Showing posts with label Annibynwyr. Show all posts
Showing posts with label Annibynwyr. Show all posts

5.10.22

Rhod y Rhigymwr- hen lyfrau

Pennod arall o gyfres Iwan Morgan

Rydw i’n hynod ddiolchgar i gyfeillion am dynnu fy sylw at hen lyfrau sydd wedi cilio o gof ers blynyddoedd, ac am fod mor garedig i holi a fyddai gen i ddiddordeb i’w cael. Gwerthfawrogaf hefyd dderbyn gwybodaeth am bethau y cyfeiriais atyn nhw naill ai yn fy ngholofn neu mewn erthyglau eraill yn y papur.

Rai misoedd yn ôl, cyfeiriais at Ddafydd Nanmor, y bardd o’r 15fed ganrif oedd yn feistr ar y canu mawl ac a ystyrir yn un o’r pwysicaf o Feirdd yr Uchelwyr. Cysylltodd Kenneth Anwyl Parry efo fi, yn nodi mai ‘William Parry’ oedd enw ei dad, a’i fod o’n gallu olrhain ei achau’n ôl ymhell yng nghyffiniau Nanmor a Beddgelert. Anfonodd lun-gopi i mi o’r cysylltiadau, a gwelais mai un o gyn-deidiau Ken oedd ‘William Parry,’ a anwyd yn Nanmor a’i fedyddio yn Eglwys Beddgelert ym 1740. Bu farw yng Ngardd Llygad-y-dydd [neu , ‘Garlag-tŷ’ ar lafar], ym 1827. Tybed oedd y ‘William Parry’ yma yn un o ddisgynyddion yr hen gywyddwr?

Derbyniais gopi o ‘Hanes Annibyniaeth ym Mhlwyf Ffestiniog’ [David Williams, Glasfryn, Blaenau Ffestiniog ... cyhoeddwyd 1927] ynghyd â sawl llyfryn diddorol arall gan Marian Roberts, Cae Clyd. Hwyrach y cofia rhai ohonoch i mi sôn rywdro am fy nghysylltiad teuluol efo’r bardd a’r cerddor, Eos Bradwen [1831-99]. Ymhlith y llyfrau a dderbyniais gan Marian, [oedd yn eiddo i’w thaid, John Hugh Evans], mae sgôr hen nodiant o’r gantawd ‘Owain Glyn-dŵr’ ... y libretto a’r gerddoriaeth gan yr ‘Eos’ ei hun. Fe’i cyfansoddwyd ym 1864. 

Trysor bychan arall a dderbyniais oedd ‘Huw a Beti: llyfr o ganeuon ac adroddiadau i blant bach’ gan Mrs L. M. Thomas, Penmorfa. Derbyniais hwn trwy garedigrwydd Ellen Evans, Tanymanod Newydd. Fe’i cyhoeddwyd gan Hugh Evans a’i feibion, Lerpwl. O fynd ati i chwilota, gwelais mai 1923 oedd dyddiad ei gyhoeddi. Fe’i cyflwynwyd ‘i blant Ysgol Brontecwyn, Sir Feirionnydd.’ 

Nodir mai amcan cyhoeddi’r llyfryn oedd ‘ceisio cyflenwi’r angen am rywbeth yn Gymraeg, yn ddigon syml a diddorol ei straeon a’i ganeuon, i swyno plant bach ym mhrydferthwch iaith eu mamau.’ Uwchben nifer o’r geiriau, ysgrifenwyd alawon bach tlws yng nghyfrwng y sol-ffa. Credaf i hwn fod ar iws mewn ysgolion cynradd cyn fy nghyfnod i.

Flwyddyn yn ddiweddarach, ym 1924, cyhoeddodd Mrs Thomas lyfryn arall ... ‘Y Plentyn a’r Wennol’.  Cyfeirir at eiriau cynta’r gân ... ‘Wennol. Wennol, ble’r wyt ti’n mynd?’
Yn sicr, fe gofiaf ddysgu honno pan oeddwn yn blentyn. Er na chofiaf y geiriau i gyd, mae’r nodau sol-ffa’n troelli’n fy mhen y funud yma...  [mewn amseriad 6/8] ... 

s : - : m / s : - : m / r : d : r / d : - : - / r : r : m / f : - : r / m : m : f / s : - : m / s : - : m / s : - m /  r : d : r / d : - : - // ... [Dof, mi ddof i Gymru yn ôl]


Pan fo pethau fel yma’n deffro yng nghilfachau’r co, fe fydda i’n diolch am y diwylliant a drosglwyddwyd i mi’n ienctid fy nyddiau ... nid yn unig ar yr aelwyd gartref, ond yn yr ysgol gynradd yng Nghorris. Coffa da am y stôr caneuon a gyflwynwyd inni gan ein hathrawes, Mrs Lilian Briwnant Jones ... ‘Anti Lil’ i mi y tu allan i ffiniau’r ysgol, gan ei bod yn berthynas i nhad. Cawsom addysg arbennig ganddi, addysg a gyfrannodd at fagu cariad ynof at ‘y pethe.’ Cofiaf ddysgu canu’r recorder efo hi, dysgu sol-ffa, emynau, caneuon gwerin, ac ambell osodiad cerdd dant. Daeth un o’i brodyr iau, Robert Ieuan Roberts yma i’r Blaenau yn fecanic ar fysus ‘Crosville.’ Dyma dad Pat Rowlands, Llety Fadog, a thaid i ‘Dylan Delynor.’ O gofio am ddawn gerddorol ‘Anti Lil,’ ei hen fodryb, pa ryfedd fod cerddoriaeth yn llifo o fysedd Dyl!

Un gerdd fach yn llyfr ‘Huw a Beti’ ydy ‘Enwau Adar.’ Hwyrach y gallai hon fod yn ddefnyddiol i athrawon ein hysgolion er mwyn sicrhau bod plant heddiw nid yn unig yn adnabod adar, ond yn gwybod eu henwau hefyd ... a hynny yn Gymraeg:

Pa faint o adar Cymru
A fedrwch chwi enwi i mi?
Wel, yn gyntaf oll, y FWYALCHEN,
ROBIN GOCH, a’r DRYW BACH, dyna dri.

SIANI LWYD, SIGL’I GWT, a’r BENFELEN,
TITW TOMOS, a DERYN-Y-TO,
JAC Y NICOL a’r WENNOL a’r GLOMEN,
A RHEGEN YR YD a’r JAC-DO.

JI-BINC, a’r EHEDYDD a’r GWCW,
A’r FRONFRAITH mor swynol ei chân;
CRËYR GLAS, CUDYLL COCH a’r GORNCHWGLEN,
A hithau’r YSGUTHAN a’r FRÂN.

Yr WYLAN a’r TROELLWR a’r DRUDWY,
TYLLUAN a CHOBLYN Y COED,
Mae mwy o adar yng Nghymru
Nag a feddyliais erioed.

Bydd llawer ohonynt yn canu,
Ac eraill yn gweiddi yn groch,
Ond y gorau gen i o’r holl deulu
Yn wir ydyw ROBIN GOCH.

Biti garw mod i wedi ymddeol o’r llawr dysgu ers cymaint o amser! Fe fyddwn i’n sicr wedi ceisio cael y plantos i weithio ar gywaith diddorol i gyd-fynd â’r gerdd fach hoffus yma.
- - - - - - - - - -

Ymddangososdd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf-Awst 2022, a'r llun -gan Gerallt Roberts- ar y dudalen flaen.


16.7.21

Capel Utica ar Werth

Ar brynhawn Sul, 28ain Chwefror, diweddodd pennod yn hanes ardal Gellilydan wrth i’r achos yng Nghapel Utica ddirwyn i ben. Fel sydd eisoes wedi ei gofnodi yn y papur bro yn y gorffennol (e.e. rhifyn Gorffennaf 1994*), mae i Gapel Utica hanes cyfoethog iawn ers dyddiau William Jones, Pandy’r Ddwyryd, yn dilyn ei ddychweliad o Utica, Efrog Newydd i’w fro enedigol, yn sefydlu’r achos, ac yn adeiladu’r capel ar ei dir, a hynny yn y flwyddyn 1824. 

Ar hyd y blynyddoedd ers hynny, profwyd bendith wrth dystio i Grist yn y fro, a hynny am nifer fawr o’r blynyddoedd dan arweiniad grymus nifer o Weinidogion. 

Yn gynharach eleni, penderfynodd yr aelodau nad oedd hi’n bosibl bellach i barhau â’r Achos, a hynny am sawl rheswm. Yn dilyn cymorth Cyfundeb Meirion, trefnwyd yr Oedfa Ddatgorffori yn y capel ar y dyddiad a nodwyd dan arweiniad y Parchedig Iwan Llewelyn Jones, Llywydd Cyfundeb Meirion, a’r Parchedig Carwyn Siddall, Cadeirydd Pwyllgor Bugeiliol y Cyfundeb. Oherwydd y cyfyngiadau presennol, ac er mwyn cydymffurfio â’r canllawiau, yr aelodau cyfredol yn unig oedd yn bresenol yn yr Oedfa. 

Llun- KO'Brien
 

Agorwyd y cyfarfod drwy air o groeso a gweddi gan y Parchedig Carwyn Siddall, ac yna, cyn mynd ymlaen â darllen Salm 84, diolchodd i’r aelodau am eu gwaith a’u dyfalbarhad dros yr Achos, am eu doethineb a’u hurddas wrth wynebu’r penderfyniad anodd o ddirwyn yr achos i ben. Yna, wedi gair o weddi, cyflwynodd y Parchedig Iwan Llewelyn Jones anerchiad yn seiliedig ar y Salm, gan dynnu sylw at hanes a thystiolaeth gyfoethog yr Eglwys, y Weinodogaeth arbennig gafwyd ar hyd y blynyddoedd, a’n hatgoffa, er i’r achos ddirwyn i ben, fod Efengyl Iesu Grist yn dal yn fyw ac ar waith, a’n braint yw parhau i dystio i’w enw Ef. Cyn gwrando ar emyn Ann Griffiths, ‘O am fywyd o Sancteiddio…’ a’r Datganiad Datgorffori, diolchodd Mrs Mennai Jones, diacon yn Utica, i bawb am fynychu, am arweiniad y ddau weinidog ar ran y Cyfundeb, a chofio’n annwyl am yr aelodau hynny nad oedd yn gallu bod yn bresennol am wahanol resymau.

Er mor anodd yw gweld y Capel ar y farchnad, rydym yn diolch am yr hyn a gafwyd, a’r tymor da o waith a gyflawnwyd yn Utica dros achos Crist, a dymunwn fendith Duw ar yr aelodau wrth iddynt ymgartrefu mewn eglwysi eraill yn fro.

-------

Ymddangosodd yr uchod yn wreiddiol yn rhifyn Mai 2021.

-------

Ganol mis Mai aeth Elfed Wyn ap Elwyn ati i geisio codi arian i geisio prynu'r hen gapel, gan weld potensial i greu menter gymunedol a chreu gwaith, ac ar yr un pryd rwystro un adeilad eiconig rhag cael ei droi yn dŷ haf. 

Llwyddodd i hel £14,000 at ei gilydd mewn byr o dro, a dyma grynodeb o'r llythyr yrrodd o at y gwerthwyr (Yr Annibynwyr) efo'i gynnig:

"Dyw’r swm rydw i yn ei gynnig ddim yn enfawr, ac yn sicr fydd na gynigion mwy na’r hyn gynigaf i, ond mae’r arian yn dod yn rhannol o fenthyciad rydw i wedi cael, arian oedd yn fy nghoffrau i, ac arian sydd wedi cael ei gasglu gan y gymuned.

Mae'n anffodus fod y capel yma ddim yn dal yn cael ei ddefnyddio i addoli, ond gobeithiaf fedrwn ni gadw ysbyrd y lle a gweledigaeth o'r defnydd cymunedol i’r adeilad hanesyddol yma. Bysa’n gyfle i greu gwaith a meithrin diwydiant ymysg ein diwylliant yn wych yma. Rwy’n gobeithio gwneud y capel yn le i bobl ddod at ei gilydd i drafod, ac yn le i egino syniadau a busnesau cynhenid.

Mae’n llawer iawn gwell i’r gymuned berchnogi’r adeilad yma er mwyn cael ei ddefnyddio fel adnodd er mwyn i’r gymdethas dyfu, yn hytrach na dod yn ail-dŷ di enaid."

Yn anffodus, gwrthod ei gynnig wnaeth y gwerthwyr, ac mae'r capel rwan ar y farchnad agored...

Awgrymodd un o'r rhai yrrodd neges at Elfed o glywed y newyddion: 

"Os ydynt yn dymuno gwneud hynny, oni all ymddiriedolwyr Capel Utica gyfrannu rhywfaint o arian y gwerthiant i brosiect lleol fyddai'n gydnaws â bwriadau a gweledigaeth gwreiddiol Elfed er budd y gymuned?"

Fel dywed Dafydd Iwan yn rali 'Nid yw Cymru ar Werth' ar argae Tryweryn ar y 10fed o Orffennaf, onid oes gan yr enwadau ddyletswydd i gynnig rhywbeth i'n cymunedau yn hytrach na gwerthu i'r cynnig mwyaf bob tro..?

--------

* Trem yn ôl- Utica


19.2.20

Hwyl y Dathlu ym Methel

Daeth cynulleidfa niferus ynghyd i ddathlu canrif a hanner ers agor Capel Bethel yn Llan Ffestiniog. Cafwyd cyfarfod arbennig a chofiadwy iawn o aelodau, cyn-aelodau, cyn blant yr eglwys a chyfeillion eraill o bell ac agos.


Llywyddwyd y cyfarfod gan Myfanwy Williams, un o’r blaenoriaid ac, yn dilyn braslun gan Gwenda Ll. Jones o hanes sefydlu achos Annibyniaeth yn y pentre, caed clywed wedyn rai o gyn blant Bethel – Owi Rowlands (Rhosgadfan), Jennifer Thomas (Bangor), John Arthur Thomas (Caerdydd) a Rhian Haf Parry (Yr Wyddgrug) – yn hel atgofion melys am y cymeriadau a fu, am ddiwylliant y ‘band of hope’ a’r Gymdeithas, am orymdeithio yn y Gymanfa flynyddol yn Blaenau, ac fel roedd capel Jeriwsalem wedyn o dan ei sang a’r canu yn fanno yn codi’r to.

Clywyd atgofion difyr hefyd am y tripiau Ysgol Sul, slawer dydd, i Landudno neu Rhyl neu Butlins ym Mhwllheli; rhain yn brofiadau y gallai eraill oedd yno, o bob enwad, uniaethu â nhw.

Roedd Iwan Morgan wedi cyfansoddi cywydd rhagorol i ddathlu’r achlysur a chaed datganiad ohono ganddo ar gerdd dant. Bu i Iwan hefyd gyfansoddi emyn pwrpasol ac ymunodd y gynulleidfa i’w ganu gydag arddeliad.

Yn dilyn y cyfarfod gwahoddwyd pawb wedyn i ffreutur yr ysgol gynradd, lle’r oedd lluniaeth helaeth wedi cael ei pharatoi, a merched a gwragedd ifanc yr eglwys yn gweinyddu wrth y byrddau.

Fel y gellid disgwyl, bu eto yn fanno fwy o hel atgofion yn gymysg â hyrddiau o chwerthin iach. Yna, i goroni’r dathlu, ar y Sul drannoeth daeth criw lluosog eto ynghyd i giniawa yng Ngwesty Seren.
-------------------------------------------


Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2020.
Erthygl Bethel Fach y Llan



6.5.19

Rhod y Rhigymwr -cawl odiaeth

Colofn reolaidd Iwan Morgan

Bum yn meddwl am bennill agoriadol Morgan Llwyd o Wynedd o’i gerdd ‘Hanes rhyw Gymro’:
Ym Meirionnydd gynt ym ganwyd, 
Yn Sir Ddimbech ym newidiwyd,  
Yn Sir y Mwythig mi wasnaethais, 
Yn Sir Fynwy mi briodais. 
Roedd Morgan Llwyd yn un o fawrion y ffydd Gristnogol yng Nghymru. Fe’i ganed union bedair canrif yn ôl i eleni -1619- ym mhlasty gwledig Cynfal Fawr, plwyf Maentwrog, a chafodd fagwraeth oedd yn nodweddiadol o fân uchelwyr Cantref Ardudwy yn yr oes honno -  teuluoedd a gafodd eu trwytho yn y traddodiad llenyddol Cymraeg a gwerthoedd crefyddol a chymdeithasol yr Eglwys Sefydledig.

Afon Gynfal, Pulpud Huw Llwyd. Llun- Tecwyn V.Jones

Un o hil Huw Llwyd ydoedd – a fu’n anturiaethwr a milwr dewr ar faes y gad yn Ffrainc a’r Iseldiroedd. Fe luniodd englyn i ddisgrifio’i hun ar ei fynych grwydradau yn niwedd yr unfed ganrif ar bymtheg:
Yn Ffrainc yr yfais yn ffraeth – win lliwgar,
Yn Lloegr cawl odiaeth;
Yn Holand, menyn helaeth,
Yng Nghymru, llymru a llaeth.
Ond roedd Morgan Llwyd yn dra gwahanol i Huw Llwyd. Nid milwr yn lifrai’r brenin fuodd o, ond gwas ffyddlon i’r Arglwydd Iesu.

Yn bymtheg oed, symudodd Morgan, y llanc ifanc galluog, i ysgol yn nhref Wrecsam, ac yno y daliwyd ef yn rhwyd yr Efengyl dan bregethu’r piwritan gwresog, Walter Craddock. Oherwydd ei danbeidrwydd, erlidiwyd Craddock o’r dref.

Dilynodd Morgan Llwyd ei dad yn y ffydd i Brampton Bryan, plasty a chyrchfan y piwritaniaid yn Llanfair Waterdine - pentref ar y ffin â Chymru ac ar ffiniau siroedd Amwythig a Henffordd. Oddi yno, aeth i Lanfaches, nepell o Gasgwent yn Sir Fynwy, lle rhoddodd William Wroth y gorau i fod yn rheithor, a dod yn weinidog annibynwyr cyntaf Cymru ym 1639.

Yn Llanfaches y priododd Morgan ag Ann ym 1641. Bu’n rhaid ymwahanu dros dro, gan i’r Rhyfel Cartref dorri allan yn Awst 1642. Fe drefnodd Morgan i’w briod deithio i Gynfal at ei fam, ac aeth yntau fel caplan i Oliver Cromwell i genhadu a chefnogi’r milwyr oedd am weld ‘gweriniaeth’ a ‘democratiaeth’ yn y wlad.

Cyfrinydd (mystic) oedd Morgan Llwyd i lawer – un a gredai y gellir cysylltu’n uniongyrchol â Duw drwy weddi, myfyrdod neu ymarferion arbennig, a thrwy hynny, dreiddio i ddirgelion sydd tu hwnt i ddeall dyn. Ond i eraill, pregethwr ar dân dros ennill cenedl y Cymry i Grist ydoedd – un o radicaliaid cynnar yr Annibynwyr Cymraeg a geisiai ddeffro cenedl i’w chyfrifoldeb.

Mae arddull y pregethwr huawdl, grymus i’w weld yn ei gyfrolau. Y mwyaf adnabyddus ohonyn nhw ydy ‘Llyfr y Tri Aderyn’.
---------------------------

Addasiad o'r erthygl a ymddangosodd yn wreiddiol (heb y lluniau) yn rhifyn Mawrth 2019.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen.

29.12.15

‘Stiniog a’r Rhyfel Mawr- 'myned allan i faes y gwaed'

Parhau â chyfres Vivian Parry Williams, yn nodi canrif ers y rhyfel byd cyntaf.

Cynhaliwyd cyfarfod ymrestru  awyr-agored o flaen gwesty'r Cross Foxes yn Nhrawsfynydd ar nos Fercher ddiwedd Medi 1915, ac un arall yn y Neuadd Gyhoeddus yno ar y nos Sadwrn dilynol. Yn ystod y pnawn Sadwrn daeth y Recruiting Band o'r Blaenau i godi'r ysbryd. Ond yn ystod yr areithio yn y cyfarfod gyda'r nos, fe drodd pethau'n chwerw pan gododd rhai ar eu traed gan gyfeirio at rai nad oeddynt wedi ymrestru. Fe'i galwyd yn llwfriaid, a cheisio codi cywilydd arnynt. Ond cafwyd ymddiheuriad y trefnwyr tuag at ymddygiad o'r fath yn rhifyn 2 Hydref o'r Rhedegydd. Meddai'r geiriau:
...Drwg gennym am y camargraff roddwyd am nifer y rhai sydd wedi ymuno o blant y Traws. Hysbyswyd nad oedd ond 34 wedi ymuno. Ond trwy ei ddoethineb unionodd Mr Lewis Davies, y Recruiting Officer, y cam trwy ddweyd mai hyn yr oedd ef wedi ei dderbyn i enlistio. Ond fel y cofir, fod y nifer fwyaf wedi ymddangos o dro i dro yn ein colofnau, a chyrhaeddasant rhwng pobpeth yn ymyl 80.
Rhoddwyd enwau rhai milwyr oedd wedi ymrestru, a chynnwys enw Robert Evans, Maengwyn Street, oedd wedi mynd i wasanaethu mewn ffatri arfau yn Sheffield. Roedd Robert wedi gorfod gadael ei swydd fel athro ysgol i wneud y gwaith hwn yn Swydd Efrog, ac yn amlwg ddim yn fodlon ymrestru gyda'r fyddin.

Yn rhifyn 9 Hydref o'r Rhedegydd cafwyd newyddion am rai eraill yn symud o'r ardal. Llongyfarchwyd T.H.Roberts, (Singers) High Street, oedd wedi mynd i Ffrainc gyda'r Mwynwyr, ac wedi ei benodi yn 'Orderly' i'r Lefftenant Evan Jones. Roedd nifer dda o 'Stiniog, a phob rhan o Feirionnydd, yn dal i ymuno â'r cwmni lleol o filwyr, y 37ain Ffiwsilwyr Cymreig. Am ryw reswm, ni fu sôn am Lewis Davies, Y Gloch, swyddog recriwtio'r ardal ers peth amser yn y wasg. Ond yn amlwg, yr oedd yn dal i weithredu yn ei swydd, wrth weld fod niferoedd y milwyr ymrestredig yn cynyddu.

Dan bennawd 'Y Cyngor Dinesig', ar yr un dyddiad, adroddwyd bod pump o aelodau Brigâd Dân y dref wedi ymrestru â'r fyddin, ac un arall yn barod i ymuno.  Er bod hanner y tîm yn gadael, roedd y cyngor yn eu canmol yn fawr, ac ar yr un pryd yn penderfynu gwrthod derbyn ceisiadau am ddynion tân newydd gan rai oedd mewn oedran i ymrestru.

Ffarweliwyd hefyd â chriw o ddynion oedd wedi mynd i sir Gaerfyrddin, i wneud gwaith yn ymwneud â'r rhyfel. Roedd un ohonynt, Perorfryn, wedi'i benodi yn fforman yn y gwaith. Dywedwyd fod digon o waith yno, a chyflog da am ei wneud. Ond nid felly oedd y sefyllfa weithfaol ym mro Ffestiniog, fel yr adroddwyd yn y papur diwinyddol Y Tyst ar 13 Hydref 1915. Proses oedd wedi dechrau ers deng mlynedd oedd y wasgfa yn y diwydiant llechi, yn ôl yr adroddiad. Dywedwyd fel yr oedd yng nghof llawer ar y pryd fod 4,000 yn gweithio yn y chwareli ar un adeg, ond erbyn 1915, nid oedd prin fil o weithwyr yn y diwydiant. Meddai'r gohebydd 'Y mae nifer luosog o'r chwarelau wedi cau...Y mae dynion wedi gwasgaru i bob rhan o'r byd...' Yr oedd consyrn y papur ynglŷn â'r gostyngiad yn niferoedd aelodau enwad yr Annibynnwr yn yr ardal i'w weld yn glir hefyd.
Yn naturiol, y mae yr eglwysi oeddynt unwaith mor llewyrchus wedi dioddef yn fawr. Yn y blynyddoedd llewyrchus, cyfrifid aelodau y saith eglwys perthynol i'n Henwad yn y plwyf dros ddwy fil; heddyw, nid ydynt lawer lluosocach na hanner y nifer hwnnw. Ond y mae y gweddill yn ymwroli i wneud eu goreu yn yr argyfwng, a disgwylir yn eiddgar am doriad gwawr ar derfyn y rhyfel sydd wedi dwyn y fath drychineb ar y gwledydd.
Ychydig wyddai'r gohebydd hwnnw fod oes aur yr enwadau crefyddol yn yr ardal, a thrwy Gymru gyfan, yn prysur ddod i ben, a'r Rhyfel Mawr yn bennaf gyfrifol am y dirywiad enbyd hwnnw. Odditan yr adroddiad hwn, dywedwyd fod
'nifer fawr wedi ymuno a'r fyddin. Cyfrifir fod yn agos i 1,000 o fechgyn Ffestiniog wedi ymrestru o dan faner eu gwlad... Y mae cryn nifer wedi myned allan i faes y gwaed yn Ffrainc a'r Dardanelles. Prudd ysgrifennu fod nifer ohonynt wedi colli eu bywydau, a llawer wedi eu clwyfo....'

-----------------------------------

 Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 2015.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

[Celf- Lleucu Williams]

26.8.15

Trem yn ôl -Utica

Mae llawer o gysylltiadau wedi bod rhwng Bro Ffestiniog ag Utica yn nhalaith Efrog Newydd. Dyma bennod o'r gyfres Trem yn ôl: erthyglau o lyfr 'Pigion Llafar 1975-1999', yn trafod y cysylltiad.

Enw Capel Utica, Gellilydan.
Cymeraf ddiddordeb mewn hanes lleol a hel achau, ac wrth chwilota yn ddiweddar, deuthum ar draws erthygl o’r ‘Cenhadwr Americanaidd’ am fis Tachwedd 1867, sy’n egluro pam na roed enw Beiblaidd megis Bethel, Salem neu Nasareth ar gapel yr Annibynwyr yng Ngellilydan.

Ei enw wrth gwrs, yw Utica – enw lle yn Efrog Newydd.

Ar y 4ydd o Ebrill 1788, ganwyd Wiliam Jones mewn lle o’r enw Pandy’r Ddwyryd ym Mhlwyf Maentwrog. (Mae’r tŷ o dan Lyn Trawsfynydd erbyn hyn). Enwau ei rieni oedd Rowland ac Ann Jones ac yr oedd yr enwog Lowri Williams, un o sylfaenwyr Methodistiaeth yng Ngorllewin Meirionnydd yn nain iddo.

Magwyd William gan ei rieni yn bur grefyddol, ond tueddai’r mab i fwynhau’r bywyd braf hyd yr eithaf!

Yn y flwyddyn 1824, pan oedd tua 36 mlwydd oed, ymfudodd William Jones i’r America. Ymsefydlodd yng nghymdogaeth Utica, Efrog Newydd a thra yno, daeth o dan ddylanwad y gŵr o’r enw Dr.Everett, a fu’n gefn ac arweinydd iddo, a chafodd droedigaeth grefyddol ac wedi hynny cysegrodd ei fywyd yn llwyr i Gristnogaeth.

Arhosodd yn America am tua 4 blynedd – daeth yn dda ei fyd a dod yn ddyn cefnog iawn.

Pan ddychwelodd i Gymru, ac i blwyf Maentwrog, yr oedd yn berchennog ar dyddyn a thir, a phenderfynodd godi capel ar ei dir a chychwyn achos gyda chymorth ychydig o ‘frodyr sanctaidd’. Ni chymerodd dal am y tir, ac adeiladwyd y capel yn y flwyddyn 1843, ac yn unol a’i ddymuniad, galwyd y lle yn ‘Utica’ i ddangos parch tuag at y lle yn America a gyfrannodd gymaint at ei fywyd crefyddol. Yn ychwanegol, rhoddodd dir ar gyfer claddfa yn gysylltiol a’r capel, a phan fu farw ei ail blentyn, claddodd ef yno.

Capel Utica, Gellilydan. Llun W.Arvon Roberts
Yn y flwyddyn 1843 priododd a Mary Williams, Glanllynforwyn, Ganllwyd a bu iddynt dair merch. Un o’i merched oedd Margaret Jones (Myfanwy Meirion) a fu am flynyddoedd yn genhades gartref yn Llundain a bu’n byw yn Lerpwl, lle bu’n ddiacones yn un o’r eglwysi Annibynnol yno. Claddwyd hithau ym medd y teulu ym Mynwent Utica, ac mae carreg ithfaen fawr sgwâr a railings o’i hamgylch ar y bedd.

Fel mynwent ar gyfer yr Annibynwyr y bwriadwyd Utica fel y dywed yr hanes, ond mae llawer o enwadau eraill wedi cael caniatad i gladdu yno erbyn hyn.

Da yw cael dweud, ar ôl dros gant a hanner o flynyddoedd ers ei sefydlu, fod yr eglwys fach yn parhau i gynnal gwasanaethau. Beth amser yn ôl, ail-gychwynnodd un o famau ieuanc yr eglwys Ysgol Sul ar gyfer plant y cylch, gan nad oedd Ysgol Sul yn y pentref. Cynorthwyir hi gan aelodau hŷn eraill. Teilyngant bob cefnogaeth yn y gwaith, petai dim ond i gofio am droedigaeth William Jones yn yr America flynyddoedd lawer yn ôl, a’i ffydd yn codi’r capel a’r fynwent.

Digon tebyg yw cyflwr moesol a chrefyddol ein cymdeithas heddiw a phwy a wyr nad oedd gweledigaeth William Jones yn 1843 yn bell gyrhaeddol.

Mrs Ella Wyn Jones, Llandecwyn

------------------------------------

Ymddangosodd yr uchod yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf 1994, ac wedyn yn y llyfr Pigion. Gallwch ddilyn cyfres Trem yn ôl gyda'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

Hefyd, dilynwch y ddolen 'Utica' isod i weld nifer o erthyglau eraill sy'n cyfeirio at Utica, Efrog Newydd.