Ychydig o hyn, llall, ac arall am hen arferion prynu a gwerthu Bro Stiniog, o nodiadau’r diweddar Emrys Evans. Diolch i’r teulu am ganiatâd i’w cyhoeddi. Bu’r Sioni Winwns yn y newyddion yn ddiweddar, gan fod eu cyfnod yn gwerthu eu cynnyrch yng Nghymru wedi dod i ben, diolch mae’n debyg i fiwrocratiaeth Brecsit aballu. Roedd y Sionis ‘lleol’ yn un o’r meysydd yr oedd Emrys wedi sgwennu amdanyn nhw, ymysg ei gofnodion am yr ardal.
Nionod o Lydaw
Yn yr hydref deuai dynion o bob oed trosodd o Lydaw i werthu nionod, a deuent o ddrws i ddrws i gynnig cadweini i wraig y tŷ. Golygfa ddigon cyffredin oedd gweld y ‘dyn nionod’, ei iau dros ei ysgwydd a chwech neu wyth cadwyn yn hongian ar ei dau ben yn curo’r drysau. Wrth ymyl, yn pwyso ar wal byddai ei feic, a rhagor o gadweini arno. Swllt a dimai fyddai pris cadwan o nionod yn y dau-ddegau a’r tri-degau. Fel arfer yr un rhai fyddai’n dod bob blwyddyn. A’r un dyn fyddai’n dod i’r Manod am sawl blwyddyn. Llydaweg neu Ffrangeg fyddai eu hiaith, a gwnai rhai ymdrech i gael rhywfaint o grap ar y Gymraeg. Cynigiai un oedd yn dod o gwmpas y Manod yn y dyddiau cynnar ei nionod gyda’r cwestiwn: “Nionod, Mari Bach?” ‘Roedd pob merch yn ‘Mari Bach’ ganddo, ac aeth pobl i’w alw yntau yn ‘Nionod Mari bach’. Yr unig gyfnodau pryd y collwyd cael nionod Llydaw oedd blynyddoedd y ddau Ryfel Byd – 1914-1918 a 1939-1945, gan na allent hwylio drosodd i Gymru
Tatws Morfa Bychan
‘Roedd blas arbennig ar rhain, a byddai disgwyl eiddgar am weld ceffyl a throl tyddynwr neu ddau arferai ddod i fyny i’r ardal yn flynyddol, a buan iawn y byddai’r newydd yn mynd o dŷ i dŷ i gyhoeddi eu bod wedi cyrraedd. Gan fod Morfa Bychan ar wastad y môr ‘roedd pethau’n aeddfedu’n gynharach nag yn ardal Ffestiniog. Wedi bod yn bwyta hen datws drwy’r gaeaf, amheuthyn iawn oedd cael tatws newydd yn y gwanwyn. Ond hefyd, ‘roedd blas cwbl arbennig iddynt. Y rheswm am hyn, medd rhai, oedd am eu bod yn cael ei tyfu mewn pridd tywodlyd a gwymon y môr wedi ei roi yn y rhychau yn wrtaith. Ond ‘roedd ansawdd arbennig i’r dysen hefyd – ‘roedd lliw cochaidd ar ei chroen, ac yn dysen sych a blawdiog. Oherwydd hyn gelwid hwy yn “Tatws Cochion Bach Morfa Bychan”.
Llefrith
Ar ddechrau’r Ail Ryfel Byd byddai gwas ffarm Can Coed Isa yn dod i fyny o Faentwrog i Ffestiniog mewn trol a cheffyl i werthu llefrith. Byddai’r llefrith mewn dwy ‘sten lefrith enfawr ym mhen blaen y drol, ac yn cael ei fesur mewn peintiau a chwartiau. ‘Roedd hwn yn lefrith oedd wedi ei odro y bore hwnnw. ‘Roedd y gwas yn arddwr hefyd, ac yn eu tymor deuai a llysiau a ffrwythau yn y drol i’w gwerthu. A chan fod tir Maentwrog yn fwy ffrwythlon, a phethau’n aeddfedu’n gynt nag yn ‘Stiniog, ‘roedd galw mawr am y llysiau hyn.
Er fod ambell i rai lleol yn gwneud eu bywoliaeth drwy werthu llefrith o dŷ i dŷ, ac ambell i ffarm hefyd â rownd lefrith ganddi, ‘roedd gwas Can Coed Isa wedi gwneud ei le yng nghanol y cyfan a chyda’i siar o gwsmeriaid ffyddlon. Yn yr hydref, pan fyddai’n adeg chwarae concyrs, byddem ni fel hogia yn closio at was Can Coed. Gwyddem fod coeden gastanwydden neu ddwy ar y ffarm a bydden yn gofyn iddo ddod a rhai i ni. Gwnai hynny, hefyd, chwarae teg iddo.
Llaeth Enwyn
Dydd Sadwrn -y bore yn amlach na dim- y deuai ffarmwr Pen y Bont, Gellilydan, gyda’i drol a cheffyl i werthu llaeth enwyn o gwmpas y tai. Bu’n dod yn wythnosol felly yn ystod dauddegau a thridegau y ganrif ddiwethaf, ac eithrio ambell i fwlch pan fyddai’r gwartheg ddim yn llaetha’n ddigon da. ‘Roedd ei laeth enwyn yn arbennig o dda a blasus – “yn fwyd ac yn ddiod” fel y dywedid. Dyna fyddai ein ‘gwin’ ni gyda chinio dydd Sul. Gwneid ‘shot’ ohono hefyd ar gyfer te o’r chwarel ar dywydd poeth.
Cig
Oherwydd cyflwr amaethyddiaeth mae llawer o ffermwyr wedi arall gyfeirio, ond nid rhywbeth newydd ydy hyn. Byddai ambell i ffarmwr yn gwneud hynny ganrif a mwy yn ôl. Arferai tenant Fferm Truan yng Nghwm Tryweryn droi’n gigydd ar ddyddiau Gwener a Sadwrn – Gwener i ladd a pharatoi y cig, a’r Sadwrn i ddod i dre’r Blaenau i’w werthu. Bu’n gwneud hyn yn rheolaidd am lawer blwyddyn. Gan mai byw ar eu hadnoddau eu hunain fyddai ffermydd yn gyffredinol, ‘roedd ffermwyr wedi arfer lladd anifeiliaid i’w defnydd eu hunain. Un cam ymhellach oedd ei gynnig ar werth i’r cyhoedd, a gwneud elw o hynny. Golygfa gyffredin ar y Sadwrn oedd car a cheffyl y cigydd/ffermwr o flaen tŷ ni, ac yn galw mewn tai eraill o gwmpas. Gan fod perthynas rhwng teulu Truan a’n teulu ni– ‘roedd gwraig Truan yn chwaer i nain (Hannah) , mam fy mam.
(Y tro nesa: Blas y Môr)
- - - - - - - - - -
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf-Awst 2022
(heb y llun, gan PaulW)
Ail hanner: BLAS Y MÔR
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon