Ychydig o hyn, llall, ac arall am hen arferion prynu a gwerthu Bro Stiniog, o nodiadau’r diweddar Emrys Evans.
Blas y tir gawsom ni yn rhifyn Gorffennaf-Awst.
Er nad ydi Stiniog -wrth reswm- ar yr arfordir, roedd cynnyrch y môr serch hynny yn medru bod yn bwysig iawn yng nghynhaliaeth y boblogaeth ar ambell dymor. Pytiau am gynnyrch y môr sydd i ail hanner y gyfres fer yma felly.
Siopau a chludo
Ar ddechrau’r ugeinfed ganrif ‘roedd degau o siopau rhwng tre’r Blaenau a phentre Llan Ffestiniog, i gyfarfod a gofynion y boblogaeth mewn bwyd a nwyddau eraill, ac ambell i unigolyn wedi gweld bwlch mewn marchnad a gwneud ceiniog neu ddwy o elw – ond rhaid i’r hyn oedd ganddynt fod yn hawdd i’w gludo i ddrws y tŷ.
Cocos
Hyd at ddiwedd dauddegau’r ganrif ddiwethaf byddai casglwyr cocos Penrhyndeudraeth yn dod i fyny i Stiniog yn eithaf cyson i werthu cocos. Unwaith eto, trol a mul ddefnyddid i’w cludo, a byddent yn gwerthu’n dda. Y mesur ar gyfer eu gwerth fyddai hen botyn deubwys marmalêd, a’i lond i’r ymyl: tua tair ceiniog. Erbyn hyn mae unrhyw sôn am “Gocos Penrhyn” wedi darfod mwy neu lai yn llwyr, a’r enw (dirmygus braidd) “Cockle town” a roddid ar y lle hefyd wedi peidio a chael ei ddefnyddio, a mynd yn anghof.
Tywod
‘Roedd cael carped neu ddarnau o fatiau wedi ei taenu yma ac acw ar lawr y tŷ yn rhywbeth diethr iawn hyd at dauddegau’r ganrif diwethaf. Crawiau o lechen oedd ar y lloriau’n aml, gydag ambell i dŷ â theils ar y llawr, ac eraill â llawr pridd. Yng nghof Taid Manod (John H. Evans) byddai hynny oddeutu pymtheg mlynedd olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg a blynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif. Deuai gwraig o Benrhyndeudraeth, yn arwain trol a mul yn llawn tywod i fyny i ‘Stiniog i werthu tywod o dŷ i dŷ. Gwerthai’r tywod am ddimai y bwcedaid, ac arferai’r gwragedd ei daenu dros loriau eu tai.
Pennog
Ar un adeg bu ‘Penwaig Nefyn’ yn enw, neu’n ymadrodd cyffredin ac enwog iawn. Byddai heidiau ohonynt i’w cael oddi ar yr arfordir, a dal mawr arnynt. Cymaint, yn ôl hanes, fel eu bod yn cael eu defnyddio fel gwrtaith i’r tir ar adeg or or-lawndra. Pan fyddai helfeydd da i’w cael byddai troliau’n llawn penwaig yn dod cyn belled â Stiniog i’w gwerthu o dŷ i dŷ, ac o siop i siop. Yn y siopau gwneid llond dysgl bridd fawr o ‘bennog picl’ ohonynt. Rhoddid y bowlen ar gownter y siop. Deuai rhai yno i’w prynu efo plât dyfn neu ddysgl, er mwyn cael llwyaid neu ddwy o’r ‘grefi’ oedd efo’r pennog. ‘Roedd hyn yn bryd bwyd digon di-drafferth, a blasus iawn. Codid dwy geiniog neu ddwy a dimai am bob un. Aeth sawl blwyddyn heibio bellach ers pan y clywyd gweiddi ar hyd y stryd “Penwaig Nefyn –ffresh o’r môr!” (Tydi’r heidiau pennog ddim i’w cael oddi ar Nefyn erbyn hyn, a dywedir mai’r rheswm am hynny yw oherwydd fod pobl yn nyddiau llawnder mawr wedi eu defnyddio yn wrtaith, a bod hynny wedi digio Duw.)
Lledod
Byddai lledod yn arfer cael eu dal yn afon Dwyryd efo tryfer. ‘Roedd nifer wrthi ar ochrau Penrhyndeudraeth a Thalsarnau o’r aber. Pan y ceid helfa dda yna gwelid rhai o’r gwragedd neu aelodau o’u teuluoedd yn Ffestiniog yn eu cynnig ar werth. Yn Nhalsarnau ceid hanner dwsin neu fwy yn cyd-weithio, ac yn ei lyfr “Clicio’r Camera” mae gan Ted Breeze Jones ddisgrifiad o’u dull.
- - - - - - - - - -
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2022 (heb y llun, gan PaulW)
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon