6.11.22

Stolpia -Gof a cheffyl a thrampio

Detholiad arall o archif y gyfres gan Steffan ab Owain

Hyn a’r llall am ofaint
Dau air sy’n raddol ddiflannu o eirfa bob dydd trigolion yr ardaloedd hyn yw ‘gof’ ac ‘efail’.
Ar un adeg byddai gefeiliau gof yn bethau cyffredin o un pen o dalgylch Llafar Bro i’r llall. Byddai nifer dda ohonynt i’w cael yn y gwahanol chwareli, y rhai llechi ac ithfaen, yn ogystal ag mewn ambell fwynfa. Wrth gwrs, adnabyddid llawer o’r gefeiliau wrth enw y gof a weithiai ynddynt, megis ‘Efail Owen Jôs Go’, ‘Efail Robin Go’, a.y.b.

Engan -Llun trwy Gomin Wikimedia CC BY-SA 2.5

Ymhlith y gofaint hynny a ddyfeisiodd bethau cawn Dafydd Jones a fu’n of yn Chwarel Diffwys. Un tro daeth Mr Casson y perchennog ato a gofynnodd iddo a fedrai ddyfeisio rhyw gynllun i naddu’r llechi yn lle y ‘gyllell fach’. Aeth yntau ati rhagblaen, ac o fewn ychydig roedd wedi cynllunio peiriant naddu yn cael ei weithio efo’r troed, h.y. ‘injian dradl’. Tybed faint o ddefnydd a wnaed o’r peiriant naddu hwn?

Gŵr arall a gofir am ei ddyfais chwarelyddol yw Edward Ellis a fu’n of am flynyddoedd yn Chwarel y Graig Ddu. Ef a ddyfeisiodd y ‘car gwyllt’ enwog a ddefnyddid gan y chwarelwyr i ddod i lawr yr incleniau o’u gwaith – a hynny mewn dim o amser! Credaf mai oddeutu 1867 y dyfeisiwyd y car gwyllt a bu mewn defnydd hyd nes y cauwyd y chwarel yn yr 1940au.

Yng ngholofn ‘Y Fainc Sglodion’ gan J.W. Jones a ymddangosodd yn Y Cymro, Awst 11, 1944 cawn hanes gof-ddyfeisydd arall o’r cylch.

Rai blynyddoedd yn ôl gwelsom fegin fach o waith Edward Roberts y gof. Yr oedd handl ac olwyn fechan yn ei hochr. Wrth droi yr handlen chwythid y tân heb chwysu dim.

Ceffylau’r Chwarel
Fel y gallech feddwl, mae’r chwarelwyr sy’n cofio ceffylau yn gweithio yn ein chwareli yn mynd yn brinnach bob dydd. Ar un adeg, byddai gweld ceffylau gwaith mawr cryf yn mynd a dod o’n chwareli, yn enwedig ein chwareli mwyaf, yn beth pur gyffredin. Cyflogid dynion a llanciau ifanc i wneud y gwaith a elwid yn y chwarel ‘canlyn ceffyl’, sef gofalu a gweithio gyda’r ceffylau a fyddai’n tynnu y wageni ar sledi, a.y.b.

O beth gofiaf, ychydig iawn wyf wedi ei weld ar ddu a gwyn parthed hanes yr hen geffylau chwarel. Sut bynnag, dyma stori amdanynt i chi:
Canlyn ceffyl yn y chwarel oedd gwaith Bob, a deallai y ddau ei gilydd i’r dim. Wrth ddyfod o’r twll un bore, ychydig cyn amser cinio, trodd y prif oruchwyliwr i’r stabal at Bob, a gofynnodd iddo, “Sut fwyd wyt ti’n roi i’r ceffyl yma Bob?” Atebodd yntau, “Tebyg i fwyd labrwr, Syr!

Pan oedd Gwilym Ystradau, bardd o Danygrisiau yn gweithio yn Chwarel Holland, syrthiodd un o geffylau’r chwarel dros un o’r tomenydd. Ymhen ychydig wedyn lluniodd yr englyn hwn:

Dyma hen len y domen laith -anafwyd
     Anifail tra pherffaith;
Hurtiodd gan glwy ac artaith,
Pan syrthiodd, ni chododd chwaith.

Trampio
Ar un adeg, ac nid cymaint a hynny o flynyddoedd yn ôl, byddai llawer o grwydriaid i’w gweld hyd y wlad. Daeth amryw ohonynt yn wynebau adnabyddus mewn sawl ardal. Pan oeddwn i’n fachgen roedd llawer o son am yr hen Johnny Pegs a Twm Gwlan. Treuliodd Johnny rhan dda o’i oes yn crwydro o le i le yn yr ardal hon. Yng nghyffiniau Tanygrisiau y gwelid Twm Gwlan yn crwydro gan amlaf.

Galwai llawer iawn o grwydriaid yn y Blaenau yn y dyddiau a fu, un neu ddau ohonynt yn enedigol o’r dre. Yn ddiweddar deuthum ar draws hanes un a ymsefydlodd yn ein hardal am ysbaid. Gwelais ei hanes mewn erthygl o’r enw ‘Gwŷr y Ffordd Fawr’ gan J.W. Jones (Fainc ‘Sglodion). Dyma fo:

Pan yn mynd i Ffair Glangaeaf i Lan Ffestiniog rai blynyddoedd yn ôl trewais ar hen grwydryn diddan. Priododd Mrs Carol, o Ffestiniog, a bu’n cartrefu yn y Manod am ysbaid.

Gŵr o gorff cadarn ydoedd, melyn ei wallt; ond yr addurn mwyaf a berthynai iddo oedd ei locsyn coch. Yr oedd wedi cyfansoddi ‘Cerdd i’r Rhyfel Mawr’ ac i‘r ffair yr ai i’w gwerthu.
‘Menai o’r Manod’ oedd ei ffugenw, a deallai y gelfyddyd o farddoni. Clywais ef yn adrodd ugeiniau o englynion ar ei gof. Ciliodd yr hen grwydryn o’r ardal hon yn sydyn, ac  ni chywais yr un gair amdano wedyn.

Clywais rhai’n dweud bod dau le yn y cylch yn boblogaidd i aros ynddynt gan ‘bobl y ffordd fawr’, y cyntaf oedd ‘Newcastle Rags’, sef tŷ yn Heol Glynllifon ar gyfer cardotwyr. Y llall oedd ‘Tŷ Pawb’, sef hen dafarn Y Crimea, h.y. ar ôl iddi fynd a’i phen iddi.

- - - - - - - - - 

Ymddangosodd yr uchod yn rhifyn Medi 2022


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon