Ar brynhawn braf, aethom am dro i fyny i Stwlan. Tro diwetha fues yno oedd yn 1969 ar fws. Wnai fyth anghofio’r siwrna adeg yno - yn meddwl na fasa’r bws yn medru mynd i fyny’r elltydd, ac ofn mawr yn dod i lawr y basa’n mynd dros ochor y corneli ac i lawr i’r dibyn. Wyrach mae dyna’r rheswm fod cymaint o amsar wedi mynd heibio ers imi feddwl mentro eto i’r man a’r lle!
Ond, wir, doedd dim rhaid poeni am hynny y tro yma gan mae ar ddwy droed oeddan ni’n mynd, wedi gadael y car ger Dolrhedyn. Da oedd gweld niferoedd o bobol, plant a chŵn yn cymryd mantais o’r ardal.
Wrth gwrs, roedd yr olygfa yn odidog - a gan ei bod hi’n haul braf roedd y lliwiau yn werth eu gweld. Roedd hi’n glir am filltiroedd – a Llyn Traws ac ymhellach yn amlwg yn y pellter.
Wedi cyrraedd yr Argae cawsom amsar am seibiant am ychydig o funuda - a diod a bisged tra yn eistedd ar y cerrig wrth ochor y ffordd. Roedd mor dawel yno, heblaw am gân yr adar a bref y defaid a’r ŵyn. Da ni’n deud bob amsar bod rhaid edrych yn ôl wrth gerdded ymlaen, ac wir roedd yr olygfa wrth fynd yn ôl am Ddolrhedyn yr un mor wych.
Edwina Fletcher
- - - - - - - - - -
Ymddangosodd yn wreiddiol yn
rhifyn Medi 2022
Difyr iawn Edwina. Wedi bod yn Stwlan ugeinia' o weithia' tra yn geithio yn y pwerdy islaw.
ReplyDeleteDiolch VP. Mae'n dda cael ymateb
ReplyDelete