Gan fod ein colofnydd hirhoedlog Steffan ab Owain yn cymryd egwyl haeddianol, mae o wedi rhoi caniatâd i Llafar Bro edrych ‘nôl trwy’r archif a dethol darnau amrywiol o’i hen ysgrifau.
Yn y bennod gyntaf yma, cawn bytiau o gyfres arall ganddo -Llên Gwerin- o 40 mlynedd yn ôl ym 1982, yn ogystal â darnau o gyfres Stolpia o 30 ac 20 mlynedd yn ôl, ym 1992 a 2002.
Ogofeydd
Er fod yr ardal hon yn frith o lefelydd chwarelyddol, ychydig iawn o ogofeydd a geir yma, yn enwedig ogofeydd â hanes neu draddodiad iddynt. Gelwir dau hen ffermdy yng ngodre’r Moelwyn wrth yr enwau Ogo’ Llechwryn ac Ogo’ Oronwy ond nis gwn yn lle mae’r ogofeydd eu hunain ‘chwaith.
Cyfyng iawn yw ceg Ogo’ Stwlan heddiw ac er na fu’n ogof fawr erioed roedd yn haws cerdded i mewn iddi flynyddoedd yn ôl a chyn iddynt wneud y ffordd i fyny at y llyn. Ni chlywais am un chwedl ynglŷn â’r hen ogof ond os y cofiwch darganfyddwyd pen bwyell garreg gan R. Glyndwr Edwards ychydig bellter o’r fan honno rai blynyddoedd yn ôl pan oeddynt ar ganol gwneud y gwaith trydan.
Ogof Cwmbywydd - dywedodd un hen ŵr wrthyf fod ogof yng Ngwmbywydd (nid honno sy’ ar ochr y llwybr a olygir) a’i cheg wedi ei chuddio ag eiddew. Yn ôl yr hen gyfaill, mae’r ogof yn cyrraedd o Gwmbywydd i lawr i le gerllaw Plas Dolmoch ond nid oes neb sy’n fyw heddiw yn gwybod am ei dau ben.
Clywais un arall yn dweud bod ogof yng nghyffiniau Cefn Trwsgwl ac i ŵr a fu’n lletya yn ‘Stiniog fynd a’i gi am dro heibio’r lle un tro a phan oedd yn mynd heibio man arbennig ar y gefnen aeth y ci i snwyro i rhyw dwll. Pan gyrrhaeddodd y dyn at y twll gwelodd bod math o risiau yn arwain i lawr i grombil ogof ond ni fentrodd i lawr y diwrnod hwnnw. Ychydig ddyddiau ar ôl iddo ddweud yr hanes hwn wrth gyd-weithiwr bu’r gŵr farw.
Crefftau llechi
Llun- Amgueddfa Genedlaethol Cymru |
Un o’r gwrthrychau harddaf y gwelodd y diweddar Evan Williams, Talwaenydd, wedi ei wneud o lechfaen oedd ‘chest of drawers’. Gwnaed hi gan Dafydd Roberts, Tŷ Mawr, Talwaenydd ac yn argraffedig ar y ‘gist logellog’ ceid enw’r cerflunydd sef ‘David Roberts, Novbr 1867’. Tybed ymhle y mae hi heddiw? Ai ydyw wedi mynd o dan yr ordd?
Gwnaeth Robert Roberts (Moelwyn Fardd) lawer iawn o bethau o lechfaen, megis y garreg las gyda’r tair pluen a osodwyd ar furiau yr hen orsaf yn y Diffwys. Gwnaeth hefyd harmoniwm o lechfaen, a gwnaeth Ieuan Hengal y Traethau rigwm i’n hatgoffa o hynny.
‘Moelwyn Fardd yw’r unig GymroUn arall oedd Richard Williams (Wmffra Dafydd) yr hynafiaethydd a’r hanesydd lleol. Gwnaeth yntau lawer iawn o wrthrychau o lechfaen gan gynnwys cerrig beddi.
A wnaeth harmoniwm werth ei chofio
Fe ddylai hyn ei wneud yn uchel,
Gan bob dyn o fewn yr ardal.’
Wrth bori drwy lyfr cyfansoddiadau Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Ffestiniog 1898 sylwais fod cystadleuaeth wedi bod yno am y gorau i wneud ‘Drych mewn llechfaen’. Cynigid gwobr o £1.10s i’r gorau – ac yn ôl yr hyn y gwelais, un o’r enw W. Herbert, Caerdydd, a enillodd. Ys gwn i pwy oedd y gŵr hwn? A oedd ganddo gysyltiad a’n hardal?
Yn Eisteddfod Daleithiol Gwynedd a gynhaliwyd ym Mlaenau Ffestiniog yn 1891 cynigid gwobr o 3 gini i’r gorau am arlunio ar lechen. Yr enillydd oedd W.J.Roberts, Arlunydd (a ffotograffydd?), Blaenau Ffestiniog.
Tri chan mlynedd yn ôl -mwy neu lai
Oddeutu dechrau’r ddeunawfed ganrif dim ond rhyw 80,000 o dai oedd yng Nghymru, ac amcangyfrifir fod tua 400,000 o boblogaeth yma. Wel, am braf, ynte? Digon araf deg oedd bywyd pob dydd yn yr amseroedd hyn ... dim tensiynau ... dim ‘stress’ ... wel, yn sicr, dim cymaint ag y sydd heddiw.
Poblogaeth plwyf Ffestiniog oddeutu tri chanmlynedd yn ôl oedd tua 460, ac yn y flwyddyn 1700 ganwyd deuddeg o blant yma a bu farw deuddeg o bobl. Ni phriododd neb yn ein plwyf yn ystod y flwyddyn 1704 na’r blynyddoedd 1709 a 1710 chwaith. Cofier, nid oedd siop o fath yma tan agorwyd siop ‘Meirion House’ tua 1726. Prif gynhaliaeth y trigolion oedd cig eu da byw ac ychydig o geirch, ac mewn degawdau diweddarach ceid ychydig o haidd a thatws, efallai.
Erbyn y flwyddyn 1780 ceid tua 54 o ffermydd a thyddynnod yn ein plwyf ac un neu ddau o fythynnod, megis Bwth y Cleiriach a’r Ysgol Newydd, efallai. Talai lle fel Plas Dolymoch rent neu dreth o tua £30 y flwyddyn, Bron y Manod £9 a Llwyn y Gell £3. Cofier, nid oedd pawb yn dlawd, ac os edrychwn ar rai o ewyllysiau pobl y plwyf gwelwn nad oeddyn ar glemio, fel y dywedir. Er enghraifft, yn 1729 gadawodd Robert Cadwaladr, Cwm Bywydd gymaint o £40 yn ei ewyllys i’w ferch Catherine, £15 i’w ferch Elen a £5 i’w ferch Margaret, a’r gweddill i’w wraig, a chredwch chi fi roedd hyn yn dipyn o arian yn y 18fed ganrif.
Cofiwch bod archif Llafar Bro ar gael i bawb yn Llyfrgell y Blaenau, wedi eu rhwymo mewn clawr caled deniadol, fesul blwyddyn, o 1975 hyd 2019. Gobeithiwn y bydd y gwasanaeth llyfrgell yn medru parhau i rwymo’r blynyddoedd i ddod hefyd.
- - - - - -
Ymddangosodd yr uchod yn rhifyn Gorffennaf-Awst 2022
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon