5.10.22

Rhod y Rhigymwr- hen lyfrau

Pennod arall o gyfres Iwan Morgan

Rydw i’n hynod ddiolchgar i gyfeillion am dynnu fy sylw at hen lyfrau sydd wedi cilio o gof ers blynyddoedd, ac am fod mor garedig i holi a fyddai gen i ddiddordeb i’w cael. Gwerthfawrogaf hefyd dderbyn gwybodaeth am bethau y cyfeiriais atyn nhw naill ai yn fy ngholofn neu mewn erthyglau eraill yn y papur.

Rai misoedd yn ôl, cyfeiriais at Ddafydd Nanmor, y bardd o’r 15fed ganrif oedd yn feistr ar y canu mawl ac a ystyrir yn un o’r pwysicaf o Feirdd yr Uchelwyr. Cysylltodd Kenneth Anwyl Parry efo fi, yn nodi mai ‘William Parry’ oedd enw ei dad, a’i fod o’n gallu olrhain ei achau’n ôl ymhell yng nghyffiniau Nanmor a Beddgelert. Anfonodd lun-gopi i mi o’r cysylltiadau, a gwelais mai un o gyn-deidiau Ken oedd ‘William Parry,’ a anwyd yn Nanmor a’i fedyddio yn Eglwys Beddgelert ym 1740. Bu farw yng Ngardd Llygad-y-dydd [neu , ‘Garlag-tŷ’ ar lafar], ym 1827. Tybed oedd y ‘William Parry’ yma yn un o ddisgynyddion yr hen gywyddwr?

Derbyniais gopi o ‘Hanes Annibyniaeth ym Mhlwyf Ffestiniog’ [David Williams, Glasfryn, Blaenau Ffestiniog ... cyhoeddwyd 1927] ynghyd â sawl llyfryn diddorol arall gan Marian Roberts, Cae Clyd. Hwyrach y cofia rhai ohonoch i mi sôn rywdro am fy nghysylltiad teuluol efo’r bardd a’r cerddor, Eos Bradwen [1831-99]. Ymhlith y llyfrau a dderbyniais gan Marian, [oedd yn eiddo i’w thaid, John Hugh Evans], mae sgôr hen nodiant o’r gantawd ‘Owain Glyn-dŵr’ ... y libretto a’r gerddoriaeth gan yr ‘Eos’ ei hun. Fe’i cyfansoddwyd ym 1864. 

Trysor bychan arall a dderbyniais oedd ‘Huw a Beti: llyfr o ganeuon ac adroddiadau i blant bach’ gan Mrs L. M. Thomas, Penmorfa. Derbyniais hwn trwy garedigrwydd Ellen Evans, Tanymanod Newydd. Fe’i cyhoeddwyd gan Hugh Evans a’i feibion, Lerpwl. O fynd ati i chwilota, gwelais mai 1923 oedd dyddiad ei gyhoeddi. Fe’i cyflwynwyd ‘i blant Ysgol Brontecwyn, Sir Feirionnydd.’ 

Nodir mai amcan cyhoeddi’r llyfryn oedd ‘ceisio cyflenwi’r angen am rywbeth yn Gymraeg, yn ddigon syml a diddorol ei straeon a’i ganeuon, i swyno plant bach ym mhrydferthwch iaith eu mamau.’ Uwchben nifer o’r geiriau, ysgrifenwyd alawon bach tlws yng nghyfrwng y sol-ffa. Credaf i hwn fod ar iws mewn ysgolion cynradd cyn fy nghyfnod i.

Flwyddyn yn ddiweddarach, ym 1924, cyhoeddodd Mrs Thomas lyfryn arall ... ‘Y Plentyn a’r Wennol’.  Cyfeirir at eiriau cynta’r gân ... ‘Wennol. Wennol, ble’r wyt ti’n mynd?
Yn sicr, fe gofiaf ddysgu honno pan oeddwn yn blentyn. Er na chofiaf y geiriau i gyd, mae’r nodau sol-ffa’n troelli’n fy mhen y funud yma...  [mewn amseriad 6/8] ... 

s : - : m / s : - : m / r : d : r / d : - : - / r : r : m / f : - : r / m : m : f / s : - : m / s : - : m / s : - m /  r : d : r / d : - : - // ... [Dof, mi ddof i Gymru yn ôl]


Pan fo pethau fel yma’n deffro yng nghilfachau’r co, fe fydda i’n diolch am y diwylliant a drosglwyddwyd i mi’n ienctid fy nyddiau ... nid yn unig ar yr aelwyd gartref, ond yn yr ysgol gynradd yng Nghorris. Coffa da am y stôr caneuon a gyflwynwyd inni gan ein hathrawes, Mrs Lilian Briwnant Jones ... ‘Anti Lil’ i mi y tu allan i ffiniau’r ysgol, gan ei bod yn berthynas i nhad. Cawsom addysg arbennig ganddi, addysg a gyfrannodd at fagu cariad ynof at ‘y pethe.’ Cofiaf ddysgu canu’r recorder efo hi, dysgu sol-ffa, emynau, caneuon gwerin, ac ambell osodiad cerdd dant. Daeth un o’i brodyr iau, Robert Ieuan Roberts yma i’r Blaenau yn fecanic ar fysus ‘Crosville.’ Dyma dad Pat Rowlands, Llety Fadog, a thaid i ‘Dylan Delynor.’ O gofio am ddawn gerddorol ‘Anti Lil,’ ei hen fodryb, pa ryfedd fod cerddoriaeth yn llifo o fysedd Dyl!

Un gerdd fach yn llyfr ‘Huw a Beti’ ydy ‘Enwau Adar.’ Hwyrach y gallai hon fod yn ddefnyddiol i athrawon ein hysgolion er mwyn sicrhau bod plant heddiw nid yn unig yn adnabod adar, ond yn gwybod eu henwau hefyd ... a hynny yn Gymraeg:

Pa faint o adar Cymru
A fedrwch chwi enwi i mi?
Wel, yn gyntaf oll, y FWYALCHEN,
ROBIN GOCH, a’r DRYW BACH, dyna dri.

SIANI LWYD, SIGL’I GWT, a’r BENFELEN,
TITW TOMOS, a DERYN-Y-TO,
JAC Y NICOL a’r WENNOL a’r GLOMEN,
A RHEGEN YR YD a’r JAC-DO.

JI-BINC, a’r EHEDYDD a’r GWCW,
A’r FRONFRAITH mor swynol ei chân;
CRËYR GLAS, CUDYLL COCH a’r GORNCHWGLEN,
A hithau’r YSGUTHAN a’r FRÂN.

Yr WYLAN a’r TROELLWR a’r DRUDWY,
TYLLUAN a CHOBLYN Y COED,
Mae mwy o adar yng Nghymru
Nag a feddyliais erioed.

Bydd llawer ohonynt yn canu,
Ac eraill yn gweiddi yn groch,
Ond y gorau gen i o’r holl deulu
Yn wir ydyw ROBIN GOCH.

Biti garw mod i wedi ymddeol o’r llawr dysgu ers cymaint o amser! Fe fyddwn i’n sicr wedi ceisio cael y plantos i weithio ar gywaith diddorol i gyd-fynd â’r gerdd fach hoffus yma.
- - - - - - - - - -

Ymddangososdd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf-Awst 2022, a'r llun -gan Gerallt Roberts- ar y dudalen flaen.


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon