Showing posts with label gardd gymunedol. Show all posts
Showing posts with label gardd gymunedol. Show all posts

12.8.25

Tyfu Gyda’n Gilydd

Lle i Goed, Natur a Chymuned 

Darn a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2025 

Ar safle tawel ym Mro Ffestiniog mae rhywbeth arbennig yn tyfu - ac nid coed yn unig. Mae meithrinfa goed gymunedol, perllan aml-gnwd, a gardd fywyd gwyllt bach yn helpu’r gymuned i fynd i’r afael â heriau natur a hinsawdd mewn ffordd leol a chadarnhaol.

Cafodd y feithrinfa ei sefydlu’r gaeaf diwethaf ac erbyn hyn gallwn dyfu 1,500 o goed brodorol – llawer ohonynt o hadau a gasglwyd yn lleol gydag ysgolion a gwirfoddolwyr. Mae’r coed hyn wedi’u haddasu’n well i hinsawdd ac amodau'r ardal, ac maen nhw’n cefnogi’r amgylchedd lleol yn fwy effeithiol na choed a fewn-forwyd.  Bydd y coed yn cael eu plannu'n lleol, neu'n cael eu rhoi i unrhyw un sydd eisiau plannu coeden eu hunain.

Diolch i grant gan Bartneriaeth Natur Eryri, mae cynhwysydd cludo wedi’i drawsnewid yn ddiweddar yn sied botio ac yn lloches i staff a gwirfoddolwyr — gan ein galluogi i fod yn bresennol ar y safle drwy’r flwyddyn ac i gynnal gweithgareddau beth bynnag y tywydd.

Gerllaw mae perllan sy’n wahanol iawn i randir traddodiadol - dim rhesi taclus na lleiniau unigol yma. Yn hytrach, mae’r lle’n tyfu mewn ffordd anffurfiol ac adfywiol, gan gyfuno coed ffrwythau, perlysiau, ffrwythau meddal, llysiau lluosflwydd a phlanhigion a pherlysiau meddygol, mewn patrwm naturiol sy’n efelychu natur. Mae’n brosiect tymor hir, ond dros amser bydd y berllan yn dod yn fwy hunangynhaliol, gan gefnogi bioamrywiaeth a darparu bwyd, cysgod a harddwch i’r gymuned.

Mae’r ardal fywyd gwyllt sy’n cysylltu’r lleoedd hyn eisoes yn llawn adar, gwenyn, gloÿnnod byw, gweision neidr a llyffantod - yn fan lloches i natur ac yn le heddychlon i bobl ddod i fwynhau.   Mae’r ddôl flodau gwyllt ar ei gorau ym misoedd Mehefin a Gorffennaf, yn llawn blodau brodorol fel carpiog y gors, llygad llo mawr, crib y pannwr, milddail, cribell felen a llawer mwy.

Mae’r prosiect yn dangos sut gall cymunedau gymryd camau syml a chynaliadwy i adfer natur, diogelu rhywogaethau brodorol a byw mewn modd mwy ysgafn ar y tir.

Mae’r ardd wedi’i lleoli tu ôl i res Cambrian, Tanygrisiau, LL41 3RT, gyda ddigon o le i barcio os ydych chi'n teithio mewn car.  Mae ar agor trwy’r flwyddyn ac mae croeso i bawb — naill ai i gymryd rhan neu i fwynhau tawelwch.

Hoffech chi weld y feithrinfa? Byddem wrth ein bodd dangos y lle i chi– cysylltwch â ni!  meg@drefwerdd.cymru  01766 830 082


20.2.24

Y Dref Werdd- Gerddi Cymunedol

I’r rhai ohonoch sydd heb fod i erddi Maes y Plas, beth am fynd yno am dro? Gardd farchnad gymunedol yw hi yn y Manod, lle mae digon o fwrlwm i’w gael. Mae yna dwnnel polithîn a llawer o lysiau yn tyfu yno’n barod. Gan fod yr ardd yn fawr, mae'n brosiect ymarferol iawn. 


Os hoffech chi gymryd rhan yn y prosiect cyffrous hwn i ddysgu sgiliau garddio newydd, bod allan yn yr awyr iach, cadw’n heini, gwneud ffrindiau, neu os hoffech chi ddim ond gweld beth sy'n digwydd yna cysylltwch!

Rydym yn cynnal diwrnodau gwirfoddoli wythnosol ar ddydd Iau rhwng 10yb a 4yh i bobl sydd wir eisiau cymryd rhan.

Mae 'Safle Antur' yn werddon gudd ger Llechwedd, ar y ffordd allan (neu i fewn) i’r Blaenau. Roedd yn jyngl wedi gordyfu cyn i ni ymyrryd, yn llawn dop o rywogaethau anfrodorol ac ymledol fel Rhododendron ponticum, llysiau'r dial, a Buddleia


Mae'r safle hwn wedi cael llawer o sylw i’w chael i’r cyflwr y mae ynddi nawr. Yn wir, mae’r llecyn wedi troi yn fan cymunedol bendigedig mewn ardal goetir wedi'i hadfer. Er mwyn gwella bioamrywiaeth ar y safle ac annog mwy o fywyd gwyllt brodorol, rydym wedi creu cynefinoedd gwahanol megis pwll bywyd gwyllt, ac wedi plannu coed brodorol ychwanegol. 


I annog pobl i fynd allan i fyd natur rydym ni wedi creu llwybr natur ac adeiladu tŷ crwn hygyrch a ddefnyddir ar gyfer rhai o’n sesiynau lles a’n gweithgareddau gyda’r project ‘Dod Nôl at Dy Goed’.

Dyma rai lluniau 'cynt ac wedyn' i ddangos yn iawn faint o waith a wnaed ar y lleoliad yma! 

Dechreuwyd y syniad ar gyfer gardd gymunedol Hafan Deg ymhell yn ôl yn 2015.  Canfuwyd darn o dir segur a oedd wedi gordyfu ac yn denu sbwriel fel lleoliad a ellid ei droi yn fan gwyrdd cymunedol posibl. Gyda chefnogaeth ac anogaeth trigolion lleol a chymdeithasau tai, trawsnewidiwyd y llecyn i’r ardd fywiog a llwyddiannus y mae hi ar hyn o bryd. Yn allweddol i lwyddiant yr ardd yw'r gwirfoddolwyr lleol sy’n gofalu amdani ac yn tyfu’r bwyd yno. Mae sôn arbennig am Brian, prif arddwr wedi ymddeol. Mae'n treulio'r rhan fwyaf o'i amser yn plannu, chwynnu, tyfu eginblanhigion ac yn gyffredinol yn cadw llygad barcud ar y lle! Mae'n cael cefnogaeth gan Damian sy'n helpu gyda'r gwaith o dorri gwair a thocio. 

Mae trigolion y stad yn mwynhau dod at ei gilydd yn yr ardd, a phob hydref maent yn rhannu ffrwythau a llysiau’r cynhaeaf.
- - - - - - - - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2024


15.12.23

Gerddi Ar y Gorwel

Diweddariad Cynllun Skyline Ffestiniog

Prif amcan ein prosiect Skyline yw dod a bwyd, tanwydd a'r wybodaeth am gynnal ein hunain yn ôl i'r gymuned leol. Fel rhan o’r gwaith, mae cynllun i ddechrau gardd fasnachol gymunedol a fydd yn weithredol ac effeithiol. Mae’r cynllun hefyd yn gweithio i hybu bioamrywiaeth yn yr ardd, a chynnig cyfleoedd gwirfoddoli a dysgu. Wrth edrych ar ymchwil newydd a thynnu o hen draddodiad amaethyddol, mae nifer o brosesau diddorol ar y gweill yno.

Dechreuwyd y gwaith ym Manod bron i flwyddyn yn ôl, ac erbyn hyn mae'r safle wedi newid yn llwyr. O dir gwastraff i ardd brydferth, mae’r safle heddiw yn adlewyrchu gwaith caled Wil Gritten a’i dîm yno dros y misoedd diwethaf.

Mae’r gwaith adeiladu mawr wedi gorffen: Mae tŷ gwydr, cwt barbeciw, a phaneli solar wedi eu codi, yn ogystal â digon o welyau plannu. Mae’r twnnel polythen 5m x 20m wedi’i godi erbyn hyn hefyd, ac wedi cael ei lenwi gyda phridd. Er mwyn cynyddu'r tymor tyfu a pharatoi ar gyfer y gwanwyn, mae pibellau cynnes wedi’u pweru o dyrbin gwynt bach yn rhedeg drwyddo.

Mae dipyn o lysiau wedi eu tyfu’n llwyddiannus yn barod, gan gynnwys pwmpenni, brocoli, perlysiau, a llysiau dail gwyrdd, ond y cam nesaf yn y prosiect bydd dechrau tyfu llysiau a ffrwythau o ddifri. Mae’n amser agor y lle i’r cyhoedd! Y gobaith yw i’r ardd gael ei gweithredu gyda chymorth pobl leol, a fydd yna’n gallu manteisio ar y cynnyrch. Yn ogystal, bydd yn bosib hefyd gwerthu’r cynhyrchion i fusnesau a sefydliadau lleol er mwyn i’r ardd allu cynnal ei hun yn ariannol yn hirdymor. Yna, gall y prosiect ehangu’n ymhellach wrth i fwy a mwy o bobl ddysgu’r broses o dyfu bwyd.

Roedd safle Maes y Plas yn ofod nad oedd yn cael ei defnyddio heblaw am ambell i berson yn mynd a’u ci am dro, felly, trwy drafod gyda swyddogion Cyngor Gwynedd, cytunwyd i’r Dref Werdd gael les rhad am 25 mlynedd i ddatblygu’r safle. Gyda’r rhan fwyaf o’r gwaith caled wedi ei gwblhau, bydd y gerddi yn rhan o brosiect newydd Y Dref Werdd sydd wedi ei ariannu gan gronfa Camau Cynaliadwy Cymru gyda’r Loteri Genedlaethol. Prif nod y cynllun fydd i ddatblygu prosiectau sydd yn grymuso’r gymuned i chwarae rhan bositif gyda newid hinsawdd, yn ogystal â chynaladwyedd. Syniadau eraill fydd yn cael eu datblygu fydd meithrinfa goed fechan, plannu hyd at 3000 o goed brodorol, datblygu beics trydan ar gyfer aelodau'r gymuned, datblygu ymhellach ein gofod creu a thrwsio a rhaglen gynhwysfawr addysg gydag ysgolion a grwpiau'r Fro.

Dywedodd Gwydion, Rheolwr Prosiect Y Dref Werdd 

“Buom yn ffodus iawn o gael bod yn rhan o brosiect Skyline am y ddwy flynedd diwethaf. Mae sawl cynllun cyffrous wedi dod ohono, heb son am yr holl adnoddau gwerthfawr gaiff eu defnyddio gennym a’r gymuned. Ein bwriad a'n gobaith gyda’r ardd farchnad yw, nid yn unig darparu ffrwythau a llysiau wedi ei dyfu ym Mro Ffestiniog i’r gymuned, ond sefydlu'r gerddi fel menter yn ei hun, gyda’r gobaith y bydd yn sefyll ar draed ei hun yn y dyfodol agos wrth gynhyrchu incwm a swyddi. Fy mreuddwyd ers y cychwyn yw i efallai gallu cyflenwi ysgolion y fro gyda ffrwythau a llysiau iach sydd wedi eu tyfu ar yr un tir maent yn tyfu fyny arno, sydd am chwarae rhan fawr i’r hinsawdd. Diolch i bawb sydd wedi helpu datblygu’r safle”!

Bydd cyfle yn fuan i wirfoddolwyr gyda diddordeb mewn dysgu garddio, neu ddim ond eisiau helpu, i ddod i helpu cynnal yr ardd. Rydym eisiau clywed eich syniadau! 

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â wil@drefwerdd.cymru
- - - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn rhifyn Hydref 2023



25.6.23

Ymweld â'r Dref Werdd

 NEWYDDION Y DREF WERDD ...

Hanes Mabon ap Gwynfor AS yn ymweld â’r Dref Werdd -o rifyn Mai 2023
 
Ymwelodd Mabon ap Gwynfor Aelod Senedd Dwyfor-Meirionnydd â’r Dref Werdd a gwelodd yno’r gwaith arbennig sy’n cael ei wneud yn yr ardal.  

Bu Mabon yn ymweld â'r gerddi cymunedol yn Hafan Deg, Tanygrisiau, a'r Manod; ‘Cwt Crwn’ y Llechwedd; a Banc Coed y Dref Werdd ym Mhant yr Afon. 


Sefydlodd y Dref Werdd ganolfan ym Mlaenau Ffestiniog sy’n darparu mynediad cyfleus i’r gymuned, yn enwedig y rhai sy’n agored i niwed. Rhydd hyn wasanaethau sy’n rhoi lle diogel iddynt i’w helpu i oresgyn problemau megis iechyd meddwl, tlodi a diweithdra, a hynny drwy eu helpu i ddatblygu eu sgiliau. Bydd yr amgylchedd a chynefinoedd lleol hefyd yn cael eu gwella, gyda'r gymuned leol yn dod i ddeall eu pwysigrwydd, yn dysgu sgiliau newydd, ac yn manteisio ar gyfleoedd gwirfoddoli tra'n darparu cynnyrch a mynediad i wasanaethau eraill i'r gymuned gyfagos.

Bu’r Dref Werdd yn llwyddiannus y llynedd i dderbyn grant o £100,000 drwy Gronfa Gymunedol y Loteri. Trwy hynny, gallant barhau â’u gwaith amhrisiadwy yn ardal Blaenau Ffestiniog, yn ogystal â pharhau i ddarparu gwasanaethau sy’n mynd i’r afael â materion pwysig a chynyddol gan gynnwys iechyd meddwl, tlodi, amgylchedd, ac arwahanrwydd. 

Dywedodd Gwydion ap Wynn o’r Dref Werdd:

“Roedd yn fraint cael croesawu a chyflwyno’r prosiectau cyffrous ac amrywiol i Mabon. Mae ein gwaith yn amlwg iawn yma ym Mro Ffestiniog. Mae wedi golygu ein bod ni’n gallu cael presenoldeb cryf o fewn y cymunedau, yn ogystal â datblygu prosiectau fydd yn cael effaith hynod bositif ar drigolion ac amgylchedd yr ardal. Rydan ni’n ddiolchgar iawn iawn i chwaraewyr y Loteri am hyn.”
 
Dwedodd Mabon ap Gwynfor AS: 

“Mae bob amser yn braf ymweld â Blaenau Ffestiniog, a dydy ymweld â chriw y Dref Werdd yn ddim eithriad. Mae nhw’n griw gweithgar sydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywyd pob dydd pobl yn y fro. Roedd cael gweld y prosiectau sydd ar waith yn sgîl ariannu’r loteri yn agoriad llygad. Yn eu helfen maent yn brosiectau syml, ond maent yn sicrhau fod pobl yn cynyddu eu sgiliau, yn gwella ansawdd bywyd naturiol y fro, ac yn cyfrannu at les eu hiechyd meddwl. Rwy’n edrych ymlaen i fynd yn ôl yma a blasu cynnyrch ffrwyth eu llafur o’r gerddi cymunedol.” 

Meddai John Rose, Cyfarwyddwr Cymru yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol:

 “Mae’n werth chweil gweld y gwaith gwych mae’r Dref Werdd yn ei gynnig. Rydym yn falch bod chwaraewyr y Loteri wedi galluogi’r tîm ym Mlaenau Ffestiniog i wneud cymaint o wahaniaeth yn y gymuned yno.”
- - - - - - -

Lluniau o dudalennau Gweplyfr y Dref Werdd/Hwb Cymunedol