20.2.24

Y Dref Werdd- Gerddi Cymunedol

I’r rhai ohonoch sydd heb fod i erddi Maes y Plas, beth am fynd yno am dro? Gardd farchnad gymunedol yw hi yn y Manod, lle mae digon o fwrlwm i’w gael. Mae yna dwnnel polithîn a llawer o lysiau yn tyfu yno’n barod. Gan fod yr ardd yn fawr, mae'n brosiect ymarferol iawn. 


Os hoffech chi gymryd rhan yn y prosiect cyffrous hwn i ddysgu sgiliau garddio newydd, bod allan yn yr awyr iach, cadw’n heini, gwneud ffrindiau, neu os hoffech chi ddim ond gweld beth sy'n digwydd yna cysylltwch!

Rydym yn cynnal diwrnodau gwirfoddoli wythnosol ar ddydd Iau rhwng 10yb a 4yh i bobl sydd wir eisiau cymryd rhan.

Mae 'Safle Antur' yn werddon gudd ger Llechwedd, ar y ffordd allan (neu i fewn) i’r Blaenau. Roedd yn jyngl wedi gordyfu cyn i ni ymyrryd, yn llawn dop o rywogaethau anfrodorol ac ymledol fel Rhododendron ponticum, llysiau'r dial, a Buddleia


Mae'r safle hwn wedi cael llawer o sylw i’w chael i’r cyflwr y mae ynddi nawr. Yn wir, mae’r llecyn wedi troi yn fan cymunedol bendigedig mewn ardal goetir wedi'i hadfer. Er mwyn gwella bioamrywiaeth ar y safle ac annog mwy o fywyd gwyllt brodorol, rydym wedi creu cynefinoedd gwahanol megis pwll bywyd gwyllt, ac wedi plannu coed brodorol ychwanegol. 


I annog pobl i fynd allan i fyd natur rydym ni wedi creu llwybr natur ac adeiladu tŷ crwn hygyrch a ddefnyddir ar gyfer rhai o’n sesiynau lles a’n gweithgareddau gyda’r project ‘Dod Nôl at Dy Goed’.

Dyma rai lluniau 'cynt ac wedyn' i ddangos yn iawn faint o waith a wnaed ar y lleoliad yma! 

Dechreuwyd y syniad ar gyfer gardd gymunedol Hafan Deg ymhell yn ôl yn 2015.  Canfuwyd darn o dir segur a oedd wedi gordyfu ac yn denu sbwriel fel lleoliad a ellid ei droi yn fan gwyrdd cymunedol posibl. Gyda chefnogaeth ac anogaeth trigolion lleol a chymdeithasau tai, trawsnewidiwyd y llecyn i’r ardd fywiog a llwyddiannus y mae hi ar hyn o bryd. Yn allweddol i lwyddiant yr ardd yw'r gwirfoddolwyr lleol sy’n gofalu amdani ac yn tyfu’r bwyd yno. Mae sôn arbennig am Brian, prif arddwr wedi ymddeol. Mae'n treulio'r rhan fwyaf o'i amser yn plannu, chwynnu, tyfu eginblanhigion ac yn gyffredinol yn cadw llygad barcud ar y lle! Mae'n cael cefnogaeth gan Damian sy'n helpu gyda'r gwaith o dorri gwair a thocio. 

Mae trigolion y stad yn mwynhau dod at ei gilydd yn yr ardd, a phob hydref maent yn rhannu ffrwythau a llysiau’r cynhaeaf.
- - - - - - - - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2024


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon