Be ydi'ch barn chi am ddatblygu adweithyddion bach modiwlar -small modular reactors- yn Traws? Peth da ar gyfer swyddi? Syniad gwael i’r amgylchedd a diogelwch?
Llun Paul W |
Pan adeiladwyd yr atomfa yn wreiddiol roedd cryfder yr iaith yn ein cymunedau yn ddigon i ddygymod efo’r gweithlu diarth anferth. Ydi hynny’n wir os bydd adeiladu ar raddfa fawr yno eto?
Oes cyfiawnhad i ddatblygu adweithydd arall cyn bod gwastraff y cyntaf wedi’i waredu’n ddiogel? Sut fyddai atomfeydd newydd yn effeithio ar uchelgais rhai yng Nghymru i fod yn genedl annibynol? Dyma rai o’r sylwadau a gafwyd pan ofynnodd Llafar Bro am farn pobl leol.
Er mwyn adlewyrchu pob barn yn deg, rhoddwyd cais yn rhifyn Gorffennaf-Awst, ac ar ein cyfryngau cymdeithasol am sylwadau, ac mi gafwyd nifer o ymatebion. Diolch i bawb am gyfrannu.
Doedd Diana ddim yn hapus amdano o gwbl, a Vivian yn gresynu am dorri addewidion ‘y byddai adweithyddion yr orsaf bresennol a gweddill yr adeiladau yno wedi eu chwalu i'r llawr ymhen deng mlynedd o gychwyn y digomisiynu’. Roedd hefyd o’r farn bod ardaloedd fel y Blaenau a'r fro yn cael eu cadw’n ddifreintiedig, er mwyn ‘sicrhau y bydd cynlluniau peryglus fel hwn yn cael eu derbyn yn ddiwrthwynebiad!’
Mae Dyfed ar y llaw arall, yn hollol gefnogol o’r syniad o atomfa newydd, ac o’r farn y daw a ‘gwaith sydd yn talu cyflogau da i bobl leol. Mae canran fawr sydd yn gweithio yn Traws ar y funud yn Gymry Cymraeg (“tua 90% or gweithwyr ‘swn i yn amcangyfri yn lleol” (Gwynedd/Môn/Conwy)’.
Medd David: 'Os ydy o’n saff (ac efo technoleg di gwella ers y 60au fedra'i ddim gweld pam sa fo ddim) a fod yna addawiad i roi canran da o'r swyddi i bobl lleol (cynnig 'academi' hyfforddi am y dyfodol hefyd) dw'i yn gefnogol’.
‘Fy marn personol i’ medd Mari ‘ydy fod y safle yn bodoli yn barod, a byddai unrhyw ddatblygiad newydd yn fuddiol i weithwyr/prentisiaeth i bobl leol’ gan ychwanegu: ‘Ond, yn y pendraw y peth pwysica' ydy pwy sy'n mynd i elwa o'r egni a gynhyrchir yno? Os mai ar ei'n stepan drws ni mae'r pwerdy, ac unrhyw risgiau cysylltiedig siawns mai NI ddylai weld y buddianau!?’
Holi mae Calvin ‘a fydd y gwaith yma ar gael i weithwyr lleol? Achos mae’r mwyafrif o’r ‘agencies’ ‘ma yn dod a gweithwyr efo nhw o ardaloedd eraill...’
Mae Marcus ‘wedi gweithio i Magnox ers yr wythdegau, ac yn gefnogol. Heblaw am y gwaith a’r arian fydd yn dod i’r ardal, dwi yn meddwl bod ynni niwcliar newydd yn hanfodol i’r cymysgiad i gynhyrchu ynni ‘gwyrdd’, ac hefyd’ meddai ‘yn ddefnyddiol i gynhyrchu hydrogen fforddiadwy fel sgil-gynnyrch’.
Teg felly, ydi awgrymu fod y farn wedi’i hollti yn lleol.
Mae dau wedi ymateb yn fwy cynhwysfawr, felly dyma adlewyrchu eu barn hwy isod, gan obeithio fod hyn yn fodd i gychwyn trafodaeth pellach yn lleol. Mae’n wirioneddol bwysig i ni sy’n byw yma, i gynnal y drafodaeth a chyfrannu at y penderfyniadau pwysig am sut mae ein bro yn cael ei ddatblygu a’i ddefnyddio.
Mae Meilyr Tomos yn arbenigwr ar ynni adnewyddadwy, ac roedd yn gweithio efo’r Dref Werdd yn Stiniog tan yn ddiweddar iawn. Mae o wedi ymchwilio i’r math o adweithydd sydd dan sylw, ac mae’n amheus o’r addewidion am swyddi: Yn ôl Rolls Royce, gwneuthurwyr y dechnoleg newydd, mae tua 90% o’r gwaith cynhyrchu ac adeiladu’r offer yn digwydd mewn ffatri ac nid ar y safle, felly nid yn lleol fydd y swyddi adeiladu ar y cyfan. Mae’r cwmni angen 16 lleoliad er mwyn cael ad-daliad ar eu buddsoddiad hwy yn y dechnoleg; ydi hynny’n awgrymu angen masnachol yn hytrach na gwir angen yr egni..?
‘Dwi’n gwbl hyderus’ medd Meilyr ‘y gallwn ni ddiwallu ein anghenion trydan lleol trwy ffynonellau adnewyddol, a hynny am brisiau teg, heb orfod talu am dividends i gyfranddalwyr cwmniau rhyngwladol. Mae angen datblygu grid egni lleol; gall hyn fod trwy grid ‘rithiol’ gan ddefnyddiol is-adeiledd bresennol, neu weithiau trwy gyswllt newydd lleol’.
Gwyddwn yn fras faint o drydan fydden ni angen fesul tŷ erbyn 2050, ac os wnawn ni gyfri faint mae’r pwerdai hydro bach a chanolig i gyd yn gynhyrchu yng nghyffiniau gogledd Meirionnydd, mae hynny’n ddigon i gyflenwi 133% o’r angen hwnnw. Mae hynny cyn ystyried cynhyrchu solar PV, ac unrhyw ddatblygiadau hydro a gwynt cymunedol newydd ddaw erbyn hynny.
O ran jobsys lleol hefyd, meddai, roedd diffiniad cwmni Horizon o ‘lleol’ ar gyfer Wylfa Newydd yn golygu ardal bob cam at Gaer, dros y ffîn! Mae o hefyd wedi canfod ystadegau am adweithydd tebyg -yng Nghanada- i’r rhai sy’n gael eu hawgrymu ar gyfer Traws, lle nad oes ond 29 aelod o staff yn gweithio yno. Ac mi fydd y dechnoleg mewn 10 mlynedd arall o bosib yn cynnig hyd yn oed mwy o awtomeiddio offer.
Yn olaf, mae costau datgomisynu adweithyddion Prydain yn rhedeg i’r Biliynau, a hynny heb ddatrys y mater o ganfod storfa ddiogel barhaol i’r hen danwydd. Pwy sydd eisiau un o’r rheiny ar eu stepan drws?!
Mae Dei Mur, Blaenau yn gweithio ar safle’r atomfa ar hyn o bryd. Dyma’r hyn oedd ganddo fo i’w ddweud:
Credaf, yn bersonol, bydd y cais ar y cyfan o les i’r ardal. Dywedir fod Cymru eisoes yn cynhyrchu digon o drydan i’n cynnal fel mae hi, ond dwi’n meddwl mai’r cynllun pell gan Llywodraeth Cymru a San Steffan yw cael holl gerbydau cludiant ynys Prydain yn rhedeg ar hydrogen. I allu cynhyrchu’r hydrogen ‘gwyrdd’ hyn dywedir fod rhaid cael cyflenwad cyson o drydan, rhywbeth sydd ar hyn o bryd yn amhosib ei gael efo’r dechnoleg bresennol, gyda gwynt, llanw neu heulwen. Gallu buddsoddi yn y rhain dylai fod ein huchelgais er datblygu technolegau newydd at y dyfodol. Does dim dadl bellach fod y blaned yn cynhesu ac mae’n rhaid inni felly ddarfod rhyddhau carbon, a hynny ar frys. Cyn hynny, gwell byddai cael ein cerbydau cludiant yn rhedeg ar drydan a gyda hyn byddem angen nerth y bwystfil niwclear i chargio’r batris dros oriau tawel y nos. Faint o geir bysem yn gallu chargio gyda gwynt? Dim llawer.
Deallaf bydd ychydig o wrthwynebiad i’r cynllun yn lleol, wedi’r cwbl pan mae pethau’n mynd o’i le gydag adweithydd gall y canlyniadau fod yn arswydus. Tybiaf fod digon o ymchwil a rheolau diogelwch yn bodoli ar hyn o bryd i rwystro unrhyw ddamweiniau bellach.
Rheswm arall i gefnogi’r cynllun yw bod yr ardal, ac yn enwedig y Blaenau, wir angen y gwaith yma. Oni bai am Traws fyswn i wedi hen symud o’ma bellach. Byddai rhai dwi’n siŵr yn dadlau fod hyn ynddo’i hyn yn reswm da i gau’r lle ond faint sydd eisoes wedi gorfod mynd? Cynhelid aduniad un o flynyddoedd Ysgol y Moelwyn yn Gaer yn ddiweddar a hynny am fod fanno’n agosach i’r rhan fwyaf!
Sut yn y byd fedrwn gadw’n ieuenctid yma heb waith, a hynny’n waith o safon, sy’n talu’n dda?
Daw digon o dwristiaid yma, a da o beth yw hynny, ond be mae o wedi ei gyfrannu i’r ardal mewn gwirionedd? Mae’r gwaith sy’n dod yn ei sgil yn aml ar isafswm cyflog ac/neu’n gytundebau ‘zero hours’. Da i ddim i rywun sydd am gael morgais a thrio gosod gwreiddiau yma. Byddai'r un banc yn benthyca i weithiwr gyda thelerau o’r fath yn siŵr i chi. Golygai hefyd fod prisiau’r tai wedi codi. Dywedodd Glyn Lasarus Jones yn ei erthygl wych yn Llafar Bro Gorffennaf-Awst fod 320 o dai AirBnB yma, Duw a ŵyr faint o dai haf yn ogystal!
Tydi’r gallu ddim gennym i reoli’r farchnad dai ar hyn o bryd felly da ni’n cael ein rheibio gan y farchnad rydd. Deallaf fod rhai cyplau ifanc sydd wedi bod digon lwcus i gael gwaith yn lleol ac am drïo aros yn yr ardal, wedi’r cwbwl dyma ydi eu cartref, yn gorfod cymryd morgeisi hir dymor iawn o 40 i 45 o flynyddoedd. Dychmygwch! A gyda chymaint o eiddo’r dref yn wag am gyfnodau hir yn ystod y flwyddyn, does fawr ryfedd fod siopau’r stryd yn cau. Y rhyngrwyd, tai haf/llety gwyliau a diffyg gwaith yn fygythiadau enbyd i’r Stryd Fawr.
Ar wahanol adegau pan fûm yn gweithio i ffwrdd, a chychwyn yn oriau mân ar fore Llun, toedd hi ddim yn beth diarth i weld ceir eraill ar y ffordd ar yr un pryd, un ai’n mynd am y Crimea neu’r Migneint, gyda phobol fel finnau’n mynd am eu gwaith. Roeddwn yn meddwl ar y pryd 'sgwn i be ydi poblogaeth y dref rhwng bore Llun a nos Wener? Yn saff i chi ‘da ni i gyd yn nabod pobol sy’n gorfod gweithio i ffwrdd, ac mae hyn eto’n ychwanegu at broblemau’r stryd fawr gan fod llawer iawn o’r dynion, a merched, ddim ond yn eu cartrefi ar benwythnosau’n unig.
Yn ôl at y ddadl, credaf fod yr ardal wir angen y cynllun hwn a rhoi cyfle i’n bobol ifanc gael gyrfa, tai a theuluoedd Cymraeg i’r dyfodol. Bydd geiriau gwag y gwrthwynebwyr yn fawr o gysur inni. Haws yw gwrthwynebu heb gynnig atebion. Na, mae’n rhaid stopio llosgi glo a nwy.
Mae geiriau bythgofiadwy Mic El ar Radio Cymru (dwi’n siŵr fydd o’m yn meindio imi ailadrodd) “dwi’n gorfod mynd i Port i brynu pâr o drôns” yn dweud y cwbwl!
- - - - - - - - -
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2022
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon