Showing posts with label band-o-hôp. Show all posts
Showing posts with label band-o-hôp. Show all posts

19.2.20

Hwyl y Dathlu ym Methel

Daeth cynulleidfa niferus ynghyd i ddathlu canrif a hanner ers agor Capel Bethel yn Llan Ffestiniog. Cafwyd cyfarfod arbennig a chofiadwy iawn o aelodau, cyn-aelodau, cyn blant yr eglwys a chyfeillion eraill o bell ac agos.


Llywyddwyd y cyfarfod gan Myfanwy Williams, un o’r blaenoriaid ac, yn dilyn braslun gan Gwenda Ll. Jones o hanes sefydlu achos Annibyniaeth yn y pentre, caed clywed wedyn rai o gyn blant Bethel – Owi Rowlands (Rhosgadfan), Jennifer Thomas (Bangor), John Arthur Thomas (Caerdydd) a Rhian Haf Parry (Yr Wyddgrug) – yn hel atgofion melys am y cymeriadau a fu, am ddiwylliant y ‘band of hope’ a’r Gymdeithas, am orymdeithio yn y Gymanfa flynyddol yn Blaenau, ac fel roedd capel Jeriwsalem wedyn o dan ei sang a’r canu yn fanno yn codi’r to.

Clywyd atgofion difyr hefyd am y tripiau Ysgol Sul, slawer dydd, i Landudno neu Rhyl neu Butlins ym Mhwllheli; rhain yn brofiadau y gallai eraill oedd yno, o bob enwad, uniaethu â nhw.

Roedd Iwan Morgan wedi cyfansoddi cywydd rhagorol i ddathlu’r achlysur a chaed datganiad ohono ganddo ar gerdd dant. Bu i Iwan hefyd gyfansoddi emyn pwrpasol ac ymunodd y gynulleidfa i’w ganu gydag arddeliad.

Yn dilyn y cyfarfod gwahoddwyd pawb wedyn i ffreutur yr ysgol gynradd, lle’r oedd lluniaeth helaeth wedi cael ei pharatoi, a merched a gwragedd ifanc yr eglwys yn gweinyddu wrth y byrddau.

Fel y gellid disgwyl, bu eto yn fanno fwy o hel atgofion yn gymysg â hyrddiau o chwerthin iach. Yna, i goroni’r dathlu, ar y Sul drannoeth daeth criw lluosog eto ynghyd i giniawa yng Ngwesty Seren.
-------------------------------------------


Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2020.
Erthygl Bethel Fach y Llan



31.8.17

Stiniog a’r Rhyfel Mawr -Dyddiau Blin

Parhau â chyfres Vivian Parry Williams, yn nodi canrif ers y rhyfel byd cyntaf.

Roedd rhywbeth yn broffwydol yn adroddiad gohebydd newyddion Trawsfynydd yn ei golofn ar 14 Gorffennaf 1917 yn Y Rhedegydd. Oherwydd y newyddion drwg rheolaidd am golledion difrifol ymysg milwyr o’r ardal, roedd yr ysbryd rhyfelgar, Prydeinig gynt wedi oeri cryn dipyn erbyn hyn. Roedd realiti’r sefyllfa ar y ffrynt yn dod yn fyw i bobl Trawsfynydd, fel pob ardal arall, wrth i’r newyddion trist am y colledion amlhau. Ceisiodd y gohebydd gyfleu teimladau’r trigolion, eu pryderon, a’u gobeithion am ddiwedd buan i’r rhyfel.

Roedd yn gweld y cyfnod fel:
“Dyddiau Blin – Dyna ydyw hanes y dyddiau hyn yn yr ardal hon fel pob un arall, pawb megis a’i anadl yn ei ddwrn, yn ofni cael newydd drwg o faes y rhyfel, am ei bod yn wybyddus fod amryw o’n bechgyn anwyl yn yr ymladd ffyrnig sy’n mynd ymlaen yn Ffrainc. Gobeithiwn y goreu, ac os digwydd i’r wermod ddod i’r cwpan, gweddiwn am i Dduw roddi nerth yn y dydd blin i’w dal, ac i allu dweyd gyda Glanystwyth-
 

Mae calon Tad tu ôl i’r fraich
    Sy’n cynnal baich y byd.
Rhoddwn ein holl ymddiried ynddo ef, a’n holl ofal arno ef.”
Alun Mabon
Cyhoeddodd y papur fwy o luniau o’r bechgyn lleol a gollwyd yn y brwydro. Yn eu mysg roedd llun o Alun Mabon Jones, Dinas Road, yr hwn a laddwyd flwyddyn ynghynt, ar 12 o Orffennaf, 1916. Yn ychwanegol i’r llun, yr oedd pennill er cof an Alun, gan ei wraig a’i blant.

Roedd pedwar llun o’r milwyr colledig i’w weld yn y rhifyn hwnnw, a phob un wedi colli eu bywydau ym mrwydr Coedwig Mametz yng Ngorffennaf 1916. Cynhwyswyd lluniau eraill o filwyr lleol oedd yn gwasanaethu gyda’r fyddin dramor hefyd. Cyhoeddwyd llythyrau o gydymdeimlad gan swyddogion milwrol â theuluoedd rhai o’r milwyr a laddwyd hefyd, fel y gwelid yn rheolaidd ar dudalennau’r wasg.

Diddorol oedd darllen hanes aelodau Band of Hope Capel Bowydd yn y Blaenau yn cynnal eu picnic blynyddol ar ben Bwlch Gorddinan, neu’r ‘Crimea’ ar lafar. Cariwyd y plant ieuengaf i’r safle mewn moduron, rhywbeth digon prin y cyfnod hwnnw. Wedi mwynhau’r picnic, difyrrwyd y mynychwyr gan David Francis, y telynor dall, a chaneuon gan Dewi Mai a Miss Smith. Cafwyd adroddiadau gan y plant, ac anerchiad gan y Parchedig Enoch Jones, oedd wedi gorfod dringo i fyny i ben y bwlch, fel gweddill yr oedolion. Gorffennwyd y cyfarfod trwy ganu’r anthem genedlaethol, ond ni ddatgelir p’run ai anthem Cymru, ynteu un Prydain oedd honno.

Ar yr 21ain o Orffennaf 1917, cyhoeddodd Y Rhedegydd lythyr o Leeds gan un o ‘Stiniog a oedd yn un o’r rhai a symudodd o’r ardal i ddilyn gyrfa mewn gwaith clai yn y dref honno. Yn amlwg, yr oedd y fro fabwysiedig at ddant ambell un o’r hanner cant a mwy a ymfudodd yno ychydig wythnosau ynghynt. Meddai’r llythyrwr: ‘Sonnir gan rai mai aros yma wnaent, a chael eu teuluoedd i fyw yma…’ Felly, roedd pryderon llawer o ddinasyddion Blaenau Ffestiniog am ddyfodol y dref, yn dod yn fyw, ac ergyd arall i obeithion o weld adferiad yn yr hen ffordd o fyw wedi darfod ar frwydrau’r Rhyfel Mawr.

Yn ychwanegol i’r llythyr hwnnw, yr oedd erthygl am Gymry Swydd Durham, oedd yn trafod gweithwyr o ardal ‘Stiniog a gyflogid mewn chwarel galch yn Spennymoor. Dywedwyd eu bod yn fodlon iawn ei byd yn eu cynefin newydd. Yn ddiau, bu i sawl teulu o’r Blaenau, droi cefnau ar eu henfro, a phenderfynu ymsefydlu yn yr ardaloedd hyn o Loegr wedi’r rhyfel, er mawr golled i Gymru a’r iaith Gymraeg.
---------------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf 2017. Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
---------------------------------------------------

Cofiwch y bydd cyfrol Vivian Parry Williams, 'Stiniog a'r Rhyfel Mawr' ar werth cyn diwedd y flwyddyn am £10. Anrheg Nadolig gwerth chweil!




4.7.16

Tanygrisiau Ddoe -Sul, gwyl a gwaith

Pennod olaf cyfres Mary Jones am y gymuned rhwng 1920-36.

Yr wyf wedi cyffwrdd yn flaenorol ar y capeli, Carmel, Capel Wesla, Horeb, Bethel, Caersalem (B), Moreia (B), Dolrhedyn (M), a'rr Eglwys, ond pan oeddwn i yn Nhanygrisiau roeddynt yn sefydliadau holl bwysig yn y gymdeithas leol; yn ganolfannau gweithgaredd brwd, llafur cariad a diwylliant. 

Ar y Sul roedd gwasanaeth y bore, pnawn a hwyr a hefyd byddai’r Ysgol Sul a’r c’warfod canu yn dilyn yn y pnawn; practis côr y plant a’r dosbarth derbyn.  Byddai ‘Band of Hope’ ymhob capel bron ar wahanol nosweithiau.  Byddai croeso i blant o bob enwad i fynychu a hefyd yn yr Eglwys Bach.
Roedd hefyd band-o-hôp Rechabiaid yng Nghapel Caersalem (Albanaidd).  Byddem yn dysgu canu y gân ddirwestol (os cofiaf yn iawn):
Dim ond Yfed Dŵr – Yfed Dŵr, Feddwodd neb wrth Yfed Dŵr 

Byddai’n arferiad o gynnal cyngherddau elusennol ac aethpwyd o gwmpas y tai i werthu ticedi, chwecheiniog yr un, a’r cwmniau drama a’r corau ayyb yn wirfoddol.  Yr elw at rai o’r plwyfion oedd wedi colli ei iechyd, neu ddamwain yn y chwarel.

Cae Tynddol, hen gapel Bethel ar y chwith uchaf, siop Brymer (hen gapel Wesla), Eglwys dun St Ioan tu ôl i'r drol.*

Wrth son am help llaw – roedd llawer o blant a phobl yn mynd i gynorthwyo’r ffermwyr adeg y cynhaeaf gwair ac roedd llawer o hwyl i’w gael.  Pan oedd rhywun yn wael, roedd merched yn mynd i’r tŷ dros nos.  Cofiaf fy mam yn mynd i dŷ cyfagos a llond ei breichiau o ddillad gwely i olchi ganddi at y bore wedyn.

Yn ystod y nosweithiau tywyll a dim golau ar y ffyrdd, byddem yn mynd i’r band-o-hôp hefo lantern wedi ei gwneud o dun triog mawr a channwyll o’r chwarel.  Roedd band-o-hôp bron bob noson gan fod cymaint o gapeli, a chwarfodydd dirwest ar nos Sadwrn hefyd.

Roedd pawb yn trin y gerddi a phlannu tatws a llysiau, ac eraill yn cadw ieir a mochyn.  Byddai’r cigydd oedd yn lladd y mochyn a’i halltu yn naturiaethwr brwd ac roedd yn ymddiddori mewn hel mwsog a dail a blodau gwyllt.  Byddai yn mynd hefo’i gawell pysgota a dau fag ar ei gefn ar hyd y nentydd a’r bryniau ac roedd ganddo ganolfan i anfon samplau o fwsog o bob math i’r botanegydd yn Nolwyddelan.

Roedd bysiau yn rhedeg yn ôl a blaen ond bysus hogia’r Post oeddynt, yn rhoi gwasanaeth da, ac roedd y trên bach yn rhedeg trenau dynion i’r chwareli bach – Ceg y Tynal, Gelli... ac o chwareli Cwmorthin, Y Wrysgan a Rhosydd.  Cai’r plant hwyl yn sglefrio i lawr yr inclên ar ôl y wageni!

Yn Nolrhedyn gwnaeth y pentrefwyr safle hamdden ar ddarn o dir.  Gwnaed pitch coets i’r dynion a hefyd gwnaed argae yn yr afon i wneud Llyn y Genethod ar yr afon.  Ychydig yn is lawr yr afon roedd Llyn Hogia.  Nosweithiau haf braf a dyddiau difyr a diniwed.

Ar ôl gadael yr ysgol bum yn gweithio yn siop esgidiau Dicks ar gyfnod o brysurdeb mawr yn y dre.  Roeddwn yn gweithio o 9 tan 7 o’r gloch drwy’r wythnos a 8 tan 9 ar y Sadwrn am gyflog o 18/-.  Rhaid oedd golchi’r ffenestri dwbl bob bore a’r linoleum ar lawr, yna cael awr i ginio, a rhedeg adra i Dynllwyn dros y gors.  Cynilais arian i brynu beic Raleigh o siop y Cambrian Garage am £4-4-0 ac cefais werth bob dimai am flynyddoedd.
--------------------------------------------


* Diolch i Steffan ab Owain am y llun.

Ymddangosodd yn wreiddiol yn  rhifyn Tachwedd 1998 (heb y llun). Gallwch ddilyn y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.