Showing posts with label cymanfa. Show all posts
Showing posts with label cymanfa. Show all posts

19.2.20

Hwyl y Dathlu ym Methel

Daeth cynulleidfa niferus ynghyd i ddathlu canrif a hanner ers agor Capel Bethel yn Llan Ffestiniog. Cafwyd cyfarfod arbennig a chofiadwy iawn o aelodau, cyn-aelodau, cyn blant yr eglwys a chyfeillion eraill o bell ac agos.


Llywyddwyd y cyfarfod gan Myfanwy Williams, un o’r blaenoriaid ac, yn dilyn braslun gan Gwenda Ll. Jones o hanes sefydlu achos Annibyniaeth yn y pentre, caed clywed wedyn rai o gyn blant Bethel – Owi Rowlands (Rhosgadfan), Jennifer Thomas (Bangor), John Arthur Thomas (Caerdydd) a Rhian Haf Parry (Yr Wyddgrug) – yn hel atgofion melys am y cymeriadau a fu, am ddiwylliant y ‘band of hope’ a’r Gymdeithas, am orymdeithio yn y Gymanfa flynyddol yn Blaenau, ac fel roedd capel Jeriwsalem wedyn o dan ei sang a’r canu yn fanno yn codi’r to.

Clywyd atgofion difyr hefyd am y tripiau Ysgol Sul, slawer dydd, i Landudno neu Rhyl neu Butlins ym Mhwllheli; rhain yn brofiadau y gallai eraill oedd yno, o bob enwad, uniaethu â nhw.

Roedd Iwan Morgan wedi cyfansoddi cywydd rhagorol i ddathlu’r achlysur a chaed datganiad ohono ganddo ar gerdd dant. Bu i Iwan hefyd gyfansoddi emyn pwrpasol ac ymunodd y gynulleidfa i’w ganu gydag arddeliad.

Yn dilyn y cyfarfod gwahoddwyd pawb wedyn i ffreutur yr ysgol gynradd, lle’r oedd lluniaeth helaeth wedi cael ei pharatoi, a merched a gwragedd ifanc yr eglwys yn gweinyddu wrth y byrddau.

Fel y gellid disgwyl, bu eto yn fanno fwy o hel atgofion yn gymysg â hyrddiau o chwerthin iach. Yna, i goroni’r dathlu, ar y Sul drannoeth daeth criw lluosog eto ynghyd i giniawa yng Ngwesty Seren.
-------------------------------------------


Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2020.
Erthygl Bethel Fach y Llan



22.6.17

Stolpia -Difyrwch Hen Ddyddiadur

Pennod arall o gyfres Steffan ab Owain, y tro hwn o rifyn Ebrill 1991.

Dyddiadur Hen Frodor o’r Llan:


1845
Ionawr 1:      Neb yn pregethu yn Saron.
Ionawr 2-4:      Eira mawr.  Lluwch mawr, y lluwch mwyaf a welais yn fy oes.
Mai 2:          Claddu John Leias, llosgodd yn y Gloddfa Ganol.

1857
Rhagfyr 17:    Claddu geneth fach Andro Elisabeth o’r Ffynnon Ddŵr.

1860
Hydref 22:    Yn Saron, bedyddio geneth fach Kiti, Tŷ Llyn y Morwynion.

1867
Mawrth 8:    Marw Robert Jones, Tynyfedwen.
Mawrth 9:    Marw ei wraig, eto.
Rhagfyr 19:     Agor Capel Utica ar ôl ei ail-fildio.


Dyddiadur Gwraig o Danygrisiau:

1867
Medi 22:    Agorwyd Capel newydd yn Cwmorthin.  Llawenydd yw gweld fod yr Efengyl yn ennill tir yn ddistaw yn ein gwlad.  Gwthia i gilfachau pellaf yr hen fynyddoedd yma.

1868
Mehefin 25:    Cynhaliwyd Cymanfa Gerddorol Drws Ardudwy yng Nghastell Harlech.  Yr oedd yno 16 o gorau cymysg.  Y cyfarfod cyntaf yn dechrau am ddeg yn y bore, a chanwyd yr emyn ‘Mae’n llond y nefoedd, llond y byd.’

1870
Mai 30:    Bu Miss Rees, ‘Cranogwen’, yn areithio yn Nhanygrisiau.  Y testun oedd, ‘Yr ieuenctid a diwylliant eu meddwl’.

Dyddiadur Hen Weithiwr o Danygrisiau (Cyfieithiad):

1879
Ionawr 25:    Prynu siwt newydd o ddillad gwerth £3.12s.0.
Mawrth 29:    Cyngerdd yn y Neuadd gan Barti Llywelyn, Dolwyddelan
Mai 26:    John Edno Roberts yn rhoi darlith ar Raeadr Niagra cyn ei ymadawiad i’r America.
Mehefin 10:    Gofyn i Mr Downing am fenthyg sied y Rheilffordd i gynnal yr Eisteddfod.
Tachwedd 15:    Gosod carreg sylfaen y Capel Saesneg.  Yn bresennol yno roedd J. Roberts A.S., J.E. Geaves, a Dunlop.

Dyddiaduron Ioan Brothen:

Dechrau gweithio yn Rhosydd Mai 22, 1888 hyd Gorffennaf 1982.
Tywydd poeth o tua 20fed o Fawrth 1893 hyd ddiwedd Mehefin.
Pla o lindys hyd goed 1893 a 1894.
Medi 11, 1897 – ar ben yr Wyddfa.

Dyddiadur hen chwarelwr

Allan o un o ddyddiaduron diddorol Daniel Williams, Dolwyddelan y daw y rhai nesaf:

1903
Ionawr 8:    Gwrthodwyd trwyddedu y dafarn - Glan y Gors heddiw.
Ionawr 26:    Clywed bod saith o blant wedi marw o’r frech goch yn ‘Stiniog dydd Sadwrn diwethaf a phump heddiw.
Chwefror 21:    Prynu gwasgod felfared gref am 2/11 a thebot am 6 a dimai
Gorffennaf 31:    John, mab Ann Jones, wedi dyfod adref am dro o Batagonia
Medi 9:    Llifogydd mawr wedi gwneud llanast ymhobman.  Helynt rhwnt I.. a’i wraig.  Mae am fyned i Merica a gadael yr hen globan.
Medi 21:    Johnny bach wedi cael hogyn am y tro cyntaf.
Medi 30:     Bod yn Lerpwl a gweled cerbydau yn rhedeg gydag electric.  Ceffylau a’u tynnai pan oeddwn yno o’r blaen.
Hydref 7:    Cerrig mawr wedi llithro i’r heol o glogwyn Bwlchygwynt
-----------------------------------------


Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill 1991, yna yn llyfr ‘Pigion Llafar 1975-1999’, ac yn fwyaf diweddar yn rhifyn Ebrill 2017 yn rhan o'r gyfres Trem yn Ôl.

Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y cwmwl geiriau ar y dde.

30.4.16

Pobl y Cwm -gweithgaredd y capel

Dyddiau fu yng Nghwm Cynfal.  
Pennod arall o gyfres atgofion y diweddar Ellen Williams.


Yn nechrau y ganrif hon, byddai y Gymanfa yn cael ei chynnal yn Moriah Trawsfynydd ac yn Peniel Ffestiniog bob yn ail flwyddyn. Byddai plant y Babell wrth eu bodd pan fyddai'r Gymanfa yn cael ei chynnal yn y Traws, disgwyl mawr am y diwrnod i gael mynd am dro oddicartre.

Cerdded i stesion Maentwrog at y trên un o'r gloch, cael te parti ar ôl y cyfarfod y pnawn, a dyna treat i ni'r plant yr adeg hono. Te a bara brith a cacenau crîm, brechdanau tenau a menyn tew arnynt, jam a chaws, pethau na fyddent i'w cael yn aml cartre y pryd hyny.

Canu a gwobrwyo oedd prif nod y Gymanfa hon. Byddai gwobrwyo am yr arholiadau ysgrifenedig, yr arholiad cudd, a'r arholiad sirol. Byddai cael gwobr am arholiad y sir yn anrhydedd mawr iawn, ac yn glod i'r Ysgol Sul y byddai yr enillwyr yn aelodau ohoni. Gworwyo hefyd y plant lleiaf am ddysgu y llyfr Rhodd Mam drwyddo, 'Cam cynta plentyn', a dau lyfr arall, sef yr Holwyddoreg a'r Hyfforddwr.

Roedd y Babell yn enwog am ei phlant y pryd hynny. Byddai ryw bymtheg i ugain yn ymgeisio ar wahanol wersi, ac yn ennill llu o wobrau, a rhai o honynt gyda anrhydedd, er clod a diolch i athrawon y Babell. Wedi treulio diwrnod o adloniad da yn y Gymanfa, a'r plant wedi mwynhau eu hunain yn hapus ac yn llawen, ac wedi cael cyfle i wario ychydig o'u ceiniogau, pawb yn troi am adre wedi cael eu bodloni a mwynhau eu hunain.

Byddai cyfarfod darllen gennym yn y gauaf, ar nos Fawrth bob wythnos yn y Festri. Rhyw ddeuddeg i ugain o oedolion fyddai yn ei fynychu yn ffyddlon a selog. Byddem yn cael nosweithiau difyr ac adeiladol yn trafod y Maes Llafur, a phawb ar ei orau yn dweyd eu barn ac yn gofyn cwestiynau, a byddai dadl brwd ar ambell gwestiwn. Byddai awr yn pasio wrth dân bach siriol y Festri.

Engedi, Llan
I ddiweddu y tymor, roedd rhaid cael swper, a thê parti i'r plant prydnawn dranoeth. Y chwiorydd yn gofalu am y trefniadau. Byddai pob un yn dod a'i baich yn wên i gyd. Roedd gwledd o bob danteithion wedi eu paratoi ganddynt at y noson hon. Roeddynt yn gofalu fod pob peth angenrheidiol mewn llestri a bwyd wrth law yn hwylus, bob un o honynt wrth eu bodd heb gyfri'r gost na'r drafferth, llafur cariad yn unig oedd yn bwysig ganddynt. Gwaith y brodyr oedd gofalu gosod y byrddau noson gynt yn barod. Roedd ganddynt blanciau pwrpasol iw gosod ar draws y seti yn y capel i'w gwneyd yn fyrddau taclus a hwylus i fwyta arnynt.  Gweinidog Engedi fel rheol oedd y gŵr gwadd. Byddai pawb yn mwynhau y wledd, a buan iawn y byddai pobpeth wedi mynd o'r golwg, wedi darfod y gwledda, a chael yr anerchiadau a'r diolch, clirio a rhoi bobpeth yn ôl yn ei le, ar ôl hynny i ddarfod y noson cael dipyn bach o hwyl a miri cyn troi am adre wedi noson lawen a difyr.

Byddai Cyfarfod Ysgol Sul y Cylch yn dod i'r Babell unwaith yn y flwyddyn, a byddai paratoi a llafurio gwych at hwnnw, gan fod cyfeillion o eglwysi eraill yn dod yno, rhai o Engedi, Peniel, Gellilydan a Maentwrog Isa i gydgyfarfod i drafod pynciau yr Ysgolion Sul, ac i holi cwestiynau ar y Maes Llafur. Holi plant yn y bore, ar bobl ifanc a'r oedolion yn y pnawn. Byddai gan y plant ac hefyd rhai hŷn atebion ffraeth a gwreiddiol, ôl llafur, chwilio, a chofio ganddynt. Byddai paratoi helaeth yn y cartrefi ar gyfer y Sul hwnw, gofalu am ginio a the i'r dieithriaid, a mawr fyddai cynhesrwydd a chroeso bobl Cwm Cynfal iddynt, a digon o le i fynd am bryd o fwyd da.

Mae un amgylchiad arall wedi dod i'm cof, a rhaid ei nodi yn y fan hyn. Cymerodd aelod selog o'r Babell yn ei ben i roi c'lennig i blant y Babell, a mawr fyddai y disgwyl gan y plant am y noson honno. Rwyf yn gweld yn fy meddwl ddarlun byw o'r peth. Pawb a'i lygad ar ddrws y Festri, y plant yn disgwyl yn ddyfal am i'r drws agor, gweld dyn heb fod ryw dal iawn, gwyneb gwridgoch a'i wallt yn gwynu yn dod trwy y drws a basgeidiad fawr o afalau cochion ac orenau melyn. Wel dyna Hwre, Hwre, nes oedd y lle yn adseinio, a doedd dim o'i le yn hynny, ffordd y plant o ddangos eu diolch a'u gwrerthfawrogiad o'r anrhegion. Y gŵr caredig hwn oedd Evan Roberts, Cae Iago. Bu fo a'i briod Gwen yn hynod o deyrngar i'r Babell trwy y blynyddoedd mewn gwahanol ffyrdd, yn hael eu croeso a'u caredigrwydd.

Tua 1913, prynodd Robert Jones, Bronerw yr hen Babell pan oedd yn ymddeol o'r ffarm. Gwnawd y lle yn dŷ buddiol a chysurus iddynt i dreulio eu ymddeoiliad. Daeth par ifanc newydd briod i ffarmio i Bronerw, mab Cochgwan, Robert John, wedi ei ddwyn i fyny fel un o blant y Babell. Ond Anibynwyr selog oedd o ai briod, er hyn roedd Robert John yn dal yn ffyddlon yn y Babell, ac yn barod bob amser i wneyd unrhyw wasanaeth gyda'r canu, dyna oedd ei bleser fwya. Roedd o wrth ei fodd yn paratoi plant y Gobeithlu at y Cyfarfod Llenyddol. Byddai aelwyd Bronerw yn rhydd i'r plant fynd yno bob amser i gael eu gwersi gan Robert John. Byddai y tŷ yn llawn bob nos am amser cyn y cyfarfod, a hynny am rai bynyddoedd cyn iddo ddod yn arweinydd y Gân yn swyddogol yn y Babell.  Byddai bob pnawn Diolchgarwch yn canu Emyn ir gynulledfa, a byddai pawb yn edrych yn mlaen at hynny.

Yn y flwyddyn 1928 y dewiswyd R.J.Jones yn arweinydd y canu yn swyddogol. Derbyniodd yntau y swydd gydag anrhydedd, a bu yn ffyddlon a diwyd gyda bob achos i roi cymorth, ac i addysgu to ar ôl to o blant Cwm Cynfal i ganu. Tua'r un flwyddyn roedd Llyfr Emynau newydd yn dod allan or wasg gan y Methodistaid. Rhoddodd rhai o Gyfeillion y Babell dri llyfr Emynau yn rhodd at yr achos: un ar y Pulpud, un ar fwrdd y Sêt Fawr a'r llall ir Codwr Canu. Cyn bo hir iawn dewiswyd Gruffydd Davies yn is-Godwr Canu. Bu hynny yn help mawr i Caniadaeth y Cysegr.

Yn 1930 daeth adroddiad cynta cyfrifon yr eglwys yn Llyfr, i'r aelodau i gyd gael cyfle i weld drosynt eu hunain pa fodd oedd y gwaith yn cael ei wneyd, a pha fodd yr oedd yr arian yn mynd at wahanol bethau. Y dull cyn hynny fyddai rhoi adroddiad ar goedd i'r aelodau ar nos Seiat. Cofiaf y fynud yma am y llyfr mawr du trwm yn cael ei agor gan y pen blaenor ac yn rhoi hanes cyfrifon yr eglwys am y flwyddyn ar goedd mewn ryw awr o amser i hanner yr aelodau neu lai yn aml a fyddai yn bresenol y noson hono, i'w cadw mewn cof am flwyddyn arall.

T.R.Jones, yr ysgolfeistr fyddai'n dod i'r Babell i roi hanes y cyfrifon. Bydda fo bob amser yn chwilio yn yr ysgol am y ddau hogyn mwya cryf yn y Cwm i roi y llyfr mawr du iddynt ei gario o'r Llan i'r Babell at y noson honno yn ei le fo. Byddai y bechgyn yn cael eu rhybuddio a'u bwgwth ganddo os na fyddant ofalus hefo'r llyfr du!

----------------------------------
Ysgrifenwyd yr atgofion yn wreiddiol ym 1978; a bu'r gyfres yn rhedeg yn llafar Bro yn ystod 1999 a 2000. 
Gallwch ddilyn y gyfres gyfa' trwy glicio ar y ddolen 'Pobl y Cwm' isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

28.6.12

Mawl a Chân


Cynhaliwyd ‘Cymanfa Ganu’r Blaenau a’r Cylch’ ar ei newydd wedd ar yr 20fed o Fai, yng nghapel y Bowydd. Cafwyd oedfa bregethu gan y Parch Anita Ephraim yn y bore, a hyfryd oedd gweld rhwng 70 ac 80 o addolwyr yn bresennol. Defnyddiodd y Parch Anita dechnoleg fodern ‘power point’ i gyflwyno’i neges rymus. Dewisodd yn destun y ‘tair dameg’ o Efengyl Luc (pennod 15) ... y ddafad golledig, y darn arian colledig a’r mab colledig.

Yn oedfa’r hwyr, cymerwyd rhan gan ddisgyblion yr ysgolion lleol (dan arweiniad Wenna Francis Jones), Band Ieuenctid yr Oakeley (dan arweiniad Dafydd Lake) a Chôr Cymysg y Blaenau (dan arweiniad Wenna Francis Jones ac Alwena Morgan yn cyfeilio). Llywydd y noson oedd Tecwyn Williams, Bethesda, a chynorthwywyd ef gyda’r rhannau arweiniol gan Rhian Williams. Arweinydd y gân oedd Gareth Jones, gyda Wenna Francis Jones yn cyfeilio ar yr organ. Talwyd y diolchiadau gan Ceinwen Humphreys.

Cafwyd diwrnod arbennig iawn a diolch i bawb am eu cefnogaeth.

Ychwanegwyd hyn gan ohebydd Tanygrisiau:

Ar ddiwedd wythnos Cymorth Cristnogol, cafwyd pregeth a sleidiau yn eglwys y Bowydd o dan ofal dawnus y Parch. Anita Ephraim - roedd yn bleser bod yno! Gyda’r nos, cafwyd Cymanfa Ganu i’r plant a’r oedolion. Mae grŵp ardderchog o ferched ieuainc y capeli yn gweithio’n galed i ddod â’r elgwysi i gyd at ei gilydd i gael gwahanol weithgareddau er mwyn ceisio gwneud tre’r Blaenau yn debyg i fel yr oedd flynyddoedd yn ôl. Roedd yn braf gweld y capel yn llawn a’r plant yn mwynhau eu hunain yn canu caneuon gyda chymorth band bach yr Oakley. Diolch yn fawr iawn i chi, bwyllgor yr ardal. Daliwch ati - rydych wedi llwyddo i gyflawni gwaith ardderchog mewn cyn lleied o amser. Cefais fwynhad bendigedig drwy’r dydd.
[Gladys Williams]
 

16.6.12

Fflamau


Golygyddol rhifyn Mehefin
 
Hwyrach mai addas fyddai cyfeirio at ‘Lafar Bro’ Mehefin 2012 fel ‘rhifyn y fflam.’ Yn ogystal â’r ‘fflam Olympaidd’ y bu cymaint sôn amdani, gwelwyd cynnau sawl fflam arall yn ein bro:

Mae sawl gohebydd wedi cyfeirio at lwyddiant y ‘Gymanfa’ ar ei newydd wedd. Hyfryd oedd gweld yr ifanc a’r hŷn yn heidio i Gapel y Bowydd ar ddydd Sul yr 20fed o Fai. Hyderir y caiff y fflam yma ei chadw ynghyn am flynyddoedd i ddod.

Mae geiriau John Glyn, arweinydd Seindorf yr Oakeley yn rhai calonogol. Mae’n ffyddiog iawn y pery’r fflam ynghyn wrth edrych i’r dyfodol, ac y caiff ein hieuenctid ‘barhau i fwynhau’r profiad o berfformio a chymdeithasu gydag oedolion profiadol a cherddorion o safon.’

Mae’n fwriad gan Ysgol y Moelwyn gyfrannu colofn yn adrodd am weithgarwch amrywiol y disgyblion yn fisol. Roedd cyfnod pryd yr arferwyd cael adroddiadau cyson oddi yno, a chroesawn yn fawr y bwriad i ail-gynnau hen fflam.

Cynheuodd fflam tîm Bro Ffestiniog yn eirias ar y cae rygbi. Llongyfarchiadau calonog i’r hogia am lwyddo i ddod â ... na, nid torch, ond Cwpan Gogledd Cymru i’r Blaenau.
Dewi James, capten Bro Ffestiniog yn dathlu. (llun Alwyn Jones)

Yn anffodus, bu sôn am ddiffoddi sawl fflam yn yr ardal hefyd. Collwyd sawl anwylyn eto’r mis yma. Mae’n cydymdeimlad â’r holl deuluoedd yn ddiffuant iawn.

Dyma fy neufis innau bellach ar ben am flwyddyn arall. Mae’r rhifyn yma eto’n argoeli i fod yn un cynhwysfawr a difyr. Dymunaf ddiolch i bawb o’r cyfranwyr yn ogystal â’r rhai a gynorthwyodd i’w gael yn barod i gyrraedd eich cartrefi chwi’r darllenwyr. Mwynhewch yr arlwy!

Iwan Morgan