Showing posts with label Pwerdy Maentwrog. Show all posts
Showing posts with label Pwerdy Maentwrog. Show all posts

22.5.19

Ynni Cymunedol Twrog

 Uno’r Fro i ymateb i heriau’r dyfodol. Erthygl o rifyn Ebrill 2019

Gyda Llywodraeth Cymru wedi gosod her “i gynhyrchu 70% o’r trydan y mae Cymru yn ei ddefnyddio o ynni adnewyddadwy, erbyn 2030”, mae aelodau cynghorau cymuned a thref Blaenau Ffestiniog, Trawsfynydd, Gellilydan, Maentwrog, Penrhyndeudraeth, Llanfrothen a Thalsarnau wedi dod ynghyd i ymateb i heriau’r dyfodol i ddatblygu a manteisio ar gyfleon yn y maes ynni adnewyddol. Y nod ydi sicrhau rheolaeth o asedau ynni lleol a pherchnogaeth gymunedol.Enw’r fenter, sydd wedi’i chofrestru fel Cwmni er Budd Cymdeithasol, ydi ‘Ynni Cymunedol Twrog’.

Nod pennaf Ynni Cymunedol Twrog yw manteisio i’r eithaf ar ein hadnoddau naturiol er lles ein cymunedau. Mae’r fenter yn gweld ein hadnoddau lleol, yn enwedig potensial cynlluniau ynni adnewyddol, fel cyfleon i greu cyflogaeth a chyfleon buddsoddi sylweddol. Mae’r aelodau yn rhannu’r un weledigaeth: ‘i sicrhau bod arian ac ynni yn aros yn y gymuned leol ac yn cylchdroi o fewn ein cymunedau er lles y trigolion’


Dywedodd Gareth Thomas, cadeirydd Ynni Cymunedol Twrog:
“Mewn amser ble mae plant y byd yn protestio am y newid hinsawdd fydd eu cenhedlaeth yn wynebu, mae’r fenter yma yn un cyffrous iawn gyda saith o gynghorau cymuned yn cydweithio i ddatblygu prosiectau ynni adnewyddol fydd yn fodd i ni gyfrannu tuag at sicrhau amgylchedd cynaliadwy. Hefyd fydd yn ein galluogi i gadw unrhyw fudd economaidd yn lleol. Mae hon yn fenter gan pobl leol er budd pobl leol a'n plant”
Eisoes mae Ynni Cymunedol Twrog wedi bod yn gweithio gyda mentrau lleol, Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru, Y Cymoedd Gwyrdd, Cyd-Ynni, EGNIda ac Arloesi Gwynedd Wledig i chwilio am gyfleon i osod paneli solar ar adeiladau, comisiynu strategaeth ynni adnewyddol ar gyfer y Fro - gan drafod gosod pwyntiau gwefru ar gyfer ceir trydan yn ogystal a gweithio'n agos gyda mentrau eraill megis Ynni Ogwen yn Bethesda i ddysgu a rhannu ymarfer da.

Mae’r fenter hefyd wedi bod mewn trafodaethau lefel uchel gyda’r Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (NDA), yr Aelod Seneddol Liz Saville Roberts a Llywodraeth San Steffan i geisio sicrhau perchnogaeth lleol o Bwerdy Hydro Maentwrog. Pwerdy sy'n medru cynhyrchu 30MW o Ynni Adnewyddol ac sydd wedi cyflenwi tua 4,000 gigawatt i'r grid cenedlaethol dros y 90 mlynedd diwethaf - digon i bweru holl dai Cymru am 6 blynedd.


Yn 2010 cynhyrchwyd astudiaeth gan Cwmni Hyder i Gyngor Gwynedd, Magnox North, yr NDA a Llywodraeth Cymru, oedd yn cynnwys y datganiad canlynol:
“Un estyniad posibl i’r cyfleon yma byddai trosglwyddiad posibl gwaith Pŵer Dŵr Maentwrog i ymddiriedolaeth gymunedol, a ragwelir ar gyfer rhyw gyfnod yn y dyfodol, pan fydd y gwaith yn cael ei roi ar werth"
Byddai’r cynllun uchelgeisiol yma yn mynd yn bell tuag at ateb gofynion Llywodraeth Cymru i sicrhau bod capasiti i gynhyrchu un Gigawatt o ynni adnewyddadwy o dan berchnogaeth leol erbyn 2030.

Mae Ynni Cymunedol Twrog yn credu bod angen i’n cymunedau fod yn uchelgeisiol ac y byddai sicrhau perchnogaeth o gynllun o’r fath yn codi hyder, creu cyfleon gwaith a sicrwydd bod yr arian sylweddol sydd yn cael ei greu o’n hadnoddau yn cael ei fuddsoddi yn ôl yn ein cymunedau.

I wybod mwy am gynlluniau Ynni Cymunedol Twrog cysylltwch â:
CwmniBro@cwmnibro.cymru / 07799 353 588

20.10.18

DŴR: Anfona fo i lawr Noa!

Bu Vivian Parry Williams yn gweithio ym mhwerdy Ffestiniog am dros chwarter canrif. Yma, mae’n pwysleisio pwysigrwydd –hanesyddol a phresennol- dŵr i’r diwydiant cynhyrchu trydan ym Mro Ffestiniog.

Gan mai ‘Dŵr’ yw testun arbennig Llafar Bro y mis hwn, efallai y byddai cyfeirio at gynhyrchu trydan dŵr, neu ‘heidro’ yn y fro yn addas.  Mewn ardal fynyddig fel hon, sydd mor adnabyddus am ei glaw, roedd ‘Stiniog a’r cylch yn ddelfrydol ar gyfer codi pwerdai oedd yn ddibynnol ar ddŵr i gynhyrchu trydan.

Byddai nifer o amaethwyr yn nalgylch y papur bro wedi defnyddio olwynion dŵr ar gyfer gorchwylion ffermio ers canrifoedd, yn sicr. Ac erbyn degawd olaf y 19Ganrif, roedd ambell chwarel wedi dechrau defnyddio cyflenwadau o ddŵr o’u hamgylch i gynhyrchu trydan ar gyfer y gwaith.

Yn Ionawr 1899, ffurfiwyd cwmni Yale Electric Company Ltd gyda’r bwriad o godi gorsaf drydan ar lan afon Goedol. Roedd marchnad barod ar gyfer y cynnyrch, gyda’r holl chwareli yn awchus o gael gwneud defnydd o’r egni newydd, rhyfeddol hwn. Byddai plwyf Ffestiniog yn gyffredinol, gyda’i boblogaeth o 11,500 hefyd yn manteisio’n fawr o’r wyrth dechnolegol newydd. Codwyd lefelau llynnoedd Conglog, Cwmcorsiog, Cwmorthin a Stwlan i gyflenwi’r hylif ar gyfer y cynllun.

Roedd oddeutu 90 modfedd o ddŵr yn disgyn, ar gyfartaledd, yn flynyddol i fwydo’r twrbeini yn yr orsaf drydan yn Nolwen. Adeiladwyd argae arall mewn rhan gul, ddofn ar afon Goedol, oddeutu 700 llath uwchben safle’r pwerdy. Uchder yr argae hwn oedd 30 troedfedd, gyda’r trwch yn y bôn yn 20 troedfedd. O’r argae hwn gosodwyd peipiau dur ddwy droedfedd o led, a gysylltwyd â’r pwerdy ei hun. Cynhwysai’r offer gwreiddiol ddau eneradur (generators) 9 cilowat (KW) yr un mewn maint. A phan feddyliwch fod un tân trydan yn y cartref heddiw yn gallu defnyddio 3 cilowat o drydan, gallwch synhwyro pa mor fychan oedd cynnyrch Dolwen ar y dechrau. Ond, ar y pryd, roedd yn ddigonol at sawl gorchwyl yn y chwareli.

Yn ddiweddarach, gwnaed cytundeb rhwng Yale a’r Cyngor Dinesig lleol i gyflenwi trydan i oleuo strydoedd y Blaenau a’r Llan. Credir mai Blaenau oedd y lle cyntaf ym Mhrydain i gael goleuo ei strydoedd gyda thrydan-dŵr. Ar yr 22ain o Fai 1902, yr Arglwydd Newborough gafodd y fraint o berfformio seremoni cychwyn yr achlysur hanesyddol hwnnw yn y dref. Erbyn y flwyddyn honno, roedd maint cynnyrch pwerdy Dolwen wedi codi’n sylweddol i 180 cilowat. Gosodwyd 3,000 o lampau i oleuo’r strydoedd, gyda dwsin o arc-lamps i oleuo iard a stesion y Great Western, a oedd â’r fraint yn perthyn iddi ar y pryd o fod yr unig orsaf reilffordd yn adran Caer a oleuid â thrydan. Gwesty’r Queens (Ty Gorsaf heddiw) oedd yr adeilad cyntaf yn yr ardal i’w gysylltu â chyflenwad o drydan Yale.


Ymhen ychydig dros chwarter canrif, roedd Pwerdy Maentwrog wedi dod i rym, a’r Gors Goch yn Nhrawsfynydd wedi ei boddi, a’r llyn yn cyflenwi’r pwerdy yn is i lawr yn y dyffryn. Gyda’i 18 megawat wedi agor y pwerdy yn 1928, byddai hynny’n ddigon o gyflenwad ar gyfer gogledd Cymru i gyd ar y pryd, a pheth dros ben ar gyfer rhannau o ogledd-orllewin Lloegr hefyd! Ychydig feddyliai’r defnyddwyr y byddai angen llawer iawn mwy o drydan ar gyfer galwadau’r dyfodol.

Tua 30 mlynedd yn ddiweddarach, roedd yr angen am fwy o gynnyrch wedi tyfu allan o bob rheswm, gyda’r holl beiriannau modern yn llosgi’r trydan wedi cyrraedd y cartrefi. Cychwynwyd ar godi pwerdy Ffestiniog, neu Tan’grisia ar lafar, oedd wedi ei chynllunio i gynhyrchu 360 megawat – anferthol yn y cyfnod hwnnw.  Roedd y pwerdy hwn yn arloesol, gan ddefnyddio’r un dŵr trwy’r amser: roedd y dŵr oedd wedi dod trwy’r pibelli i droi’r twrbeini yn ystod y dydd yn cael ei bwmpio’n ôl i argae Stwlan yn y nos – Pwerdy Storfa Bwmpio, neu pumped storage yn yr iaith fain. Dyma’r gyntaf o’i math i’w chodi ym Mhrydain, mewn ffaith.

Yn ystod fy mlynyddoedd i yn gwasanaethu ym Mhwerdy Ffestiniog, roedd un o’r prif beirianwyr wedi gwneud arolwg o safleoedd/afonydd/nentydd ym mhlwyf Ffestiniog a fyddai’n gallu cyflenwi digon o ddŵr ar gyfer cynhyrchu trydan. Daeth i’r canlyniad bod dros 30 o’r safleoedd hynny yma, yr adeg honno.  Erbyn hyn, gyda’r galw am egni adnewyddol, glân, mae sawl twrbein wedi ei osod eisoes gan unigolion ar ambell safle a awgrymwyd gan y diweddar Norman Marsden. Ac yn ddi-os, bydd ychwaneg yn cael eu gosod yn y blynyddoedd i ddod, a phob un yn gwneud defnydd o’r hylif y mae’r ardal hon mor enwog amdano – Dŵr.

Diolch am law ‘Stiniog ddeuda i!
--------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhan o gyfres arbennig o erthyglau yn rhifyn Medi 2018, ar y thema dŵr.
Celf: Lleucu Gwenllian

Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
(Rhaid dewis 'web view' os yn darllen ar ffôn)


28.5.16

Trem yn ôl -Argae Pandy'r Ddwyryd

Erthygl arall o lyfr 'Pigion Llafar 1975-1999'. 
Y tro hwn gan Allan Tudor, awdur cyfres o erthyglau 'Sylwadau o Solihull', yn dilyn sylw i benblwydd Pwerdy Maentwrog.

Mae gennyf ddiddordeb mawr ym Mhwerdy Maentwrog ers pan oeddwn yn fychan, a minnau yn treulio llawer o amser ar fferm fy nhaid ym Mhenyglannau, sydd nepell o’r llyn a’r pwerdy.  Yr enw a arferid ar y llyn oedd ‘Llyn Dŵr’ – gwreiddiol iawn ynte!  Tybed a yw’r enw yn cael ei harddel heddiw yn y cylch?

O dan y dŵr, ger yr argae mwyaf, ar Afon Prysor, mae adfeilion Pandy’r Ddwyryd, cartref Lowri William. Hi oedd sylfaenydd y Methodistiaid yn y cylch.  Ar ôl gorffen y gwaith ar y llyn, a chyn i’r dŵr godi, tua 1928, trefnwyd gwasanaethau coffa i Lowri William gan y Capel yng Ngellilydan.  Daeth nifer fawr i’r cyfarfodydd, a Mam yn un ohonynt.

Bu tipyn o ailgylchu ar ddefnyddiau ar ôl i’r cynllun gael ei gwblhau, er enghraifft, mae’n debyg fod canolfan gyntaf Sefydliad y Merched yn y Blaenau wedi bod yn swyddfa ar gyfer yr adeiladwyr.  Hefyd, ger ‘Trawsfynydd Lake Halt’ yr oedd adeiladau pren a gafodd eu defnyddio fel caffi a bynglo am flynyddoedd.

Un o weithwyr y pwerdy oedd Mr Shankland,  a oedd yn byw ym Maentwrog (y Storws?)  Roedd yn arddwr da, a byddai’r llechwedd bychan ger y pibellau ar dir y pwerdy yn werth ei weld, yn llawn planhigion lliwgar. Un arall a gofiaf yn gweithio yn y pwerdy oedd Wilfred Coleman, Tŷ’n y Coed, uwchlaw’r Felinrhyd Fach.  Tybed oes rhai o’i deulu yn dal i fyw yn y cylch?

Yn y cyfnod cynnar, yr oedd rhywun yn cerdded y llwybr ger y pibellau o’r llyn i’r pwerdy bob dydd i sicrhau fod popeth yn iawn.  Bob yn hyn a hyn ar hyd llinell y bibell yr oedd blwch teleffon bach pren i gysylltu â’r pwerdy pe bai angen.

Yn ei ysgrif yn rhifyn Medi 1998, mae Glyn Williams yn cyfeirio at yr ail bibell o Benyfoel i’r cynhyrchydd ychwanegol.  Rwyf yn cofio’r ddwy bibell ymhell cyn 1945.  Yn y llyfr ar hanes “Hydro-Electricity in North West Wales”, mae Dewi Thomas yn rhoi’r dyddiad 1934, sydd yn swnio yn nes ati i mi.  Rwy’n cofio fod Dafydd Tudor wedi sôn llawer wrth fy nhad am y drafferth a gawsant i gludo’r pibellau i Benyfoel gydag injan tracsion, a’u gosod yn eu lle.


Wrth gerdded yn yr ardal deuthum o hyd i fodel bach o argae Pandy’r Ddwyryd.  Yr oedd wedi ei adeiladu o goncrit, yn y dauddegau mae’n siŵr, cyfnod codi’r argae.

Ei leoliad oedd ar draws nant fechan, yn y pant - ychydig i’r gogledd o argae Hendremur (SH695384).  Roedd tua pedair troedfedd o uchder, a rhyw ddwy lathen o hyd, yn cyferbynnu’n union â’r argae mawr.

Mae’n siwr iddo gael ei ddymchwel amser adeiladu’r Atomfa.  Tybed a oes rhywun arall yn ei gofio?  Piti na fuasent wedi ei symud oddi yno yn ei grynswth a’i ailosod mewn lle mwy addas.
---------------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 1998, ac yna yn llyfr 'Pigion Llafar' i ddathlu'r milflwydd, ac eto yng nghyfres Trem yn ôl, Ebrill 2016.
Defnyddiwch y ddolen isod neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde i ddilyn cyfres Trem yn ôl.
 

21.3.15

Y Cymdeithasau Hanes

Ychydig o newyddion o'r cymdeithasau, wedi eu haddasu o golofnau cymunedol rhifyn Mawrth 2015..
 

Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog
Ar nos Fercher Chwefror 18fed Vivian Parry Williams oedd y gŵr gwadd yng nghyfarfod y Gymdeithas Hanes a’i destun oedd “ Hanes Pwerdy Maentwrog”. Defnyddiodd  sleidiau i ddangos datblygiad y pwerdy ac yr oeddynt yn gymorth mawr i ni werthfawrogi beth a gyflawnwyd. Dechreuwyd ar y gwaith yn 1924 a’i orffen yn 1928 gyda 600 o weithwyr ac yr amser hynny yr argae oedd yr un fwyaf o goncrit yn y wlad. Yr oedd cynnyrch y pwerdy yn ddigon ar y pryd i ddiben Gogledd Cymru gyfan.

Cafodd adeiladu'r pwerdy a Llyn Traws effaith go helaeth ar ddiwylliant yr ardal gyda 25 o ffermydd a nifer o dai ddiflannu o’r golwg. Un adeilad enwog a foddwyd dan ddŵr y llyn oedd Pandy'r Ddwyryd, hen gartref  Lowri William a ddaeth a Methodistiaeth i’r ardal.

Clywsom lawer am drafferthion efo’r llyn, fel yr oedd yn amharu ar lwybrau cyhoeddus yr ardal. Yn y diwedd gorfu i’r adeiladwyr godi pont  dros rhan o’r llyn ac yr oedd hyn yn arbed llawer ar daith plant ysgol Trawsfynydd oedd yn byw'r ochr arall i’r llyn o’r pentre.

Yr oedd llawer o holi Vivian ar y diwedd a diolchodd Eifion Jackson iddo am noson mor ddiddorol ac addysgiadol. Cynhelir y cyfarfod nesaf ar Fawrth 18fed pryd y disgwyliwn Ellis Roberts, Dolwyddelan, i sôn am y “Mieri Lle Bu Mawredd”.

Cymdeithas Hanes Bro Cynfal
Cyfarfu’r aelodau yn y Caban ar nos Fercher, Chwefror 4ydd pan ddaeth Gareth Tudor Jones atom. Llywyddwyd y noson gan Nesta, ac roedd yn braf gweld cymaint wedi dod allan ar noson oer iawn. Croesawodd Nesta wyneb newydd atom, sef Gwyn Heason sydd yn byw’n rhannol yn Nhynymaes ac wedi dysgu Cymraeg, gan obeithio y daw hi atom eto.

Cafwyd noson ddiddorol gan Gareth yn dilyn sgwrs a gafodd yn yr Arddangosfa Hanes yn y Blaenau pan fu Americanes yn ceisio dilyn hanes hen berthynas iddi a adawodd Blaenau i ddilyn y Mormoniaid yn Ninas y Llyn Halen. Enw’r gŵr oedd Dafydd Roberts, ac roedd yn daid i Bryfdir ac hefyd yn perthyn i J. Glyn Williams. Daeth Dafydd Roberts i weithio yn y chwarel a chadwodd ddyddiadur sy’n rhoi hanes manwl o ddyfodiad cenhadon Mormoniaid yn dod i’r Blaenau yn 1840 gan sefydlu eglwys fechan o tua 40 yn yr hen felin yn Rhydsarn. Gadawodd Dafydd Roberts a’i deulu am America gan gael taith erchyll cyn cyraedd Utah, yn 1856. Roedd Gareth wedi’i gyfareddu gan yr hanes ac wedi gwneud gwaith ymchwil manwl, a llwyddodd i’n cyfareddu ninnau gyda’r hanes.

Fforwm Plas Tanybwlch
Bu dau fab yng nghyfraith y diweddar Emrys Evans yn cydweithio er mwyn difyrru'r aelodau yng nghyfarfod diwedd Chwefror. Evan Dafydd Roberts, Cae Clyd, oedd wedi dethol sleids o gasgliad anferth Emrys, ac yn cyflwyno'r hyn a welwyd yn y lluniau; a Gareth T. Jones, Pwllheli, oedd wedi trosglwyddo'r delweddau i'r taflunydd digidol. Cafwyd lawer o drafod ar y lluniau, ac roedd croeso arbennig i'r lluniau dwbl, lle'r oedd Dafydd wedi dychwelyd i leoliad ambell lun er mwyn cymharu'r golygfeydd rwan a chynt.

Y Gymdeithas Undebol, Trawsfynydd
Ar nos Lun y 9fed o Chwefror yn festri Moreia, cawsom hanes cynnar Clwb Ffermwyr Ieuainc Bronaber gan Mr Ifan Tudor – sgwrs seiliedig ar ei draethawd buddugol yn Eisteddfod Llawrplwy a Phenstryd 2014.
Cwis hwyliog gan Gretta a Tom Ellis gafwyd ar Chwefror y 23ain lle roedd cwestiynau amrywiol ar nifer o bynciau.  Diolchwyd iddynt gan y llywydd Mrs Elen Davies.