Showing posts with label Trem yn ôl. Show all posts
Showing posts with label Trem yn ôl. Show all posts

26.3.18

Trem yn ôl- Olew Morris Evans

Erthygl arall o lyfr 'Pigion Llafar 1975-1999', y tro hwn gan Nesta Evans, Llan.

Cawsom amryw ofynion o dro i dro a yw’n bosibl prynu ‘Olew Morris Evans’ heddiw. Yn anffodus nid yw’n bosibl ar ôl dyddiau’r annwyl Frank Evans, Bryn Olew. Y dydd o’r blaen deuthum o hyd i daflen hysbysebu ‘Olew Morris Evans’ ac ar un ochr yr oedd penillion i’w canu ar fesur ‘Hob y Deri Dando!’. Dyma un ohonynt:
Rhag trueni y Rheumatig
Olew Morris Evans!
Treiwch hwn yn lle pob physig,
Olew Morris Evans!
Gyr y ddannodd a’r Diptheria
Oll i ffwrdd,
Doed gwyr sydd dan gur
I gael prawf o’i rinwedd pur.
Wrth chwilio am hanes yr hen ŵr diddorol hwn, darganfum iddo fod yr ieuengaf o ddeuddeg o blant Dafydd ac Elisabeth Evans. Saer oedd Dafydd Evans wrth ei alwedigaeth, ac yn grefftwr rhagorol. Yr oedd magu teulu lluosog yn dreth drom ar adnoddau’r tad a’r fam, a bu raid i’r bechgyn oll ond un droi i’r chwarel yn gynnar.

Deg oed oedd Morris Evans pan ddechreuodd ef ei yrfa yn y chwarel. Yno y bu nes bod yn bump ar hugain oed, sef adeg y cwymp mawr yn y ‘Welsh Slate’. Manteisiodd ar gynildeb ei enillion a chychwyn busnes glo yn y Llan. Bu’n lwyddiant mawr, ac ychwanegodd flawd a nwyddau gan wneud Siop Morris Evans yn rhan o’r pentref. Ychwanegodd gangen yn Nhrawsfynydd a aeth wedyn yn eiddo i’w chwaer (sef nain Brian Hughes, Garej Traws).


Ymhen amser wedyn, rhoddodd ei hunan ‘enaid a chorph’ i hyrwyddo’r Olew byd enwog yma gan drafelio drwy holl bentrefi, trefi a marchnadoedd de a gogledd Cymru a rhan helaeth o Loegr.
Bu’n aelod ffyddlon o Gyngor Sir Meirion, gan gynrychioli dosbarth Teigl am chwe blynedd, ac roedd hefyd yn aelod o Bwyllgor Addysg Ffestiniog hyd y diwedd.

Yn ei gysylltiadau crefyddol, cychwynnodd ei yrfa yn hen gapel Saron, a pharhaodd yn aelod ffyddlon a gweithgar yn Bethel hyd y diwedd. Dyma eiriau Pierce Jones, tad Edward a Richard Jarret Jones a Mrs Wynne, Penlan, wrth gloi ei erthygl goffa iddo yn y Rhedegydd, Ebrill 12fed, 1923:

‘Bellach rhaid ffarwelio ag un arall o hen arwyr y fro, gyda’r ymdeimlad dwfn fod yr hen fynwent yn mynd yn fwy cysegredig y naill ddydd ar ol y llall.’
-----------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf 1983, ac yna yn llyfr Pigion Llafar a gyhoeddwyd i nodi'r milflwyddiant yn 2000.
Bu mewn rhifyn diweddarach o'ch hoff bapur bro hefyd, yn rhan o gyfres Trem yn ôl.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen* isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
(* Os yn darllen ar ffôn, rhaid dewis 'web view')


22.6.17

Stolpia -Difyrwch Hen Ddyddiadur

Pennod arall o gyfres Steffan ab Owain, y tro hwn o rifyn Ebrill 1991.

Dyddiadur Hen Frodor o’r Llan:


1845
Ionawr 1:      Neb yn pregethu yn Saron.
Ionawr 2-4:      Eira mawr.  Lluwch mawr, y lluwch mwyaf a welais yn fy oes.
Mai 2:          Claddu John Leias, llosgodd yn y Gloddfa Ganol.

1857
Rhagfyr 17:    Claddu geneth fach Andro Elisabeth o’r Ffynnon Ddŵr.

1860
Hydref 22:    Yn Saron, bedyddio geneth fach Kiti, Tŷ Llyn y Morwynion.

1867
Mawrth 8:    Marw Robert Jones, Tynyfedwen.
Mawrth 9:    Marw ei wraig, eto.
Rhagfyr 19:     Agor Capel Utica ar ôl ei ail-fildio.


Dyddiadur Gwraig o Danygrisiau:

1867
Medi 22:    Agorwyd Capel newydd yn Cwmorthin.  Llawenydd yw gweld fod yr Efengyl yn ennill tir yn ddistaw yn ein gwlad.  Gwthia i gilfachau pellaf yr hen fynyddoedd yma.

1868
Mehefin 25:    Cynhaliwyd Cymanfa Gerddorol Drws Ardudwy yng Nghastell Harlech.  Yr oedd yno 16 o gorau cymysg.  Y cyfarfod cyntaf yn dechrau am ddeg yn y bore, a chanwyd yr emyn ‘Mae’n llond y nefoedd, llond y byd.’

1870
Mai 30:    Bu Miss Rees, ‘Cranogwen’, yn areithio yn Nhanygrisiau.  Y testun oedd, ‘Yr ieuenctid a diwylliant eu meddwl’.

Dyddiadur Hen Weithiwr o Danygrisiau (Cyfieithiad):

1879
Ionawr 25:    Prynu siwt newydd o ddillad gwerth £3.12s.0.
Mawrth 29:    Cyngerdd yn y Neuadd gan Barti Llywelyn, Dolwyddelan
Mai 26:    John Edno Roberts yn rhoi darlith ar Raeadr Niagra cyn ei ymadawiad i’r America.
Mehefin 10:    Gofyn i Mr Downing am fenthyg sied y Rheilffordd i gynnal yr Eisteddfod.
Tachwedd 15:    Gosod carreg sylfaen y Capel Saesneg.  Yn bresennol yno roedd J. Roberts A.S., J.E. Geaves, a Dunlop.

Dyddiaduron Ioan Brothen:

Dechrau gweithio yn Rhosydd Mai 22, 1888 hyd Gorffennaf 1982.
Tywydd poeth o tua 20fed o Fawrth 1893 hyd ddiwedd Mehefin.
Pla o lindys hyd goed 1893 a 1894.
Medi 11, 1897 – ar ben yr Wyddfa.

Dyddiadur hen chwarelwr

Allan o un o ddyddiaduron diddorol Daniel Williams, Dolwyddelan y daw y rhai nesaf:

1903
Ionawr 8:    Gwrthodwyd trwyddedu y dafarn - Glan y Gors heddiw.
Ionawr 26:    Clywed bod saith o blant wedi marw o’r frech goch yn ‘Stiniog dydd Sadwrn diwethaf a phump heddiw.
Chwefror 21:    Prynu gwasgod felfared gref am 2/11 a thebot am 6 a dimai
Gorffennaf 31:    John, mab Ann Jones, wedi dyfod adref am dro o Batagonia
Medi 9:    Llifogydd mawr wedi gwneud llanast ymhobman.  Helynt rhwnt I.. a’i wraig.  Mae am fyned i Merica a gadael yr hen globan.
Medi 21:    Johnny bach wedi cael hogyn am y tro cyntaf.
Medi 30:     Bod yn Lerpwl a gweled cerbydau yn rhedeg gydag electric.  Ceffylau a’u tynnai pan oeddwn yno o’r blaen.
Hydref 7:    Cerrig mawr wedi llithro i’r heol o glogwyn Bwlchygwynt
-----------------------------------------


Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill 1991, yna yn llyfr ‘Pigion Llafar 1975-1999’, ac yn fwyaf diweddar yn rhifyn Ebrill 2017 yn rhan o'r gyfres Trem yn Ôl.

Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y cwmwl geiriau ar y dde.

21.3.17

Trem yn ôl -Tabernacl a Thŷ Canol

Ail bennod hanes Tŷ Canol, gan Pegi Lloyd Williams

Roedd Tŷ Canol yn ddau dŷ o dan yr un to, ac fe glywais Mam yn dweud lawer gwaith ei bod yn crio weithiau wrth glywed swn llygod yn rhedeg yn y nenfwd.  ‘Paid â bod yn fabi – llygod bach diniwed ydyn nhw’ byddai Nain yn dweud, ond roedd Mam yn tybio bod ganddynt draed mawr iawn beth bynnag!  Felly, efo ychydig o dai o gwmpas roedd yna gymuned fach yn y gymdogaeth ac mae’n rhaid bod pawb yn cyd-dynnu’n eitha’ da gan na chlywais air cas am neb – 'rhen Betsi Jones wedi rhoi ffedog lân amdani cyn troi allan naill i fwydo’r ieir neu am sgwrs, a phob amser pinsiad o bersli yn ei phoced “peth da at yr hen ddŵr ma” ac un o’r gwragedd eraill yn cyrraedd am belen fach o furum ‘at y rhen nerfa ma’ pan yn teimlo’n isel.  Ia – y burum a’r persli a chynhwysion eraill yn cael eu gwerthu dros y cownter erbyn heddiw.  Roedd yr ‘hen bobol’ yn gwybod be oedd gwerth a pherygl pob llysieuyn.

Aelodau yng Nghapel Tabernacl (MC) oedd Evan a Gwen Roberts, a nhw a Margiad Elin ac Evan John yn mynychu’r capel cynta’ a godwyd yn 1864.  Cyn diwedd y ganrif roedd yr adeilad yn orlawn i’r gwasanaethau a phenderfynwyd codi capel newydd urddasol – o’r tu mewn ac yn sicr o’r tu allan.
Fel y tybiaf – roedd Gwen Roberts trwy werthu wyau a chadw’r cownt yn ei phen gan na allai sgwennu na darllen, ac Evan trwy weithio yn y chwarel a chadw ychydig o wartheg, a thyfu pob llysieuyn at y bwrdd wedi hel celc bach golew gan iddynt roi benthyg arian yn ddi-log at adeiladu’r capel newydd.  Hyn ym mis Medi 1902, ac Evan a Gwen yn ei theimlo’r fraint mae’n siwr i weld eu merch yn priodi yno efo John Jones y bora trannoeth.

Dod i ben oedd hanes yr ail gapel hefyd, a hynny’n sydyn a dirybudd.  Canfuwyd pydredd sych (dry-rot) wedi treiddio trwodd a rhybudd i neb fynd yn ôl a blaen yno ar ôl y gwasanaeth olaf yng ngofal Y Parch Adrian P. Williams ar 9fed Tachwedd 1977.

Cyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg codwyd y rhesdai Summerhill ac fe benderfynodd y ddau brynu rhif 4, ond aeth yr un o’r ddau yno i fyw.  Fe symudodd Margiad Elin a John Jones yno o ardal Llwynygell ac yno y ganwyd eu hail blentyn Mary Ann (1905), ac wedi hynny ei brawd Evan John a Kate, rhieni John Evan a Morfudd.  Bu plentyn bach arall hefyd – Gwennie a fu farw tua 1909 fel llaweroedd o rai bach o’r ardal yr un amser fel y sylwais wrth ddarllen eu cofeb ar garreg fedd.  Fe glywais ddweud bod Gwennie wedi ei geni ‘mewn feil – peth lwcus iawn’ ond nid yn ei hachos hi reit siwr.  Bu Evan John a’i wraig, Catherine (Kate) yn byw yn Tŷ Canol ar ôl yr hen bobol, a dyna sut mae gen i gof am yr hen gartref.  Roedd Evan John yn sgotwr brwd ac yn dda am gawio plu ‘sgota’ ... mae dwy beth bynnag yn dod i’r cof:  ‘Rhwyfwr Evan John Tŷ Canol’ a ‘Cogyn Evan John Tŷ Canol’.

Yn gymdogion i Taid a Nain oedd William Jones, Brynawel – “un o’r cymeriadau rhagoraf a fu yn ein hardal erioed” meddai R.J. Roberts (Tanrallt); ac yn ôl Glyn Myfyr (Park Square) ‘ei fywyd ar wastatir mor uchel fel mae’n gofyn i ddyn ddiosg ei esgidiau oddi am ei draed cyn sangu ohono ar diroedd mor gysegredig’.

Clywais ddeud adra fel y bu Nain Tŷ Canol yn hynod fentrus yn estyn cymorth i Mrs William Jones pan oedd un o’r plant yno’n wael.  Dyna sut roedd hi – estyn dwylaw i liniaru peth ar ofid y llall.
I’r Ysgol Frutanaidd Dolgarregddu elai plant yr ardal, gan dalu ceiniog neu ddwy yn wythnosol am eu haddysg.  Pawb yn mynd a’i fwyd efo fo mewn piser, ac yn amlwg o gael cip ar ambell beth ysgrifennwyd ar y pryd roedd popeth yn dangos eu bod yn cael y sylfeini cywir – darllen, ysgrifennu a rhifeg.  Byddai cymaint o ferched ag o hogiau yno; hyn oll yn dibynnu os oedd modd gartref hwyrach.  Yn gynharach yn yr ysgrif bu i mi gyfeirio bod y cyfenwau Tyson a Brymer yn ymddangos fel deiliad Tŷ Canol yn y dyddiau cynnar, a llawer ymhellach ymlaen bu i’r ‘Miss Brymer’ y gwyddom amdani hyd heddiw chwarae rhan bwysig yn ei hanes.  (gweler Darlith Y Fainc Sglodion 2009 Dafydd Jones)

Roedd yna ryw genfigen mae’n debyg cydrhwng ysgol Blaenau ac Ysgol Congl-y-Wal gan i mi ddysgu’r gân, ond nid yn ei chofio i gyd erbyn hyn.
“Be ydi’r mater debygwch chi?  
Hogia Congl Wal sydd yn mynd i ysgol Llan ....  
Ofn cael cweir gan hogia Dolgarregddu”.  
Wn i ddim byd am ysgol Congl-y-Wal yn anffodus.  Mae addysg i’r bobl ifanc wedi bod yn holl bwysig i Stiniog, ac yn parhau felly.  Mae ysgolion elfennol dalgylch Ysgol y Moelwyn yn gosod safonau mae’n amlwg, sydd wedyn yn cyfrannu at lwyddiant uchel hon yn eu paratoi gogyfer ‘y chweched’ neu unrhyw faes arall.
-----------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2017.
Dilynwch gyfres Trem yn ôl efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.