Llawer iawn o bethau'n mynd ymlaen ar hyn o bryd, Dyma'r diweddaraf o sawl maes, a dolenni :
cerfluniau Diffwys |
http://www.blaenauffestiniog.org/cym/home.html
a'r diweddaraf ar Gweplyfr http://www.facebook.com/blaenauffestiniog
Ar dy feic.
Llwybrau beicio newydd Antur Stiniog wedi bod yn brysur iawn yn yr wythnosau cyntaf.
Manylion ar eu gwefan: http://www.anturstiniog.com/
a'r diweddaraf ar eu ffrwd newyddion gweplyfr: http://www.facebook.com/anturstiniog.cyf
Mae'r Queens wedi marw: Hir oes i 'Ty Gorsaf'.
Hen Westy'r Frenhines hefyd yn dechrau edrych yn wahanol iawn, ac addewidion am drawsnewidiad mawr mewn sawl ystyr yno. Dyma edrych ymlaen i weld dyddiau da yno eto.
http://www.facebook.com/pages/Gwesty-Ty-Gorsaf-Hotel/251533784958062
Bywyd newydd i'r Meirion hefyd.
Er gwaethaf sibrydion am ddiffyg brwdfrydedd y bragdy i wario ar y Meirion, yn sgil ail-ddatblygiad uchelgeisiol Ty Gorsaf, mae'n debyg fod y ddau dafarn ar fin ail-agor ar ol eu hail-wampio.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon