18.5.16
Y Deigryn Dirgel yn Denu'r Dorf
Daeth cynulliad teilwng a hynod werthfawrogol i wrando ar Gwmni OPRA Cymru yn cloi’r daith ‘Deigryn yn y Dirgel’ (Donizetti) yn Neuadd Ysgol y Moelwyn ym mis Mawrth. Roedd cyfarwyddwr artistig y Cwmni, Patrick Young wrth ei fodd gyda’r ymateb a gafwyd.
Cafwyd perfformiadau hynod gofiadwy gan y cast.
Llwyddodd y tenor ifanc 23 mlwydd oed o Lanfyllin, Rhodri Prys Jones, i greu argraff fel Nemorino. Mae’n wyneb cyfarwydd iawn yma yng Nghymru ac yn enillydd cyson yn ein Prifwyliau.
Felly hefyd y bâs-bariton ifanc o Langefni, Meilir Jones. Ef oedd enillydd ‘Gwobr Goffa Osborne Roberts’ ym Mhrifwyl Wrecsam yn 2011. Roedd ei bortread o’r ‘rhingyll’ Belcore yn cyrraedd tir uchel.
Un sydd wedi bod yn gysylltiedig â byd yr opera ers nifer o flynyddoedd ydy’r baswr Gareth Rhys-Davies, sy’n hannu o Faenan, Llanrwst. Oherwydd anhwylder, collodd ddau berfformiad ar ddechrau’r daith, ond llwyddodd ei bortread o’r ‘cwac-feddyg’ Dulcamara i serennu’n y Moelwyn.
Y soprano o Wyddeles Aoife O’Connell a bortreadodd Adina.
Mae hi’n meddu ar lais arbennig iawn a rhaid yw ei chanmol am ei hymdrech gaboledig i geisio meistroli’r geiriau Gymraeg yn ei chyflwyniad.
Merch â chysylltiadau lleol a chwaraeodd ran Giannetta, sef Heulen Cynfal, bellach o’r Parc, Bala.
Mae Heulen yn wyres i John Gwyn a Rhian, Y Gopa, Trawsfynydd ac yn ferch i Chris, Liverpool House, Llan. Gwnaeth hithau argraff deilwng iawn a dymunwn yn dda iddi yn ei gyrfa’n yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain.
Yn ogystal â chorws bychan o chwe chantor, cafwyd deg o offerynwyr talentog yn ffurfio’r gerddorfa, a hynny dan arweiniad meistrolgar un a fu’n hyfforddwr ac arweinydd dros nifer o flynyddoedd i Opera Cenedlaethol Cymru yn ogystal â bod yn Gyfarwyddwr Cerdd cydnabyddedig – Anthony Negus.
Mae Cwmni OPRA Cymru yn mynd yn ei flaen o nerth i nerth. Rydym ni yma ym mro ‘Stiniog yn ymhyfrydu’n fawr yn hynny. Yma, wrth gwrs, mae ei gartref. Ni allwn ond gobeithio y pery i dderbyn cefnogaeth dros Gymru benbaladr ac y gwêl pawb sy’n caru’r Iaith a’r Diwylliant Cymreig yn dda i’w gefnogi.
Ymddangosodd yr uchod yn rhifyn Ebrill 2016.
* * * * * * * *
Dyma ddarn o golofn Rhod y Rhigymwr, gan Iwan Morgan, o rifyn Mawrth eleni:
Ers dechrau mis Hydref diwethaf hyd ddechrau Ionawr eleni, cefais yr anrhydedd o drosi opera Donizetti – “L’Elisir D’Amore” i Gwmni Opra Cymru. Er cymaint y dasg, rhaid cyfaddef i mi gael cryn bleser yn ceisio cyflawni’r gwaith, ac mae cael clywed y cantorion proffesiynol yn cyflwyno’r cyfan dan gyfarwyddyd Patrick Young a’r cerddor, Anthony Negus yn rhoi cryn wefr imi.
Bu i mi dderbyn sgôr yr opera gyda’r geiriau Eidalaidd o dan y gerddoriaeth i ddechrau, ynghyd â chryno-ddisg a mynediad i gynhyrchiad ohoni ar You-tube. Rhaid oedd ymgyfarwyddo â’r gwaith, darllen ambell grynodeb o’r cynnwys, a chael rhydd-gyfieithiad o’r libreto’n y Saesneg. Gan fod Patrick yn gwbl hyddysg yn yr Eidaleg, aeth ati i nodi sillafau’r llinellau, yr acenion ynghyd â’r odlau, a ddigwyddai fod yn aml yn y gwaith, mewn colofn ar ochr chwith y dudalen. Ar yr ochr dde, roedd y lled-gyfieithiad Saesneg, ac roedd y golofn ganol yn wag ar gyfer gosod fy nhrosiad Cymraeg.
Fel hyn, o olygfa i olygfa, yn adroddganau, cytganau, unawdau, deuawdau, triawdau a phedwarawdau yr aeth y gwaith rhagddo. Bu Patrick yn llefaru’r geiriau’n yr Eidaleg, a minnau’n gwirio’r trosiad Cymraeg fel rhyw garreg ateb ar ei ôl.
Anodd weithiau oedd cynnal syniadau bardd y libreto wreiddiol, Felice Romani, a rhaid oedd ceisio creu delweddau oedd yn cyfleu ystyron tebyg yn y Gymraeg. Roedd canfod odlau synhwyrol hefyd yn gallu bod yn dipyn o fwrn ar brydiau. Dro arall, cafwyd manteisio ar gyfle i geisio addurno ychydig ar y llinellau drwy ddefnyddio cyflythreniad a chynghanedd. Y gobaith ydy mod i wedi llwyddo i wneud peth cyfiawnder â cherddoriaeth hudolus Donizetti.
Ynghanol yr act gyntaf, lle mae Nemorino’n ceisio’n ofer i ennill serch Adina, ceir deuawd hyfryd -
ADINA
Gofyn nawr i’r awel dyner
pam nad oeda am funudyn
ar betalau’r lili a’r rhosyn,
neu yng nghôl y ddôl neu’r nant?
“Dyma natur,” ddwed tan fwmial,
gyda thôn chwareus i’w thant;
Mae’n anwadal, mae’n anwadal,
dyna’i natur hi – fel chwarae plant.
NEMORINO
Wel, be wna i?
ADINA
Gwrthod fy ngharu! Neno’r tad, o gad mi fod!
NEMORINO
O Adina! ... rydwi’n methu.
ADINA
Dwedaf innau –
Mae’n rhaid! Mae’n rhaid! Mae’n rhaid!
NEMORINO
Mae’n rhaid! Mae’n rhaid!
Pam fod murmur nant yn igian
Wrth ddylifo dros greigiau geirwon
tua’r môr a’i erwau mawrion?
Yna marw a wna hi!
Dwed mai cael ei llusgo yno
wna gan nerthol rym ei lli.
ADINA
Be ti’n geisio?
NEMORINO
Marw fel afon –
tra’n dy ddilyn di yw’n nod!
ADINA
Câr un arall: rwyt rydd dy galon.
NEMORINO
Aa – does neb, does neb i fod!
Does neb i fod! Does neb i fod!
ADINA
I’th waredu o’r fath hurtrwydd
paid â chael un cariad cyson,
dilyn di’n ffordd i yn ebrwydd,
daw i’th ran lai o helbulon.
Fel mae’r doeth yn trechu’r ynfyd –
serch yn trechu serch y sydd.
Blas gaf innau, blas ar fy mywyd;
Llon fy nghalon, a minnau’n rhydd!
NEMORINO
Aa! A, tydi, ond ti a welaf
Wawr a chyfnos, ti yw fy mhopeth;
ofer ceisio, na, ni allaf
gael dy wared, dyna mhenbleth!
Mae dy lun ar glawr fy meddwl,
Mynnaf i mai yno bydd!
Fel yr haul mewn nen ddigwmwl
Ni chaiff hwnnw fyth fynd yn rhydd.
Mae’n debyg mai’r aria enwocaf yn yr opera ydy honno i’r tenor – “Una furtiva lagrima.” Rhoes hon deitl i gynhyrchiad Cwmni Opra Cymru – “Deigryn yn y Dirgel”.
O ganfod fod Adina mwyach yn ei garu, fel hyn y cân Nemorino:
Daeth deigryn cêl o’i llygaid hi
A llithro i lawr ei grudd,
Fel petai’n chwerw wrth ferched llon
fu’n tarfu ar ei dydd!
Beth mwy a geisiaf na hyn?
Beth mwy a geisiaf na hyn?
Cariad! Ei chariad
tuag ataf, tuag ataf i.
Cael profi gwefr un eiliad wiw
Yng nghuro’i chalon gun!
Cymysgu ocheneidiau
Am hynny, ein dau’n gytûn! ...
Ei chalon hi a’m calon i yn un,
Ei hocheneidiau hi a mi’n gytûn!
Nefoedd! O cymer fi!
Yr oll a geisiaf, a geisiaf i.
--------------------------------------
Lluniau gan Opra Cymru.
Defnyddiwch y ddolen isod neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde, er mwyn darllen mwy am Opra Cymru.
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon