28.2.24

Ffrae iaith HSBC

Trist iawn fu’r dadlau diweddar am y Gymraeg â banc HSBC. Mae’r banc hwnnw bellach, fel sy’n hysbys i lawer, wedi penderfynu cau eu gwasanaeth ffôn Cymraeg. 

Yr unig ffordd o allu ymwneud efo ‘banc lleol y byd’ yn Gymraeg bellach yw drwy gael rhywun i’ch ffonio’n ôl – mewn tridiau. Fel pe bai gan bobl y moethusrwydd o allu aros tridiau i siarad efo rhywun am faterion ariannol sydd yn aml agen eu datrys yn syth! Mae’n haws mynd i Borthmadog, ar y bws, yn y glaw, mewn corwynt.

Pan symudais i’r Blaenau ddeng mlynedd yn ôl, un o’r pethau cyntaf a wnes i oedd ceisio agor cyfrif yn y gangen o fanc HSBC a fodolai yn y dref ar y pryd. Ond na! Gwrthodwyd gadael imi wneud hynny. Doedd y banc ddim yn derbyn cwsmeriaid newydd. Cofiaf ofyn ar y pryd “Pam? Eisiau cau’r banc ydach chi?” ac fe wadwyd hynny’n gryf. Ond mewn rhai blynyddoedd, dyna’n wir a ddigwyddodd. Fe gaewyd y banc yn llwyr. 

Pam sôn am hyn? Wel, fe aeth y llinell ffôn Gymraeg rwy’n credu yr un ffordd â’r gangen leol o’r banc HSBC a oedd yma ar un adeg – cyfyngu ar yr hyn a allai wneud, ac wedyn ei gau, gan roi’r cyfiawnhad nad oedd llawer yn ei ddefnyddio. 

I wneud pethau’n waeth, mae HSBC ers peth amser bellach yn codi tâl ar fentrau cymunedol bychain, fel Llafar Bro, am gael cyfrifon gyda nhw, a hyn mewn dyddiau o brysur bwyso ariannol. 

Pryd mewn difrif calon y cawn ni fel cenedl fanc cenedlaethol fel yr ydym yn ei haeddu? Mae sawl banc cynhenid gan Wlad y Basg, er enghraifft, gwlad sydd tua’r un faint â Chymru. Mae gan hyd yn oed Andora, gwlad fechan iawn, llai na Meirionnydd, efo poblogaeth o 79 mil, fwy nag un banc ei hun. 

Llun o gyfrif trydar Banc Cambria, sy'n gobeithio creu banc cymunedol i Gymru, ond yn methu cael cefnogaeth y diwydiant

Y mae’n hwyr glas i’r Llywodraeth yng Nghaerdydd roi’i gorau ar lusgo ei thraed a sefydlu banc cymunedol fel yr addawsai wneud - banc sy’n gwasanaethu ein gwlad a’n cymunedau, a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg. Fel gwlad a chenedl, nid ydym yn haeddu dim llai na hynny.

Chwi ddarllenwyr Llafar Bro – ac yn enwedig chi sy’n rhedeg busnesau yn yr ardal – beth am gysylltu efo’ch straeon o ddiffyg gwasanaethau bancio yn yr ardal, ac yn arbennig diffyg gwasanaethau bancio trwy gyfrwng y Gymraeg?
GLJ.
- - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2024



No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon