Showing posts with label Ynni. Show all posts
Showing posts with label Ynni. Show all posts

27.2.23

Bwrlwm Y Dref Werdd

Mae 2022 wedi bod yn flwyddyn hynod o brysur gyda sawl prosiect newydd wedi ei sefydlu i gefnogi pobl y gymuned, yn enwedig yn sgîl yr argyfwng costau byw.

 

 

Warden Ynni Cymunedol
Yn swyddfa’r Dref Werdd mae Tanya, ein Warden Ynni Cymunedol. Mae Tanya wedi cael ei chyflogi ers mis Awst 2022. Dyma rhai o ddyletswyddau Tanya:

•    rhoi cyngor a chefnogaeth i drigolion er mwyn lleihau eu defnydd ynni
•    helpu gyda biliau, dyledion a gwneud ceisiadau
•    cyfeirio pobl i gael gratiau ECO4 neu Nyth
•    rhoi mesuriadau arbed ynni fel bylbiau LED a rhoi deunyddiau atal drafftiau i drigolion
Yn ddiweddar mae Tanya wedi cymhwyso fel Aseswr Ynni Domestig Lefel 3. Mae ei swydd hefyd yn parhau ac mae hi nawr yn cynghori trigolion Gwynedd ar effeithiolrwydd cael synwyryddion Carbon Monocsid a hefyd iddynt fod yn ymwybodol o’r peryglon.

Canolfan Galw Mewn
Cofiwch biciad mewn i’n Canolfan Galw Mewn yn 5 Stryd Fawr i weld Rhian neu Marged ar Ddyddiau Llun, Mercher neu Gwener rhwng 10yb a 4yp i gael gwybodaeth a chefnogaeth ar bob math o faterion llesiant. Bydd apwyntiadau ar gael gyda gweithiwr Cyngor Ar Bopeth bob yn ail Ddydd Mercher, rhwng 10yb a 12yp – mae gwneud apwyntiad yn hanfodol. Cysylltwch ar 01766 830082.

HWB: Cefnogi Cymuned
Bu 2022 yn flwyddyn digon prysur yn yr HWB gyda phrosiectau ‘Dod yn ôl at dy Goed’, ‘Cynefin Chymuned i Blant' a ‘Sgwrs’ yn parhau’n llwyddiannus.

Trefnwyd taith dywys i fyny’r Moelwyn Mawr, sesiynau cerddoriaeth, celf a Tai Chi, teithiau natur, meddylgarwch a dysgu am fadarch gwyllt. Cawsom ymweld â’r Ysgwrn a Gweilch Glaslyn, sesiynau dan do yn gwnïo nadroedd atal-drafftiau a chwarae gemau bwrdd, a chawsom ddigonedd o baneidiau yn y coed! 

Mae’r cynllun am ddim, ar agor i unrhyw un, ac yn rhoi cyfle i bobl gymdeithasu, bod yn actif a dysgu sgiliau newydd. Bydd llawer mwy o weithgareddau yn cael eu trefnu eleni. Os oes gennych chi ddiddordeb ymuno, cysylltwch â Non ar 07385 783340 neu non@drefwerdd.cymru

Sesiwn grefftau y Dref Werdd
Bu i 12 o ddisgyblion ysgolion dalgylch Bro Ffestiniog gychwyn cwrs Cynefin a Chymuned i Blant yn ystod gwyliau’r haf. Trefnwyd 6 sesiwn yn ein coedlan dros y gwyliau a sesiynau misol wedyn. 

Hyd yn hyn rydym wedi bod ar daith hanes i Domen y Mur gydag Elfed Wyn ap Elwyn, taith natur Calan Gaeaf yng nghwmni Catrin Roberts a Gai Toms, taith hanes Cwmorthin gyda Pred Hughes, ac wedi bod i lanhau traeth Cricieth a dysgu am fywyd gwyllt yr arfordir gydag Eurig Joniver. 

Mae’r criw yn mwynhau’n arw. Diolch i’r arweinwyr am eu cyfraniad i addysg y bobl ifanc.

Mae gwirfoddolwyr prysur ein cynllun cyfeillio dros y ffôn, Sgwrs, yn parhau i gefnogi eu ffrindiau ffôn. I ddangos ein diolch iddynt, ac i ddathlu dwy flynedd o’r prosiect, trefnwyd te prynhawn iddynt yn Neuadd Goffa Penrhyndeudraeth ym mis Tachwedd. Roedd yn braf i’r rhai oedd yn sgwrsio â’i gilydd allu cyfarfod wyneb i wyneb am y tro cyntaf ar ôl bod yn sgwrsio ar y ffôn am gyfnod hir. Diolch iddyn nhw, maen nhw’n gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau’r rhai maent yn eu helpu. Os oes gennych chi ddiddordeb bod yn rhan o’r cynllun, cysylltwch.

Gardd Fywyd Gwyllt Hafan Deg

Gwyddom oll fod natur ar drai, a bywyd gwyllt dan fygythiad. Gan weithio ochr yn ochr â chymuned Bro Ffestiniog, mae’r Dref Werdd wedi ymrwymo i greu, adfer a gwella byd natur ‘ar eich stepen drws’.

Felly, yn dilyn llwyddiant yr Ardd Lysiau Gymunedol yn Hafan Deg, mae prosiect cyffrous newydd ar y gweill sef Gardd Fywyd Gwyllt Gymunedol yn Nhanygrisiau.

Mewn partneriaeth ag Adra a Cadw Cymru’n Daclus, byddwn yn troi darn o dir nad yw’n cael ei ddefnyddio yn hafan i fywyd gwyllt i bawb ei fwynhau. Bydd perllan, wedi'i phlannu â choed ffrwythau treftadaeth Gymreig, coedlan ffrwythau a chnau gwyllt (collen, criafolen, draenen ayyb), gwrychoedd, dôl blodau gwyllt, a 'gardd gors' i annog pob math o fywyd gwyllt. Bydd gwelyau uchel i greu 'gardd synhwyraidd' yn cynnwys perlysiau, ffrwythau meddal, blodau, a bwydydd bwytadwy fel garlleg gwyllt.

Bydd angen gwneud LLAWER o waith! Ond bydd yr ardd hon yn perthyn i’r gymuned gyfan, ac edrychwn ymlaen at groesawu pawb sydd eisiau dod i helpu a dod â’r ardd hon yn fyw!

Am fwy o fanylion, ebostiwch meg@drefwerdd.cymru

Dros fisoedd yr haf bu’r criw amgylcheddol yn brysur yn datblygu pwll bywyd gwyllt ger ein coedlan ddim ymhell o’r dref. Mae pyllau yn hanfodol er mwyn cynnal bywyd gwyllt ac roeddem wedi meddwl y byddai’n rhaid disgwyl am gyfnod cyn gweld llawer yno ond o fewn ychydig fisoedd, rydym wedi gweld llyffant, yn ogystal ag amryw o bryfetach dyfrol. Edrychwn ymlaen at weld bywyd gwyllt yn ffynnu yn y pwll eleni.

Mae Megan Elin, ein Cynorthwyydd Amgylcheddol, wedi cychwyn prosiect ‘Casglu a Chysylltu’, sef ymgyrch i gynnal gweithgareddau casglu sbwriel gan gymdeithasu ag eraill. Mae ambell i sesiwn wedi ei chynnal yn nhraeth Morfa Bychan gyda 12 bag sbwriel wedi eu hel. Os oes gennych ymholiadau am y prosiect yma, cysylltwch â Megan Elin ar meganelin@drefwerdd.cymru
- - - - - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2023



25.10.22

ATOMFA ARALL?

Be ydi'ch barn chi am ddatblygu adweithyddion bach modiwlar -small modular reactors- yn Traws? Peth da ar gyfer swyddi? Syniad gwael i’r amgylchedd a diogelwch? 

Llun Paul W
 

Pan adeiladwyd yr atomfa yn wreiddiol roedd cryfder yr iaith yn ein cymunedau yn ddigon i ddygymod efo’r gweithlu diarth anferth. Ydi hynny’n wir os bydd adeiladu ar raddfa fawr yno eto?

Oes cyfiawnhad i ddatblygu adweithydd arall cyn bod gwastraff y cyntaf wedi’i waredu’n ddiogel? Sut fyddai atomfeydd newydd yn effeithio ar uchelgais rhai yng Nghymru i fod yn genedl annibynol? Dyma rai o’r sylwadau a gafwyd pan ofynnodd Llafar Bro am farn pobl leol.

Er mwyn adlewyrchu pob barn yn deg, rhoddwyd cais yn rhifyn Gorffennaf-Awst, ac ar ein cyfryngau cymdeithasol am sylwadau, ac mi gafwyd nifer o ymatebion. Diolch i bawb am gyfrannu. 

Doedd Diana ddim yn hapus amdano o gwbl, a Vivian yn gresynu am dorri addewidion ‘y byddai adweithyddion yr orsaf bresennol a gweddill yr adeiladau yno wedi eu chwalu i'r llawr ymhen deng mlynedd o gychwyn y digomisiynu’. Roedd hefyd o’r farn bod ardaloedd fel y Blaenau a'r fro yn cael eu cadw’n ddifreintiedig, er mwyn ‘sicrhau y bydd cynlluniau peryglus fel hwn yn cael eu derbyn yn ddiwrthwynebiad!

Mae Dyfed ar y llaw arall, yn hollol gefnogol o’r syniad o atomfa newydd, ac o’r farn y daw a ‘gwaith sydd yn talu cyflogau da i bobl leol. Mae canran fawr sydd yn gweithio yn Traws ar y funud yn Gymry Cymraeg (“tua 90% or gweithwyr ‘swn i yn amcangyfri yn lleol” (Gwynedd/Môn/Conwy)’.

Medd David: 'Os ydy o’n saff (ac efo technoleg di gwella ers y 60au fedra'i ddim gweld pam sa fo ddim) a fod yna addawiad i roi canran da o'r swyddi i bobl lleol (cynnig 'academi' hyfforddi am y dyfodol hefyd) dw'i yn gefnogol’. 

Fy marn personol i’ medd Mari ydy fod y safle yn bodoli yn barod, a byddai unrhyw ddatblygiad newydd yn fuddiol i weithwyr/prentisiaeth i bobl leol’ gan ychwanegu: ‘Ond, yn y pendraw y peth pwysica' ydy pwy sy'n mynd i elwa o'r egni a gynhyrchir yno? Os mai ar ei'n stepan drws ni mae'r pwerdy, ac unrhyw risgiau cysylltiedig siawns mai NI ddylai weld y buddianau!?

Holi mae Calvin a fydd y gwaith yma ar gael i weithwyr lleol? Achos mae’r mwyafrif o’r ‘agencies’ ‘ma yn dod a gweithwyr efo nhw o ardaloedd eraill...’

Mae Marcus wedi gweithio i Magnox ers yr wythdegau, ac yn gefnogol. Heblaw am y gwaith a’r arian fydd yn dod i’r ardal, dwi yn meddwl bod ynni niwcliar newydd yn hanfodol i’r cymysgiad i gynhyrchu ynni ‘gwyrdd’, ac hefyd’ meddai ‘yn ddefnyddiol i gynhyrchu hydrogen fforddiadwy fel sgil-gynnyrch’.

Teg felly, ydi awgrymu fod y farn wedi’i hollti yn lleol.

Mae dau wedi ymateb yn fwy cynhwysfawr, felly dyma adlewyrchu eu barn hwy isod, gan obeithio fod hyn yn fodd i gychwyn trafodaeth pellach yn lleol. Mae’n wirioneddol bwysig i ni sy’n byw yma, i gynnal y drafodaeth a chyfrannu at y penderfyniadau pwysig am sut mae ein bro yn cael ei ddatblygu a’i ddefnyddio.

Mae Meilyr Tomos yn arbenigwr ar ynni adnewyddadwy, ac roedd yn gweithio efo’r Dref Werdd yn Stiniog tan yn ddiweddar iawn. Mae o wedi ymchwilio i’r math o adweithydd sydd dan sylw, ac mae’n amheus o’r addewidion am swyddi: Yn ôl Rolls Royce, gwneuthurwyr y dechnoleg newydd, mae tua 90% o’r gwaith cynhyrchu ac adeiladu’r offer yn digwydd mewn ffatri ac nid ar y safle, felly nid yn lleol fydd y swyddi adeiladu ar y cyfan. Mae’r cwmni angen 16 lleoliad er mwyn cael ad-daliad ar eu buddsoddiad hwy yn y dechnoleg; ydi hynny’n awgrymu angen masnachol yn hytrach na gwir angen yr egni..? 

Dwi’n gwbl hyderus’ medd Meilyr ‘y gallwn ni ddiwallu ein anghenion trydan lleol trwy ffynonellau adnewyddol, a hynny am brisiau teg, heb orfod talu am dividends i gyfranddalwyr cwmniau rhyngwladol. Mae angen datblygu grid egni lleol; gall hyn fod trwy grid ‘rithiol’ gan ddefnyddiol is-adeiledd bresennol, neu weithiau trwy gyswllt newydd lleol’.

Gwyddwn yn fras faint o drydan fydden ni angen fesul tŷ erbyn 2050, ac os wnawn ni gyfri faint mae’r pwerdai hydro bach a chanolig i gyd yn gynhyrchu yng nghyffiniau gogledd Meirionnydd, mae hynny’n ddigon i gyflenwi 133% o’r angen hwnnw. Mae hynny cyn ystyried cynhyrchu solar PV, ac unrhyw ddatblygiadau hydro a gwynt cymunedol newydd ddaw erbyn hynny.

O ran jobsys lleol hefyd, meddai, roedd diffiniad cwmni Horizon o ‘lleol’ ar gyfer Wylfa Newydd yn golygu ardal bob cam at Gaer, dros y ffîn! Mae o hefyd wedi canfod ystadegau am adweithydd tebyg -yng Nghanada- i’r rhai sy’n gael eu hawgrymu ar gyfer Traws, lle nad oes ond 29 aelod o staff yn gweithio yno. Ac mi fydd y dechnoleg mewn 10 mlynedd arall o bosib yn cynnig hyd yn oed mwy o awtomeiddio offer.

Yn olaf, mae costau datgomisynu adweithyddion Prydain yn rhedeg i’r Biliynau, a hynny heb ddatrys y mater o ganfod storfa ddiogel barhaol i’r hen danwydd. Pwy sydd eisiau un o’r rheiny ar eu stepan drws?!

Mae Dei Mur, Blaenau yn gweithio ar safle’r atomfa ar hyn o bryd. Dyma’r hyn oedd ganddo fo i’w ddweud:

Credaf, yn bersonol, bydd y cais ar y cyfan o les i’r ardal.  Dywedir fod Cymru eisoes yn cynhyrchu digon o drydan i’n cynnal fel mae hi, ond dwi’n meddwl mai’r cynllun pell gan Llywodraeth Cymru a San Steffan yw cael holl gerbydau cludiant ynys Prydain yn rhedeg ar hydrogen.  I allu cynhyrchu’r hydrogen ‘gwyrdd’ hyn dywedir fod rhaid cael cyflenwad cyson o drydan, rhywbeth sydd ar hyn o bryd yn amhosib ei gael efo’r dechnoleg bresennol, gyda gwynt, llanw neu heulwen.  Gallu buddsoddi yn y rhain dylai fod ein huchelgais er datblygu technolegau newydd at y dyfodol. Does dim dadl bellach fod y blaned yn cynhesu ac mae’n rhaid inni felly ddarfod rhyddhau carbon, a hynny ar frys.  Cyn hynny, gwell byddai cael ein cerbydau cludiant yn rhedeg ar drydan a gyda hyn byddem angen nerth y bwystfil niwclear i chargio’r batris dros oriau tawel y nos.  Faint o geir bysem yn gallu chargio gyda gwynt? Dim llawer.  

Deallaf bydd ychydig o wrthwynebiad i’r cynllun yn lleol, wedi’r cwbl pan mae pethau’n mynd o’i le gydag adweithydd gall y canlyniadau fod yn arswydus.  Tybiaf fod digon o ymchwil a rheolau diogelwch yn bodoli ar hyn o bryd i rwystro unrhyw ddamweiniau bellach.

Rheswm arall i gefnogi’r cynllun yw bod yr ardal, ac yn enwedig y Blaenau, wir angen y gwaith yma.  Oni bai am Traws fyswn i wedi hen symud o’ma bellach.  Byddai rhai dwi’n siŵr yn dadlau fod hyn ynddo’i hyn yn reswm da i gau’r lle ond faint sydd eisoes wedi gorfod mynd?  Cynhelid aduniad un o flynyddoedd Ysgol y Moelwyn yn Gaer yn ddiweddar a hynny am fod fanno’n agosach i’r rhan fwyaf!

Sut yn y byd fedrwn gadw’n ieuenctid yma heb waith, a hynny’n waith o safon, sy’n talu’n dda?
Daw digon o dwristiaid yma, a da o beth yw hynny, ond be mae o wedi ei gyfrannu i’r ardal mewn gwirionedd? Mae’r gwaith sy’n dod yn ei sgil yn aml ar isafswm cyflog ac/neu’n gytundebau ‘zero hours’.  Da i ddim i rywun sydd am gael morgais a thrio gosod gwreiddiau yma.  Byddai'r un banc yn benthyca i weithiwr gyda thelerau o’r fath yn siŵr i chi.  Golygai hefyd fod prisiau’r tai wedi codi.  Dywedodd Glyn Lasarus Jones yn ei erthygl wych yn Llafar Bro Gorffennaf-Awst fod 320 o dai AirBnB yma, Duw a ŵyr faint o dai haf yn ogystal!  

Tydi’r gallu ddim gennym i reoli’r farchnad dai ar hyn o bryd felly da ni’n cael ein rheibio gan y farchnad rydd.  Deallaf fod rhai cyplau ifanc sydd wedi bod digon lwcus i gael gwaith yn lleol ac am drïo aros yn yr ardal, wedi’r cwbwl dyma ydi eu cartref, yn gorfod cymryd morgeisi hir dymor iawn o 40 i 45 o flynyddoedd.  Dychmygwch!  A gyda chymaint o eiddo’r dref yn wag am gyfnodau hir yn ystod y flwyddyn, does fawr ryfedd fod siopau’r stryd yn cau.  Y rhyngrwyd, tai haf/llety gwyliau a diffyg gwaith yn fygythiadau enbyd i’r Stryd Fawr.

Ar wahanol adegau pan fûm yn gweithio i ffwrdd, a chychwyn yn oriau mân ar fore Llun, toedd hi ddim yn beth diarth i weld ceir eraill ar y ffordd ar yr un pryd, un ai’n mynd am y Crimea neu’r Migneint, gyda phobol fel finnau’n mynd am eu gwaith.  Roeddwn yn meddwl ar y pryd 'sgwn i be ydi poblogaeth y dref rhwng bore Llun a nos Wener?  Yn saff i chi ‘da ni i gyd yn nabod pobol sy’n gorfod gweithio i ffwrdd, ac mae hyn eto’n ychwanegu at broblemau’r stryd fawr gan fod llawer iawn o’r dynion, a merched, ddim ond yn eu cartrefi ar benwythnosau’n unig.

Yn ôl at y ddadl, credaf fod yr ardal wir angen y cynllun hwn a rhoi cyfle i’n bobol ifanc gael gyrfa, tai a theuluoedd Cymraeg i’r dyfodol.  Bydd geiriau gwag y gwrthwynebwyr yn fawr o gysur inni.  Haws yw gwrthwynebu heb gynnig atebion.  Na, mae’n rhaid stopio llosgi glo a nwy. 

Mae geiriau bythgofiadwy Mic El ar Radio Cymru (dwi’n siŵr fydd o’m yn meindio imi ailadrodd) “dwi’n gorfod mynd i Port i brynu pâr o drôns” yn dweud y cwbwl!

- - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2022



22.5.19

Ynni Cymunedol Twrog

 Uno’r Fro i ymateb i heriau’r dyfodol. Erthygl o rifyn Ebrill 2019

Gyda Llywodraeth Cymru wedi gosod her “i gynhyrchu 70% o’r trydan y mae Cymru yn ei ddefnyddio o ynni adnewyddadwy, erbyn 2030”, mae aelodau cynghorau cymuned a thref Blaenau Ffestiniog, Trawsfynydd, Gellilydan, Maentwrog, Penrhyndeudraeth, Llanfrothen a Thalsarnau wedi dod ynghyd i ymateb i heriau’r dyfodol i ddatblygu a manteisio ar gyfleon yn y maes ynni adnewyddol. Y nod ydi sicrhau rheolaeth o asedau ynni lleol a pherchnogaeth gymunedol.Enw’r fenter, sydd wedi’i chofrestru fel Cwmni er Budd Cymdeithasol, ydi ‘Ynni Cymunedol Twrog’.

Nod pennaf Ynni Cymunedol Twrog yw manteisio i’r eithaf ar ein hadnoddau naturiol er lles ein cymunedau. Mae’r fenter yn gweld ein hadnoddau lleol, yn enwedig potensial cynlluniau ynni adnewyddol, fel cyfleon i greu cyflogaeth a chyfleon buddsoddi sylweddol. Mae’r aelodau yn rhannu’r un weledigaeth: ‘i sicrhau bod arian ac ynni yn aros yn y gymuned leol ac yn cylchdroi o fewn ein cymunedau er lles y trigolion’


Dywedodd Gareth Thomas, cadeirydd Ynni Cymunedol Twrog:
“Mewn amser ble mae plant y byd yn protestio am y newid hinsawdd fydd eu cenhedlaeth yn wynebu, mae’r fenter yma yn un cyffrous iawn gyda saith o gynghorau cymuned yn cydweithio i ddatblygu prosiectau ynni adnewyddol fydd yn fodd i ni gyfrannu tuag at sicrhau amgylchedd cynaliadwy. Hefyd fydd yn ein galluogi i gadw unrhyw fudd economaidd yn lleol. Mae hon yn fenter gan pobl leol er budd pobl leol a'n plant”
Eisoes mae Ynni Cymunedol Twrog wedi bod yn gweithio gyda mentrau lleol, Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru, Y Cymoedd Gwyrdd, Cyd-Ynni, EGNIda ac Arloesi Gwynedd Wledig i chwilio am gyfleon i osod paneli solar ar adeiladau, comisiynu strategaeth ynni adnewyddol ar gyfer y Fro - gan drafod gosod pwyntiau gwefru ar gyfer ceir trydan yn ogystal a gweithio'n agos gyda mentrau eraill megis Ynni Ogwen yn Bethesda i ddysgu a rhannu ymarfer da.

Mae’r fenter hefyd wedi bod mewn trafodaethau lefel uchel gyda’r Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (NDA), yr Aelod Seneddol Liz Saville Roberts a Llywodraeth San Steffan i geisio sicrhau perchnogaeth lleol o Bwerdy Hydro Maentwrog. Pwerdy sy'n medru cynhyrchu 30MW o Ynni Adnewyddol ac sydd wedi cyflenwi tua 4,000 gigawatt i'r grid cenedlaethol dros y 90 mlynedd diwethaf - digon i bweru holl dai Cymru am 6 blynedd.


Yn 2010 cynhyrchwyd astudiaeth gan Cwmni Hyder i Gyngor Gwynedd, Magnox North, yr NDA a Llywodraeth Cymru, oedd yn cynnwys y datganiad canlynol:
“Un estyniad posibl i’r cyfleon yma byddai trosglwyddiad posibl gwaith Pŵer Dŵr Maentwrog i ymddiriedolaeth gymunedol, a ragwelir ar gyfer rhyw gyfnod yn y dyfodol, pan fydd y gwaith yn cael ei roi ar werth"
Byddai’r cynllun uchelgeisiol yma yn mynd yn bell tuag at ateb gofynion Llywodraeth Cymru i sicrhau bod capasiti i gynhyrchu un Gigawatt o ynni adnewyddadwy o dan berchnogaeth leol erbyn 2030.

Mae Ynni Cymunedol Twrog yn credu bod angen i’n cymunedau fod yn uchelgeisiol ac y byddai sicrhau perchnogaeth o gynllun o’r fath yn codi hyder, creu cyfleon gwaith a sicrwydd bod yr arian sylweddol sydd yn cael ei greu o’n hadnoddau yn cael ei fuddsoddi yn ôl yn ein cymunedau.

I wybod mwy am gynlluniau Ynni Cymunedol Twrog cysylltwch â:
CwmniBro@cwmnibro.cymru / 07799 353 588

26.7.16

Blwyddyn gyda’r Dref Werdd

Gwydion ap Wynn, Rheolwr Prosiect y Dref Werdd, yn edrych yn ôl ar flwyddyn gyffrous.

Mae’n anodd coelio fod blwyddyn wedi gwibio heibio ers i brosiect Y Dref Werdd ail-gychwyn eto, ond hefyd gall rhywun ddeall pam wrth ystyried y holl waith sydd wedi cael ei wneud yn datblygu'r cynllun sydd wedi cael ei ariannu gan Gronfa’r Loteri Fawr i “Ddatblygu Tref Werdd Ddyfeisgar”.

Mae cymaint wedi digwydd gyda phob prosiect rydan ni’n gweithio arno, gyda nifer dda o bobl Bro Ffestiniog wedi derbyn cymorth gyda’r gwaith ynni, cyfleoedd gwirfoddoli a llawer o blant y Fro yn cymryd rhan mewn sesiynau addysg, a chyda’n cwrs newydd, Cynefin a Chymuned.

Dros y flwyddyn, rydan ni wedi bod  yn ceisio lleihau biliau ynni  yn yr ardal ynghyd ag allyriadau CO2.

 Mae nifer o dechnegau gwahanol wedi cael eu cyflwyno i helpu arbed arian yn eich cartrefi:
·         Gosod amseryddion cawod i leihau'r amser rydych yn treulio ynddi
·         Cyfnewid eich bylbiau arferol am rai LED, a
·         Gosod ffoil arbennig tu cefn i reiddiaduron.

Un o’r pethau mwyaf llwyddiannus oedd  y gwaith hwyluso a hyrwyddo ceisiadau am  y ‘Warm Home Discount’, sydd yn ad-daliad o £140 oddi  ar y biliau trydan. Mae’r Dref Werdd wedi helpu bron i 100 o bobl ym Mro Ffestiniog gyda’r cynllun yma sydd yn gwneud arbedion o bron i £14,000!

Mae dros 30 o denantiaid a pherchnogion tai wedi cael eu cyfeirio at gynllun Nyth/Nest – rhai wedi cael system wresogi newydd sbon danlli am ddim!


Ar ochr amgylcheddol y cynllun, rydan ni wedi bod yn brysur yn sicrhau ein bod yn parhau gyda’r gwaith o oruchwylio ein hafonydd gwerthfawr gyda diwrnodau yn glanhau sbwriel o Afon Barlwyd a’r Dubach. Anodd coelio bod 'na gymaint o wastraff yn ymgasglu’n y dyfroedd yma, ond diolch i waith caled ein gwirfoddolwyr a’n partneriaid, mae’r ddwy afon yma yn edrych yn llawer glanach heddiw.

Yn ogystal â’r diwrnodau glanhau, rydan hefyd yn brysur yn cynllunio ein brwydr yn erbyn clymog Siapan, neu llysiau’r diafol (Japanese knotweed) sy’n tagu rhai o’n hafonydd a mannau eraill. Mae’r planhigyn yma yn achosi niwed mawr i blanhigion brodorol Bro Ffestiniog a hefyd yn gallu bod yn broblem fawr os ydi o’n tyfu yn eich gardd. Ein bwriad yw hyfforddi ac achredu ein gwirfoddolwyr i ddelio â’r planhigion hyn. Felly, os oes gennych broblem gyda llysiau’r diafol, dewch i gysylltiad â’r Dref Werdd!

Planhigyn arall sydd ddim yn perthyn i’r ardal yw’r Rhododendron ponticum. Er ei fod yn hardd dros ben ym Mehefin, yn ei flodau pinc, dim ond am ryw fis mae o’n para. Mae’r rhywogaeth ymledol yma yn dangos ei wir liwiau drwy gydol y flwyddyn wrth amddifadu'r tirwedd o faeth gwerthfawr.  Unwaith eto, gyda chymorth ein gwirfoddolwyr gwerthfawr, rydan wedi cychwyn ei reoli ar safle yn Nhanygrisiau - ger y Hen Felin - wrth dorri a chlirio, ac wedi cyflogi swyddogion o Cadw Cymru’n Daclus i drin y planhigion yn gywir drwy eu chwistrellu a thrin y stympiau. Rydan wedi clirio bron i 3 acer o dir erbyn heddiw - sydd yn llwyddiant mawr.Yn ail flwyddyn dau y Dref Werdd Newydd, rydan ni mewn trafodaethau gyda Llechwedd i ddelio â’r Rhododendron ar eu tir nhw.

Llwyddiant arall yw’r sesiynau Cynefin a Chymuned i blant y Fro. Dros gyfnod o dri mis, bu 15 o blant yn cael cyfle i ddysgu am amrywiaeth o bynciau, yn cynnwys bywyd gwyllt, hanes, treftadaeth a daeareg, a hynny trwy gymryd rhan mewn gweithgareddau yn yr awyr agored megis sesiynau ‘ysgol-goedwig’, chwilota am a choginio bwyd gwyllt, dringo, a theithiau cerdded gydag arbenigwyr lleol. Bydd arddangosfa o wahanol luniau’r plant yn Siop Antur Stiniog ym mis Medi.

Cewch glywed am holl weithgaredd Y Dref Werdd yn Llafar Bro trwy gydol ail flwyddyn y prosiect.
---------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2016.
Dilynwch hanes y Dref Werdd efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.



12.8.15

Senedd ‘Stiniog

Newyddion gan Y Cyngor Tref, o rifyn Gorffennaf.


Y Cyngor Tref yn brwydro i amddiffyn gwasanaethau lleol!
 
Cafwyd newyddion drwg yn ddiweddar, gyda chyhoeddiad Banc y Nat West fod y cwmni yn mynd i gau eu cangen ym Mlaenau Ffestiniog. Roedd y Cyng. Mandy Williams Davies wedi codi’r mater, gan fynnu fod y Cyngor yn gofyn am gyfarfod gyda’r banc i leisio ein siom a’n pryder am y penderfyniad yma. Fe leisiodd hi siom fod adeilad arall ar y stryd fawr yn cau. Ac ar ben hynny, os oedd mwy a mwy o bobl yn gorfod symud tuag at fancio arlein ac ar y ffôn, meddai, roedd yna berygl y byddai’r posiblrwydd o gael gwasanaeth bancio yn Gymraeg yn diflannu.

Ar ôl trafodaeth, cytunwyd mewn egwyddor i symud cyfrif banc y Cyngor Tref o’r Nat West i’r HSBC, yr unig fanc sy’n dal efo cangen yn Ffestiniog. Gobeithio’n fawr y bydd y banc hwnnw’n glynu at bolisi answyddogol y banciau i gyd, sy’n mynnu fod y banc olaf sydd â changen mewn tref yn ei chadw ar agor wedyn doed a ddelo.

Ydych chi’n bancio efo’r Nat West? Os felly, ydych chi wedi ystyried datgan eich barn yn glir i’r banc hwnnw, a hynny trwy symud eich cyfrif i’r unig fanc fydd yn dal efo cangen yn lleol?

Ond nid gwasanaethau bancio yn unig sydd o dan fygythiad. Ymddangosodd hysbyseb ar y we yn ddiweddar sy’n datgelu fod dyfodol Swyddfa Bost Blaenau Ffestiniog yn y fantol, ynghyd â swyddfa ddidoli’r Post Brenhinol. Mae’r swyddfa bost wedi hysbysebu’r cyfle i redeg swyddfa bost yn y dref, gan gynnwys yr opsiwn o wneud hyn mewn siop arall, yn hytrach nag o’r swyddfa bost bresennol. Petai hyn y digwydd, fe fyddai’r swyddfa ddidoli yn ddigartref ac fe fyddai yna berygl go iawn y byddai’n symud i Borthmadog neu i Lanrwst.
                                                                                   
Petai’r postmon yn methu dosbarthu parsel i chi
wedyn, fe fyddai'n rhaid teithio’n bell i’w nôl o.     
Fe gytunodd y Cyngor i ysgrifennu at y Swyddfa Bost i ofyn am gadarnhad y bydd y Swyddfa Bost a’r Swyddfa Ddidoli yn aros lle maen nhw, ac os oes angen, i lansio deiseb cyhoeddus i ofyn iddyn nhw wneud hyn.

Fferm wynt Llechwedd – newyddion diweddaraf..
Roedd Michael Bewick o gwmni Greaves yn bresennol, i roi adroddiad am gynlluniau’r cwmni. Erbyn hyn, mae Greaves yn gweithio efo cwmni lleol, Northern Welsh Slate, i gynhyrchu llechi ar y safle unwaith eto. Gyda’r holl ddatblygiadau diweddar, y zipwire, y llwybrau beics  a’r Bounce Below, fe ddylai’r cwmni fod mewn sefyllfa i wneud elw dros ei weithgareddau i gyd cyn bo hir, a hynny am y tro cyntaf ers rhyw ddeg mlynedd.

Dywedodd Michael Bewick y byddai cais cynllunio yn mynd i mewn am fferm wynt ar y safle ym mis Medi neu Hydref eleni. Torrwyd nifer y tyrbeiniau i lawr i ddim ond tri, yn sgil pryderon Cyfoeth Naturiol Cymru y byddai rhagor ohonynt yn dinistrio mawn ar y mynydd.

Os caiff y cynllun ei gymeradwyo, mae cwmni Greaves yn bwriadu cyfrannu arian ar gyfer datblygiad economaidd yn yr ardal, meddai, gan gynnwys sefydlu canolfan ymwelwyr am ynni adnewyddol yn y dref.

Rory Francis


13.3.14

Bargen y Dref Werdd

Dyma ddarn o rifyn Mawrth Llafar Bro.
Sylwer os gwelwch yn dda, bod yr erthygl yn cyfeirio at holiadur: yn anffodus doedd hi ddim yn bosib ei gynnwys efo Llafar Bro, ond os hoffech gael cyfle i ennill gwerth £250 o offer trydanol, yna galwch i mewn i Siop Martin ym Mlaenau Ffestiniog i nol un!
                                    -----------------------------------------------------------

Wedi meddwl buddsoddi 
i arbed ynni trwy’r ‘Fargen Werdd’  ?



Os felly, fe fydd Prosiect y Dref Werdd eisio siarad efo chi ym mis Mawrth!

Cynllun wedi ei sefydlu gan Lywodraeth Llundain yw’r Fargen Werdd, neu’r ‘Green Deal’. Y bwriad yw annog pobl i fuddsoddi i wneud eu cartrefi’n fwy ynni-effeithlon, a thrwy hynny cadw biliau ynni o dan reolaeth ar adeg pan fydd pris tanwydd yn codi o hyd.

Yn fras, mae’r cwsmer yn benthyg arian i fuddsoddi, mewn boiler ynni effeithlon newydd neu i insiwleiddio’r ty’n well neu rywbeth tebyg, ac yn talu’r pres yn ôl wrth iddo/i arbed arian, a hynny trwy eu bil trydan neu nwy. Ond gyda chyfradd llog o ryw 7%.

Ond mae’r niferoedd sydd wedi bod yn manteisio ar y cyfle yn dorcalonus. Dim ond 24 ty yn etholaeth Dwyfor Meirionnydd sydd hyd yn oed wedi cael asesiad, llai nag un ar gyfer pob mil o gartrefi. Mae hyn i’w gymharu â 15 am bob mil o gartrefi yn Nwyrain Leeds, er enghraifft. Yn waeth byth, trwy Wledydd Prydain llai na 5% o gartrefi sy’n cael asesiad sydd wedi mynd ymlaen i fanteisio ar y cyfle i fenthyg a buddsodi trwy’r Fargen Werdd. Mae hyn i gyd yn golygu, wrth gwrs, fod pobl Dwyfor Meirionnydd yn colli allan ac yn methu manteisio ar y cyfle i arbed arian ac allyriannau C02 trwy ddefnyddio ynni’n fwy effeithlon.

I fynd i’r afael â hyn i gyd, mae Prosiect y Dref Werdd yn gwneud prosiect ymchwil i ddarganfod pan fod y Fargen Werdd ddim yn apelio at bobl yr ardal. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn talu am yr ymchwil yma, a’r gobaith yw, efallai, y bydd modd sefydlu system yng Ngwynedd lle mae pobl yn gallu benthyg arian i wella eu tai heb log, a’r arian yn cael ei ailgylchu i bobl eraill wrth iddo gael ei dalu yn ôl.

Fe fydd y gwaith ymchwil yma’n digwydd trwy gydol mis Mawrth. Fe fydd Prosiect y Dref Werdd eisio holi pobl ar y stepen drws, mewn grwpiau ffocws hefyd mewn digwyddiad arbennig yn Siop Antur ‘Stiniog rhwng 10 a 2 Dydd Gwener 21 Mawrth. Beth am ddod draw?

Os nad allwch chi aros i helpu’r ymgyrch ac eich bod chi’n barod i rannu’ch profiadau a syniadau ar y pwnc yma, allwch chi nôl holiadur o Siop Martins yn y dref, ei lenwi a’i ddychwelyd yna. Ac fe gaiff pob holiadur sy’n cael ei ddychwelyd ei roi mewn het, ac un ohonyn nhw’n ennill tocyn gwerth £250 o Siop drydanol Martins. Brysiwch felly, allech chi helpu’r ymgyrch am system well, ac ennill offer trydanol newydd allai arbed arian i chi ar yr un pryd!

Rory Francis