Cyngor amserol gan Eurwyn Roberts, Meithrinfa Blodau'r Felin. Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 1999.
Yn yr Ardd Lysiau
Os ydych wedi plannu tatws cynnar bydd angen cadw golwg os bydd y gwlydd yn torri allan o’r pridd ac os bydd yn debyg i ni gael rhew bydd angen eu priddo neu roi papur neu ‘fleece’ drostynt.
Cofiwch ei bod yn well rhoi rhyw fath o gylch weiar neu rhywbeth tebyg dros y rhesi rhag i beth bynnag y byddwch yn ei ddefnyddio i warchod y tatws gyffwrdd yn y dail neu maent yn debygol o gael eu llosgi gan y rhew.
Ffa, pys, a mwy |
Gellir plannu ffa dringo tuag at ddiwedd y mis a chadw golwg ar y tywydd a’u gorchuddio os bydd rhew yn debygol.
Pys sydd wedi cael eu hau y mis diwethaf – bydd yn rhaid rhoi ffyn wrthynt yn awr. Brigau coed cyll yw'r gorau. Mae rhai yn defnyddio rhwyd hefyd. Rhwymo ffa hefyd fel y maent yn tyfu, ac er mwyn cael dilyniant o lysiau: hauwch eto, pethau megis letys, rhyddugl, betys a maip.
Bydd planhigion tomatos yn tyfu'n gryf yn awr a bydd angen rhoi llinyn i gansen i’w dal a hefyd torri yr ochr dyfiant (side shoots) yn rheolaidd. Bwydo hefyd bob wythnos.
Mae hefyd yn adeg i blannu ciwcymerau o dan wydr; mae rhain yn hoffi lleithder ac felly yn werth chwistrellu dŵr dros y dail yn aml.
Yn yr Ardd Flodau
Os fuoch chi'n bwydo planhigion gyda bwyd sydd yn uchel mewn nitrogen, ac os oes gennych blanhigion megis planhigion tŷ sydd ar fin blodeuo mae angen newid y bwyd yn awr i un sydd yn uchel mewn potash (e.e. phostrogen). Beth mae hwn yn mynd i’w wneud yw cryfhau’r goes a rhoi lliw da i’r blodyn.
Blodau'r gwanwyn |
Beth sydd rhaid cofio am blanhigion wedi eu plannu mewn compost di-bridd, yw bod y bwyd sydd yn y compost wedi ei ddefnyddio gan y planhigion ar ôl rhyw fis, ac felly mae’n hanfodol eich bod yn eu bwydo wrth ddyfrio.
Gellir hau hadau megis ‘larkspur, calendula a godetia’ yn awr yn lle y meant am flodeuo a’u teneuo yn nes ymlaen.
Fe ellir rhoi basgedi crog allan yn ystod y dydd a’u rhoi mewn cysgod dros nos tan ddiwedd y mis.
Bydd angen gwneud hyn hefo’r holl blanhigion blynyddol er mwyn eu caledu yn iawn cyn eu plannu allan.
------------------------------------------
Lluniau -Paul W.
Gallwch ddilyn y gyfres trwy glicio'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde. Diolch i Eurwyn o Feithrinfa'r Felin, Dolwyddelan.
Mae llawer mwy o hanesion garddio yn Stiniog ar wefan Ar Asgwrn y Graig hefyd.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon