffennaf, gan gynnwys blodau sy’n tyfu dim ond ar hen groen, lle na fu gwrteithio nag aredig ers degawdau, fel pys y ceirw a’r pengaled, ac roedd ceiliog tingoch yn hedfan igam ogam o’n blaenau o gangen i gangen gan chwibanu.

Llun Paul W
Cyn cyrraedd gwaelod y llwybr troesom i fyny ac o dan y lein tuag at Benygwndwn.  Rhwng y lein a’r stâd tai yma mae safle y byddai rhai yn ei ddisgrifio fel tir diffaith, ond mewn gwirionedd roedd yn le bendigedig gyda gloynod byw fel y gwibiwr bach, gwrmyn y ddôl a iâr fach y glaw yn hedfan ymysg y grug.

Wrth gerdded ar hyd lwybr trol yr hen waith sets roedd yn bosib gweld blodau gwyllt amrywiol a chlywed grwndi parhaus ceiliog y rhedyn a chân cynhyrfus y dryw bach, sydd bob tro yn synnu gyda’r fath swn yn dod o aderyn mor eiddil.

Cerdded wedyn ar draws y cae y buom ni hogia Heol Jones, Dorfil a Fron Fawr, yn cerdded iddo ar hyd y lein i chwarae peldroed yn erbyn hogia’r Manod ‘stalwm, - ac oddi yno heibio clawdd isa’ mynwent Bethesda ac yn ôl i fyny’r Ffordd Goed wedi mwynhau ychydig o haul a gyda boddhad mawr o ail-ddarganfod safle natur hyfryd, reit ar gyrion y dre.

Darn o wynfyd mewn ffaith.
---------------------------------------------


Awdur cyfres Gwynfyd oedd Paul Williams. Dilynwch y gyfres gyda'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

14.5.16

Trem yn ôl -Y Llwynog

Erthygl arall o lyfr 'Pigion Llafar 1975-1999'. Y tro hwn o gyfres 'Colofn Bywyd Gwyllt' Ken Daniels.

Y llwynog
 
Mae llawer o storïau wedi’u hadrodd sy’n sôn am gyfrwystra’r llwynog sy’n anodd iawn eu coelio. Mae’n rhaid bod llawer ohonynt yn wir neu buasai’r llwynog wedi diflannu fel y blaidd. Bu’n rhaid iddo newid ei ddull o fyw mewn llawer lle.

Ceir enghreifftiau ohono’n chwilio am fwyd yn agos i dai. Yn ystod gaeaf caled iawn rai blynyddoedd yn ôl diflannodd llawer o gathod o’r ardal yn y nos. Yn y bore dywedodd llawer o bobl wrthyf fod ôl traed llwynog yn yr eira yn eu gerddi. Mae’n debyg mai llwynog oedd wedi bwyta’r cathod oherwydd prinder bwyd. Dywedodd heliwr profiadol wrthyf hefyd iddo weld darnau o grwyn cathod mewn daear llwynog.

Mae bwyd y llwynog yn amrywio llawer, cwningod a llygod o bob math, ac yn yr haf bydd yn bwyta ffrwythau. Gwelais un oedd yn bwyta llus a oedd yn tyfu ar graig serth. Mae’n bwyta chwilod a malwod a bydd yn cipio ambell i oen pan fydd cenawon yn y ddaear. Ond mae gen i ofn fod y llwynog druan yn cael y bai am lawer drwg a wna’r brain tyddyn.

Bywyd digon unig mae’r hen lwynog yn ei hoffi. Ym mis Rhagfyr bydd yn paru ac ar noson leuad ddistaw clywir y ci llwynog yn cyfarth a’r llwynoges yn ei ateb gyda sgrech o’r ochr arall i’r cwm. Yn fuan ar ôl hyn bydd y pâr yn hela gyda’i gilydd.

Yn niwedd Mawrth neu ddechrau Ebrill bydd y llwynoges yn geni pedwar neu bump o genawon, yn aml mewn hen ddaear cwningod neu ryw dwll o dan graig. Yn syth ar ôl i’r cenawon ddechrau bwyta a mentro allan o’r ddaear bydd y teulu i gyd yn symud i gartref mwy diogel o dan feini mawr neu domen hen chwarel.

Dywedodd bugail wrthyf iddo ddod ar draws llwynoges gydag un ar ddeg o genawon, sy’n beth anghyffredin iawn. Ond beth oedd wedi digwydd oedd bod ffermwr wedi saethu llwynoges rhyw hanner milltir i ffwrdd ac roedd y llwynoges arall wedi cario’r cenawon fesul un yr holl ffordd at ei chenawon ei hunan.

Ym misoedd yr haf bydd y teulu yn chwalu a phawb yn mynd ei ffordd ei hun.
---------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 1983, ac yna yn llyfr Pigion Llafar a gyhoeddwyd i nodi'r milflwyddiant yn 2000. Bu yn rhifyn Mawrth 2016 hefyd, yn rhan o gyfres Trem yn ôl.