4.9.22

Does Unman yn Debyg i Gartref

Wnes i ddim rhoi llawer o goel wrth glywed pobl yn dweud ers talwm fod amser yn mynd yn gynt wrth i rywun fynd yn hŷn. Dwi’n gwbl grediniol erbyn hyn mae gwir y gair: nid ofergoel nac ystrydeb ydi’o! Mae amser YN hedfan.

Ond mae’n braf cael bod yn ôl yn y gadair olygyddol a chael cyfle unwaith eto i werthfawrogi’r cyfoeth o weithgareddau cymunedol sy’n digwydd yn ein bro, a chydweithio efo llu o awduron a cholofnwyr a gohebwyr cymwynasgar a dawnus.

Fel bob blwyddyn, pan ddaw fy nhro i fel golygydd eto, aeth yn brysur arna’i braidd dros benwythnos cyntaf y mis, rhwng ymuno â rali annibyniaeth Wrecsam, mwynhau Gŵyl Car Gwyllt, a darllen a golygu’r wledd o ddeunydd ddaeth i law ar gyfer y rhifyn hwn. Gobeithio’n wir y cewch flas ar y darllen.

Er gwaethaf y ras yn erbyn y cloc, dwi wedi mwynhau ymuno efo’r cloddio yn Llys Dorfil yn ddiweddar, ac mi welwch yng ngholofn Blaenau fod dau gyfle i bawb ymweld â’r safle i weld a chlywed am y gwaith hynod ddifyr mae’r Gymdeithas Archeolegol yn wneud yno.

 

Rhywbeth arall sydd wedi bod wrth fy modd yn ddiweddar ydi ymweld â Llyfrgell y Blaenau i bori trwy’r casgliad cyflawn o rifynnau Llafar Bro sydd ar y silff yno, wedi eu rhwymo’n drefnus fesul blwyddyn. Piciwch i mewn i’w gweld; dyna le i golli oriau!

Fel tad i dair o ferched, mae’n naturiol fod sefyllfa’r farchnad dai yn achosi pryder. Sut goblyn fedr pobl ifanc ein hardal brynu eu cartrefi eu hunain, yn eu cymuned, a’r prisiau wedi codi tu hwnt i bob rheswm, a phobl o’r tu allan yn eu prynu dros y ffôn cyn i neb arall gael cyfle i’w gweld weithiau? 

Mae’r manylion am niferoedd Airbnb yn lleol yn ddigon i ddychryn rhywun. Braf felly oedd clywed y newyddion fod Llywodraeth Cymru -o’r diwedd- yn cyflwyno mesurau ymarferol i ganiatâu i gynhorau sir reoli’r niferoedd o ail gartrefi a thai gwyliau mewn cymuned. Maen nhw hefyd yn mynd i gyflwyno trefn i drwyddedu pob llety Airbnb a’u tebyg, yn ogystal ac ystyried ailgyflwyno’r egwyddor fod cynghorau yn medru cynnig morgeisi i brynwyr cyntaf. Ychydig ddyddiau cyn hynny, datgelodd Cyngor Gwynedd eu bwriad i brynu tai gweigion trwy’r sir er mwyn eu hadnewyddu a’u gosod am rent teg i bobl leol. Newyddion ardderchog, bob un...  

Rhy ychydig; rhy hwyr o bosib? 

Yn reit siwr, fydd yna ddim newyddion da yng nghanlyniadau cyfrifiad 2021 am siaradwyr Cymraeg. Er hyn, gallwch fentro y bydd ambell gyngor mwy ceidwadol yn anwybyddu’r pwerau newydd yn llwyr. 

Does dim byd yn newydd ar yr hen ddaear ‘ma, nagoes. Wrth bori yn archif Llafar Bro, mi welais nifer o enghreifftiau o bryderon am y dai lleol yn y gorffennol hefyd, er enghraifft y frwydr yn erbyn y bwriad i brynu llawer o dai yn Heol Jones, Y Blaenau gan awdurdod o ochrau Lerpwl ym 1977. Ac roedd prif erthygl rhifyn 5 yn Chwefror 1976 yn adrodd bod “dros 50 o dai haf gan bobl ddiarth yma yn Nhanygrisiau”, a’r “mwyafrif o dai Dolrhedyn yn dai haf”. 

Meddyliwch: petai’r awdurdodau wedi talu sylw a gweithredu bryd hynny, efallai y byddai’r sefyllfa ddim mor enbyd heddiw, bron hanner canrif wedyn!
Gallwn ond gobeithio y daw haul ar fryn yn y mater yma’n fuan iawn.

Cyn i mi fynd i stêm, calla dawo mae’n siwr. Wedi’r cwbl, rwan fy mod yn cau pen y mwdwl ar waith Llafar Bro am rwan, mae gen’ i ffa i’w blingo a chwyn i’w codi yn yr ardd; mefus i’w troi’n jam; mae’r Moelwynion yn galw; y ffenestri angen eu golchi; a thwmpath o lyfrau’n dal i aros i mi eu darllen... stopiwch y cloc am ychydig wir!

Yn y cyfamser, daliwch i gredu gyfeillion.                         PW.

- - - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol fel colofn olygyddol yn rhifyn Gorffennaf-Awst 2022


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon