Showing posts with label Diffwys. Show all posts
Showing posts with label Diffwys. Show all posts

28.9.20

Hen Luniau Rheilffyrdd Lleol

Erthygl gan Philip Lloyd


Dyma lun o hen orsaf Rheilffordd Ffestiniog yng Nglanypwll yn ei hanterth, gyda chanopi dros y platfform i warchod teithwyr boed weithwyr, ymwelwyr neu ddefnyddwyr eraill rhag y tywydd.
Dim ond lled ffordd sydd rhyngddi a gorsaf lein Dyffryn Conwy y London & North Western Railway (L.M.S. ar ôl grwpio’r cwmnïau yn 1921). Gwelir rhannau o’r orsaf honno yn y cefndir, yn uchel ar y dde.
 


Mae injan ‘Fairlie’ dau-fwyler yno, yn barod i dynnu trên am weddill y daith o Borthmadog i’r Blaenau, gan alw nesaf yn y gyfnewidfa â rheilffordd y Great Western. Yn y llun arall gwelir grŵp teuluol yn cychwyn ar eu taith oddi yno yn 1937 i ymweld â ffrindiau yn y Dduallt ar ôl disgyn o’r trên yn Rhoslyn a cherdded weddill y daith i’r tŷ.
 

Ar un adeg gorsaf Duffws oedd terfynfa Rheilffordd Ffestiniog yn y dref, lle byddai llechi’n dod i lawr o’r chwareli ar hyd dwy inclên cyn cael eu cludo oddi yno i borthladd Porthmadog. Y cyfan sydd ar ôl o’r orsaf heddiw yw’r adeilad a drowyd yn doiledau cyhoeddus. Ond ‘Duffws’ (neu Diffwys erbyn heddiw wrth gwrs. Gol.) yw enw’r maes parcio.
 

Daeth gwasanaeth Rheilffordd Ffestiniog i deithwyr i ben yn sydyn ar ddechrau rhyfel 1939-45 er gwaethaf addewidion hyderus y posteri am deithiau drwy ‘13½ Miles of Enchanting Scenery’ ar y ‘Festiniog [sic] Toy Railway ... Gauge 1 ft. 11½ ins.’.
 

Fel y gŵyr darllenwyr Llafar Bro, mae gorsafoedd y London & North Western a chyfnewidfa Rheilffordd Ffestiniog â’r Great Western wedi hen ddiflannu. Dyna dynged gorsaf Glanypwll yn ogystal. Ond mae’r gyfnewidfa newydd ger safle hen orsaf y Great Western yn gwasanaethu lein Dyffryn Conwy a threnau cwmni newydd Rheilffordd Ffestiniog.
 

Gwelir llu o luniau o hen orsafoedd y Blaenau ac o injans stêm yn y ddau lyfr: A Regional History of the Railways of Great Britain, Volume 11: North and Mid Wales gan Peter Baughan a Festiniog [sic] Railway Revival gan P.B. Whitehouse. Mae llyfr Whitehouse yn cynnwys map manwl o hen reilffyrdd y fro – cul a mesur-safonol.
 

Gobeithio bydd darllenwyr Llafar Bro yn maddau i un a fagwyd yng nghymoedd glofaol y de am beidio â defnyddio geiriau sydd ar lafar yn lleol megis ‘Stesion Fain’. Ond o leiaf, ‘trên bach Port’ rydw i wedi dweud erioed, a’m taid yn hanu o Benrhyndeudraeth ond a fu’n byw yn Aberfan am flynyddoedd. ‘John Lloyd Sowth’ bydden nhw yn ei alw ar ei ymweliadau achlysurol â’i fro enedigol.
-----------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf/Awst 2020.

Mae rhifynnau digidol gwanwyn/haf 2020 ar gael am ddim ar wefan Bro360.


30.11.16

Senedd ‘Stiniog -banciau, baneri, a blodau

Pytiau o'r Cyngor Tref
Addasiad o erthyglau gan Bedwyr Gwilym a Rory Francis, o rifynnau Medi a Hydref.

Dim Banc
Bu'r cyngor yn trafod cau cangen Blaenau banc HSBC ym mis Medi, sef banc olaf y dref. Yn naturiol, ‘roedd aelodau’r Cyngor yn siomedig iawn. Penderfynwyd ysgrifennu llythyr at HSBC, a chydweithio efo'r cynghorwyr sir a'r aelod seneddol.

Sbwriel
'Rydych chi siŵr o fod wedi profi un o’r problemau budr yma – baw ci, gwm cnoi ar balmentydd, ‘sbwriel ysmygu ayyb ... Derbyniwyd holiadur gan Gyngor Gwynedd yn gofyn barn y Cyngor ynglŷn â chydweithio â chwmni preifat er mwyn rhoi dirwyon am droseddau ‘sbwriel yn y fan ar lle. Atebwyd yr holiadur gyda’r Cyngor yn penderfynu y dylai Cyngor Gwynedd fod yn fwy llym yn y ffordd y mae’n taclo problemau glendid stryd, y dylai Cyngor Gwynedd rhoi dirwyno yn y fan a’r lle ac yn olaf, sef y dylid cydweithio â chwmni allanol i gynorthwyo gyda gwaith swyddogion gorfodaeth stryd.

Baner Werdd
Derbyniwyd newyddion cadarnhaol gan gynrychiolydd y Cyngor ar grŵp gwirfoddol Partneriaeth y Parc, fe adroddwyd bod y Bartneriaeth wedi cyflwyno cais am wobr y Faner Werdd, ac wedi llwyddo i dderbyn y wobr gyda sgôr o 67%.
Llongyfarchiadau mawr. Y Parc, ar y Sgwâr yn y Blaenau yw man chwarae cyntaf ardal Cyngor Tref Ffestiniog i dderbyn y wobr, a dim ond tri arall sydd yng Ngwynedd. Gyda llaw, mae’r wobr yn cael ei redeg yn genedlaethol gan Cadwch Gymru’n Daclus ac yn dangos bod mannau gwyrdd yn cyrraedd safon genedlaethol yn y ffordd y maent yn cael eu rhedeg.

Toiled y flwyddyn
Oes yna fygythiad i'r toiled ar Sgwâr Diffwys? Mae Cyngor Tref Ffestiniog yn ôl wrth ei waith ar ôl seibiant ac un o’r pynciau llosg a drafodwyd yng nghyfarfod mis Medi oedd toiledau Sgwâr Diffwys, a enillodd wobr ‘Toiled y Flwyddyn’ yn 2013 a hynny yn erbyn rhyw 1,600 o geisiadau eraill.
Roedd Cyngor Gwynedd wedi ysgrifennu at y Cyngor Tref gan ofyn am gyfraniad tuag at gadw’r cyfleusterau pwysig hyn ar agor. Fe gytunodd y Cyngor yn unfrydol, ar gais y Cyng. Mandy Williams Davies, i ymateb gan bwysleisio fod rhaid cadw’r toiledau hyn ar agor ac yn cytuno i drafod y ffordd ymlaen gyda Chyngor Gwynedd.

Roedd y cyfarfod wedi dechrau ar nodyn ysgafnach, gyda’r Cynghorwyr yn llongyfarch CellB ar agor Sinema, y tro cyntaf i’r fath beth fodoli yn y dref ers peth amser.

Roedd y Cyngor wedi derbyn pris o £1,550 i lanhau, ac felly trwsio, pistyll Diffwys. Cytunwyd i dderbyn hwn, gan fod y pistyll yn rhan bwysig o ganol y dref.

Fe gytunodd y Cyngor hefyd i gynnig ysgoloriaeth i berson ifanc o’r cylch i deithio i Rawson yn Chubut, Patagonia, y dref sydd wedi ei threfeillio gyda Ffestiniog. Fe aiff Maia Jones yno cyn bo hir, gan ddefnyddio ysgoloriaeth 2016. Fe fydd y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ym mis Ionawr 2017 a Tecwyn Vaughan Jones fydd cadeirydd y beirniaid unwaith eto, fel eleni.

Yn olaf, rhoddwyd cynnig gerbron gennyf, yn cynnig cefnogaeth i bobl o wledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd sy’n byw ac yn gweithio yma ac yn gwerthfawrogi eu cyfraniad i’r economi, gan bwysleisio fod yna groeso iddynt yma. Yn anffodus, mae rhai pobl wedi gweld canlyniad y refferendwm fel esgus i ymddwyn yn hiliol tuag at bobl eraill. Pasiwyd y cynnig yma yn unfrydol.

Cofiwch gysylltu â Chlerc y Cyngor os oes gennych ddiddordeb mewn cynrychioli trigolion eich ardal a cheisio gwneud gwahaniaeth o fewn eich cymuned.
-------------------------------------

Blaenau yn ei Blodau
Llongyfarchiadau i bawb gafodd wobr yng ngystadleuaeth flynyddol Blaenau Bendigedig. Bu’r diwrnod gwobrwyo yn neuadd yr eglwys , dan ofal y trefnydd David Williams, Llan, a’r beirniaid Mr Eurwyn Roberts, Dolwyddelan, a Mr Wil Rowlands, Y Bala, eu dau’n feirniaid profiadol iawn.

llun Alwyn Jones
Cafwyd gwobrwyo am erddi bach a mawr, gerddi bywyd gwyllt, gerddi llysiau, a gerddi potiau.
Roedd Alwyn Jones yno yn tynnu lluniau ar ran Llafar Bro, a bu hen drafod gerddi a phlanhigion dros baned a chacen yn dilyn y gwobrwyo, cyn i bawb wasgaru i chwynnu a phlannu. PW.
-----------------------------------------

Dilynwch hanesion Senedd Stiniog efo'r ddolen isod, neu yn y cwmwl geiriau ar y dde.



18.11.12

"Llifa amser..."



Darn arall o rifyn Tachwedd:

Bydd teyrnged i’r diwydiant llechi yng Nghymru, y chwarelwyr fu ac sy’n parhau i fod yn rhan greiddiol ohono, yn ganolbwynt teilwng i gynllun adfywio’r dref.

Mae’r gwaith trawiadol yn cynnwys Afon Dwyryd, yr afon a ddefnyddiwyd i gludo’r llechi o Flaenau i’r arfordir cyn adeiladu Rheilffordd Ffestiniog. 

Y bardd Gwyn Thomas sy’n gyfrifol am gyfansoddi darn o farddoniaeth arbennig ar gyfer yr afon lechi.

“Llifa amser yn ei flaen,
 A llifa dŵr:
 Ni lifa bywyd creigiwr.”

16.8.12

Newyddion..




Llawer iawn o bethau'n mynd ymlaen ar hyn o bryd, Dyma'r diweddaraf o sawl maes, a dolenni :

cerfluniau Diffwys
Y gwaith ar y stryd fawr yn altro'n arw - gweler y manylion ar y wefan:
http://www.blaenauffestiniog.org/cym/home.html
a'r diweddaraf ar Gweplyfr      http://www.facebook.com/blaenauffestiniog


Ar dy feic.
Llwybrau beicio newydd Antur Stiniog wedi bod yn brysur iawn yn yr wythnosau cyntaf.

Manylion ar eu gwefan: http://www.anturstiniog.com/
a'r diweddaraf ar eu ffrwd newyddion gweplyfr:        http://www.facebook.com/anturstiniog.cyf




Mae'r Queens wedi marw: Hir oes i 'Ty Gorsaf'.
Hen Westy'r Frenhines hefyd yn dechrau edrych yn wahanol iawn, ac addewidion am drawsnewidiad mawr mewn sawl ystyr yno. Dyma edrych ymlaen i weld dyddiau da yno eto.

http://www.facebook.com/pages/Gwesty-Ty-Gorsaf-Hotel/251533784958062



Bywyd newydd i'r Meirion hefyd.
Er gwaethaf sibrydion am ddiffyg brwdfrydedd y bragdy i wario ar y Meirion, yn sgil ail-ddatblygiad uchelgeisiol Ty Gorsaf, mae'n debyg fod y ddau dafarn ar fin ail-agor ar ol eu hail-wampio.