Un o drysorau cenedl yw iaith wrth gwrs
ac fel yr honnodd Emrys ap Iwan, ‘cenedl
heb iaith, cenedl heb galon’. Gellir trosglwyddo hyn i’n hardaloedd wrth gwrs a
honni mai tafodiaith yw un o’n trysorau mwyaf ac mae’r ardal hon wedi ei bendithio
a thafodiaith a honno ymysg y cyfoethocaf yng Nghymru.
Priodol iawn felly oedd
cynnwys tafodiaith yr ardal yn y datblygiadau sy’n mynd rhagddi yng nghanol y
dref ar hyn o bryd. Mae ‘iaith Stiniog’ yw gweld yn ysgrifen ar y llawr ac ar y
mur ymhobman o gwmpas canol y dref. Rhywbeth i ymfalchïo ynddo yn sicr ac yn
dangos fod y datblygiadau hyn wedi eu hanelu yn gymaint at drigolion Stiniog yn
ogystal â’r ymwelwyr bondigrybwyll.
llun-PW |
Mae mhen wedi troi ar ei echel sawl tro
wrth geisio darllen rhai o’r ysgrifau ar eu pen i lawr a symud ymlaen a throi
nôl i weld yn union beth a ddywedid ... Yn sicr rwy’n gyfarwydd â’r mwyafrif
ond mae amryw yn anghyfarwydd ... mae tafodiaith fel iaith yn newid ac yn
addasu yn araf ar hyd yr amser a dyna sy’n ei chadw’n fyw ac yn
berthnasol. A dyna’n sy’n dda yn y
rhubanau o lechi ar hyd y palmentydd ... maent yn cynnwys ymadroddion a geiriau
cyfoes yn ogystal â’r rheini sydd bellach yn perthyn i oes a fu.
Cyhoeddodd Siambr Fasnach a Thwristiaeth
Blaenau Ffestiniog (Blaenau Ffestiniog
o’r graig) lyfryn dwyieithog hynod ddiddorol ac mae fel llawlyfr i’r holl
brosiect. Ceir llun o’r Stryd Fawr a Heol yr Eglwys a bob un o’r stribynnau
wedi eu marcio ac o dan eu rhif gellir cael gafael arnynt yn nhestun y llyfr. Mae’r
llyfr am ddim ac yn cael ei ddosbarthu mewn siop a chaffi yn y dref ac mewn
sawl lle arall am wn i. O fynd ar safle gwe’r Siambr o dan hanes a diwylliant ceir map
Gwgl o’r dref a medrwch glicio ar bob rhif sy’n dynodi'r dywediadau a chael gwybodaeth
amdanynt.
llun-TVJ |
Dyma ambell enghraifft:
Croeso
i’r Ochr Draw ac yn ôl y llyfryn ystyr hwn yw: Cyn
i Gors Mynach, sef Cors Glanypwll, gael ei sychu a’i llenwi efo rwbel chwarel,
‘yr ochr draw’ oedd enw trigolion Rhiwbryfdir a Glanypwll am ran ganolog y
dref, a orweddai'r ochr arall i’r gors.
Gan mor
gyfnewidiol a thrawiadol y tywydd yn yr ardal hon ac yn destun ymhob
sgwrs does ryfedd fod nifer o eiriau a dywediadau cysylltiedig:
Mwrllwch: gair am law mân, neu ryw
gymysgedd annymunol o law, niwl, mwg a thywyllwch!
Y
Moelwyn yn Gwisgo’i Gap: ‘Mae’r Moelwyn y gwisgo’i gap does fawr o hap
am dywydd’. Daw i fwrw glaw os daw
cymylau dros gopa’r Moelwyn.
BREICHLED O DREF AR ASGWRN Y GRAIG
Llinell enwog o’r gerdd ‘Blaenau’ gan y bardd ac academydd o Danygrisiau, yr Athro Gwyn Thomas, yn disgrifio’r dref i’r dim.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon