Ymddangosodd yn wreiddiol yng ngholofn Stolpia, yn rhifyn Mehefin 1995
Pan ddechreuais ysgrifennu ar y testun hwn yn y golofn, prin y sylweddolais fod cynifer o bobl wedi gadael ein bro i chwilio am fywyd newydd yn y Wladfa ym Mhatagonia. Mae’n edrych yn debyg hefyd, yn ôl yr ymateb beth bynnag, fod amryw o ddarllenwyr ‘Llafar’ ag atgofion difyr am rai a ymfudodd drosodd yno dros y blynyddoedd gynt.
Ymhlith y rhai eraill a ymfudodd ceid Robert Williams, mab John Williams, Maenofferen; John D. Jones, Tanygrisiau; a H.J. Hughes, Llan Ffestiniog. Diwedd trist fu hanes amryw ohonynt yn y wlad bellennig hon.
Boddwyd John Price wrth groesi’r afon ar gyfer Capel Moria ger Trerawson yn 1891. Roedd ef a’i wraig wedi ymfudo yno o ‘Stiniog ryw ddwy flynedd ynghynt. Bu farw merch Giffith Solomon ychydig ar ôl iddynt lanio yno gyda’r fintai gyntaf. Collodd John Roberts a’i wraig (a hanai o Ffestiniog) eu mab John ym Mawrth 1866 pan oedd yn 16 mis oed. Ar Ragfyr 5 yr un flwyddyn ganwyd mab iddynt ... ac enwyd hwn yn John hefyd. Beth a ddaeth o’r teuluoedd hyn wedyn, ni allaf ddweud.
Dim ond am dymor, neu ychydig flynyddoedd yr arhosodd rhai o’n cyd Stiniogwyr yn y Wladfa. Soniais o’r blaen am Robin Jones Swch. Wel, dyna fu hanes Robert Jones (Bob Cyffdy) hefyd, sef ewythr i Mr W.H. Reese, Heol Leeds. Deallaf ei fod ef wedi bod yn gweithio yno ar ‘Y Drafod’, sef newyddiadwr y Wladfa, cyn dychwelyd i’r Blaenau.
Dyna hefyd oedd hanes y bardd, gweinidog ... prifardd, archdderwydd a chofianydd pennaf y Wladfa, sef R.Bryn Williams. Ymfudodd ef yno gyda’i rieni ac amryw aelodau o’r teulu pan oedd oddeutu 8 mlwydd oed. Ganwyd R.Bryn Williams yn un o’r tai a fyddai y tu ôl i Gapel Tabernacl gynt yn 1902. Gan fod nifer dda o lyfrau yn adrodd ei hanes ym Mhatagonia, nid âf i draethu yma amdano.
Pa fodd bynnag, os ydych a diddordeb yn hanes y Wladfa mi fyddech yn sicr o droi at un ... o’r holl lyfrau .. a ysgrifennodd am y wlad honno.
Dyma enwi rhai ohonynt:
‘Cymry Patagonia’ (1942)
‘Lloffion o’r Wladfa’ (1944)
‘Rhyddiaith y Wladfa' (1949)
‘Y Wladfa' (1962)
‘Gwladfa Patagonia' (1965)
‘Canu’r Wladfa’ (1965).
Yn ogystal â’r uchod, y mae ganddo ugeiniau o erthyglau, ysgrifau a cherddi am y Wladfa Gymreig ... heb sôn am nofelau a storiau, ayb.
Efallai y dylwn ddweud yma hefyd fod ei fab y Dr. Glyn Williams, Prifysgol Bangor yn hyddysg yn hanes y Wladfa, yn ogystal. Mae yntau bellach, wedi cyhoeddi nifer fawr o erthyglau yn ymdrin â Phatagonia a’i phobl.
O edrych ar hanes y Cymry a ffarweliodd â’u broydd genedigol a hwylio yr holl ffordd dros y cefnfor i chwilio am wlad yn llifo efo llaeth a mêl, yn ddiau, trodd pethau yn debyg i’r hyn a ddisgrifia R.Bryn Williams yn ei bryddest ‘Yr Arloeswr’ i amryw ohonynt!
‘Glaniodd y fintai yng ngwlad yr hud********
Ond mae perllannau’r breuddwyd drud?
Ond noethni anial yn unig a gaed
A rhewynt deifiol yn fferru gwaed,
Gwlad a’i gorffennaf yn aeaf llwm
Dan gwrlid barrug fel eira trwm’.
Serch hynny, nid fel yna y gwelodd pawb y lle ac aros yno i arloesi ac ymdrechu byw a wnaeth llawer o’r Cymry nes sefydlu trefedigaethau o un pen o’r paith i’r llall ... ac fel yna y cafwyd enwau lleoedd Cymraeg yng nghanol gwlad y Tehuelcheiaid... megis Dôl y Plu, Rhyd-yr-Indiaid, Llyn Padarn, Dyffryn Camwy... heb anghofio’r prif drefi fel Porth Madryn, Trelew, Trefelin a’r cwm enwog hwnnw, Cwm Hyfryd.
*********
O.N. Diolch i bawb a gymerodd ddiddordeb yn y golofn dros y misoedd diwethaf... a diolch i’r canlynol am fy nghynorthwyo y mis yma:- Mr Elwyn Williams (Postman), Mrs Sally Williams (Llan), Mr Griffith R. Jones, Cae Clyd.
------------------------------------------------
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
Tad maeth fy hen hen nain Jane Price (c.1861-1918) oedd John Price (1832 Caernarfon - 1891 Trelew), a foddwyd wrth groesi'r Afon Chubut ger Capel Moria, Trelew yn 1891. Cefais yr hanes gan nain, a fagwyd ar aelwyd ei nain Jane a'i thaid William Evan Jones (Glanrafon, Tanygrisiau wedyn 4 Ffordd Dorfil).
ReplyDeleteMabwysiadwyd Jane yn faban yn yr 1860au o Wyrcws Pwllheli, a thalodd ei thad maeth John Price a'i wraig Elin - oedd yn ddiblant - swllt amdani. Yn 1881 roedd John Price yn signalwr ar y rheilffordd ac yn byw yn Tunnel Cottage, Tanygrisiau (dan ddwr y llyn erbyn hyn).
Ond dywed yr Herald Cymraeg iddo ef a'i wraig gychwyn i'r Wladfa ym mis Ebrill 1889.
Yr hanes gan nain oedd i'w geffyl ddychwelyd hebddo i'r cartref ym Mhatagonia. Ond pan aethant i chwilio amdano, fe'i cafwyd wedi boddi yn yr afon. Roedd ei oriawr wedi stopio ar yr adeg y taflwyd ef i'r dwr mae'n debyg.
Mae hyn yn cydfynd â'r stori a gyhoeddwyd yn y papurau newydd (e.e. Y Genedl Gymreig, Awst 26, 1891): "Mehefin 9fed cyffrowyd y canolbarth pan ddeallwyd fod John Price wedi boddi wrth groesi yr afon ar gyfer capel Moria, ar ei ffordd adref o Trerawson, yn feddw, y noson flaenorol. Cafwyd y gaseg a farchogai yn pori yn ei chynefin, a rhai o'r gêr wrthi. Ymfudasai ef a'i briod i'r Wladfa o Ffestiniog ddwy flynedd yn ôl."
Soniodd nain yr un gair ei fod yn feddw! Dychwelodd ei weddw Elin i Gymru (er, methais a chanfod ei chofnod marw, felly tybed aeth yn ôl?), ac mae gennym yn ein meddiant bombilla pres a ddefnyddir yno i yfed tê maté.
Diolch am eich sylwadau difyr iawn. Tybed fyddech chi'n fodlon i ni eu hatgynhyrchu yn y papur? Mae'r sylw wedi ymddangos yn ddi-enw uchod, gallwch yrru e-bost at unrhyw un o swyddogion Llafar Bro os ydyw hynny'n haws. Mi fyddai llun o'r bombilla yn mynd yn dda efo'r darn os ydych yn fodlon. Diolch, ^Paul
DeleteDim problem - dwi'n meddwl oherwydd i mi lofnodi gyda'm cyfeiriad ebost y digwyddodd hynny.
DeleteMae gen i lun trawiadol o'r ferch faeth Jane Price a'i gwr William E. Jones - gollodd ei goes yn y chwarel a chael ei gyflogi ar un adeg wedyn i gerdded drwy'r twnel i chwilio am ddefaid fyddent yn syrthio drwy'r tyllau awyru; a'u pedair merch. Mae gennyf hefyd Lysieulyfr oedd yn perthyn i William Evan, oedd yn disgyn o ochr ei fam o deulu Isallt, Cwm Pennant (y meddygon, wrth gwrs). Roedd yn rhwymo llyfrau, ac mae gennyf chwyddwydr wnaeth o. Roedd yn un o deulu mawr cerddorgar yn Nhanygrisiau wnaeth ffurfio côr, yn dalentog gydag offerynau hefyd. Galwyd ei chwaer Keturah - fu farw'n ifanc - wrth yr enw Eos Ystradau. Mae casgliad o ohebiaeth chwaer arall, y Parch. Azuba Jones Johnstown, Pennsylvania a'r casglwr John William Jones, yn y Llyfrgell Genedlaethol. Cyfeiria at lifogydd mawr Johnstown ac amryw byd o bynciau eraill. Roedd yn un o arweinyddion mudiad dirwest y dalaith ac yn darlithio ar y pwnc, gan ymweld â Chymru i hybu'r achos hefyd. Ymunodd â'r Efengylwyr yn Pennsylvania, gan fod yr Hen Gorff yn llawer rhy batriarchaidd ganddi.
Cefais hanesion am y lleill o'r brodyr a chwiorydd hefyd - plant Evan a Margaret Jones Tre Llwyn, Tanygrisiau (11 neu 12 ohonynt). Collwyd Jacob, aeth i'r môr yn llencyn, yn nyfnderoedd yr eigion; bu farw Sibiah yn nhref Bethesda ar enedigaeth baban, ac mae englynion gan ei brodyr a chwiorydd ar ei charreg fedd hi a'r baban a gladdwyd gyda'i gilydd yn 1877 yng Nglanogwen. Lladdodd Mary ei hun wedi i'w mab mabwysiedig Willie John fynd i America - stori a gadarnhawyd, ond na sonnir am achos ei phoen meddwl, wedi canfod yr hanes yn newyddiaduron 1889. Cafodd ei nith hi ynghrog yn ei chartref yn London Terrace. Hi oedd yr hynaf, ac fe'i ganwyd yng Ngwm Ystradllyn yn ôl un cyfrifiad - wedyn tua chanol y 1840au y symudodd y teulu i ochrau Ffestiniog.
Roedd yr ail fab John, tenor o fri, yn athrylith gydag offerynau cerddorol, yn enwedig y ffidil, yn ôl atgofion ei chwaer Azuba - ond doedd hynny ddim wrth fodd ei fam o gwbl, ac fe rhoddid "offeryn y diafol" yn ddiogel o'r neilltu ar y Sul. Ond bu John farw'n 23 oed, ac o fewn 6 mis, claddwyd ei fam yn ei ymyl o weld colli cannwyll ei llygad. Aeth Jane, merch arall, draw i'r Unol Daleithiau yn ôl nain, a dim ond yn ddiweddar drwy brofion DNA ar un o'r gwefannau achau y daethpwyd i gysylltiad a'i disgynyddion a chael llun ohoni. Maent yn dal i arddel eu Cymreictod bron i ganrif a hanner yn ddiweddarach.
Daeth wyres Azuba draw yn y 1980au i weld fy nain, a dangosodd fy nhad safle'r hen gartref teuluol iddi yn Nhanygrisiau. Ganwyd Azuba yn 1860 ym Mhenybryn, a chafodd yr enw (sy'n golygu "gadawedig") gan na ddisgwylid i'r baban gwantan fyw - trodd y meddyg oddi wrthi yn ôl at y fam i ofalu am honno. Ond magodd ei thad hi gyda'r gofal tyneraf a chafodd fyw hyd 1946, pan fu farw mewn tân trychinebus yn ei chartref yn Johnstown: "Mrs.Azuba Jones is Burned to Death", ys dywedodd paper lleol. Ymddangosodd ei hatgofion yn y papur wythnosol y Drych a gyhoeddwyd yn Utica, N.Y.
Wrth gyhoeddi darn am lwyddiant fy nain yn gyntaf drwy Gymru mewn arholiad ysgrythurol yn 1920, dywedid am ei thaid William Evan fod ganddo dalent i ganu ac i "gadw yn ei gof hen alawon Cymreig fuasent wedi myned yn llwyr ar goll onibai am ei gof dihysbydd". Byddai'n ddiddorol cael gwybod mwy am hyn. Roedd ei ferch ef a Jane Price, Ellen Jane Jones, yn athrawes drwyddedig yn Ysgol Glanypwll, wedi mynychu Prifysgol Aberystwyth am 2 flynedd; ond bu farw yn 1915 yn 27 oed.
Beth bynnag, dyma grwydro'n go bell o'r testun gwreiddiol - er gryn dipyn yn nes at adref na Phatagonia bell...
Maredudd ap Rheinallt