Erthygl arall o lyfr 'Pigion Llafar 1975-1999'.
Y tro hwn gan Allan Tudor, awdur cyfres o erthyglau 'Sylwadau o Solihull', yn dilyn sylw i benblwydd Pwerdy Maentwrog.
Mae gennyf ddiddordeb mawr ym Mhwerdy Maentwrog ers pan oeddwn yn fychan, a minnau yn treulio llawer o amser ar fferm fy nhaid ym Mhenyglannau, sydd nepell o’r llyn a’r pwerdy. Yr enw a arferid ar y llyn oedd ‘Llyn Dŵr’ – gwreiddiol iawn ynte! Tybed a yw’r enw yn cael ei harddel heddiw yn y cylch?
O dan y dŵr, ger yr argae mwyaf, ar Afon Prysor, mae adfeilion Pandy’r Ddwyryd, cartref Lowri William. Hi oedd sylfaenydd y Methodistiaid yn y cylch. Ar ôl gorffen y gwaith ar y llyn, a chyn i’r dŵr godi, tua 1928, trefnwyd gwasanaethau coffa i Lowri William gan y Capel yng Ngellilydan. Daeth nifer fawr i’r cyfarfodydd, a Mam yn un ohonynt.
Bu tipyn o ailgylchu ar ddefnyddiau ar ôl i’r cynllun gael ei gwblhau, er enghraifft, mae’n debyg fod canolfan gyntaf Sefydliad y Merched yn y Blaenau wedi bod yn swyddfa ar gyfer yr adeiladwyr. Hefyd, ger ‘Trawsfynydd Lake Halt’ yr oedd adeiladau pren a gafodd eu defnyddio fel caffi a bynglo am flynyddoedd.
Un o weithwyr y pwerdy oedd Mr Shankland, a oedd yn byw ym Maentwrog (y Storws?) Roedd yn arddwr da, a byddai’r llechwedd bychan ger y pibellau ar dir y pwerdy yn werth ei weld, yn llawn planhigion lliwgar. Un arall a gofiaf yn gweithio yn y pwerdy oedd Wilfred Coleman, Tŷ’n y Coed, uwchlaw’r Felinrhyd Fach. Tybed oes rhai o’i deulu yn dal i fyw yn y cylch?
Yn y cyfnod cynnar, yr oedd rhywun yn cerdded y llwybr ger y pibellau o’r llyn i’r pwerdy bob dydd i sicrhau fod popeth yn iawn. Bob yn hyn a hyn ar hyd llinell y bibell yr oedd blwch teleffon bach pren i gysylltu â’r pwerdy pe bai angen.
Yn ei ysgrif yn rhifyn Medi 1998, mae Glyn Williams yn cyfeirio at yr ail bibell o Benyfoel i’r cynhyrchydd ychwanegol. Rwyf yn cofio’r ddwy bibell ymhell cyn 1945. Yn y llyfr ar hanes “Hydro-Electricity in North West Wales”, mae Dewi Thomas yn rhoi’r dyddiad 1934, sydd yn swnio yn nes ati i mi. Rwy’n cofio fod Dafydd Tudor wedi sôn llawer wrth fy nhad am y drafferth a gawsant i gludo’r pibellau i Benyfoel gydag injan tracsion, a’u gosod yn eu lle.
Wrth gerdded yn yr ardal deuthum o hyd i fodel bach o argae Pandy’r Ddwyryd. Yr oedd wedi ei adeiladu o goncrit, yn y dauddegau mae’n siŵr, cyfnod codi’r argae.
Ei leoliad oedd ar draws nant fechan, yn y pant - ychydig i’r gogledd o argae Hendremur (SH695384). Roedd tua pedair troedfedd o uchder, a rhyw ddwy lathen o hyd, yn cyferbynnu’n union â’r argae mawr.
Mae’n siwr iddo gael ei ddymchwel amser adeiladu’r Atomfa. Tybed a oes rhywun arall yn ei gofio? Piti na fuasent wedi ei symud oddi yno yn ei grynswth a’i ailosod mewn lle mwy addas.
---------------------------------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 1998, ac yna yn llyfr 'Pigion Llafar' i ddathlu'r milflwydd, ac eto yng nghyfres Trem yn ôl, Ebrill 2016.
Defnyddiwch y ddolen isod neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde i ddilyn cyfres Trem yn ôl.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon