Darn arall o rifyn Tachwedd:
Bydd teyrnged i’r diwydiant llechi yng
Nghymru, y chwarelwyr fu ac sy’n parhau i fod yn rhan greiddiol ohono, yn
ganolbwynt teilwng i gynllun adfywio’r dref.
Mae’r gwaith trawiadol yn cynnwys Afon Dwyryd, yr
afon a ddefnyddiwyd i gludo’r llechi o Flaenau i’r arfordir cyn adeiladu
Rheilffordd Ffestiniog.
Y bardd Gwyn Thomas sy’n gyfrifol am gyfansoddi darn o farddoniaeth arbennig ar gyfer yr afon lechi.
“Llifa amser yn ei flaen,
A
llifa dŵr:
Ni lifa bywyd creigiwr.”
Hefyd mae enwau dros 360
o chwareli llechi wedi cael eu hengrafu gan Alan Hicks o gwmni Llechen Las. Mae'n defnyddio nifer o lechi lliwiau gwahanol
o chwareli ar draws Gymru, gyda phob enw wedi ei osod ar lechen lliw gwahanol.
Yn y llun mae'r artist Howard Bowcott, Alan, y Cynghorydd Mandy Williams-Davies, a Gwyn.
Gallwch ddarllen yr erthygl yn llawn yn Llafar Bro.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon