15.9.22

Cynulliad Hinsawdd Bro Ffestiniog

Cadi Dafydd sy’n adrodd yr hanes 

Siarad gwag a dim digon o weithredu... dyna un o’r problemau mwyaf yn wyneb yr argyfwng hinsawdd, hyd y gwela i. Mae’r ffeithiau yna mewn du a gwyn i’n dychryn ni i ymateb, ac mae nifer o’r atebion wedi cael eu cyflwyno’n glir i wladwriaethau.

Pam, felly, a finnau’n lled-sinigaidd ynghylch pwyllgora a thrafod hyd syrffed, fy mod i wedi cofrestru i fynychu Cynulliad Cymunedol Bro Ffestiniog ar yr Hinsawdd? Efallai mai’r un elfen sinigaidd sy’n perthyn i fi sydd wrth wraidd hynny, a phryder bod ymatebion llywodraethau a chwmnïau mawrion ddim yn ddigon. Rhaid felly, yn wyneb y ddrwgdybiaeth honno, weithredu’n lleol.

Nod a phwrpas mudiad GwyrddNi yw hybu, hwyluso a chyd-lynu gweithredu cymunedol i drio gwella’r sefyllfa, a dros y tair wythnos ddiwethaf, mae tua 50 o drigolion Ffestiniog wedi bod yn dod ynghyd yn y Ganolfan. Mae trafod gyda llond stafell o bobol sy’n rhannu’r un dyhead i weld dyfodol gwell wedi bod yn chwa o awyr iach, a gweld awch yn y gymuned i rannu arfer da, wedi bod yn braf.

Cawsom sgwrs ddifyr gan Ceri Cunnington wnaeth danio awydd i weithredu’n lleol, a’n hatgoffa am yr holl adnoddau sydd gennym ni yma’n barod i hwyluso hynny. Mewn grwpiau, buom ni’n trafod yr adnoddau naturiol a’r seilwaith sydd gennym ni yn yr ardal i helpu’r hinsawdd, yn ogystal â thrafod yr hyn y gellir adeiladu arno.

Yn y drydedd sesiwn, daeth panel o arbenigwyr ar natur ac amaeth o’r ardal atom i’n hatgoffa bod rhaid i’r ymateb i newid hinsawdd fod yn un sy’n mynd tu hwnt i ystyriaethau dynol. Cafwyd sgwrs gan Bini Jones, sy’n ffermio’n organig yn Nhŷ Isa; Ryan Williams sy’n gweithio gyda Bini; y Cynghorydd Elfed ab Elwyn, sy’n ffermio yn Nhrawsfynydd; a Catrin Roberts, sy’n arbenigo ar rinweddau planhigion, am rôl y byd naturiol a ffermio yn yr ymateb.

Wrth adael gyda llond ein boliau o datws pum munud, roedd yna deimlad o fod eisiau gweithredu gyda sawl aelod yn barod iawn i rannu eu harbenigedd ac eraill yr un mor barod i ddysgu a gweithredu. Gobeithio y bydd y sesiynau nesaf yn gyfle i roi’r maen i’r wal go iawn.

10% cyfoethocaf y byd sy’n gyfrifol am tua hanner allyriadau carbon y byd, ac felly yn dal yr allwedd i gyfran helaeth o’r datrysiad. Ond, dw i’n sylweddoli hefyd bod yn RHAID i bob un wan jac ohonom ni weithredu. Ac mae un peth yn sicr o’r Cynulliadau, mae yna gyfoeth o frwdfrydedd yn ein congl fach ni o’r byd dros weithredu.

I ddysgu mwy am GwyrddNi ewch draw i www.gwyrddni.cymru neu dilynwch nhw ar y cyfryngau cymdeithasol. 

- - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf-Awst 2022




No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon