Showing posts with label banciau. Show all posts
Showing posts with label banciau. Show all posts

28.2.24

Ffrae iaith HSBC

Trist iawn fu’r dadlau diweddar am y Gymraeg â banc HSBC. Mae’r banc hwnnw bellach, fel sy’n hysbys i lawer, wedi penderfynu cau eu gwasanaeth ffôn Cymraeg. 

Yr unig ffordd o allu ymwneud efo ‘banc lleol y byd’ yn Gymraeg bellach yw drwy gael rhywun i’ch ffonio’n ôl – mewn tridiau. Fel pe bai gan bobl y moethusrwydd o allu aros tridiau i siarad efo rhywun am faterion ariannol sydd yn aml agen eu datrys yn syth! Mae’n haws mynd i Borthmadog, ar y bws, yn y glaw, mewn corwynt.

Pan symudais i’r Blaenau ddeng mlynedd yn ôl, un o’r pethau cyntaf a wnes i oedd ceisio agor cyfrif yn y gangen o fanc HSBC a fodolai yn y dref ar y pryd. Ond na! Gwrthodwyd gadael imi wneud hynny. Doedd y banc ddim yn derbyn cwsmeriaid newydd. Cofiaf ofyn ar y pryd “Pam? Eisiau cau’r banc ydach chi?” ac fe wadwyd hynny’n gryf. Ond mewn rhai blynyddoedd, dyna’n wir a ddigwyddodd. Fe gaewyd y banc yn llwyr. 

Pam sôn am hyn? Wel, fe aeth y llinell ffôn Gymraeg rwy’n credu yr un ffordd â’r gangen leol o’r banc HSBC a oedd yma ar un adeg – cyfyngu ar yr hyn a allai wneud, ac wedyn ei gau, gan roi’r cyfiawnhad nad oedd llawer yn ei ddefnyddio. 

I wneud pethau’n waeth, mae HSBC ers peth amser bellach yn codi tâl ar fentrau cymunedol bychain, fel Llafar Bro, am gael cyfrifon gyda nhw, a hyn mewn dyddiau o brysur bwyso ariannol. 

Pryd mewn difrif calon y cawn ni fel cenedl fanc cenedlaethol fel yr ydym yn ei haeddu? Mae sawl banc cynhenid gan Wlad y Basg, er enghraifft, gwlad sydd tua’r un faint â Chymru. Mae gan hyd yn oed Andora, gwlad fechan iawn, llai na Meirionnydd, efo poblogaeth o 79 mil, fwy nag un banc ei hun. 

Llun o gyfrif trydar Banc Cambria, sy'n gobeithio creu banc cymunedol i Gymru, ond yn methu cael cefnogaeth y diwydiant

Y mae’n hwyr glas i’r Llywodraeth yng Nghaerdydd roi’i gorau ar lusgo ei thraed a sefydlu banc cymunedol fel yr addawsai wneud - banc sy’n gwasanaethu ein gwlad a’n cymunedau, a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg. Fel gwlad a chenedl, nid ydym yn haeddu dim llai na hynny.

Chwi ddarllenwyr Llafar Bro – ac yn enwedig chi sy’n rhedeg busnesau yn yr ardal – beth am gysylltu efo’ch straeon o ddiffyg gwasanaethau bancio yn yr ardal, ac yn arbennig diffyg gwasanaethau bancio trwy gyfrwng y Gymraeg?
GLJ.
- - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2024



6.10.20

‘Stiniog o’r Wasg Erstalwm (3)

Pennod arall o gyfres Vivian Parry Williams

Tybed ai wedi cael gormod o gwrw cryf y Pengwern Arms oedd dau ŵr o Benmachno, a gollodd eu bywydau ar y ffordd adref o 'Stiniog, wrth iddynt ddisgyn i mewn i dwll Chwarel Ffridd Blaen-y-cwm, a boddi mewn pwll o ddŵr ddeg llath yn y gwaelod. Cafwyd adroddiad o farwolaeth trist David Evans, gof, a Hugh Hughes, mab gweinidog y Wesleaid ym Mhenmachno, dau ŵr priod, yn y North Wales Chronicle (NWC) ar 8 Rhagfyr 1834.   


Hysbysebion a ymddangosent yn rheolaidd oedd rhai oedd yn sôn am ocsiwns i osod tollbyrth ar ffyrdd tyrpeg yr ardal. Un o’r rhai cynharaf yn y wasg sy’n cyfeirio at yr ardal hon yw’r un yn y NWC ar 3 Chwefror 1835, yn dweud bod ocsiwn i’w gynnal ar bedair tollborth o fewn, neu’n agos at y cyffiniau hyn. Roedd hynny’n digwydd yn y Maentwrog Inn ar y 4 Mawrth 1835, rhwng dau a phump o’r gloch y p’nawn. Enwir pedair tollborth, Maentwrog, a gasglodd swm o £431 o dollau y flwyddyn cynt, Ffestiniog, (£80) Carreg pen gyflin (£36) a Thalsarnau (£32). Cyfeirir hefyd at ddwy dollborth ar y ffordd breifat, yr adeg hynny, o Dan-y-bwlch i Dremadog, sef Caevalley a Caegwyn oedd yn cael eu gosod ar ocsiwn am y pris uchaf. Byddai'r hysbysebion hyn yn ymddangos yn flynyddol, ac am wythnosau ar y tro, ym mhapurau newyddion y 19eg ganrif.

Achlysur pwysig iawn yn hanes 'Stiniog oedd agoriad swyddogol y Lein Fach, gan oruchwiliwr y cynllun, James Spooner, ar yr 20fed o Ebrill 1836, a chafwyd adroddiad llawn o'r achlysur yn y NWC ar 26 Ebrill 1836. Yn ôl pob golwg, roedd yn ddiwrnod cyffrous iawn, wrth i wagenni o lechi chwarel Holland gael eu llwytho, a'u hanfon bob cam i'r cei ym Mhorthmadog. Yn gwmni i'r llechi roedd sawl coets yn cario pwysigion y dydd, gyda chanans yn cael eu tanio ar hyd y siwrnai i'r Port. Wedi cyrraedd pen y daith, yr oedd cwmni'r rheilffordd wedi trefnu gwledd a 'chwrw da' ar gyfer y gwesteion a'r gweithwyr ar lawnt Morfa Lodge, cartref Spooner. Roedd seindorf o Gaernarfon wedi ei hurio i gyflenwi adloniant i'r dyrfa a oedd wedi dod yno i fwynhau'r achlysur hanesyddol hwnnw. 

Gan ein bod yn trafod y lein fach, diddorol oedd darllen hanes achos cyfreithiol yn erbyn cwmni Rheilffordd Ffestiniog yn y Manchester Times and Gazette 19 Mawrth 1837, llai na blwyddyn wedi'r agoriad swyddogol uchod. Achos a ddygwyd gan weddw un John Smith, a benodwyd ar y dechrau i osod rhai o gledrau'r lein fach o'r Blaenau i Borthmadog. Wedi gwneud peth o'r gwaith, bu anghytundeb rhwng y contractor a'r cwmni, ac fe ddiswyddwyd Smith, a phenodi James Spooner i gwblhau'r gwaith. Canlyniad yr achos yn erbyn Rheilffordd Ffestiniog oedd i'r cwmni orfod talu iawndal o £5000 i weddw Smith, swm anferthol y cyfnod hwnnw. Diddorol hefyd oedd darllen rhan o'r adroddiad, sy'n cyfleu naws iaith y cyfnod yn glir.

The plaintiff's counsel were about to call witnesses, most of whom were stated to be wholly unable to speak the English language...
Cynhwysid adroddiadau o'r achos hwn mewn nifer o bapurau newyddion wythnosol y cyfnod, sydd yn profi pa mor ddylanwadol oedd y lein fach mor gynnar â 1837.

Ceir sôn am y North and South Wales Bank am y tro cyntaf mewn hysbyseb yn y NWC ar 29 Awst 1837, sydd yn brawf bod arian yn cylchdroi yn y plwyf yr adeg honno. Trafod talu allan difidend ar gyfranddaliadau yn y banc mae'r hysbyseb. Yn anffodus, ni enwir lleoliad y banc cynnar hwnnw, ond tybir mae yn y fan lle saif bwyty’r Chwarelwr heddiw (hen fanc y Midland/HSBC) oedd y safle. 

Ymddiheuraf am adael trefn gronolegol yr ysgrif hon, gan neidio saith mlynedd, i gyfeirio at ddigwyddiad a ellir ei ysytyried fel yr ymdrech o ladrad banc cyntaf 'Stiniog, cyn belled yn ôl â 18fed o Fai 1844. Adroddwyd yn y NWC 28 Mai 1844 am rywrai yn torri ffenest yn y banc a enwir uchod, ond yn cael eu styrbio ac yn gorfod dianc rhag eu dal, gan adael ysgol yn gorwedd yn erbyn wal y banc. “They evidently were experienced thieves”  meddai'r gohebydd ar ddiwedd ei lith.
----------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf/Awst 2020.

Mae rhifynnau digidol y cyfnod clo ar gael am ddim ar wefan Bro360


30.11.16

Senedd ‘Stiniog -banciau, baneri, a blodau

Pytiau o'r Cyngor Tref
Addasiad o erthyglau gan Bedwyr Gwilym a Rory Francis, o rifynnau Medi a Hydref.

Dim Banc
Bu'r cyngor yn trafod cau cangen Blaenau banc HSBC ym mis Medi, sef banc olaf y dref. Yn naturiol, ‘roedd aelodau’r Cyngor yn siomedig iawn. Penderfynwyd ysgrifennu llythyr at HSBC, a chydweithio efo'r cynghorwyr sir a'r aelod seneddol.

Sbwriel
'Rydych chi siŵr o fod wedi profi un o’r problemau budr yma – baw ci, gwm cnoi ar balmentydd, ‘sbwriel ysmygu ayyb ... Derbyniwyd holiadur gan Gyngor Gwynedd yn gofyn barn y Cyngor ynglŷn â chydweithio â chwmni preifat er mwyn rhoi dirwyon am droseddau ‘sbwriel yn y fan ar lle. Atebwyd yr holiadur gyda’r Cyngor yn penderfynu y dylai Cyngor Gwynedd fod yn fwy llym yn y ffordd y mae’n taclo problemau glendid stryd, y dylai Cyngor Gwynedd rhoi dirwyno yn y fan a’r lle ac yn olaf, sef y dylid cydweithio â chwmni allanol i gynorthwyo gyda gwaith swyddogion gorfodaeth stryd.

Baner Werdd
Derbyniwyd newyddion cadarnhaol gan gynrychiolydd y Cyngor ar grŵp gwirfoddol Partneriaeth y Parc, fe adroddwyd bod y Bartneriaeth wedi cyflwyno cais am wobr y Faner Werdd, ac wedi llwyddo i dderbyn y wobr gyda sgôr o 67%.
Llongyfarchiadau mawr. Y Parc, ar y Sgwâr yn y Blaenau yw man chwarae cyntaf ardal Cyngor Tref Ffestiniog i dderbyn y wobr, a dim ond tri arall sydd yng Ngwynedd. Gyda llaw, mae’r wobr yn cael ei redeg yn genedlaethol gan Cadwch Gymru’n Daclus ac yn dangos bod mannau gwyrdd yn cyrraedd safon genedlaethol yn y ffordd y maent yn cael eu rhedeg.

Toiled y flwyddyn
Oes yna fygythiad i'r toiled ar Sgwâr Diffwys? Mae Cyngor Tref Ffestiniog yn ôl wrth ei waith ar ôl seibiant ac un o’r pynciau llosg a drafodwyd yng nghyfarfod mis Medi oedd toiledau Sgwâr Diffwys, a enillodd wobr ‘Toiled y Flwyddyn’ yn 2013 a hynny yn erbyn rhyw 1,600 o geisiadau eraill.
Roedd Cyngor Gwynedd wedi ysgrifennu at y Cyngor Tref gan ofyn am gyfraniad tuag at gadw’r cyfleusterau pwysig hyn ar agor. Fe gytunodd y Cyngor yn unfrydol, ar gais y Cyng. Mandy Williams Davies, i ymateb gan bwysleisio fod rhaid cadw’r toiledau hyn ar agor ac yn cytuno i drafod y ffordd ymlaen gyda Chyngor Gwynedd.

Roedd y cyfarfod wedi dechrau ar nodyn ysgafnach, gyda’r Cynghorwyr yn llongyfarch CellB ar agor Sinema, y tro cyntaf i’r fath beth fodoli yn y dref ers peth amser.

Roedd y Cyngor wedi derbyn pris o £1,550 i lanhau, ac felly trwsio, pistyll Diffwys. Cytunwyd i dderbyn hwn, gan fod y pistyll yn rhan bwysig o ganol y dref.

Fe gytunodd y Cyngor hefyd i gynnig ysgoloriaeth i berson ifanc o’r cylch i deithio i Rawson yn Chubut, Patagonia, y dref sydd wedi ei threfeillio gyda Ffestiniog. Fe aiff Maia Jones yno cyn bo hir, gan ddefnyddio ysgoloriaeth 2016. Fe fydd y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ym mis Ionawr 2017 a Tecwyn Vaughan Jones fydd cadeirydd y beirniaid unwaith eto, fel eleni.

Yn olaf, rhoddwyd cynnig gerbron gennyf, yn cynnig cefnogaeth i bobl o wledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd sy’n byw ac yn gweithio yma ac yn gwerthfawrogi eu cyfraniad i’r economi, gan bwysleisio fod yna groeso iddynt yma. Yn anffodus, mae rhai pobl wedi gweld canlyniad y refferendwm fel esgus i ymddwyn yn hiliol tuag at bobl eraill. Pasiwyd y cynnig yma yn unfrydol.

Cofiwch gysylltu â Chlerc y Cyngor os oes gennych ddiddordeb mewn cynrychioli trigolion eich ardal a cheisio gwneud gwahaniaeth o fewn eich cymuned.
-------------------------------------

Blaenau yn ei Blodau
Llongyfarchiadau i bawb gafodd wobr yng ngystadleuaeth flynyddol Blaenau Bendigedig. Bu’r diwrnod gwobrwyo yn neuadd yr eglwys , dan ofal y trefnydd David Williams, Llan, a’r beirniaid Mr Eurwyn Roberts, Dolwyddelan, a Mr Wil Rowlands, Y Bala, eu dau’n feirniaid profiadol iawn.

llun Alwyn Jones
Cafwyd gwobrwyo am erddi bach a mawr, gerddi bywyd gwyllt, gerddi llysiau, a gerddi potiau.
Roedd Alwyn Jones yno yn tynnu lluniau ar ran Llafar Bro, a bu hen drafod gerddi a phlanhigion dros baned a chacen yn dilyn y gwobrwyo, cyn i bawb wasgaru i chwynnu a phlannu. PW.
-----------------------------------------

Dilynwch hanesion Senedd Stiniog efo'r ddolen isod, neu yn y cwmwl geiriau ar y dde.



12.8.15

Senedd ‘Stiniog

Newyddion gan Y Cyngor Tref, o rifyn Gorffennaf.


Y Cyngor Tref yn brwydro i amddiffyn gwasanaethau lleol!
 
Cafwyd newyddion drwg yn ddiweddar, gyda chyhoeddiad Banc y Nat West fod y cwmni yn mynd i gau eu cangen ym Mlaenau Ffestiniog. Roedd y Cyng. Mandy Williams Davies wedi codi’r mater, gan fynnu fod y Cyngor yn gofyn am gyfarfod gyda’r banc i leisio ein siom a’n pryder am y penderfyniad yma. Fe leisiodd hi siom fod adeilad arall ar y stryd fawr yn cau. Ac ar ben hynny, os oedd mwy a mwy o bobl yn gorfod symud tuag at fancio arlein ac ar y ffôn, meddai, roedd yna berygl y byddai’r posiblrwydd o gael gwasanaeth bancio yn Gymraeg yn diflannu.

Ar ôl trafodaeth, cytunwyd mewn egwyddor i symud cyfrif banc y Cyngor Tref o’r Nat West i’r HSBC, yr unig fanc sy’n dal efo cangen yn Ffestiniog. Gobeithio’n fawr y bydd y banc hwnnw’n glynu at bolisi answyddogol y banciau i gyd, sy’n mynnu fod y banc olaf sydd â changen mewn tref yn ei chadw ar agor wedyn doed a ddelo.

Ydych chi’n bancio efo’r Nat West? Os felly, ydych chi wedi ystyried datgan eich barn yn glir i’r banc hwnnw, a hynny trwy symud eich cyfrif i’r unig fanc fydd yn dal efo cangen yn lleol?

Ond nid gwasanaethau bancio yn unig sydd o dan fygythiad. Ymddangosodd hysbyseb ar y we yn ddiweddar sy’n datgelu fod dyfodol Swyddfa Bost Blaenau Ffestiniog yn y fantol, ynghyd â swyddfa ddidoli’r Post Brenhinol. Mae’r swyddfa bost wedi hysbysebu’r cyfle i redeg swyddfa bost yn y dref, gan gynnwys yr opsiwn o wneud hyn mewn siop arall, yn hytrach nag o’r swyddfa bost bresennol. Petai hyn y digwydd, fe fyddai’r swyddfa ddidoli yn ddigartref ac fe fyddai yna berygl go iawn y byddai’n symud i Borthmadog neu i Lanrwst.
                                                                                   
Petai’r postmon yn methu dosbarthu parsel i chi
wedyn, fe fyddai'n rhaid teithio’n bell i’w nôl o.     
Fe gytunodd y Cyngor i ysgrifennu at y Swyddfa Bost i ofyn am gadarnhad y bydd y Swyddfa Bost a’r Swyddfa Ddidoli yn aros lle maen nhw, ac os oes angen, i lansio deiseb cyhoeddus i ofyn iddyn nhw wneud hyn.

Fferm wynt Llechwedd – newyddion diweddaraf..
Roedd Michael Bewick o gwmni Greaves yn bresennol, i roi adroddiad am gynlluniau’r cwmni. Erbyn hyn, mae Greaves yn gweithio efo cwmni lleol, Northern Welsh Slate, i gynhyrchu llechi ar y safle unwaith eto. Gyda’r holl ddatblygiadau diweddar, y zipwire, y llwybrau beics  a’r Bounce Below, fe ddylai’r cwmni fod mewn sefyllfa i wneud elw dros ei weithgareddau i gyd cyn bo hir, a hynny am y tro cyntaf ers rhyw ddeg mlynedd.

Dywedodd Michael Bewick y byddai cais cynllunio yn mynd i mewn am fferm wynt ar y safle ym mis Medi neu Hydref eleni. Torrwyd nifer y tyrbeiniau i lawr i ddim ond tri, yn sgil pryderon Cyfoeth Naturiol Cymru y byddai rhagor ohonynt yn dinistrio mawn ar y mynydd.

Os caiff y cynllun ei gymeradwyo, mae cwmni Greaves yn bwriadu cyfrannu arian ar gyfer datblygiad economaidd yn yr ardal, meddai, gan gynnwys sefydlu canolfan ymwelwyr am ynni adnewyddol yn y dref.

Rory Francis