Wedi cyfnod hesb oherwydd y Covid, cyfarfu y Gymdeithas Hanes yn ystod mis Awst.
Croesawyd yr aelodau i weld beth a fu'n digwydd ar safle Llys Dorfil gan aelodau o'r Gymdeithas Archeolegol.
Arweiniodd Dafydd Roberts (Cae Clyd) ni o gwmpas y safle a oedd yn llawer mwy helaeth nac a dybid. Yr oedd gwaith y cloddwyr wedi amlygu safle fawr ac olion o nifer o adeiladu pwysig yn eu dydd. Eglurodd yr archeolegwr Bil Jones sut y tybir i'r safle edrych ganrifoedd yn ôl a rhoddodd gyd-destun iddi. Wedyn arddangosodd Mary Jones rai o'r arteffactau a ddarganfyddwyd ar y safle i ni.
Er i'r aelodau fod wedi darllen am y gwaith cloddio ac am y darganfyddiadau yn Llafar
Bro dros y blynyddoedd, yr oedd cael ymweld â'r safle a gweld y gamp a
gyflawnwyd gan y cloddwyr yn agoriad llygad a gwerthfawrogwyd y gwahoddiad i
ymweld yn arw.
Fe drefnir rhaglen o gyfarfodydd yn ystod yr hydref/gaeaf ond y mae'r manylion llawn eto i'w cadarnhau, yn y cyfamser, trefnwyd cyfarfod awyr-agored arall ar nos Fercher, Medi 21ain gyda Steffan ab Owain yn arwain taith gerdded o gwmpas ardal y Rhiw. Tynnodd sylw at adeiladau a safleoedd sy’n bwysig yn yr ardal hon o'r dref ac yn rhannu llawer o hanesion difyr. Bu hefyd yn gyfle i aelodau weld gweithdy David Nash yng Nghapel y Rhiw.
Mae adroddiad am yr achlysur yn rhifyn Hydref.
- - - - - - - - - - - -
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2022
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon